Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 12 Medi 2023.
Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, hoffwn gydnabod yr arweiniad yr ydych wedi'i ddangos yn yr agenda hon o'r dechrau. Yn wir, fel rwyf wedi myfyrio o'r blaen, y cyfarfod cyntaf a gefais fel Gweinidog rhyw bedair blynedd a hanner yn ôl oedd gyda chi a Rod King o'r ymgyrch Mae Ugain yn Ddigon i gyflwyno'r achos dros y dull hwn. Dylwn hefyd adleisio'r deyrnged i Rod King ac i'r lleill—Phil Jones ac eraill—a wasanaethodd ar y grŵp llywio gyda ni, i'n harwain ni drwy'r polisi hwn; mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.
Mae'n hollol gywir ynghylch priodoldeb ar y ffyrdd cywir, ac os yw cynghorau'n ddi-droi yn ei gylch, rydym mewn perygl o danseilio'r agenda a bydd cydymffurfio yn isel. Ac rwy'n credu mai dyna'r cydbwysedd sydd angen ei gael. Mae'n hollol gywir am bwysigrwydd cydweddu'r agenda teithio llesol; rydym yn gwybod mai dyma'r peth mwyaf arwyddocaol y gallwn ei wneud i annog cynnydd mewn lefelau beicio a cherdded. Mae'r dystiolaeth yn dangos cynnydd sylweddol yn lefelau beicio a cherdded lle mae terfyn 20 mya—ac mae hynny'n wir yn Llundain, yng Nghaeredin, yn Sbaen hefyd, yn ogystal ag yn ein hardal dreialu ni. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd hynny'n dod i'r amlwg, oherwydd mae'n teimlo cymaint yn fwy diogel, ac yn amlwg mae canlyniadau gwrthdrawiadau yn gostwng hefyd. Ond mae'n newid seicoleg ardal, a chredaf fod hynny'n anodd ei fesur ac yn anodd ei brofi, ond rwy'n credu y byddwn ni i gyd yn gwybod hynny pan fyddwn yn ei weld. Rwy'n credu bod hyn yn ategu agenda Burns yn llwyr, ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen â honno.