5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:40, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rwy'n cytuno bod angen i awdurdodau priffyrdd lleol wrando ac mae angen iddynt ymgynghori, ac mae hynny wedi bod yn ddarlun cymysg ledled Cymru, rwy'n credu, os ydym yn deg ynghylch y peth. Un o gasgliadau clir y cynllun treialu ym Mwcle yn Sir y Fflint oedd na fu digon o ymgynghori cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno, ac rydym wedi ceisio dysgu o hynny. Roeddem wedi bwriadu cael proses ymgynghori ehangach a dyfnach. Rwy'n ofni bod COVID wedi cael effaith wirioneddol ar yr amser a oedd ar gael ac ar allu'r awdurdodau lleol i wneud hyn. Nawr, gadewch i ni fod yn deg ag awdurdodau lleol. Adrannau bach yw'r rhain, maent yn gweithio gydag amrywiaeth o bwysau eraill. Mae'n un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi oedi cyn cyflwyno'r ymgynghoriad ar barcio ar y palmant, gan mai dyma'r un bobl fyddai'n ymgymryd â'r newid hwnnw hefyd, ac maen nhw wedi gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd.

Rydym yn gwybod nad yw'r diwylliant mewn awdurdodau lleol mewn rhai ardaloedd mor agored ag y gallai fod, ac nid yw mor atyniadol ag y gallai fod. Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymgynghori'n ag aelodau ward leol yn unig. Mae eraill hefyd wedi ymgynghori â chynghorau cymuned. Mae rhai wedi ei roi ar eu gwefan ac wedi cael nifer fach o ymatebion. Byddwn yn barod i gydnabod nad yw'r ymgynghoriad wedi bod mor eang ag y byddwn wedi hoffi ei weld, ond rwy'n deall yn llwyr y pwysau sydd ar awdurdodau lleol.

Ond nid dyma'r gair olaf ar y mater. Yr hyn rydym yn ei wneud yw newid y terfyn diofyn. Mae awdurdodau lleol nawr, fel yr oeddent o'r blaen, yn parhau, fel eu hawdurdodau priffyrdd lleol, i benderfynu ar y cyflymder priodol ar y ffyrdd sydd o dan eu rheolaeth. Rydym wedi nodi canllawiau ar sut y gellir gwneud hynny, a, lle bo achos da, gallant newid y cyflymder. Felly, dyna swyddogaeth arferol awdurdod lleol erbyn hyn; y cyfan yr ydym wedi'i wneud yw newid y terfyn diofyn sylfaenol. Nid ydym yn dweud bod hwn yn gwbl ddigyfnewid, a mater i gymunedau lleol, drwy'r prosesau arferol, yw cyflwyno sylwadau i'w hawdurdodau lleol pan fyddan nhw'n credu y gellir newid hynny.

Yn amlwg, bydd ardaloedd lle maen nhw wedi gweithredu'n anghywir. Byddai'n hurt disgwyl i hynny beidio â digwydd, ac rwy'n gobeithio y byddant yn dangos yr hyblygrwydd a'r gostyngeiddrwydd i fod yn barod i wneud y newid hwnnw, fel y byddwn ni fel asiantau cefnffyrdd Cymru. Mae angen cydbwysedd, oherwydd rydyn ni eisiau dull cyson ar draws Cymru. Mae angen i ni gydnabod y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu hyn, ond bydd llawer o bobl yn gefnogol. Felly, am bob eithriad sydd wedi bod, bu gwrthwynebiadau ar lefel leol gan bobl nad ydynt eisiau eithriad a'u bod eisiau iddo fod yn 20 mya. Felly, mae'r rhain yn ddyfarniadau anodd, ac, yn amlwg, gyda gwleidyddiaeth fel y mae hi, mae yna fanteiswyr sydd eisiau manteisio ar hynny, er gwaethaf y dystiolaeth. Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod y Cynghorydd Lindsay Whittle yng Nghaerffili wedi lladd ar y polisi hwn hefyd, felly rydym yn canfod pobl ar draws pob plaid ym mhob rhan o Gymru nad ydynt yn gwneud fel y byddem yn dymuno iddyn nhw ei wneud ynghylch hyn.

Ond rwy'n credu bod y pwynt olaf a wnaeth Delyth Jewell ynglŷn ag ymrwymo i adolygu'r canllawiau eithriadau yn iawn, a byddwn yn gwneud hynny. Bydd yn adolygiad llai manwl; rydyn ni eisiau i eithriadau fod yn ymarferion tacluso, nid newidiadau ar raddfa eang, ond credaf ei bod yn hollol iawn ein bod yn parhau i adolygu hyn.