Part of the debate – Senedd Cymru am 4:14 pm ar 12 Medi 2023.
Diolch, Dirprwy Lywydd. O ddydd Sul, bydd y rhan fwyaf o ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 30 mya yng Nghymru yn newid i 20 mya. Dyma'r newid mwyaf mewn diogelwch cymunedol mewn cenhedlaeth. Bydd yn achub bywydau, yn atal anafiadau ac yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio. Bydd yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel i bob defnyddiwr ffyrdd, gan gynnwys gyrwyr ceir, ac yn gwella ansawdd bywyd pawb yn ein cymunedau lleol.
Ar y ddau achlysur pan fuom yn trafod y dull gweithredu yn y Siambr hon, cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol, gan gynnwys yn 2020, cefnogaeth y meinciau Ceidwadol ac arweinydd eu grŵp ar y pryd, a chefnogwyd y polisi gyda mwyafrifoedd sylweddol. Nid yw newid byth yn hawdd, ac wrth i ni agosáu at 17 Medi, a gyda mwy o ymwybyddiaeth o'r terfyn cyflymder yn dod i rym, mae pryderon yn dod i'r wyneb, ac nid yw pryderon naturiol pobl am newid wedi eu lleddfu gan yr wybodaeth anghywir amlwg sy'n cael ei lledaenu'n sinigaidd gan y Ceidwadwyr yng Nghymru. O dan ein safonau ymddygiad personol yn y Senedd hon, mae'r rheolau'n datgan bod yn rhaid i Aelodau weithredu'n eirwir. Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod Aelodau Ceidwadol yn gwneud honiadau ffug ynghylch y polisi hwn, polisi y pleidleisiodd llawer ohonynt drosto yn y Siambr hon.