5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 4:46, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, a diolch hefyd am gydnabod y mesur hynod arwyddocaol hwn a'r effaith y bydd yn ei chael ar bobl ledled Cymru. Rwy'n credu mai un o'ch llinellau agoriadol oedd mai dyma'r newid sylweddol mwyaf mewn cenhedlaeth. Fe wnaethoch chi gydnabod hefyd yn eich datganiad, waith awdurdodau lleol gyda'r broses o gyflwyno'r cynllun hwn, felly diolch am wneud hynny, a chydnabu Delyth Jewell rai o'i phryderon am y gefnogaeth i awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Felly, mae fy nghwestiwn cyntaf mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ymgysylltiad parhaus hwnnw rydych chi'n disgwyl ei gael â'r awdurdodau lleol hynny ynghylch 20 mya, a beth rydych chi'n meddwl y gallai ffurf yr ymgysylltiad hwnnw fod, a sut rydych chi'n mynd i allu ei gynnal a rhannu arferion gorau—fel y dywedoch, mae gwahanol ddulliau yn cael eu mabwysiadu ledled Cymru, yn enwedig ym misoedd agoriadol y polisi newydd hwn ar ôl iddo gael ei weithredu—fel nad ydym yn gweld yr awdurdodau lleol hynny o bosibl yn cael eu beirniadu a'u cosbi efallai o ganlyniad i hyn.

Hefyd, Dirprwy Weinidog, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed pa ddisgwyliadau a allai fod gennych ynghylch pobl yn cydymffurfio â'r gostyngiad cyflymder. Byddwch yn ymwybodol, er nad ydych efallai'n hoffi'r ymchwil yn arbennig, bod yr ymchwil honno gan Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol y Frenhines, Belfast wedi dangos, ar ôl gweithredu 20 mya am flwyddyn ym Melfast, bod cyflymder traffig wedi gostwng 0.2 mya. Felly, yn amlwg, gall cydymffurfio fod yn broblem mewn rhai ardaloedd. Rydych wedi cydnabod yn eich datganiad rywfaint o'r gweithgaredd gorfodi a fydd yn digwydd, ond mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd cydymffurfio, ar wahân i orfodi, yn cael ei fonitro gennych chi, a sut y bydd y dull hwnnw'n amrywio ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.