Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 12 Medi 2023.
Gweinidog, yn fy mhrofiad i, mae pobl yn deall yn iawn, os yw plentyn neu berson arall yn cael ei daro gan gerbyd yn gyrru ar gyflymder o 30 mya, bod y tebygolrwydd o farwolaeth neu anaf difrifol yn llawer mwy nag y byddai ar gyflymder o 20 mya. Ac wrth gwrs, mae pobl yn gwybod fel gyrwyr ei bod yn llawer haws stopio ar gyflymder o 20 mya os bydd rhywun yn camu i'r ffordd o'ch blaen nag y byddai ar gyflymder o 30 mya. Rwy'n credu bod pobl yn deall hynny'n iawn. Ond wrth gwrs, yr hyn maen nhw eisiau ei weld yw 20 mya ar y ffyrdd cywir, a dyna pam rwy'n croesawu'n fawr yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am gael y polisi yn iawn a sicrhau bod yr eithriadau ar y ffyrdd cywir a bod monitro yn digwydd a'i bod yn broses barhaus. Rwy'n croesawu hynny'n fawr.
O ran y darlun ehangach wrth i ni symud ymlaen—oherwydd rwy'n credu y bydd 20 mya yn cael cefnogaeth barhaus a chefnogaeth sy'n cynyddu wrth i ni symud ymlaen ac wrth iddo ddod i drefn—mae'r darlun ehangach i ni yn lleol yng Nghasnewydd, Gweinidog, yn ymwneud ag agenda Burns a sicrhau bod teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth integredig, yn cael eu cryfhau a'u hategu gan y polisi 20 mya. Tybed a allech chi ddweud ychydig wrth i ni am y darlun ehangach hwnnw a sicrhau ein bod yn gwneud y cynnydd angenrheidiol gydag argymhellion Burns.