Part of the debate – Senedd Cymru am 5:04 pm ar 12 Medi 2023.
Rwy'n ei chael hi'n anodd deall a yw'r Ceidwadwyr yn deall naws y polisi hwn neu beidio, neu a ydynt yn ei ddeall ac yn dewis ei gamliwio'n fwriadol at ddibenion gwleidyddol sinigaidd. Rwy'n pendilio rhwng y ddau yna, os wyf yn onest. Ond yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw eu bod nhw'n anghywir, ac mae'r dystiolaeth yn siarad drosto'i hun. Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le, ac unwaith eto mae ei swyddogaeth arweiniol fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol wedi bod yn bwysig wrth ychwanegu cefnogaeth a chyfuno hyn ag agendâu eraill hefyd. Bydd yn briodol i ni fonitro sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol; mae'n newid sylweddol, iawn, iawn, a byddai'n naïf i ni dybio ei fod yn mynd i fod yn ddi-wall. Ar hyn o bryd rydyn ni'n teimlo—ac mae'r cynlluniau treialu wedi amlygu ein ffydd yn y dyfarniad hwn—bod modd gwneud y newidiadau ar lefel leol. Rydym yn teimlo bod digon o ddisgresiwn yn y meini prawf esemptiadau presennol i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae nerfusrwydd ymhlith rhai awdurdodau lleol, a chyngor cyfreithiol sy'n eu gwneud yn nerfus ynghylch pa mor bell y maent yn fodlon crwydro oddi wrth union lythyren y canllawiau, er i ni gyflwyno disgresiwn ynddynt. Ac fel rwyf yn ei ddweud, yn Sir y Fflint, mae Bwcle—