5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:45, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ydw, rwy'n credu bod honno'n ffordd sy'n llawn synnwyr cyffredin o edrych ar y sefyllfa. Ni ddylem danbrisio pa mor sylweddol yw'r newid hwn i'r dirwedd, a bydd ganddo bob math o effeithiau dilynol. Felly, er enghraifft, nawr ein bod yn newid y terfyn diofyn, bydd y set gyfan o fesuriadau a ddefnyddir gan beirianwyr diogelwch ffyrdd ynghylch pryd i roi rheiliau a phryd i edrych ar linellau gweld yn newid, oherwydd bydd y traffig yn teithio ar gyflymder arafach, ac felly bydd gwelededd a gallu gyrwyr i ymateb hefyd yn newid. Felly, bydd hyn yn cael effaith ehangach rwy'n credu y bydd er lles ein hamgylchedd trefol.

Mae e' yn llygad ei le wrth ddweud bod y syniad bod hwn yn mynd i effeithio ar y gwasanaethau brys eto yn honiad ffug arall sy'n cael ei wneud a'i gefnogi gan y Ceidwadwyr. Nid yw gwasanaethau brys golau glas yn destun cyfyngiadau cyflymder ac, fel y soniais yn gynharach, mae'r cwestiwn o staff sy'n teithio mewn ymateb i alwadau yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w fonitro, ond ar hyn o bryd nid yw gwasanaeth yr heddlu na'r gwasanaethau eraill yn dweud wrthym fod ganddynt unrhyw bryderon gormodol. Ond rwy'n credu ei bod dim ond yn rhesymol i ni ddweud bod llawer iawn o bethau anhysbys yma, a bydd yn rhaid i ni barhau i adolygu hyn, a byddwn yn dilyn y dystiolaeth.

Rwy'n gwybod bod honiadau wedi'u gwneud am yr effaith ar deithiau bws, er enghraifft, ac rydym wedi gofyn i gwmnïau bysiau ddarparu data i ni ar hynny. Nodaf mai cyflymder cyfartalog bws yng Nghaerdydd, er enghraifft, yw 8 mya. Felly, mae'n ymddangos yn annhebygol i mi y bydd hyn yn cael effaith sylweddol, ond os yw'n digwydd, yna rydym eisiau edrych ar hynny ac rydym eisiau adolygu a myfyrio ar sut y gallwn wneud y newidiadau hynny. Rwy'n credu y gellir ymdrin â hyn i gyd mewn ffordd synhwyrol, aeddfed a phwyllog iawn, ac mae'r manteision, fel y dywedodd Mike Hedges, yn glir iawn.