Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 12 Medi 2023.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol. Cwrddais ag arweinwyr eto yr wythnos diwethaf a chefais fy synnu, rhaid i mi ddweud, gan ymateb cadarnhaol y cyfarfod. Felly, wrth gwrs, mae'r swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth, ac wrth gwrs mae arferion da i'w rhannu, yn enwedig o gyfathrebu ac ymgysylltu.
O ran cydymffurfiaeth, rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn da iawn. Nid yw'r astudiaeth o Belfast y mae'n ei dyfynnu yn dweud y stori yn llwyr fel y mae ef yn awgrymu. Roedd honno'n astudiaeth o derfyn 20 mya presennol mewn rhwydwaith ynysig yn ninas Belfast, a chasgliad yr astudiaeth honno oedd y byddai'n well cael dull ardal gyfan, fel rydyn ni'n ei fabwysiadu, a fyddai'n cael ei farchnata'n dda, sef yr hyn rydyn ni'n ei wneud, ac i orfodi mewn ffordd 'addysg yn gyntaf', sef yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Felly, rwy'n credu ein bod wedi dysgu o'r astudiaeth honno ym Melfast, felly mae'n ei dyfynnu mewn ffordd sy'n difrïo ein polisi, ond nid wyf yn credu bod hynny'n ddehongliad cywir o'r hyn y mae'n ei ddweud.
Yn amlwg, ni chydymffurfir â therfynau cyflymder, yr holl derfynau cyflymder nawr hyd yn oed. Rydyn ni i gyd yn gwybod hynny fel gyrwyr, a dydyn ni ddim yn mynd i weld, yn sydyn, ddydd Llun nesaf pawb yn gyrru ar gyflymder o 20 mya. Gadewch i ni fod yn realistig ynghylch hynny. Ond yr hyn y byddwn yn ei weld, rwy'n ffyddiog, oherwydd rydyn ni wedi'i weld mewn mannau eraill yn y cynlluniau treialu, yw bod cyflymderau cyfartalog yn gostwng. Ac un o lwyddiannau mawr terfyn cyflymder o 20 mya yw bod nifer y bobl sy'n gyrru dros 30 mya yn gostwng yn sylweddol. Felly, yn union fel ar hyn o bryd, mewn llawer o achosion, mewn parth 30 mya, mae pobl yn gyrru 40 mya, byddwn yn gweld mewn ardaloedd 20 mya pobl yn gyrru yn gyflymach na 20 mya, ond bydd y cyflymderau eithafol yn gostwng yn sylweddol, a dyna fydd un o lwyddiannau mawr diogelwch ar y ffyrdd. Rydym hefyd yn gwybod, am bob gostyngiad o 1 mya yn y terfyn cyflymder cyfartalog, bod gostyngiad cyfatebol o 6 y cant mewn anafiadau. Felly, hyd yn oed mewn achosion lle nad oes cydymffurfiaeth gref, mae'r cyfartaledd yn gostwng, mae hynny'n dal yn llwyddiant o ran diogelwch cymunedol ac o ran lleihau achosion o farwolaethau.
Fel y dywedais yn y datganiad, rydym yn mabwysiadu, gyda'r heddlu, y buom yn gweithio'n dda iawn gyda nhw drwy'r broses hon, rwy'n credu ymateb cymesur, pryd nad ydym yn mynd i fod yn llawdrwm ofnadwy ar bobl sy'n gyrru rhwng 20 mya a 30 mya ar y dechrau wrth iddo ddod i drefn—byddwn yn amlwg yn tynhau hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Bydd pobl sy'n gyrru dros 30 mya yn cael pwyntiau a dirwyon, ond o dan 30 mya lle mae mesuriadau cyflymder ar waith, lle mae gwiriadau ar ochr y ffordd, bydd pobl yn cael cynnig addysg. Ac yn sicr, lle rydym wedi ei dreialu yn Llanelli, yn fy etholaeth fy hun, lle mae plant ysgol wedi bod yn rhan o GanBwyll wrth stopio modurwyr a rhoi'r dewis iddynt, 'Gallwch naill ai gael pwyntiau neu gallwch ateb cwestiynau gan y plant ysgol', mae wedi bod yn broses sobreiddiol ac effeithiol iawn, pan ofynnir iddyn nhw, 'Ydych chi'n sylweddoli eich bod chi'n gyrru mewn ffordd sy'n peryglu fy mywyd?' Ac mae llawer o fodurwyr sy'n gadael y sgwrs honno wedi gwneud hynny yn eu dagrau ac wedi newid eu hymddygiad o'r herwydd. Felly, hoffwn weld mwy o ymyraethau fel yna, yn hytrach na rhoi dirwyon i bobl, ond os yw pobl yn amlwg yn torri'r gyfraith, yna maent yn agored i gael eu cosbi am dorri'r gyfraith. Ond rwy'n credu mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld yw'r holl beth yn dod i drefn.
Rydym yn sicr wedi gweld o Sbaen nad oedd llawer o'r honiadau a wnaed ymlaen llaw—llawer ohonynt a wnaed yma heddiw—wedi dod yn wir. Byddwn yn gweld cyflymder cyfartalog is, ni fyddwn yn gweld cydymffurfiaeth lawn ar y dechrau, ond mae hynny'n rhywbeth, felly, y byddwn yn gweithio arno gyda GanBwyll a chymunedau i ostwng achosion o beidio â chydymffurfio dros amser.