Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

– Senedd Cymru am 5:05 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:05, 12 Medi 2023

Y cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu cynnal dadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ynni sydd nesaf. Y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig yn ffurfiol.

Cynnig NNDM8350 Julie James

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, Rheol Sefydlog 12.20(i) a Rheol Sefydlog 29.8, er mwyn caniatáu i NNDM8349 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 12 Medi 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Julie James Julie James Llafur 5:06, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Y cynnig yw i atal y Rheolau Sefydlog dros dro. A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes, felly mae'r cynnig yna wedi ei gymeradwyo. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.