– Senedd Cymru am 5:06 pm ar 12 Medi 2023.
Mae hynny'n ein caniatáu ni i symud ymlaen at eitem 7, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ynni. Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, i gyflwyno'r cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i gynnig y cynnig hwn ar Fil Ynni y DU, ac i'r Aelodau am gytuno i atal y Rheolau Sefydlog i'n galluogi i symud ymlaen heddiw. Rwy'n llwyr werthfawrogi'r heriau y mae'r Bil hwn wedi'u creu ar gyfer craffu effeithiol gan y Senedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein deddfwrfa yn cael cyfle i graffu ar ddeddfwriaeth y DU sy'n ymgysylltu â chonfensiwn Sewel ac sy'n gofyn am gydsyniad y Senedd.
Rwyf eisiau nodi'r heriau a ddangoswyd o'r cychwyn cyntaf yn ystod yr wythnos diwethaf yn unig fel adlewyrchiad o'n profiadau hyd yma. Cyhoeddwyd bron i 150 tudalen o welliannau yr wythnos diwethaf, y gwthiodd Llywodraeth y DU nhw drwy'r Senedd mewn sesiwn un diwrnod. Er gwaethaf ein cais, gwrthododd Llywodraeth y DU aildrefnu amserlen y Bil i ganiatáu i'r Senedd ystyried y gwelliannau hyn mewn modd ystyrlon. Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol a osodwyd ddoe yn ganlyniad ymdrechion anhygoel i sicrhau y gallai'r materion hynny gael eu hamlygu i'r Senedd. Fodd bynnag, nid wyf o dan unrhyw gamargraff bod hwn yn arddangosiad effeithiol o'r broses cydsyniad deddfwriaethol, nac yn enghraifft dda o lunio cyfraith. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir i Lywodraeth y DU yn blwmp ac yn blaen.
Mae hwn wedi bod yn Fil anodd iawn i ddatblygu safbwynt Llywodraeth Cymru ar gydsyniad deddfwriaethol. Fel y cafodd ei gyflwyno, roedd y Bil yn anghyflawn ac yna cafodd ei oedi am sawl mis wrth i Lywodraeth y DU ymateb i'r argyfwng prisiau ynni. Datblygwyd y Bil gan ymgorffori barn gwahanol Ysgrifenyddion Gwladol a Phrif Weinidogion. Ymddiswyddodd Boris Johnson fel Prif Weinidog y diwrnod ar ôl i'r Bil gael ei gyflwyno i Dŷ'r Arglwyddi, ac rydym bellach ar y pedwerydd Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer y Bil hwn. Rwyf wedi gwneud ceisiadau dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ohirio hynt y Bil hwn. Byddai hyn wedi galluogi'r gwaith craffu gofynnol i ddigwydd, a byddai hefyd wedi hwyluso'r gwaith rhynglywodraethol mawr ei angen ar fanylion y Bil hwn wrth iddo gael ei ddatblygu. Er bod yn ofynnol i'r darpariaethau yn y Bil helpu i gyflawni system ynni sero net, nid oes unrhyw risg uniongyrchol i'n diogelwch ynni wrth oedi'r Bil hwn. Mae hwn yn fater sy'n gyfan gwbl yn ôl disgresiwn Llywodraeth y DU. Rydym bob amser wedi bod yn ceisio dal i fyny â'r Bil hwn. Ni wnaeth Llywodraeth y DU ymgysylltu â ni ar gyfer y gwaith polisi manwl gofynnol sy'n angenrheidiol ar gyfer y Bil. Dim ond y noson cyn ei gyflwyno y cafodd y Bil ei rannu, ac yn amlwg nid oedd unrhyw ystyriaeth ynglŷn â sut y byddai'r Bil cyffredinol yn cael ei gyflwyno gyda'r Llywodraethau datganoledig.
Llywydd, rydym bob amser wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd a fyddai'n cyflawni cytundeb rhynglywodraethol ar y cyd. Mae'r Bil sydd ger ein bron heddiw yn bwysig gan ei fod yn sefydlu'r fframwaith rheoleiddiol gofynnol ar gyfer nifer o dechnolegau allweddol a fydd yn chwarae rolau allweddol ar gyfer ein diogelwch ynni ac ar gyfer cyflawni sero net. Mae Rhan 1 o'r Bil yn sefydlu cyfundrefn reoleiddio a thrwyddedu economaidd ar gyfer cludo a storio carbon deuocsid, gyda'r Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan, Ofgem, yn rheoleiddiwr economaidd. Mae Rhan 2 yn galluogi'r Llywodraeth i weithredu a gweinyddu modelau busnes dal carbon. Fodd bynnag, mae'r Bil fel y'i drafftiwyd, a Rhannau 1 a 2 yn benodol, yn darparu ar gyfer pwerau deddfu eang i'r Ysgrifennydd Gwladol. Fel mater o gymhwysedd datganoledig, ynghylch materion diogelu'r amgylchedd a gwastraff, sy'n cynnwys mesurau datgarboneiddio fel dal carbon deuocsid, trafnidiaeth a storio, rhaid i'r Ysgrifennydd Gwladol ofyn am gydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y dylai rheoliadau ddod i rym. Ni ddarperir ar gyfer hyn, ac eithrio yng nghymal 2.
I fod yn gwbl glir, rwy'n cytuno bod dal, defnyddio a storio carbon, CCUS, yn debygol o chwarae rhan sylweddol wrth ddatgarboneiddio diwydiant yn benodol. O ran yr angen am reoliadau priodol i gefnogi gweithredu, mae polisïau Llywodraeth Cymru yn alinio â Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, rwy'n awyddus i sicrhau mai graddfa CCUS yng Nghymru yw'r isafswm sydd ei angen, ac nad yw CCUS ynddo'i hun yn cael ei ystyried yn gyfle diwydiannol newydd a allai beri risg o gloi'r DU i ddefnydd parhaus o danwydd ffosil y gellir ei osgoi. Dyna pam mae angen i ni sicrhau bod rheoliadau newydd yn cefnogi ein blaenoriaethau polisi yng Nghymru a bod y Senedd yn craffu ar unrhyw reoliadau newydd sy'n cael eu cyflwyno. Gyda'r Bil sydd gennym ger ein bron, ni ddarperir dim o hynny ar ei gyfer.
Mae Rhannau 4 ac 8 o'r Bil yn darparu ar gyfer pwerau deddfu newydd mewn cysylltiad â chynlluniau gwres carbon isel a rhwydweithiau gwres. Unwaith eto, mae nifer o'r cymalau yn y rhannau hynny yn gwneud darpariaeth o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, ac eto mae'r Bil yn darparu ar gyfer gofyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol ymgynghori â Gweinidogion Cymru neu hysbysu Gweinidogion Cymru cyn i reoliadau newydd ddod i rym. Nid yw hyn yn adlewyrchiad digonol o ddatganoli, ac nid yw'n rhoi'r mesurau diogelu angenrheidiol yr ydym wedi'u ceisio.
Ar gyfer Rhan 13, unwaith eto, mae ein polisi yn cael ei alinio. Rwy'n cytuno bod angen i ni symleiddio a chyflymu caniatâd gwynt ar y môr, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod chwarae teg ledled y DU. Fodd bynnag, ar fater cronfa adfer morol, mae gennym anghytundeb ynghylch cyfrifoldebau datganoledig. Rydym wedi nodi ein safbwynt bod gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i wneud Bil Senedd ar gyfer cronfa ar gyfer pob prosiect seilwaith ynni 300 MW ac is yn rhanbarth glannau Cymru. Credwn fod hwn yn fater o ddiogelu'r amgylchedd. Mae'n bwysig pwysleisio, ac eithrio'r un enghraifft, nad oes anghytundeb rhyngom ni a Llywodraeth y DU ynghylch lle mae'r darpariaethau yn y Bil hwn yn ymwneud â'r broses cydsyniad deddfwriaethol.
Mewn ymateb i'n hargymhelliad bod y Senedd yn gwrthod cydsynio i'r Bil hwn, cynigiodd Llywodraeth y DU y prosesau cydsyniad cyfyngedig iawn a welwn yn y Bil diwygiedig, yn benodol cymalau 2 a 293. Os ydynt yn cytuno bod mecanweithiau cydsynio yn briodol ar gyfer y cymalau hynny, beth am y cymalau eraill yn y Bil lle mae pwerau deddfu eang yn cael eu cyflwyno mewn meysydd cymhwysedd datganoledig? Mae'n amlwg, gan gynnwys drwy fy unig gyfarfod gyda'r Gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y Bil, nad oes gan Lywodraeth y DU ddiddordeb mewn parchu'r setliad datganoli o ran gweithredu polisi'r dyfodol ar faterion sy'n ymwneud â'r Bil. Eu dadl yw mai'r unig ffordd o ddarparu rheoleiddio trawsffiniol mewn ffordd sy'n osgoi ymwahanu rheoliadol yw i Lywodraeth y DU reoleiddio, hyd yn oed os yw'r rheoliadau hynny o fewn cymhwysedd datganoledig y Senedd.
Llywydd, yn anffodus, dyma Lywodraeth y DU nad yw eisiau gweithio gyda llywodraethau datganoledig, ac yn lle hynny mae'n credu bod prosesau ymgynghori a hysbysu yn fesurau diogelu boddhaol o'n cyfansoddiad. Rwy'n anghytuno'n sylfaenol â'r safbwynt hwnnw. Ni allwn fod yn gliriach fy mod eisiau gweithio ar sail ceisio dod i gytundeb i ddarparu rheoleiddio trawsffiniol priodol sydd ei angen ar ein diwydiant a'n dinasyddion i'n helpu i gyflawni sero net. Rwyf wedi dadlau'r achos i Lywodraeth y DU weithio gyda ni. Rwyf wedi gofyn i'r Bil gael ei oedi fel y gallwn gytuno ar ddatrysiad sy'n parchu'r Senedd hon a'n cyfrifoldeb datganoledig cyfreithlon.
Yn olaf, rwyf wedi atgoffa Llywodraeth y DU o'u hymrwymiad datganedig eu hunain i gonfensiwn Sewel ac na fyddai'n briodol o dan unrhyw amgylchiadau i basio'r Bil hwn heb gydsyniad y Senedd. Byddai gweithredu o'r fath yn dangos diffyg ystyriaeth llwyr o egwyddorion mwyaf sylfaenol datganoli. Llywydd, i gloi, rwy'n argymell felly bod yr Aelodau yn gwrthod cydsyniad ar gyfer Bil Ynni y DU. Diolch.
Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Mae fy mhwyllgor wedi llwyddo i adrodd ar y tri memoranda cydsyniad deddfwriaethol cyntaf ar gyfer y Bil Ynni. Fel y dywedodd y Gweinidog, dim ond ddoe y gosodwyd Rhif 4.
Wrth agor fy sylwadau, nodaf fod y Gweinidog yn egluro ei bod hi wedi gofyn am oedi gyda Senedd y DU er mwyn inni allu ystyried hyn yn briodol, a bod y cais hwnnw wedi'i atal, oherwydd mae hynny'n berthnasol iawn i'r hyn rwy'n mynd i'w ddweud nawr.
Llywydd, eiliad yn ôl dywedais fod fy mhwyllgor wedi adrodd. Mae'n adroddiad y byddem wedi dymuno ei ysgrifennu ar delerau gwahanol iawn, iawn, yn enwedig gan nad ydym wedi gallu darparu dadansoddiad manwl i helpu i lywio ystyriaeth yr Aelodau o'r cynnig cydsyniad sy'n cael ei bleidleisio arno y prynhawn yma. Felly, rwy'n mynd i ymhelaethu ar y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu ymhelaethu ychydig ar hyn yn ei sylwadau cloi.
Cyn gynted ag yr oedd yn ymarferol bosibl ar ôl gosod memorandwm cyntaf y Gweinidog, gwnaethom gyhoeddi gwahoddiad iddi ddod i'n cyfarfod nesaf, a oedd ar 10 Gorffennaf—cyfarfod olaf tymor yr haf—cymaint oedd ein pryderon cychwynnol am y dull o ymdrin â'r Bil, gan gynnwys gan Lywodraeth Cymru, a rôl ddilynol y Senedd yn y broses cydsyniad deddfwriaethol. Diolch i'r Gweinidog am gydnabod y pryderon hynny a chytuno i fod yn bresennol ar fyr rybudd ychydig cyn i ni i gyd adael.
Mae'n debygol y bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Bil wedi'i gyflwyno i Senedd y DU ar 6 Gorffennaf 2022. Fe wnaf ailadrodd: 6 Gorffennaf 2022. Gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf Llywodraeth Cymru gerbron y Senedd hon bron i 51 wythnos i'r diwrnod ar ôl y dyddiad hwnnw. Nawr, mae hyn yn ddigynsail. Mae'r Gweinidog wedi rhoi rhywfaint o resymeg y tu ôl i hynny, ond edrychwch, ar ben hynny, roedd y memorandwm a osodwyd gerbron y Senedd ar yr adeg honno a oedd yn hwyr yn seiliedig ar y fersiwn gyntaf un o'r Bil a gyflwynwyd i Senedd y DU bron i flwyddyn ynghynt. Erbyn hyn roedd y Bil wedi ei ddiwygio'n helaeth.
Felly, pan roddodd y Gweinidog dystiolaeth i ni ar 10 Gorffennaf, fe ddywedodd hi nifer o bethau wrthym, ac mae angen i mi grynhoi hyn yn fyr. Gweinidog, fe ddywedoch chi wrthym ni nad oedd un sgrap o gyfranogiad Llywodraeth Cymru yn natblygiad y Bil na thrafodaethau manwl gyda Llywodraeth y DU wedi digwydd—dim un sgrap. Gweinidog, fe ddywedoch chi wrthym ni fod y Bil wedi'i ddrafftio heb unrhyw gydnabod, yn eich geiriau chi, i ddatganoli o gwbl. Dywedoch chi wrthym ni mai'r cyfarfod cyntaf a'r unig gyfarfod, ac fe wnaethoch chi ailadrodd heddiw, a gawsoch gyda Gweinidog y DU ar y Bil, oedd ym mis Mai eleni, gyda'r Gweinidog Bowie, a'i fod ef, yn eich dyfyniadau,
'Heb ddangos unrhyw werthfawrogiad bod unrhyw fath o setliad datganoli yn bodoli.'
Nawr, rwy'n ailadrodd eich geiriau am resymau penodol iawn, oherwydd roedden nhw yn amlwg o bryder i ni. Roedd yn frawychus, mae'n rhaid i mi ddweud, i'r pwyllgor hwn glywed am gyfathrebu mor wael â Llywodraeth y DU, yn enwedig ar faterion datganoledig. Felly, fe wnaethom ymrwymo i ysgrifennu ar unwaith at Andrew Bowie, Gweinidog Niwclear a Rhwydweithiau Llywodraeth y DU. Atebodd yn gyflym iawn, a dywedodd wrthym ni nad yw'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan y Gweinidog, a bod, gadewch imi fynd i ryw fanylder yma, y Bil yn parchu'r setliad datganoli, bod gweision sifil Llywodraeth y DU, meddai, wedi rhannu cymalau drafft o'r Bil mewn gwirionedd, wedi cynnal sesiynau manwl gyda swyddogion Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno'r Bil, a bod ei swyddogion wedi ceisio cyfarfodydd wythnosol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ers cyflwyno'r Bil. Nawr, bydd Aelodau'r Senedd yn nodi yn y fan yna'r cyferbyniad llwyr rhwng y wybodaeth a gyflwynwyd gan y Gweinidog a'r hyn a gyflwynwyd gan y Gweinidog Bowie i'n pwyllgor.
Nawr, edrychwch, nid ein rôl ni fel pwyllgor yw gweithredu fel archwilydd o ran pwy ddywedodd a phwy wnaeth beth a phryd, ond mae'r gwahaniaethau barn yn amlwg. Rydym wedi dod i'r casgliad, fodd bynnag, fod cronoleg gwrthgyferbyniol digwyddiadau ac esboniadau am gydweithredu yn peri pryder mawr, ac mae'n awgrymu, ar y gorau, nad yw rôl ddemocrataidd y Senedd hon wedi cael ystyriaeth ddigonol wrth ddatblygu'r Bil hwn, lle bynnag y mae achos. Nawr, mae'r Gweinidog hefyd wedi cyfeirio yn y sylwadau agoriadol, fel y dywedodd wrthym ni, bod newidiadau lluosog personél Llywodraeth y DU yn broblem. Nodwn hynny, ond rydym yn arsylwi, Gweinidog, bod yr un heriau wedi wynebu Gweinidogion yn yr Alban hefyd, ond wnaeth hynny ddim achosi oedi cyn iddynt osod y Memorandwm yn gynnar. Felly, nid yw'r oedi cyn gosod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gofynnol yn dderbyniol; gwnaeth danseilio'n ddifrifol allu Aelodau'r Senedd yn y fan yma i graffu ar y Bil a'i effaith yng Nghymru yn effeithiol.
Mae'n anffodus bod yn rhaid i ni ddod i'r casgliad, Gweinidog, fel pwyllgor, nad ydym wedi ein hargyhoeddi gan y rhesymau dros yr oedi sy'n cael ei cynnig. Nawr, rydym yn cydnabod sylwadau'r Gweinidog ei bod hi'n difaru ac yn pryderu bod amseru camau olaf y Bil yn Senedd y DU yn golygu nad oes gan y Senedd gyfle ystyrlon i ystyried y safbwynt ar gydsyniad—gan gadw mewn cof, nad oes gan y Senedd gyfle ystyrlon; dyna lle'r ydym ni—ond nid ydym ni'n credu ei bod yn briodol gwneud y sylwadau hynny o fewn cyd-destun cyfyngiadau amserlen seneddol y DU yn unig. Mae'r diffyg cyfle wedi'i achosi, byddem yn dadlau, yn bennaf, gan yr oedi wrth osod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol cyntaf gwreiddiol, ac mae'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog fod yn atebol amdano a chymryd cyfrifoldeb drosto, yn wir.
Bydd y Gweinidog yn dymuno pwysleisio yr agweddau polisi pwysig eraill yn y Bil hwn, a lle mae Llywodraeth Cymru wedi anghytuno â Llywodraeth y DU ynghylch manylion a sylwedd Bil Ynni y DU. Mae'r rhain yn faterion pwysig, ac maen nhw'n haeddu mwy o graffu gan y Senedd hon, a dyna rydyn ni'n dadlau drosto. Yn wir, pe bai mwy o amser wedi bod ar gael i ni ac i bwyllgorau eraill y Senedd, byddem wedi gallu rhoi ystyriaeth briodol i nifer o faterion pwysig.
A gaf i gloi ar ddau neu dri pheth?
Dydw i ddim yn mynd i atal y Cadeirydd deddfwriaeth pan fydd yn sôn am graffu gan y Senedd, felly, cewch, ewch chi yn eich blaen.
Rwy'n agos iawn at y diwedd. Wir nawr. Diolch. Diolch yn fawr, Llywydd.
Felly, byddem wedi gallu rhoi ystyriaeth briodol i nifer o faterion pwysig, gan gynnwys, er enghraifft, y gorgyffwrdd rhwng y Bil Ynni a Bil seilwaith y Gweinidog ei hun. Byddem wedi hoffi ystyried sylwadau'r Gweinidog ymhellach ar osod memoranda cydsyniad deddfwriaethol lluosog, sy'n fater dilys. Ac mae'r Gweinidog yn gwybod mai barn fy mhwyllgor i yw bod oedi wrth osod memoranda o'r fath yn rhwystro gallu'r Senedd hon, heb sôn am ein pwyllgor ein hunain, i ddeall dull Llywodraeth Cymru.
Felly, Llywydd, rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn o fy sylwadau fod y pwyllgor yn bryderus iawn ynghylch y dull a ddefnyddiwyd o ran y Bil hwn, ac i ni mae'n codi cwestiynau ynghylch y prosesau ehangach trosfwaol yn Llywodraeth Cymru ynghylch gosod memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn amserol, ac rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi o'i ffordd o drin y Bil hwn i sicrhau na ddylai hyn ddigwydd eto. Mae'n rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y Senedd yn cael ei chyflwyno mewn modd amserol gyda'r wybodaeth angenrheidiol sydd ei hangen arni i gyflawni ei rôl ddemocrataidd. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd nawr—Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Dwi'n ffeindio fy hunan mewn sefyllfa eithaf rhyfedd heddiw, yn cyfrannu at y ddadl yma pan nad yw'r pwyllgor amgylchedd, wrth gwrs, wedi cael cyfle i ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn, nac wedi cael cyfle i adrodd arno fe. Roeddem ni wedi bwriadu ystyried y memorandwm a chytuno ar ein hadroddiad yng nghyfarfod ffurfiol y pwyllgor yfory, ac mi fyddai hynny wedi caniatáu, wrth gwrs, inni fodloni dyddiad cau'r Pwyllgor Busnes, sef 15 Medi, ond mae cyflwyno'r ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw wedi rhoi stop ar hynny, wrth gwrs. Bydd fy nghyfraniad i'n fyr, gan fod nifer o'r pwyntiau pwysicaf wedi cael eu codi eisoes gan Huw Irranca-Davies, ac, wrth gwrs, mae'n dda bod ei bwyllgor e wedi llwyddo i adrodd ar y memorandwm mewn da bryd ar gyfer y ddadl heddiw.
Nawr, fel y soniwyd eisoes, fe osodwyd y memorandwm ar 29 Mehefin, ychydig llai na blwyddyn ar ôl i'r Bil Ynni gael ei gyflwyno yn Senedd y DU. Yn ôl y Gweinidog, mae'r bai am y llanast truenus hwn yn gorwedd wrth ddrws Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Digon teg. Ond dwi yn ofni bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb. Weinidog, pe bai Llywodraeth Cymru wedi gosod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o fewn amserlen resymol, fyddai'r pwyllgor ddim wedi colli’r cyfle i chwarae rhan lawn a phriodol yn y broses yma o gydsyniad deddfwriaethol. Pan gyfeiriwyd y memorandwm at y pwyllgor am y tro cyntaf, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn a fydd y Bil yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chyflawni polisi ynni a newid hinsawdd yn y dyfodol sy'n diwallu anghenion Cymru, ac os bydd e, sut. Mae ein llythyr ac ymateb y Gweinidog, a dderbyniwyd ddiwedd fis Awst, wedi'u cyhoeddi ochr yn ochr â'r agenda heddiw. Ond, wrth gwrs, dyw'r pwyllgor ddim wedi cael cyfle i ystyried yr ymateb, na dod i unrhyw gasgliadau ar faterion sy'n ymwneud â pholisi. O ystyried y cynnig sydd ger ein bron ni heddiw, dwi yn siŵr, wrth gwrs, y bydd Aelodau'n awyddus i wybod a yw unrhyw un o'r pryderon y mae'r Gweinidog yn eu hamlinellu yn ei llythyr wedi cael sylw, ac os na, beth yw'r camau nesaf o ran polisi Cymru yn y dyfodol.
Llywydd, mae'r pwyllgor eisoes wedi mynegi barn bod problemau sylfaenol gyda'r broses memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, a heddiw, wrth gwrs, mae'r sefyllfa yr ydym ni'n ffeindio ein hunain ynddi yn tanlinellu hynny unwaith eto.
Sut ydw i'n dilyn yr un yma, mewn gwirionedd? Pan fyddwn ni'n clywed safbwyntiau anghyson yn cael eu cynnig ynghylch a yw Llywodraeth y DU wedi cydgysylltu â Llywodraeth Cymru ac i'r gwrthwyneb, nid yw'n ennyn hyder, ac yn sicr, o safbwynt Llywodraeth y DU, byddaf yn ysgrifennu atyn nhw, oherwydd mae'n rhaid i ni gael y ddeialog agored hon ar unrhyw femoranda cydsyniad deddfwriaethol sy'n cael eu cyflwyno.
Felly, ar y cyfan, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gefnogol i fwriad polisi eang y Bil Ynni. Mae cwmpas polisi'r Bil hwn yn eang, gan gwmpasu popeth o ddal carbon, cynhyrchu hydrogen i ddiwygio llywodraethu cod ynni, rhwydweithiau gwres, rheoleiddio a chynhyrchu trydan gwynt ar y môr. Mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw, yn ei llythyr at bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, bryder bod y Bil, fel y'i drafftiwyd, yn darparu ar gyfer pwerau deddfu eang i'r Ysgrifennydd Gwladol, gyda gofyniad i ymgynghori â Gweinidogion Cymru dim ond os yw rheoliadau'n cynnwys darpariaethau a fyddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae bwriad Llywodraeth y DU i gydweithredu yn glir, felly nid wyf yn gweld bod angen creu rhwystr posibl drwy greu gofyniad am gydsyniad. Mynegwyd pryderon hefyd fod gallu Gweinidogion Cymru i ddefnyddio'r holl ddulliau priodol o fewn eu cymhwysedd ar yr adeg gywir i greu llwybr at sero net wedi'i gyfyngu gan y Bil, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, bydd y Bil yn cryfhau gallu'r DU i gyflawni sero net.
Nawr, rwy'n siŵr na fydd yr un ohonoch chi'n anghytuno â'r nod o ddarparu system ynni glanach, fwy fforddiadwy a mwy diogel ar gyfer y tymor hir, a dyna fydd y Ddeddf hon yn ei wneud. Yn fwy felly, does dim rheswm pam na all Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gydweithio—ac rwy'n dweud hyn sawl gwaith. Efallai fod gennych chi wahanol bleidiau gwleidyddol bob ochr, ond, ar ddiwedd y dydd, dylem ni i gyd fod yn gweithio i gynrychioli ein hetholwyr, waeth beth fo'u plaid. Yn wir, mae swyddogion Llywodraeth y DU, dywedwyd wrthym—ond mae ein cyd-Aelod Huw Irranca wedi dweud fel arall wrthym nawr—eisoes wedi bod yn yn cydweithredu â chi, ac, yn ôl pob tebyg, ac pha un ag y gall y Gweinidog gadarnhau ar yr un yma eu bod eisoes wedi rhannu cymalau drafft, pan fo hynny'n bosibl, ac maen nhw wedi cynnal cyfres o sesiynau manwl gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar bob mesur ymhell cyn cyflwyno'r Bil hwn. Yn fwy na hynny, mae'n debyg bod swyddogion Llywodraeth y DU wedi ceisio ymgysylltu'n helaeth â'u cymheiriaid ynghylch y Bil, gan gynnwys ceisio cyfarfodydd wythnosol gyda Llywodraeth Cymru ers cyflwyno'r Bil. Yn ogystal—yn honedig, yn ôl pob tebyg, beth bynnag—mae llawer o sgyrsiau, cyfarfodydd ac e-byst wedi bod rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a swyddogion Llywodraeth y DU sy'n arwain ar fesurau unigol y Bil.
Felly, hyd yn oed nawr, rwy'n cwestiynu fy hun a yw Andrew Bowie AS, y Gweinidog Niwclear a Rhwydweithiau, yn gywir pan fo'n datgan:
'Nid yw oedi Llywodraeth Cymru wrth osod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi helpu ein trafodaethau. Yn wir, mae'r Memorandwm yn cyflwyno'r achos cyntaf i mi ei weld sy'n nodi pryderon Llywodraeth Cymru gyda'r Bil yn llawn. Gan mai dim ond fel y cyflwynwyd y Bil y mae'r Memorandwm yn ei gynnwys, nid wyf yn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar rannau helaeth o'r Bil sydd wedi'u gwella. Mae ymgysylltu agos rhwng swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi lliniaru'r diffygion hyn i raddau ac wedi caniatáu rhannu pecyn o welliannau ar lefel swyddogol.'
Felly, mewn gwirionedd nawr, y cyfan sydd ar ôl i mi ei ofyn, Gweinidog, yw pa un o'r datganiadau hynny yr wyf wedi'u darllen allan sy'n anghywir? Sut maen nhw'n anghywir, a beth ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth Cymru i fynd yn ôl at Lywodraeth y DU a mynd i'r afael â'r sefyllfa? Rwy'n tybio y bydd hyn ar yr agenda ar gyfer yfory yn ein cyfarfod pwyllgor, ond, a dweud y gwir, mae'n anniddig iawn i mi fel Aelod etholedig i glywed un peth gan un Llywodraeth ac un arall gan un arall. Felly, rwy'n credu ein bod ni i gyd—. Wel, rwyf i'n bryderus iawn am hynny. Diolch.
Diolch, Gweinidog. Mae hyn yn peri pryder. Roedd y Gweinidog wedi cydnabod mewn llythyr at fy nghyd-Aelod a Chadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd yn ddiweddar y bydd darpariaethau'r Bil, pan fyddant yn dod i Gymru, yn effeithio ar allu'r Llywodraeth yma i ddatblygu polisi ynni a newid hinsawdd yn y dyfodol sy'n diwallu ein hanghenion yng Nghymru. Nawr, mae hon yn enghraifft arall eto—mae'n enghraifft arbennig o ddybryd—am sut mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol wedi dod yn arf i San Steffan osgoi'r gweinyddiaethau datganoledig. Maen nhw'n aml yn anwybyddu ein pryderon, maen nhw'n anwybyddu ein gwrthwynebiadau, a dyna pam mae Plaid Cymru yn credu'n gryf bod hyn yn tanseilio egwyddorion datganoli. Mae'n diystyru ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru, mae'n fygythiad sylweddol i bwerau ein Senedd.
Roedd datganoli yn fuddugoliaeth yr ymladdwyd yn galed drosti i bobl Cymru. Mae wedi ac mae'n golygu bod mandad sy'n bodoli i wneud penderfyniadau yn nes at adref, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu rhoi yn gyntaf. Nawr, mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol, pan fyddan nhw'n cael eu cam-ddefnyddio, fel sy'n digwydd yn y fan yma—yn tanseilio'r egwyddor graidd yno. Mae'n gwneud sbort o'n setliad datganoli, ac rydyn ni wedi dod i arfer, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, â hyn yn digwydd. Nid dyna sut mae'r pethau hyn i fod i weithio, ond mae wedi dod yn norm. Mae Plaid Cymru yn credu mewn system ddemocrataidd gadarn lle mae gan gynrychiolwyr etholedig yr awdurdod i wneud penderfyniadau dros eu hetholwyr. Nid yw memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn adlewyrchu'r delfryd hon. Maen nhw'n caniatáu i San Steffan orfodi ei hewyllys heb graffu nac atebolrwydd digonol. Yn rhy aml, mae'r memoranda cydsyniad deddfwriaethol yn arwain at ddeddfwriaeth, fel yr ydym wedi clywed yn yr enghraifft hon, nad yw wedi'i theilwra i anghenion a buddiannau penodol Cymru. Efallai na fydd yr hyn a allai weithio i rannau eraill o'r DU yn gweithio i ni. Felly, rydym yn gwrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn sydd ger ein bron heddiw, a byddem yn annog Aelodau eraill i wneud yr un peth.
A gaf i dynnu'n ôl? Diolch.
Cewch, wrth gwrs. Joyce Watson.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, gyda Huw a gyda Llŷr ac eraill ei bod yn anffodus, iawn, iawn, nad yw'r pwyllgor wedi cael cyfle i ffurfio barn ar gydsyniad deddfwriaethol. A'r pwynt yn y fan yma, ac mae wedi cael ei wneud sawl gwaith, yw bod y mwyafrif o'r ysgogiadau sy'n ymwneud â pholisi ynni eisoes wedi'u cadw'n ôl. Dylem fod wedi cael cyfle ehangach na'r un a roddwyd i ni, sef dim ond darllen y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin a'r holl ddogfennau atodol dilynol y mae'r Gweinidog wedi rhoi golwg inni arnynt.
Mae yna broblem yma, wrth gwrs, ac fe amlinellodd Delyth hi'n dda. Mae gennym y pwerau eisoes. Mae hyn yn ceisio eu cymryd yn ôl. A'r pwynt yn y fan hyn, pan edrychwn ni ar y Torïaid ar hyn o bryd, a'u diffyg gweithredu ar y grŵp craffu sero-net, yw eu bod ceisio rhwystro gwynt ar y tir a datblygiad solar ar bob un cam. Felly, pe baem ni yn cymeradwyo hyn, beth yn union ydyn ni'n ei gymeradwyo? Oherwydd ni all hyd yn oed y blaid sy'n llywodraethu, sy'n ceisio gorfodi hyn arnom, gytuno â nhw eu hunain. Felly, mae yna broblem fawr iawn yma. Dydw i ddim yn siŵr—a dydw i ddim eisiau gwneud anghyfiawnder ag unrhyw un—ond roeddwn i'n meddwl bod Janet Finch-Saunders wedi dweud—ac os ydw i wedi camddeall, dywedwch wrtha i—y cawn ni ofyn am ganiatâd. Ond y pwynt yw bod gennym ni'r caniatâd. Dydyn ni ddim yn mynd i fynd, bob tro rydyn ni eisiau gwneud rhywbeth lle mae gennym ni'r pwerau a roddwyd i ni eisoes gan fandad clir ar ddatganoli, i San Steffan a dweud, 'Os gwelwch yn dda, oes ots gennych chi os wnawn ni—?' beth bynnag rydyn ni eisoes wedi cael mandad wedi ei roi i ni ar ran pobl Cymru. Nid datganoli yw hynny o gwbl.
Felly, dyna'r sylwadau rwyf am eu gwneud. Mae'n siomedig ein bod ni yma, ac mae braidd yn ddryslyd, mae'n rhaid i mi ddweud, o'r hyn rydyn ni wedi'i glywed gan Huw Irranca.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb.
Diolch, Llywydd. Maddeuwch imi, Llywydd; rwyf yn mynd i fynd trwy'r hanes eto achos rwy'n credu bod e'n bwysig, ac mae ymddiheuriad yn ddyledus gan Lywodraeth Cymru hefyd, i fod yn glir. Ond rwyf eisiau rhoi hynny yn ei gyd-destun, a gwnes i hynny yn y pwyllgor, fel y dywedoch chi, Huw.
Mae'n bwysig cofio bod y Bil hwn wedi'i gyflwyno gyntaf pan oedd Kwasi Kwarteng yn Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol ar y pryd. Yna oedodd Llywodraeth y DU waith ar y Bil i ruthro Bil Prisiau Ynni drwodd, felly amseriad hynny oedd eu bod wedi cyflwyno'r Bil ddechrau Gorffennaf—6 Gorffennaf, rwy'n credu, o'r cof—ac yna, erbyn 7 Medi, roedden nhw'n ei oedi. Nawr, gallem fod wedi rhoi memorandwm cydsyniad deddfwriaethol i mewn ddechrau mis Medi, ond bryd hynny roeddem yn cael gohebiaeth gyda'ch pwyllgor chi ac eraill ynglŷn â'r ffaith ein bod yn parhau i roi memoranda lluosog ar yr un Bil. Felly, rwy'n teimlo ein bod ni mewn sefyllfa amhosibl yn y fan yna. Felly, wrth geisio cydymffurfio â 'peidiwch â rhoi 14 o Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar un Bil', rydyn ni bellach wedi syrthio i 'wnaethon ni ddim rhoi un yn ddigon cyflym' ar y Bil drafft. Felly, dwylo i fyny, wnaethon ni ddim. Ond rwy'n credu, er tegwch, ein bod mewn gwirionedd yn ceisio rhoi LCM a oedd yn crynhoi'r Bil gan ein bod yn credu y byddai'n cael ei gyflwyno yn hytrach na set ddilyniannol o femoranda. Fe ddes i i'r pwyllgor, gwnaethon ni ei drafod, ac yna gwnaethon ni lunio set o femoranda cydsyniad deddfwriaethol dilyniannol. Felly, rwy'n hapus i ymddiheuro na wnaethon ni roi'r un gyntaf honno, ond rwy'n credu y dylech chi gydnabod ein bod ni mewn gwirionedd yn ceisio cydymffurfio â phroblem gynharach y memoranda cydsyniad deddfwriaethol dilyniannol. Felly, fe wnaf i adael y tamaid bach yna yn y fan yno.
Ac yna, o ran y cyfathrebu gan Lywodraeth y DU, wel, wyddoch chi, mae gwirionedd yn beth diddorol, on'd ydyw? Rwy'n cytuno'n llwyr eu bod wedi ymgynghori â ni ar gymalau yn y Bil, ond nid y Bil. Felly, yr hyn yr wyf wedi'i ddweud wrthych chi yw ein bod wedi cadw cael cymalau ar wahân yn cael eu rhoi i ni, ond nid o fewn cyd-destun y Bil. Wel, ychydig iawn o waith y gallwch chi ei wneud ar gymal nad yw o fewn y cyd-destun. Y Bil ei hun, ni roddwyd i ni erioed. Felly, oedd, roedd yna sesiynau manwl ar y rhan yma o'r Bil, ond sut gallwch chi weithio gyda hynny pan nad ydych chi'n gwybod beth yw'r cyd-destun cyffredinol? Pam na wnaethon nhw rannu'r Bil cyfan gyda ni? Rwyf wedi gwneud y pwyntiau hyn dro ar ôl tro wrthyn nhw.
Y broblem arall yw bod pwerau Harri VIII ynddo. Felly, mae ceisio cefnogi'r bwriad polisi ar gyfer rhoi pwerau ysgubol i'r Ysgrifennydd Gwladol fel y gallem ni gydsynio neu beidio i hynny yn broblem wirioneddol. Felly, wrth geisio ymgysylltu â'r swyddogion ynghylch beth yn union y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn bwriadu defnyddio'r pwerau hyn arno—yn union yr un ffordd ag y byddai eich pwyllgor chi yn ymateb i mi pe bawn i'n ceisio gwneud hynny yn y fan yma, wel, rydyn ni'n cael yr un anhawster â hynny.
Felly, rwy'n difaru'n llwyr y diffyg craffu posibl ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol, ond gosodwyd hwn ddoe, felly ym mha fydysawd yr oeddwn i'n gallu gwneud unrhyw beth heblaw ein rhoi ni yn y sefyllfa yr ydych chi ynddi nawr? Dydw i ddim eisiau bod yn y sefyllfa honno chwaith. Fe wnaethon ni ofyn i'r Bil gael ei oedi; roedden nhw'n gwrthod gwneud hynny.
Dros y toriad, rydym wedi ymateb i nifer eithriadol o welliannau, ac rydyn ni lle'r ydym ni. Felly, mae wedi bod yn amhosibl ei symud. Ond mae yna bethau sylfaenol iawn yma hefyd. Roedd y Bil yn sgerbwd ar adeg ei gyflwyno. Yn amlwg, nid oedd yn gyflawn. Roedd cyfres o drafodaethau'n mynd rhagddynt ar adeg ei gyflwyno, felly roedd hyd yn oed Llywodraeth y DU yn derbyn nad Bil cyflawn oedd hwn ar adeg ei gyflwyno. Roedd yn rhaid i ni wedyn ddeall y bwriad a dadansoddi maint y darpariaethau a cheisio deall a oedd yn ymgysylltu â'r setliad datganoli mewn gwirionedd. Mae'r DU wedi dadlau'n gyson yr holl ffordd trwy hyn bod hyn yn ymwneud â thrydan ac, hyd yn oed pan fo'r polisi wedi ymgysylltu'n eithaf clir â gwastraff ac amgylchedd, maen nhw wedi ceisio dadlau, oherwydd mai'r mater trosfwaol yw cynhyrchu trydan, nad yw hynny rywsut yn ymgysylltu â'r broses ddatganoli. Wel, byddwn i'n dweud bod hynny'n dwyllresymu o'r math gwaethaf, ac rwy'n credu y gwnaeth Delyth nodi fy marn i yn sicr ar hynny hefyd. Felly, dydyn ni ddim yn hapus â hynny a dydyn ni ddim yn cytuno â hynny. Ac felly rydym yn cael trafodaeth barhaus. Felly, mae'r Gweinidog a ysgrifennodd atoch chi yn gwbl gywir, cafwyd trafodaeth barhaus. Yr hyn na ddywedodd e' wrthych chi oedd mai ni oedd yn dweud, 'Peidiwch â bod yn hurt, mae hynny wedi'i ddatganoli.' Felly, mae natur y drafodaeth hefyd yn bwysig.
Cawsom ni hefyd—. Doedd gennym ni ddim testun llawn y Bil cyn iddo gael ei gyflwyno. Cawsom ddarnau bach a ranwyd ar wahân, ond rhannwyd y testun llawn, sef 346 o dudalennau, y noson cyn iddo gael ei gyhoeddi. Ac mae bellach yn ddrwgenwog yn Llywodraeth Cymru eich bod yn cael eich galw i siarad â Gweinidog Llywodraeth y DU am sgwrs 15 munud a rhaid i hynny ddigwydd am 6.30 p.m. ar noson benodol oherwydd eu bod yn amlwg ar fin cyhoeddi rhywbeth y bore wedyn ac maen nhw wedi anghofio dweud wrthych chi amdano. Mae hynny'n digwydd, mae gen i ofn, yn amlach nag y byddech chi'n ei ddychmygu. Felly, mae e'n iawn, fe wnaethon nhw ddweud wrthym ni, ond beth oeddwn i i fod i'w wneud ag ef am 6.30 yn y nos, 346 o dudalennau? Felly, gwirionedd ar y ddwy ochr, rwy'n credu, ond mae mewnforio'r gwirionedd braidd yn wahanol.
Gallwch glywed fy mod yn grac am y peth, ac rwy'n grac amdano am y rheswm hwn: does dim ei angen. Rydyn ni'n cytuno'n gyffredinol â chyfeiriad y polisi yma. Rydyn ni'n cytuno bod angen i'r DU wneud hyn gyda'i gilydd. Rydyn ni'n cytuno bod angen y darpariaethau hyn. Does dim angen hyn. Y cyfan oedd yn rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud mewn gwirionedd oedd deall datganoli o'r dechrau, ymgysylltu â ni'n iawn ac yna gofyn am ein cydsyniad—nid ymgynghori â ni, gofyn am ein cydsyniad yn y meysydd datganoledig. Nawr, maen nhw wedi ildio'r cydsyniad hwnnw mewn rhai meysydd ac nid mewn eraill, ac mae'n ddirgelwch i ni pam nad ydym wedi cael y sgwrs honno gyda nhw. Ac rwy'n ofni mai dyna pam nad ydym yn argymell cydsyniad i'r Bil hwn, oherwydd mewn dau faes pwysig iawn a nodwyd gennyf yn fy agoriad gwreiddiol rydyn ni'n anghytuno. A'r hyn rwy'n poeni yn fwyaf sylfaenol amdano yw'r syniad bod rhywun sy'n achosi niwed amgylcheddol yn y Môr Celtaidd yn talu i mewn i gronfa sy'n mynd i mewn i'r Trysorlys a bod hynny rywsut yn gwneud rhywbeth am y diraddiad i'r amgylchedd. Dydw i ddim yn credu bod unrhyw un yn y Senedd hon, gan gynnwys chi, Janet, yn credu bod hynny'n amddiffyniad amgylcheddol digonol. Ac ar y sail honno'n unig, nid wyf yn hoffi'r Bil hwn ac nid wyf yn argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Ac felly, gwnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.