5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 4:43, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Mae gennym bolisi yr wyf yn ei gefnogi'n llawn, a gafodd ei egluro'n wael gan Lywodraeth Cymru a'i gamddehongli'n fwriadol gan y Blaid Geidwadol. Yn syml, nid yw'n bosibl gyrru ar gyflymder o 30 mya yn ddiogel, os o gwbl, mewn ardaloedd â thai teras, neu ar ystadau. Mewn gwirionedd maen nhw'n troi'n ffyrdd un lôn gyda mannau pasio, oherwydd bod ceir wedi parcio ar ddwy ochr y ffordd. Yn Abertawe, hyd y gwelaf, ni fydd unrhyw ffyrdd dosbarth A yn cael eu cyfyngu i 20 mya. Yr unig ffyrdd y gallwch weithiau deithio arnynt ar 30 mya yw'r ffyrdd dosbarth B, ond yn Nwyrain Abertawe mae gan y rhain ysgolion arnynt neu dai sy'n ymestyn yn syth i'r ffordd. Felly, mae hyn yn rhywbeth sy'n benderfyniad mawr i'w wneud, os ydych chi'n eu newid yn ôl i 30 mya, oherwydd mae perygl o ddod i gysylltiad â phobl. 

Mae gennyf ddau gwestiwn. A all y Gweinidog gadarnhau eto nad oes rhaid i gerbydau brys sydd ar eu ffordd i argyfyngau lynu wrth derfynau cyflymder? Mae hynny'n gamargraff sydd wedi'i ledaenu'n eang gan nifer o bobl. Ac a yw'r Gweinidog yn disgwyl i oleuadau traffig ar rai cyffyrdd gael eu diffodd, oherwydd y bydd hi'n haws ymuno â ffyrdd dosbarth B o ffyrdd ystadau? Ac yn olaf, y pwynt yr hoffwn ei wneud yw: os ydych chi eisiau gwybod beth sy'n arafu traffig mewn gwirionedd, yna gyrrwch tuag at rywle lle mae pawb wedi stopio'n stond oherwydd damwain. Os bydd llai o ddamweiniau, byddwch chi'n symud yn gyflymach.