5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:31, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, fel erioed, rwy'n gresynu at naws cyfraniad Natasha Asghar ar y mater difrifol hwn. Gadewch i mi geisio ymdrin â nifer o faterion y mae hi'n eu cyflwyno. Mae hi'n dweud, unwaith eto, nad oes ganddi broblem ynghylch cyflymderau arafach y tu allan i ysgolion. Nid yw 80 y cant o blant yn cael eu lladd y tu allan i'r ysgol, felly mae angen i ni feddwl am eu taith i'r ysgol, nid yn union y tu allan i'w hysgol yn unig. Felly, ni fyddai'r cynnig y mae wedi'i gyflwyno yn gweithio, ac ni chafodd gefnogaeth y tasglu. Gadewch i mi ei hatgoffa eto, iawn: ar 15 Gorffennaf 2020, pleidleisiodd y Siambr hon dros adroddiad y tasglu, a oedd yn cynnwys y terfyn cyflymder diofyn yng nghorff y testun, a phleidleisiodd Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, o blaid hynny, fel y gwnaeth Janet Finch-Saunders, fel y gwnaeth Russell George, fel y gwnaeth Laura Jones, ynghyd ag Aelodau eraill nad ydynt yma bellach. Fe wnaethon nhw bleidleisio'n benodol dros y dull sylfaenol rydyn ni'n ei fabwysiadu nawr, dull rydych chi nawr yn ceisio ei nodweddu fel un 'cyffredinol'. Pe bai'n un cyffredinol, pam wnaethon nhw ei gefnogi? Oherwydd roedd yn eithaf eglur yn y cynnig mai dyma'r dull yr oeddem yn ei fabwysiadu. Felly, dim ond rhyw ragrith sydd yma; maen nhw wedi codi cynffon oherwydd maen nhw'n gallu gweld ei fod yn amhoblogaidd ymhlith rhai ac maen nhw eisiau arwain grŵp neu fudiad poblogaidd arall eto. Mae hi'n dweud y bydd hi'n eu cefnogi lle mae eu hangen. Wel, mae'r dull hwn yn dilyn datganiad Stockholm y Cenhedloedd Unedig ar ddiogelwch ar y ffyrdd sy'n dweud, lle mae pobl a thraffig yn cymysgu, y dylai'r terfyn cyflymder fod yn 20 mya. Dyna lle mae ei angen, dyna lle bydd hyn yn berthnasol, ac mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i'w newid.

Nawr, mae hi hefyd yn hawlio—ac fe glywsom ni hyn yn gynharach—bod y gwasanaethau brys yn cael eu rhoi dan anfantais yn sgil hyn, ac rwyf eisiau dyfynnu o ddatganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy'n dweud eu bod yn cefnogi'r polisi hwn a'r dull hwn. Dywedon nhw: "Gofynnwyd i ni a fydd hyn yn effeithio ar amseroedd ymateb diffoddwyr tân ar alwad. Mae ein diffoddwyr tân ar alwad yn byw neu'n gweithio mewn gwahanol leoliadau yn ein cymunedau, ac mae eu hamseroedd ymateb yn amrywio yn ôl hynny. Ni fydd pob un ohonynt yn teithio mewn car yn benodol, ac ni fyddant yn teithio ar ffyrdd â therfyn o 20 mya yn unig. Felly, nid ydym yn rhagweld y bydd y newidiadau hyn yn effeithio'n andwyol ar ein hamseroedd ymateb cyffredinol, a byddwn yn adolygu eu heffaith maes o law." Ac maen nhw'n mynd i fod yn adolygu ac yn casglu data dros y chwe mis nesaf ac yn cynnal gwerthusiad cadarn i weld a yw hynny, mewn gwirionedd, yn wir. Mae hwnnw'n ddull synhwyrol.

Rydym hefyd yn mynd i fonitro ac adolygu, ac os yw'n ymddangos bod ffyrdd wedi cael terfyn o 20 mya, nid esemptiad, ac nad yw hynny'n briodol, yna gall yr awdurdodau lleol eu newid, fel y gallwn ni ar gefnffyrdd. Felly, dydw i wir ddim yn deall yn iawn beth yw'r ddrama heblaw codi gwrthwynebiad ac eto mynd a chreu anghydfod diwylliannol, chwilio am fater i hollti barn, y mae gan y Ceidwadwyr bellach obsesiwn ag ef, er nad yw'n cynnig unrhyw fuddion iddynt; mae'r arolygon barn yn dal i ddangos eu bod yn amhoblogaidd iawn, felly fe fyddech chi'n meddwl y byddent yn newid cyfeiriad. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn y ddadl honno yn 2020: '

'Y safon mewn gwirionedd ar gyfer strydoedd mwy diogel a chyfeillgar i bobl erbyn hyn yw 20mya, gyda therfynau uwch dim ond lle gellir eu cyfiawnhau.'

Ac rydym yn cefnogi'r dull hwnnw. Mae'n drueni ei bod hi wedi newid ei meddwl.

Rwyf eisiau sôn yn fyr am fater y gost i'r economi, sy'n un arall o'r materion y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei wyntyllu'n gyson ar gyfryngau cymdeithasol. Nawr, rwy'n deall bod y prif ffigur sydd wedi'i gyhoeddi yn y memorandwm esboniadol yn hoelio sylw, ond nid yw cynddrwg ag y mae'n ymddangos mewn gwirionedd. Nawr, mae'n rhaid i ni gyhoeddi amcangyfrif o gost a budd, ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r dull a nodir yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys y DU ar gyfer gwerthuso cynlluniau. Ac mae'n rhaid i ni geisio rhoi gwerth ariannol i hyn, ond, wrth gwrs, mae rhai pethau na allwch eu mesur: galar teulu plentyn a laddwyd ar y stryd; gwerth cymdeithasol cyfarfod cymdogion yn y stryd a sgwrsio; absenoldeb straen yn sgil sŵn injan sy'n uwch mewn stryd gyda therfyn o 30 mya. Ni allwch fesur y rhain. Nid yw'r pethau hynny'n cael eu cynnwys yn Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, ac mae'n mesur yr hyn y gall ei fesur. Ac mae'n ceisio rhoi gwerth ariannol ar yr hyn y gall ei fesur, sydd, unwaith eto, yn fympwyol. Ac fel y mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn glir, mae llawer o ansicrwydd ynghylch y ffigurau hyn y maent yn eu hawlio sy'n ffeithiau, ac roedd Andrew R.T. Davies hyd yn oed yn hawlio ffigur sydd hyd yn oed yn uwch, un hurt o chwyddedig y prynhawn yma.

Nawr, mewn cynlluniau trafnidiaeth, mae'r ffordd y maent yn ceisio mesur yr effaith economaidd hon yn ymwneud ag amcangyfrif o werth amseroedd teithio i'r economi. Nawr, mae'r dull yn gyffredinol yn tybio ei bod hi'n fanteisiol i'r economi pan fo pobl yn cyrraedd lleoedd yn gyflymach. Nawr, bydd hynny'n wir am rai teithiau, er enghraifft, danfoniadau mewn union bryd, ond nid yw'n wir am eraill, fel ymweld â'ch nain. Nawr, mae ein dadansoddiad yn dangos y bydd effaith o un funud ar deithiau unigol, ar gyfartaledd, ac effaith o lai na dwy funud ar y rhan fwyaf o deithiau. Dyna mae'r gwerthusiad yn ei ddangos—mae'n fach iawn ac yn anodd iawn ei foneteiddio'n ddibynadwy. Ond mae'r Llyfr Gwyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i ni adio pob munud a gollwyd, i'w luosi â 30, oherwydd mae'n rhaid i'r dadansoddiad hwn gwmpasu cyfnod o 30 mlynedd, a dyna o ble daw'r ffigur hwn o effaith o £4.5 biliwn ar yr economi.

Ond, fel mae'r memorandwm esboniadol yn dweud:

'Mae'n bwysig nodi bod nifer o fanteision ehangach megis llygredd sŵn, effeithiau ehangach effeithiau iechyd o deithio llesol, mwy o ryngweithio cymdeithasol, gwariant manwerthu a gwerthoedd tir nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad hwn. At hynny, mae’r cynnydd yn amser teithio unigolion yn debygol o fod yn fach ac felly mae ansicrwydd ynghylch cost cyfle’r amser hwnnw.'

Rydyn ni'n treulio mwy o amser mewn atalfeydd tollau nag y byddwn mewn atalfeydd ar y teithiau hyn, ac nid ydym yn mesur y gost honno i'r economi. Dydw i ddim yn clywed y Ceidwadwyr yn sgrechian am gost polisïau diogelwch Llywodraeth y DU ar fusnesau. Nid yw hyn yn destun craffu. Nid ydynt yn poeni, nac ydynt? Nid oes ots ganddyn nhw am y ffeithiau na'r ddadl sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth, oherwydd y cyfan maen nhw eisiau ei wneud yw herian pobl a phwyso botymau oherwydd nad oes rhaid iddyn nhw lywodraethu, ac mae'r agwedd a'r diofalwch maen nhw'n ei ddangos ynghylch hyn yn amlwg, diolch i Dduw am hynny.