5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:37, 12 Medi 2023

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dwi'n eich llongyfarch chi am y ffordd roeddech chi wedi ymateb mewn cymaint o ffyrdd i rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Mae'n rhaid inni newid ein ffyrdd o fyw os ydym ni am gymryd y risg o lygredd aer o ddifrif, heb sôn am y risg o ddioddef rŷch chi wedi gosod mas—y risg o farwolaethau ar y ffordd. Mae'n rhaid inni weithredu. Ac ie, bydd hynna yn golygu gwneud newidiadau sy'n anodd, newid rhai pethau dŷn ni wedi arfer â nhw. Felly, dwi'n cefnogi'r angen am newid yng nghyflymderau nifer o lefydd dros Gymru. Dyna pam gwnaethom ni fel plaid gefnogi'r polisi hwn. Wrth gwrs, mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar gymunedau a bod cynghorau yn derbyn y cymorth angenrheidiol i wneud yn siŵr dyw terfynau cyflymdra anaddas ddim yn cael eu cyflwyno.

Gaf i ofyn felly, yn gyntaf, a fydd y Llywodraeth yn adolygu'r cymorth hwn sydd ar gael i lywodraeth leol, a gosod mas pa trafodaethau maen nhw wedi eu cynnal gyda chynghorau lleol, i weithio mas pam mae cymaint o esiamplau o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud sydd efallai yn anaddas—pam mae hwnna wedi digwydd? Mae angen cefnogaeth gyhoeddus, wrth gwrs, ar gyfer newid o'r fath. Ac ie, mae'r lleisiau mwyaf swnllyd yn anghytuno â phenderfyniadau fel hyn, ond mae'r nifer helaeth o bobl o blaid gwneud newidiadau fydd yn elwa ein hiechyd, iechyd ein plant ac iechyd ein planed. Pa gynlluniau sydd gennych chi i wella'r cydsiarad rhwng y cyhoedd a'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau efallai i ddyfnhau dealltwriaeth y naill o berspectif y llall? Achos dwi'n meddwl byddai gwneud rhywbeth adeiladol fel yna yn rhywbeth fyddai wir yn dda.

Ond buaswn i jest eisiau atgoffa'r Siambr fod nuances yn bwysig. Mae'r nod tu ôl i’r polisi hwn yn un i'w glodfori. Bydd hyn yn achub bywydau. Ac oes, mae angen gwella cyfathrebu, mae angen cryfhau cymorth ac edrych eto ac addasu rhai penderfyniadau. Ond allwn ni ddim cario ymlaen i fyw ein bywydau trwy esgus bod llygredd aer yn rhywbeth sydd jest yn gallu bodoli, ac allwn ni ddim cario ymlaen i feddwl bod damweiniau car a phlant yn marw jest yn rhyw bris sydd angen ei dalu. Mae ceisio gwneud pethau fel yna yn esgeuluso’n dyletswydd ni i'n plant, ac mae hefyd yn esgeuluso ein dyletswydd i genedlaethau sydd dal i ddod.