5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:57, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac efallai yr hoffech nodi mai 17 Medi yw fy mhen-blwydd, felly diwrnod gorau'r flwyddyn bellach yw'r diwrnod y bu farw 30 mya yng Nghymru.

Nawr, yn eich datganiadau ac yng ngohebiaeth y Llywodraeth, Dirprwy Weinidog, mae'n ymddangos eich bod yn awyddus i bwysleisio nad rhaglen gyffredinol yw hon. Wel, mae gennyf ofn mai dyna yw hi, yn enwedig yn fy etholaeth i lle mae'r rhestr o esemptiadau yn druenus o isel, gan adael ffyrdd prifwythiennol 30 mya yn Nyffryn Clwyd, megis Ffordd Rhuddlan yn y Rhyl, Ffordd y Môr ym Mhrestatyn, pant Meliden, y Roe yn Llanelwy a llawer mwy yn agored i'r posibilrwydd truenus y bydd rhaid teithio ar ffyrdd syth a chlir ar gyflymder o 20 mya, gan arwain at fwy o rwystredigaeth i yrwyr a materion economaidd canlyniadol yn fy etholaeth i, lle nad wyf wedi llwyddo i siarad ag un aelod o'r cyhoedd, gwasanaeth na busnes yn Sir Ddinbych sy'n cefnogi'r polisi llym hwn.

Felly, a all y Dirprwy Weinidog ddisgrifio'r broses asesu o adolygu a chynyddu'r rhestr o esemptiadau ar gyfer ffyrdd prifwythiennol? A pha drafodaethau sydd gennych neu y byddwch yn eu cynnal gyda Chyngor Sir Ddinbych i fesur yr ymateb i'r gweithredu yn yr wythnosau a'r misoedd canlynol ar ôl 17 Medi, er mwyn sicrhau bod lleisiau fy etholwyr yn cael eu clywed a gallwn sefydlu rhestr o esemptiadau lleol yn Sir Ddinbych sy'n adlewyrchu hwyl y cyhoedd? Rydym yn byw mewn democratiaeth wedi'r cyfan.