5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

– Senedd Cymru am 4:14 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:14, 12 Medi 2023

Symudwn ymlaen at eitem 5, datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar y terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. O ddydd Sul, bydd y rhan fwyaf o ffyrdd sydd â therfyn cyflymder o 30 mya yng Nghymru yn newid i 20 mya. Dyma'r newid mwyaf mewn diogelwch cymunedol mewn cenhedlaeth. Bydd yn achub bywydau, yn atal anafiadau ac yn annog mwy o bobl i gerdded a beicio. Bydd yn gwneud ein strydoedd yn fwy diogel i bob defnyddiwr ffyrdd, gan gynnwys gyrwyr ceir, ac yn gwella ansawdd bywyd pawb yn ein cymunedau lleol.

Ar y ddau achlysur pan fuom yn trafod y dull gweithredu yn y Siambr hon, cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol, gan gynnwys yn 2020, cefnogaeth y meinciau Ceidwadol ac arweinydd eu grŵp ar y pryd, a chefnogwyd y polisi gyda mwyafrifoedd sylweddol. Nid yw newid byth yn hawdd, ac wrth i ni agosáu at 17 Medi, a gyda mwy o ymwybyddiaeth o'r terfyn cyflymder yn dod i rym, mae pryderon yn dod i'r wyneb, ac nid yw pryderon naturiol pobl am newid wedi eu lleddfu gan yr wybodaeth anghywir amlwg sy'n cael ei lledaenu'n sinigaidd gan y Ceidwadwyr yng Nghymru. O dan ein safonau ymddygiad personol yn y Senedd hon, mae'r rheolau'n datgan bod yn rhaid i Aelodau weithredu'n eirwir. Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod Aelodau Ceidwadol yn gwneud honiadau ffug ynghylch y polisi hwn, polisi y pleidleisiodd llawer ohonynt drosto yn y Siambr hon.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:15, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i nodi'r ffeithiau. Y ffaith fwyaf brawychus yw hon, os yw cerddwr yn cael ei daro gan gerbyd sy'n symud ar gyflymder o 30 mya, mae ef tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd na phe bai e'n cael ei daro gan gerbyd yn symud ar gyflymder o 20 mya. Mae'n syml: mae cyflymderau is yn achub bywydau. Erbyn i gar sy'n teithio 20 mya stopio, bydd car sy'n teithio 30 mya yn dal i deithio 24 mya: mae cyflymderau is yn achub bywydau. Nid dim ond fi sy'n dweud hynny—dyna union eiriau Dr David Hanna, ymgynghorydd brys pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ei waith ef yw ymdrin â'r canlyniadau pan gaiff plant eu taro gan geir yn teithio 30 mya a mwy. Mae wedi disgrifio'r anafiadau trychinebus sy'n newid bywyd y mae'n rhaid i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd ddelio â nhw o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ffyrdd, ac mae mwy na hanner ohonynt yn digwydd ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder yn 30 mya ar hyn o bryd.

Cael eich taro gan gar yn symud yw'r achos mwyaf cyffredin o anaf difrifol i blant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gallwn ddisgwyl gweld gostyngiad o 40 y cant mewn gwrthdrawiadau, chwech i 10 o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn, a rhywle rhwng 1,200 a 2,000 o bobl bob blwyddyn yn osgoi anaf yng Nghymru ar ôl i ni symud i 20 mya. Felly, yn ogystal â lleihau gofid dynol, bydd hyn hefyd yn lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau brys sydd dan bwysau. Mae disgwyl i arbedion atal anafiadau, sy'n cynnwys lleihau'r angen i fynd i gynifer o wrthdrawiadau traffig ffyrdd a lleihau llif y bobl sydd wedi'u hanafu sydd angen triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys arbed £92 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig, ac ymhob blwyddyn wedyn. Fel y dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

'Nid yn unig y bydd cyflymderau arafach yn achub bywydau ac yn lleihau anafiadau, bydd hefyd yn helpu i gadw pobl yn iachach ac yn lleihau'r baich ar y GIG.'

Dirprwy Lywydd, bydd terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn talu amdano'i hun dair gwaith drosodd o'r arbedion i'r gwasanaeth iechyd yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Nid yw hwn yn bolisi sydd wedi cael ei frysio, mae wedi bod yn datblygu dros bedair blynedd, mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol, yr heddlu a sefydliadau cyflawni allweddol. Rydym wedi ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru. Yn Llandudoch yn Sir Benfro, y cyntaf o'r ardaloedd prawf, mae 20 mya eisoes wedi profi ei hun. Fe wnaeth gyrrwr car osgoi taro bachgen ifanc yn croesi'r ffordd oherwydd, yn ei eiriau ef ei hun:

'Yn ffodus, roeddwn i'n gwneud 20 mya. Ar gyflymder o 30 mya, byddwn i wedi ei daro.'

Nid oedd angen ambiwlans, dim angen yr heddlu a diolch byth, nid oedd angen i rieni'r plentyn hwnnw glywed newyddion drwg yn yr ysbyty. Mae llawer ohonom yn rhieni a neiniau a theidiau, ac rydyn ni'n deall yr ofn sy'n gysylltiedig â thraffig, ac rydym yn gwybod pam y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi cyflymderau arafach ar y strydoedd y maent yn byw ynddynt. Ac rydym yn gwybod bod ofni traffig yn arwain at gadw llawer o blant dan do er mwyn osgoi'r risg o niwed sy'n eu hamddifadu o'r profiadau a gafodd llawer ohonom wrth archwilio ein cymdogaethau a chael hwyl gyda ffrindiau. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at yr amgylchedd gordewogenig y mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi ein rhybuddio sy'n ychwanegu at epidemig diabetes math 2 a gordewdra. Yn Sbaen, yn Llundain, yng Nghaeredin, ac yn fuan yn Iwerddon hefyd, mae cyfyngiadau cyflymder wedi'u gostwng i 20 mya ac mae anafiadau a marwolaethau yn gostwng hefyd. Mae'r dystiolaeth ar gyfer newid yn gryf iawn a does dim dadlau yn ei gylch.

Rwyf wedi rhoi pwyslais parhaus ar wneud popeth o fewn ein gallu i ganolbwyntio ar ymarferoldeb gweithredu'r terfyn cyflymder newydd i sicrhau ei lwyddiant. Ym mis Mai 2019 sefydlais grŵp tasglu i brofi ein bwriad polisi gydag arbenigwyr ac ymarferwyr. Dan arweiniad yr arbenigwr trafnidiaeth annibynnol uchel ei barch Phil Jones, treuliodd y grŵp dros flwyddyn yn ystyried y ffyrdd gorau o gyflwyno'r newid a dod o hyd i gonsensws. Roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion llywodraeth leol, Ffederasiwn y Busnesau Bach a'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, ymhlith eraill. Argymhellodd y grŵp tasglu ein bod yn symud i ffwrdd o ailddosbarthu rhannau byr o'r ffyrdd yn rhai 20 mya, a dywedodd y dylem yn hytrach newid y terfyn cyflymder diofyn sylfaenol. Dylem symud i ffwrdd o'r sefyllfa bresennol lle mae gan ffyrdd lleol, ffyrdd cyfyngedig, derfyn diofyn o 30 mya, lle gellir cyflwyno achos i leihau hynny i 20 mya, terfyn diofyn o 20 mya, lle gellir cyflwyno achos dros osod hynny ar 30 mya. Felly, does dim terfyn cyffredinol o 20 mya, fel mae'r Ceidwadwyr yn honni ar gam. Rydym yn dilyn y dull a argymhellodd yr arbenigwyr. Ac rwy'n gwybod nad yw'r Ceidwadwyr yn hoffi arbenigwyr, ond yn y Siambr hon, rydyn ni yn eu hoffi nhw.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:21, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Bydd awdurdodau priffyrdd lleol yn cadw'r pŵer i amrywio'r terfyn cyflymder yn ôl amodau lleol. Nid yw'n derfyn cyflymder unffurf. Nid yw'n derfyn cyflymder cyffredinol. Gall amrywio yn ôl amgylchiadau lleol, fel y penderfynir gan yr awdurdod priffyrdd lleol, ac mae hynny eisoes yn digwydd. Pe bai'n derfyn cyffredinol, sut y gallodd Rhondda Cynon Taf gyflwyno cymaint o esemptiadau? Sut y gallodd Cil-y-coed yn Sir Fynwy newid ei derfyn cyflymder o ganlyniad i'r treial? Sut felly yr oedd hi'n bosibl i newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd nad oeddent yn gweithio yn y treial ym Mwcle? Gall hynny dim ond digwydd oherwydd nad yw'n derfyn diofyn ac mae gan awdurdodau priffyrdd lleol yr hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau lleol. Mae pob un o'r awdurdodau lleol hyn wedi cynnal asesiad trylwyr o'u ffyrdd ac wedi defnyddio canllawiau esemptiadau Llywodraeth Cymru a'u gwybodaeth leol. Mae hwn wedi bod yn ddarn sylweddol o waith ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl awdurdodau lleol sydd wedi helpu i sicrhau bod y newid yn digwydd mor esmwyth â phosibl. Mae'r rhain yn dimau bach, ac maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o galed, ac rwy'n credu bod ein dyled yn fawr iddyn nhw.

Nawr, mae'n anochel bod rhywfaint o amrywioldeb lleol o ran sut mae'r meini prawf eithriadau wedi'u cymhwyso ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol—rydym wedi clywed bod hyn yn cael ei ganmol fel lleoliaeth yn y gorffennol—ac wrth gwrs gan Lywodraeth Cymru ein hunain ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Rydym wedi annog cynghorau i feithrin ymagwedd synnwyr cyffredin, gan gydnabod bod cymeriad rhai rhannau o ffyrdd yn addas ar gyfer 30 mya, lle nad yw pobl a cherbydau'n cymysgu. Dyma'r newid mwyaf mewn diogelwch ar y ffyrdd mewn cenhedlaeth, ac er gwaethaf yr holl ymdrechion, mae'n annhebygol o fod heb ddiffygion ar y diwrnod cyntaf. Er enghraifft, rydym yn gwybod y bydd rhai cynghorau yn gosod eu holl arwyddion ddydd Sul, ac mae eraill wedi penderfynu mabwysiadu dull gwahanol wrth wneud newidiadau fesul cam. Bydd yn dod i drefn. A lle mae cymunedau'n credu bod cynghorau wedi gwneud camgymeriadau ar rai rhannau o'r ffyrdd, bydd cyfle i fyfyrio ac ailedrych arno. Byddwn yn cynnal adolygiad llai manwl o'r meini prawf esemptiadau ar ôl i'r newidiadau gael cyfle i ymsefydlu, a gellir edrych ar hyn eto os oes problemau. Ond rydym yn disgwyl, yn seiliedig ar y profiad yn y cynlluniau treialu, y bydd y dull newydd yn cael ei groesawu gan gymunedau lleol. Bydd yn cymryd amser i addasu. Fel gyrrwr, mae gyrru 20 mya yn teimlo'n arafach. Ac yn yr un modd 'doedd dim llawer o bobl yn hoffi gwisgo gwregys diogelwch ar y dechrau, mae pobl yn addasu. Ac wrth i bobl addasu, byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu cyfrannol o ran gorfodi. Bydd goryrwyr eithafol yn cael eu dirwyo ac yn cael pwyntiau ar eu trwydded, ond tra bod gyrwyr yn dod i arfer â'r terfyn newydd o 20 mya, ac os nad ydynt yn ei dorri'n ormodol, byddant yn cael cynnig sesiynau ymgysylltu ar ochr y ffordd, pan fo ar gael, gyda GanBwyll a'r gwasanaethau tân ac achub yn hytrach na chael eu herlyn.

Nawr, gwn fod pryderon y bydd y terfyn cyflymder newydd yn ychwanegu'n sylweddol at amseroedd teithio. Mae'r data cynnar o'r treialon yn dangos bod y terfyn newydd wedi llwyddo i leihau terfynau cyflymder cyfartalog heb gael effaith sylweddol ar amseroedd teithio. Mae hyn yn wir oherwydd bod y rhan fwyaf o oedi yn digwydd wrth oleuadau traffig ac ar gyffyrdd. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld car yn ein goddiweddyd dim ond i'w weld eto wrth y goleuadau traffig nesaf. Ar gyflymder o 20 mya mae llai o frecio a llai o gyflymu. Mae hynny nid yn unig yn lleihau gronynnau niweidiol o deiars a breciau, sy'n gwella ansawdd yr aer, ond mae hefyd yn golygu mai dim ond tua 1 munud yn hirach yw'r daith gyfartalog. Ac mae'n fwy effeithiol. Yn achos llawer o geir bydd 20 mya cyson yn sicrhau gwell defnydd o danwydd a defnyddir llai o ynni. Ond yn bwysicaf oll, Llywydd, bydd yn achub bywydau. Er gwaethaf holl anghysur newid, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith y bydd hyn yn lleihau marwolaethau, bydd yn gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau trwy leihau llygredd sŵn, sef yr ail niwed mwyaf i iechyd y cyhoedd, a bydd yn teimlo'n fwy diogel, a fydd yn arwain at lefelau uwch o gerdded a beicio. Ac mae tystiolaeth gref i gefnogi pob un o'r pwyntiau hyn. Dyna pam mae Cymru'n dilyn Sbaen i wneud 20 mya y terfyn cyflymder diofyn ar strydoedd lleol. Bydd eraill yn dilyn. Mae hyn i gyd yn rhan o'n gweledigaeth o wneud Cymru'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Ac rwy'n ffyddiog y byddwn yn edrych yn ôl ar y newid hwn gyda balchder. Diolch.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Ceidwadwyr 4:25, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma ar eich hoff brosiect 20 mya amhoblogaidd iawn. Nid yw'n gyfrinach yma, ac rwyf wedi bod yn dweud ers y diwrnod cyntaf, nad oes gennyf i, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelodau, y Ceidwadwyr Cymreig, broblem ynghylch 20 mya y tu allan i ysgolion, addoldai, strydoedd mawr—lleoedd lle mae ei angen. Ond rwy'n ofni nad yw fy safbwynt ar hyn wedi newid dros yr haf, er mawr siom i chi rwy'n siŵr. Ni allaf, ac ni fyddaf, ac nid wyf erioed wedi cefnogi terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya ledled Cymru. Os rhywbeth, ar ôl siarad â phreswylwyr a busnesau di-ri, a gwrando ar y manylion newydd a phryderus sy'n dod i'r amlwg mewn cysylltiad â'ch cynllun, mae fy ngwrthwynebiad wedi tyfu dros y toriad mewn gwirionedd.

Rydych chi a'r Prif Weinidog yn parhau i gyfeirio at Sbaen mewn llawer o'ch cyfweliadau, a hefyd heddiw yn y Senedd, a hefyd y canlyniadau y maent wedi'u gweld. Er gwybodaeth i bawb, pan gyflwynodd Sbaen newidiadau tebyg, roedd COVID yn rhemp bryd hynny. Roedd popeth wedi dod i stop sydyn. O gofio ein bod yng nghanol COVID ar y pryd, pa mor ddibynadwy yw'r dystiolaeth yr ydych wedi'i defnyddio o Sbaen, wrth symud ymlaen? Ac os ydych chi wedi bod i Sbaen, byddech chi wedi gweld eu seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, a chymerwch funud i edrych y tu allan i weld yr hyn sydd gennym yma yng Nghymru—ni allwch wneud y gymhariaeth sef bod gennym y ffyrdd, bod gennym ni'r seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus i reoli'r terfynau cyflymder 20 mya rydych chi'n eu rhoi ar waith.

Hefyd yn eich datganiad, rydych chi'n sôn am dasglu sy'n cynnwys sefydliadau fel y Ffederasiwn Busnesau Bach a'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, ac adroddiad a gynhyrchwyd ganddynt yn argymell newid y terfyn cyflymder diofyn. Wel, Dirprwy Weinidog, siaradais â rhai o benaethiaid y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd y prynhawn yma ychydig cyn i mi ddod i mewn i'r Siambr hon, a dywedon nhw wrthyf yn blwmp ac yn blaen, nad oedden nhw mewn unrhyw ffordd yn cefnogi cyflwyno terfyn diofyn o 20 mya ledled Cymru. Roedden nhw'n glynu wrth y neges, yn union yr hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud, eu bod yn cefnogi gweithredu wedi'i dargedu y tu allan i ardaloedd penodol, fel ysgolion, meysydd chwarae ac ati, ond byth terfyn cyffredinol. Roedd cyfranogwyr eraill a oedd yn y grŵp hwnnw hefyd yn teimlo ei fod yn fwy o grŵp llywio, lle bu'n rhaid i gyfranogwyr ddilyn eich agenda o 20 mya ledled Cymru, heb gyfle i ddweud eu dweud am yr hyn yr oedden nhw'n teimlo oedd yn iawn a beth oedd y ffordd ymlaen. [Torri ar draws.] Mae hynny'n hollol gywir. Dirprwy Weinidog, a ydych chi'n camddehongli realiti mewn ymgais i wneud y polisi diangen a diffygiol hwn yn fwy atyniadol?

Dim ond yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom ni ddarganfod nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau o gwbl i fonitro effaith y cynllun 20 mya hwn ar ffyrdd cyfagos. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu a yw wedi cynyddu tagfeydd neu pa effaith y mae'r cynllun wedi'i chael ar ddiogelwch a llygredd aer, wrth symud ymlaen? Pam na fyddwch chi'n monitro'r effaith, Dirprwy Weinidog? Ydych chi'n poeni am yr hyn y gallai ddatgelu mewn gwirionedd? Ac a fyddai'n well gennych guddio rhag ffeithiau, wrth symud ymlaen?

Os bydd yr hoff brosiect cyffredinol hwn yn mynd yn ei flaen, ac rwy'n mawr obeithio na fydd e, o leiaf dylid ei fonitro a'i adolygu'n iawn. Gan ein bod yn trafod monitro, Dirprwy Weinidog, a ydych chi wedi bod yn monitro llwyddiant eich ymgyrch farchnata? Oherwydd, hyd y gallaf weld, mae wedi bod yn fethiant llwyr. Pa mor effeithiol bu eich ymgyrch? Ac a ydych chi wedi bod yn hysbysebu'r newid dros y ffin yn Lloegr, gan fy mod yn ofni na fydd llawer a ddaw yma, sy'n ymweld â Chymru, yn ymwybodol o'r terfyn cyflymder 20 mya cyffredinol hwn?

Mae fy mewnflwch yn gorlifo, ac ni allaf danbrisio a dweud wrthy0ch chi pa mor llawn y bu o negeseuon e-bost gan etholwyr yn mynegi eu pryderon am y terfyn 20 mya. Gallwch chi i gyd sefyll yma heddiw, yn benodol chi, Dirprwy Weinidog, a dweud bod y cyhoedd yn eich cefnogi ac efallai yn cefnogi'r symudiad hwn, ond y gwir amdani yw nad ydyn nhw'n cefnogi'r symudiad hwn. Nid yw'r mwyafrif eisiau i hyn gael ei weithredu. Mewn gwirionedd, canfu arolwg barn a gynhaliwyd gan ITV Cymru fod bron i ddwy ran o dair o bobl yn erbyn y newid hwn. Rwy'n gwybod bod fy arweinydd, Andrew R.T. Davies, wedi dweud hyn yn gynharach.

Dirprwy Weinidog, mae gennyf i restr hir o etholwyr sydd wedi cwyno wrthyf, ac rwy'n teimlo y gallai fod o fudd i chi ddarllen yr hyn a ddywedodd llawer ohonynt wrthyf, ac efallai y cewch well dealltwriaeth o sut y bydd eich polisi mewn gwirionedd yn effeithio arnynt bob dydd. Felly, beth yw eich cyfeiriad e-bost gorau, Dirprwy Weinidog, gan fy mod i'n mynd i ddechrau anfon pob un o'u pryderon atoch chi fel y gallwch chi gael blas iawn o beth yw'r hwyliau ar lawr gwlad? Ac yn hytrach na bod ar goll ar faes y gad, neu MIA fel yr wyf yn hoffi galw'r hyn rydych chi wedi bod yn ei wneud trwy'r haf mewn cysylltiad â'r polisi hwn, byddai o fudd i chi siarad â'r trigolion a cheisio amddiffyn eich polisi yn hytrach na mynd i'r ardaloedd hynny lle rydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i gael cefnogaeth. Wrth gwrs, Dirprwy Weinidog, nid yw'n rhy hwyr chwaith i chi godi'ch dwylo i fyny, cyfaddef eich bod wedi gwneud camgymeriad—rhywbeth rydych chi i gyd yn rhy gyfarwydd ag ef—ac atal y gwaith o gyflwyno hwn.

Hoffwn i wneud rhywun yn ymwybodol o rywbeth pwysig iawn heddiw. Anfonwyd e-bost gan awdurdod lleol yn y gogledd at drigolyn, ac rwy'n mynd i'w ddyfynnu gair am air ar gyfer pob un ohonoch chi heddiw: 'Dros y 12 i 18 mis nesaf, mae canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru yn cael eu darparu i alluogi adolygu newidiadau cyflymder ychwanegol, er enghraifft, ar gyfer ffyrdd 40 mya, 50 mya, a ffyrdd terfyn cyflymder cenedlaethol." Nawr, rwyf am fod yn onest, canodd clychau larwm yn fy mhen hyd yn oed yn fwy nag o'r blaen, oherwydd rwyf eisiau gwybod: ai pigyn y rhewfryn yn unig yw'r 20 mya, ac a ydych chi'n cynllunio newidiadau hyd yn oed yn fwy llym o ran terfynau cyflymder?

Mae angen eglurder, Dirprwy Weinidog, ac mae ei angen nawr. Rydych chi'n dweud y byddwch chi'n edrych yn ôl ar y newid hwn gyda balchder. Rydych chi, mewn gwirionedd, yn mynd ymlaen i niweidio'r economi, yn malurio bywoliaeth pobl, ac yn rhwystro amseroedd ymateb y gwasanaethau brys yn y dyfodol. Nid wyf yn credu bod hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono, Dirprwy Weinidog, ond, os ydych mor hyderus yn eich polisi, a gaf i sicrwydd gennych heddiw na fydd eich ASau Llafur yn cael eu chwipio ar gyfer dadl y Ceidwadwyr Cymreig yfory yn galw am ddileu'r polisi hwn a'u bod yn gallu pleidleisio fel y mynnent yn hytrach na glynu wrth bolisi'r blaid? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:31, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, fel erioed, rwy'n gresynu at naws cyfraniad Natasha Asghar ar y mater difrifol hwn. Gadewch i mi geisio ymdrin â nifer o faterion y mae hi'n eu cyflwyno. Mae hi'n dweud, unwaith eto, nad oes ganddi broblem ynghylch cyflymderau arafach y tu allan i ysgolion. Nid yw 80 y cant o blant yn cael eu lladd y tu allan i'r ysgol, felly mae angen i ni feddwl am eu taith i'r ysgol, nid yn union y tu allan i'w hysgol yn unig. Felly, ni fyddai'r cynnig y mae wedi'i gyflwyno yn gweithio, ac ni chafodd gefnogaeth y tasglu. Gadewch i mi ei hatgoffa eto, iawn: ar 15 Gorffennaf 2020, pleidleisiodd y Siambr hon dros adroddiad y tasglu, a oedd yn cynnwys y terfyn cyflymder diofyn yng nghorff y testun, a phleidleisiodd Paul Davies, arweinydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, o blaid hynny, fel y gwnaeth Janet Finch-Saunders, fel y gwnaeth Russell George, fel y gwnaeth Laura Jones, ynghyd ag Aelodau eraill nad ydynt yma bellach. Fe wnaethon nhw bleidleisio'n benodol dros y dull sylfaenol rydyn ni'n ei fabwysiadu nawr, dull rydych chi nawr yn ceisio ei nodweddu fel un 'cyffredinol'. Pe bai'n un cyffredinol, pam wnaethon nhw ei gefnogi? Oherwydd roedd yn eithaf eglur yn y cynnig mai dyma'r dull yr oeddem yn ei fabwysiadu. Felly, dim ond rhyw ragrith sydd yma; maen nhw wedi codi cynffon oherwydd maen nhw'n gallu gweld ei fod yn amhoblogaidd ymhlith rhai ac maen nhw eisiau arwain grŵp neu fudiad poblogaidd arall eto. Mae hi'n dweud y bydd hi'n eu cefnogi lle mae eu hangen. Wel, mae'r dull hwn yn dilyn datganiad Stockholm y Cenhedloedd Unedig ar ddiogelwch ar y ffyrdd sy'n dweud, lle mae pobl a thraffig yn cymysgu, y dylai'r terfyn cyflymder fod yn 20 mya. Dyna lle mae ei angen, dyna lle bydd hyn yn berthnasol, ac mae gan awdurdodau lleol y disgresiwn i'w newid.

Nawr, mae hi hefyd yn hawlio—ac fe glywsom ni hyn yn gynharach—bod y gwasanaethau brys yn cael eu rhoi dan anfantais yn sgil hyn, ac rwyf eisiau dyfynnu o ddatganiad gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru, sy'n dweud eu bod yn cefnogi'r polisi hwn a'r dull hwn. Dywedon nhw: "Gofynnwyd i ni a fydd hyn yn effeithio ar amseroedd ymateb diffoddwyr tân ar alwad. Mae ein diffoddwyr tân ar alwad yn byw neu'n gweithio mewn gwahanol leoliadau yn ein cymunedau, ac mae eu hamseroedd ymateb yn amrywio yn ôl hynny. Ni fydd pob un ohonynt yn teithio mewn car yn benodol, ac ni fyddant yn teithio ar ffyrdd â therfyn o 20 mya yn unig. Felly, nid ydym yn rhagweld y bydd y newidiadau hyn yn effeithio'n andwyol ar ein hamseroedd ymateb cyffredinol, a byddwn yn adolygu eu heffaith maes o law." Ac maen nhw'n mynd i fod yn adolygu ac yn casglu data dros y chwe mis nesaf ac yn cynnal gwerthusiad cadarn i weld a yw hynny, mewn gwirionedd, yn wir. Mae hwnnw'n ddull synhwyrol.

Rydym hefyd yn mynd i fonitro ac adolygu, ac os yw'n ymddangos bod ffyrdd wedi cael terfyn o 20 mya, nid esemptiad, ac nad yw hynny'n briodol, yna gall yr awdurdodau lleol eu newid, fel y gallwn ni ar gefnffyrdd. Felly, dydw i wir ddim yn deall yn iawn beth yw'r ddrama heblaw codi gwrthwynebiad ac eto mynd a chreu anghydfod diwylliannol, chwilio am fater i hollti barn, y mae gan y Ceidwadwyr bellach obsesiwn ag ef, er nad yw'n cynnig unrhyw fuddion iddynt; mae'r arolygon barn yn dal i ddangos eu bod yn amhoblogaidd iawn, felly fe fyddech chi'n meddwl y byddent yn newid cyfeiriad. Fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn y ddadl honno yn 2020: '

'Y safon mewn gwirionedd ar gyfer strydoedd mwy diogel a chyfeillgar i bobl erbyn hyn yw 20mya, gyda therfynau uwch dim ond lle gellir eu cyfiawnhau.'

Ac rydym yn cefnogi'r dull hwnnw. Mae'n drueni ei bod hi wedi newid ei meddwl.

Rwyf eisiau sôn yn fyr am fater y gost i'r economi, sy'n un arall o'r materion y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei wyntyllu'n gyson ar gyfryngau cymdeithasol. Nawr, rwy'n deall bod y prif ffigur sydd wedi'i gyhoeddi yn y memorandwm esboniadol yn hoelio sylw, ond nid yw cynddrwg ag y mae'n ymddangos mewn gwirionedd. Nawr, mae'n rhaid i ni gyhoeddi amcangyfrif o gost a budd, ac mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r dull a nodir yn Llyfr Gwyrdd Trysorlys y DU ar gyfer gwerthuso cynlluniau. Ac mae'n rhaid i ni geisio rhoi gwerth ariannol i hyn, ond, wrth gwrs, mae rhai pethau na allwch eu mesur: galar teulu plentyn a laddwyd ar y stryd; gwerth cymdeithasol cyfarfod cymdogion yn y stryd a sgwrsio; absenoldeb straen yn sgil sŵn injan sy'n uwch mewn stryd gyda therfyn o 30 mya. Ni allwch fesur y rhain. Nid yw'r pethau hynny'n cael eu cynnwys yn Llyfr Gwyrdd y Trysorlys, ac mae'n mesur yr hyn y gall ei fesur. Ac mae'n ceisio rhoi gwerth ariannol ar yr hyn y gall ei fesur, sydd, unwaith eto, yn fympwyol. Ac fel y mae'r memorandwm esboniadol yn ei wneud yn glir, mae llawer o ansicrwydd ynghylch y ffigurau hyn y maent yn eu hawlio sy'n ffeithiau, ac roedd Andrew R.T. Davies hyd yn oed yn hawlio ffigur sydd hyd yn oed yn uwch, un hurt o chwyddedig y prynhawn yma.

Nawr, mewn cynlluniau trafnidiaeth, mae'r ffordd y maent yn ceisio mesur yr effaith economaidd hon yn ymwneud ag amcangyfrif o werth amseroedd teithio i'r economi. Nawr, mae'r dull yn gyffredinol yn tybio ei bod hi'n fanteisiol i'r economi pan fo pobl yn cyrraedd lleoedd yn gyflymach. Nawr, bydd hynny'n wir am rai teithiau, er enghraifft, danfoniadau mewn union bryd, ond nid yw'n wir am eraill, fel ymweld â'ch nain. Nawr, mae ein dadansoddiad yn dangos y bydd effaith o un funud ar deithiau unigol, ar gyfartaledd, ac effaith o lai na dwy funud ar y rhan fwyaf o deithiau. Dyna mae'r gwerthusiad yn ei ddangos—mae'n fach iawn ac yn anodd iawn ei foneteiddio'n ddibynadwy. Ond mae'r Llyfr Gwyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i ni adio pob munud a gollwyd, i'w luosi â 30, oherwydd mae'n rhaid i'r dadansoddiad hwn gwmpasu cyfnod o 30 mlynedd, a dyna o ble daw'r ffigur hwn o effaith o £4.5 biliwn ar yr economi.

Ond, fel mae'r memorandwm esboniadol yn dweud:

'Mae'n bwysig nodi bod nifer o fanteision ehangach megis llygredd sŵn, effeithiau ehangach effeithiau iechyd o deithio llesol, mwy o ryngweithio cymdeithasol, gwariant manwerthu a gwerthoedd tir nad ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfrifiad hwn. At hynny, mae’r cynnydd yn amser teithio unigolion yn debygol o fod yn fach ac felly mae ansicrwydd ynghylch cost cyfle’r amser hwnnw.'

Rydyn ni'n treulio mwy o amser mewn atalfeydd tollau nag y byddwn mewn atalfeydd ar y teithiau hyn, ac nid ydym yn mesur y gost honno i'r economi. Dydw i ddim yn clywed y Ceidwadwyr yn sgrechian am gost polisïau diogelwch Llywodraeth y DU ar fusnesau. Nid yw hyn yn destun craffu. Nid ydynt yn poeni, nac ydynt? Nid oes ots ganddyn nhw am y ffeithiau na'r ddadl sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth, oherwydd y cyfan maen nhw eisiau ei wneud yw herian pobl a phwyso botymau oherwydd nad oes rhaid iddyn nhw lywodraethu, ac mae'r agwedd a'r diofalwch maen nhw'n ei ddangos ynghylch hyn yn amlwg, diolch i Dduw am hynny.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:37, 12 Medi 2023

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dwi'n eich llongyfarch chi am y ffordd roeddech chi wedi ymateb mewn cymaint o ffyrdd i rai o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Mae'n rhaid inni newid ein ffyrdd o fyw os ydym ni am gymryd y risg o lygredd aer o ddifrif, heb sôn am y risg o ddioddef rŷch chi wedi gosod mas—y risg o farwolaethau ar y ffordd. Mae'n rhaid inni weithredu. Ac ie, bydd hynna yn golygu gwneud newidiadau sy'n anodd, newid rhai pethau dŷn ni wedi arfer â nhw. Felly, dwi'n cefnogi'r angen am newid yng nghyflymderau nifer o lefydd dros Gymru. Dyna pam gwnaethom ni fel plaid gefnogi'r polisi hwn. Wrth gwrs, mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn gwrando ar gymunedau a bod cynghorau yn derbyn y cymorth angenrheidiol i wneud yn siŵr dyw terfynau cyflymdra anaddas ddim yn cael eu cyflwyno.

Gaf i ofyn felly, yn gyntaf, a fydd y Llywodraeth yn adolygu'r cymorth hwn sydd ar gael i lywodraeth leol, a gosod mas pa trafodaethau maen nhw wedi eu cynnal gyda chynghorau lleol, i weithio mas pam mae cymaint o esiamplau o benderfyniadau sy'n cael eu gwneud sydd efallai yn anaddas—pam mae hwnna wedi digwydd? Mae angen cefnogaeth gyhoeddus, wrth gwrs, ar gyfer newid o'r fath. Ac ie, mae'r lleisiau mwyaf swnllyd yn anghytuno â phenderfyniadau fel hyn, ond mae'r nifer helaeth o bobl o blaid gwneud newidiadau fydd yn elwa ein hiechyd, iechyd ein plant ac iechyd ein planed. Pa gynlluniau sydd gennych chi i wella'r cydsiarad rhwng y cyhoedd a'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau efallai i ddyfnhau dealltwriaeth y naill o berspectif y llall? Achos dwi'n meddwl byddai gwneud rhywbeth adeiladol fel yna yn rhywbeth fyddai wir yn dda.

Ond buaswn i jest eisiau atgoffa'r Siambr fod nuances yn bwysig. Mae'r nod tu ôl i’r polisi hwn yn un i'w glodfori. Bydd hyn yn achub bywydau. Ac oes, mae angen gwella cyfathrebu, mae angen cryfhau cymorth ac edrych eto ac addasu rhai penderfyniadau. Ond allwn ni ddim cario ymlaen i fyw ein bywydau trwy esgus bod llygredd aer yn rhywbeth sydd jest yn gallu bodoli, ac allwn ni ddim cario ymlaen i feddwl bod damweiniau car a phlant yn marw jest yn rhyw bris sydd angen ei dalu. Mae ceisio gwneud pethau fel yna yn esgeuluso’n dyletswydd ni i'n plant, ac mae hefyd yn esgeuluso ein dyletswydd i genedlaethau sydd dal i ddod.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:40, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, rwy'n cytuno bod angen i awdurdodau priffyrdd lleol wrando ac mae angen iddynt ymgynghori, ac mae hynny wedi bod yn ddarlun cymysg ledled Cymru, rwy'n credu, os ydym yn deg ynghylch y peth. Un o gasgliadau clir y cynllun treialu ym Mwcle yn Sir y Fflint oedd na fu digon o ymgynghori cyn i'r newidiadau gael eu cyflwyno, ac rydym wedi ceisio dysgu o hynny. Roeddem wedi bwriadu cael proses ymgynghori ehangach a dyfnach. Rwy'n ofni bod COVID wedi cael effaith wirioneddol ar yr amser a oedd ar gael ac ar allu'r awdurdodau lleol i wneud hyn. Nawr, gadewch i ni fod yn deg ag awdurdodau lleol. Adrannau bach yw'r rhain, maent yn gweithio gydag amrywiaeth o bwysau eraill. Mae'n un o'r rhesymau pam yr ydym ni wedi oedi cyn cyflwyno'r ymgynghoriad ar barcio ar y palmant, gan mai dyma'r un bobl fyddai'n ymgymryd â'r newid hwnnw hefyd, ac maen nhw wedi gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd.

Rydym yn gwybod nad yw'r diwylliant mewn awdurdodau lleol mewn rhai ardaloedd mor agored ag y gallai fod, ac nid yw mor atyniadol ag y gallai fod. Mae rhai awdurdodau lleol wedi ymgynghori'n ag aelodau ward leol yn unig. Mae eraill hefyd wedi ymgynghori â chynghorau cymuned. Mae rhai wedi ei roi ar eu gwefan ac wedi cael nifer fach o ymatebion. Byddwn yn barod i gydnabod nad yw'r ymgynghoriad wedi bod mor eang ag y byddwn wedi hoffi ei weld, ond rwy'n deall yn llwyr y pwysau sydd ar awdurdodau lleol.

Ond nid dyma'r gair olaf ar y mater. Yr hyn rydym yn ei wneud yw newid y terfyn diofyn. Mae awdurdodau lleol nawr, fel yr oeddent o'r blaen, yn parhau, fel eu hawdurdodau priffyrdd lleol, i benderfynu ar y cyflymder priodol ar y ffyrdd sydd o dan eu rheolaeth. Rydym wedi nodi canllawiau ar sut y gellir gwneud hynny, a, lle bo achos da, gallant newid y cyflymder. Felly, dyna swyddogaeth arferol awdurdod lleol erbyn hyn; y cyfan yr ydym wedi'i wneud yw newid y terfyn diofyn sylfaenol. Nid ydym yn dweud bod hwn yn gwbl ddigyfnewid, a mater i gymunedau lleol, drwy'r prosesau arferol, yw cyflwyno sylwadau i'w hawdurdodau lleol pan fyddan nhw'n credu y gellir newid hynny.

Yn amlwg, bydd ardaloedd lle maen nhw wedi gweithredu'n anghywir. Byddai'n hurt disgwyl i hynny beidio â digwydd, ac rwy'n gobeithio y byddant yn dangos yr hyblygrwydd a'r gostyngeiddrwydd i fod yn barod i wneud y newid hwnnw, fel y byddwn ni fel asiantau cefnffyrdd Cymru. Mae angen cydbwysedd, oherwydd rydyn ni eisiau dull cyson ar draws Cymru. Mae angen i ni gydnabod y bydd rhai pobl yn gwrthwynebu hyn, ond bydd llawer o bobl yn gefnogol. Felly, am bob eithriad sydd wedi bod, bu gwrthwynebiadau ar lefel leol gan bobl nad ydynt eisiau eithriad a'u bod eisiau iddo fod yn 20 mya. Felly, mae'r rhain yn ddyfarniadau anodd, ac, yn amlwg, gyda gwleidyddiaeth fel y mae hi, mae yna fanteiswyr sydd eisiau manteisio ar hynny, er gwaethaf y dystiolaeth. Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod y Cynghorydd Lindsay Whittle yng Nghaerffili wedi lladd ar y polisi hwn hefyd, felly rydym yn canfod pobl ar draws pob plaid ym mhob rhan o Gymru nad ydynt yn gwneud fel y byddem yn dymuno iddyn nhw ei wneud ynghylch hyn.

Ond rwy'n credu bod y pwynt olaf a wnaeth Delyth Jewell ynglŷn ag ymrwymo i adolygu'r canllawiau eithriadau yn iawn, a byddwn yn gwneud hynny. Bydd yn adolygiad llai manwl; rydyn ni eisiau i eithriadau fod yn ymarferion tacluso, nid newidiadau ar raddfa eang, ond credaf ei bod yn hollol iawn ein bod yn parhau i adolygu hyn.  

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 4:43, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Mae gennym bolisi yr wyf yn ei gefnogi'n llawn, a gafodd ei egluro'n wael gan Lywodraeth Cymru a'i gamddehongli'n fwriadol gan y Blaid Geidwadol. Yn syml, nid yw'n bosibl gyrru ar gyflymder o 30 mya yn ddiogel, os o gwbl, mewn ardaloedd â thai teras, neu ar ystadau. Mewn gwirionedd maen nhw'n troi'n ffyrdd un lôn gyda mannau pasio, oherwydd bod ceir wedi parcio ar ddwy ochr y ffordd. Yn Abertawe, hyd y gwelaf, ni fydd unrhyw ffyrdd dosbarth A yn cael eu cyfyngu i 20 mya. Yr unig ffyrdd y gallwch weithiau deithio arnynt ar 30 mya yw'r ffyrdd dosbarth B, ond yn Nwyrain Abertawe mae gan y rhain ysgolion arnynt neu dai sy'n ymestyn yn syth i'r ffordd. Felly, mae hyn yn rhywbeth sy'n benderfyniad mawr i'w wneud, os ydych chi'n eu newid yn ôl i 30 mya, oherwydd mae perygl o ddod i gysylltiad â phobl. 

Mae gennyf ddau gwestiwn. A all y Gweinidog gadarnhau eto nad oes rhaid i gerbydau brys sydd ar eu ffordd i argyfyngau lynu wrth derfynau cyflymder? Mae hynny'n gamargraff sydd wedi'i ledaenu'n eang gan nifer o bobl. Ac a yw'r Gweinidog yn disgwyl i oleuadau traffig ar rai cyffyrdd gael eu diffodd, oherwydd y bydd hi'n haws ymuno â ffyrdd dosbarth B o ffyrdd ystadau? Ac yn olaf, y pwynt yr hoffwn ei wneud yw: os ydych chi eisiau gwybod beth sy'n arafu traffig mewn gwirionedd, yna gyrrwch tuag at rywle lle mae pawb wedi stopio'n stond oherwydd damwain. Os bydd llai o ddamweiniau, byddwch chi'n symud yn gyflymach.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:45, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ydw, rwy'n credu bod honno'n ffordd sy'n llawn synnwyr cyffredin o edrych ar y sefyllfa. Ni ddylem danbrisio pa mor sylweddol yw'r newid hwn i'r dirwedd, a bydd ganddo bob math o effeithiau dilynol. Felly, er enghraifft, nawr ein bod yn newid y terfyn diofyn, bydd y set gyfan o fesuriadau a ddefnyddir gan beirianwyr diogelwch ffyrdd ynghylch pryd i roi rheiliau a phryd i edrych ar linellau gweld yn newid, oherwydd bydd y traffig yn teithio ar gyflymder arafach, ac felly bydd gwelededd a gallu gyrwyr i ymateb hefyd yn newid. Felly, bydd hyn yn cael effaith ehangach rwy'n credu y bydd er lles ein hamgylchedd trefol.

Mae e' yn llygad ei le wrth ddweud bod y syniad bod hwn yn mynd i effeithio ar y gwasanaethau brys eto yn honiad ffug arall sy'n cael ei wneud a'i gefnogi gan y Ceidwadwyr. Nid yw gwasanaethau brys golau glas yn destun cyfyngiadau cyflymder ac, fel y soniais yn gynharach, mae'r cwestiwn o staff sy'n teithio mewn ymateb i alwadau yn rhywbeth y byddwn yn parhau i'w fonitro, ond ar hyn o bryd nid yw gwasanaeth yr heddlu na'r gwasanaethau eraill yn dweud wrthym fod ganddynt unrhyw bryderon gormodol. Ond rwy'n credu ei bod dim ond yn rhesymol i ni ddweud bod llawer iawn o bethau anhysbys yma, a bydd yn rhaid i ni barhau i adolygu hyn, a byddwn yn dilyn y dystiolaeth.

Rwy'n gwybod bod honiadau wedi'u gwneud am yr effaith ar deithiau bws, er enghraifft, ac rydym wedi gofyn i gwmnïau bysiau ddarparu data i ni ar hynny. Nodaf mai cyflymder cyfartalog bws yng Nghaerdydd, er enghraifft, yw 8 mya. Felly, mae'n ymddangos yn annhebygol i mi y bydd hyn yn cael effaith sylweddol, ond os yw'n digwydd, yna rydym eisiau edrych ar hynny ac rydym eisiau adolygu a myfyrio ar sut y gallwn wneud y newidiadau hynny. Rwy'n credu y gellir ymdrin â hyn i gyd mewn ffordd synhwyrol, aeddfed a phwyllog iawn, ac mae'r manteision, fel y dywedodd Mike Hedges, yn glir iawn.

Photo of Sam Rowlands Sam Rowlands Ceidwadwyr 4:46, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma, a diolch hefyd am gydnabod y mesur hynod arwyddocaol hwn a'r effaith y bydd yn ei chael ar bobl ledled Cymru. Rwy'n credu mai un o'ch llinellau agoriadol oedd mai dyma'r newid sylweddol mwyaf mewn cenhedlaeth. Fe wnaethoch chi gydnabod hefyd yn eich datganiad, waith awdurdodau lleol gyda'r broses o gyflwyno'r cynllun hwn, felly diolch am wneud hynny, a chydnabu Delyth Jewell rai o'i phryderon am y gefnogaeth i awdurdodau lleol wrth symud ymlaen. Felly, mae fy nghwestiwn cyntaf mewn gwirionedd yn ymwneud â'r ymgysylltiad parhaus hwnnw rydych chi'n disgwyl ei gael â'r awdurdodau lleol hynny ynghylch 20 mya, a beth rydych chi'n meddwl y gallai ffurf yr ymgysylltiad hwnnw fod, a sut rydych chi'n mynd i allu ei gynnal a rhannu arferion gorau—fel y dywedoch, mae gwahanol ddulliau yn cael eu mabwysiadu ledled Cymru, yn enwedig ym misoedd agoriadol y polisi newydd hwn ar ôl iddo gael ei weithredu—fel nad ydym yn gweld yr awdurdodau lleol hynny o bosibl yn cael eu beirniadu a'u cosbi efallai o ganlyniad i hyn.

Hefyd, Dirprwy Weinidog, mae gennyf ddiddordeb mewn clywed pa ddisgwyliadau a allai fod gennych ynghylch pobl yn cydymffurfio â'r gostyngiad cyflymder. Byddwch yn ymwybodol, er nad ydych efallai'n hoffi'r ymchwil yn arbennig, bod yr ymchwil honno gan Brifysgol Caergrawnt a Phrifysgol y Frenhines, Belfast wedi dangos, ar ôl gweithredu 20 mya am flwyddyn ym Melfast, bod cyflymder traffig wedi gostwng 0.2 mya. Felly, yn amlwg, gall cydymffurfio fod yn broblem mewn rhai ardaloedd. Rydych wedi cydnabod yn eich datganiad rywfaint o'r gweithgaredd gorfodi a fydd yn digwydd, ond mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod sut y bydd cydymffurfio, ar wahân i orfodi, yn cael ei fonitro gennych chi, a sut y bydd y dull hwnnw'n amrywio ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:48, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau yna. Felly, rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol. Cwrddais ag arweinwyr eto yr wythnos diwethaf a chefais fy synnu, rhaid i mi ddweud, gan ymateb cadarnhaol y cyfarfod. Felly, wrth gwrs, mae'r swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd. Rydym yn gwneud hyn mewn partneriaeth, ac wrth gwrs mae arferion da i'w rhannu, yn enwedig o gyfathrebu ac ymgysylltu.

O ran cydymffurfiaeth, rwy'n credu bod hynny'n gwestiwn da iawn. Nid yw'r astudiaeth o Belfast y mae'n ei dyfynnu yn dweud y stori yn llwyr fel y mae ef yn awgrymu. Roedd honno'n astudiaeth o derfyn 20 mya presennol mewn rhwydwaith ynysig yn ninas Belfast, a chasgliad yr astudiaeth honno oedd y byddai'n well cael dull ardal gyfan, fel rydyn ni'n ei fabwysiadu, a fyddai'n cael ei farchnata'n dda, sef yr hyn rydyn ni'n ei wneud, ac i orfodi mewn ffordd 'addysg yn gyntaf', sef yr hyn rydyn ni'n ei wneud. Felly, rwy'n credu ein bod wedi dysgu o'r astudiaeth honno ym Melfast, felly mae'n ei dyfynnu mewn ffordd sy'n difrïo ein polisi, ond nid wyf yn credu bod hynny'n ddehongliad cywir o'r hyn y mae'n ei ddweud.

Yn amlwg, ni chydymffurfir â therfynau cyflymder, yr holl derfynau cyflymder nawr hyd yn oed. Rydyn ni i gyd yn gwybod hynny fel gyrwyr, a dydyn ni ddim yn mynd i weld, yn sydyn, ddydd Llun nesaf pawb yn gyrru ar gyflymder o 20 mya. Gadewch i ni fod yn realistig ynghylch hynny. Ond yr hyn y byddwn yn ei weld, rwy'n ffyddiog, oherwydd rydyn ni wedi'i weld mewn mannau eraill yn y cynlluniau treialu, yw bod cyflymderau cyfartalog yn gostwng. Ac un o lwyddiannau mawr terfyn cyflymder o 20 mya yw bod nifer y bobl sy'n gyrru dros 30 mya yn gostwng yn sylweddol. Felly, yn union fel ar hyn o bryd, mewn llawer o achosion, mewn parth 30 mya, mae pobl yn gyrru 40 mya, byddwn yn gweld mewn ardaloedd 20 mya pobl yn gyrru yn gyflymach na 20 mya, ond bydd y cyflymderau eithafol yn gostwng yn sylweddol, a dyna fydd un o lwyddiannau mawr diogelwch ar y ffyrdd. Rydym hefyd yn gwybod, am bob gostyngiad o 1 mya yn y terfyn cyflymder cyfartalog, bod gostyngiad cyfatebol o 6 y cant mewn anafiadau. Felly, hyd yn oed mewn achosion lle nad oes cydymffurfiaeth gref, mae'r cyfartaledd yn gostwng, mae hynny'n dal yn llwyddiant o ran diogelwch cymunedol ac o ran lleihau achosion o farwolaethau.

Fel y dywedais yn y datganiad, rydym yn mabwysiadu, gyda'r heddlu, y buom yn gweithio'n dda iawn gyda nhw drwy'r broses hon, rwy'n credu ymateb cymesur, pryd nad ydym yn mynd i fod yn llawdrwm ofnadwy ar bobl sy'n gyrru rhwng 20 mya a 30 mya ar y dechrau wrth iddo ddod i drefn—byddwn yn amlwg yn tynhau hynny wrth i amser fynd yn ei flaen. Bydd pobl sy'n gyrru dros 30 mya yn cael pwyntiau a dirwyon, ond o dan 30 mya lle mae mesuriadau cyflymder ar waith, lle mae gwiriadau ar ochr y ffordd, bydd pobl yn cael cynnig addysg. Ac yn sicr, lle rydym wedi ei dreialu yn Llanelli, yn fy etholaeth fy hun, lle mae plant ysgol wedi bod yn rhan o GanBwyll wrth stopio modurwyr a rhoi'r dewis iddynt, 'Gallwch naill ai gael pwyntiau neu gallwch ateb cwestiynau gan y plant ysgol', mae wedi bod yn broses sobreiddiol ac effeithiol iawn, pan ofynnir iddyn nhw, 'Ydych chi'n sylweddoli eich bod chi'n gyrru mewn ffordd sy'n peryglu fy mywyd?' Ac mae llawer o fodurwyr sy'n gadael y sgwrs honno wedi gwneud hynny yn eu dagrau ac wedi newid eu hymddygiad o'r herwydd. Felly, hoffwn weld mwy o ymyraethau fel yna, yn hytrach na rhoi dirwyon i bobl, ond os yw pobl yn amlwg yn torri'r gyfraith, yna maent yn agored i gael eu cosbi am dorri'r gyfraith. Ond rwy'n credu mai'r hyn y byddwn ni'n ei weld yw'r holl beth yn dod i drefn.

Rydym yn sicr wedi gweld o Sbaen nad oedd llawer o'r honiadau a wnaed ymlaen llaw—llawer ohonynt a wnaed yma heddiw—wedi dod yn wir. Byddwn yn gweld cyflymder cyfartalog is, ni fyddwn yn gweld cydymffurfiaeth lawn ar y dechrau, ond mae hynny'n rhywbeth, felly, y byddwn yn gweithio arno gyda GanBwyll a chymunedau i ostwng achosion o beidio â chydymffurfio dros amser.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 4:52, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn longyfarch y Gweinidog am fod yn barod i sefyll dros ei egwyddorion a gwneud yr hyn sydd angen ei wneud. Mae gennym argyfwng hinsawdd ac mae angen i ni leihau ein terfynau cyflymder ac mae angen i ni sicrhau ein bod yn pontio o'r car i deithio llesol a sicrhau ein bod yn cyrraedd ein targed o ostyngiad o 58 y cant erbyn 2030, nad yw'n bell iawn i ffwrdd.

Felly, hoffwn anghytuno â Mike Hedges hefyd, oherwydd rwy'n credu bod y daflen hon, rwy'n tybio sy'n cael ei hanfon i bob aelwyd—

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur

(Cyfieithwyd)

—yn ardderchog gan ei bod yn glir iawn ac nid oes angen i chi fod yn siaradwr Saesneg iaith gyntaf i'w deall, gan fod y graffeg yn dweud wrthych yn union beth sy'n digwydd a sut i ddeall lle mae'r terfyn 20 mya.

Mae fy mhrif gwestiwn, Gweinidog, yn ymwneud â'r dulliau y mae awdurdodau lleol wedi'u mabwysiadu mewn gwirionedd, oherwydd mae rhai wedi cymryd mwy o sylw o hyn nag eraill. Yn sicr nid yw Caerdydd wedi bod yn aros am 17 Medi i fwrw ati i weithredu parthau 20 mya. Felly, yn fy etholaeth i, ni fydd llawer o newid yn yr arwyddion ffyrdd nac yn y ffyrdd sydd eisoes wedi'u dynodi'n barthau 20 mya, ond bydd newid cynyddol mewn ymddygiad, wrth i bobl sylweddoli mai dyma'r ffordd yr ydym yn gwneud pethau nawr. Felly, tybed pa gamau yr ydych chi'n bwriadu eu cymryd gydag awdurdodau lleol nad ydyn nhw wir wedi rhoi cymaint o sylw i'w cyfrifoldeb i sicrhau, ar gyfer y ffyrdd hynny nad ydyn nhw'n addas ar gyfer 20 mya—h.y. y ffyrdd na fyddech chi'n caniatáu i'ch plentyn chwarae arnyn nhw—eu bod nhw'n gwneud y newidiadau cywir, o fewn yr amserlen, nad ydyn nhw'n tanseilio'r gyfraith. 

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:54, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich sylwadau. Rhaid i mi ganmol Cyngor Caerdydd am yr arweiniad y maent wedi'i ddangos dros nifer o flynyddoedd wrth gyflwyno nifer fawr o derfynau cyflymder 20 mya ar draws ardaloedd trefol y ddinas. Maen nhw wedi arwain y ffordd yn hynny ac maen nhw'n croesawu'r ffaith y bydd gweddill Cymru nawr yn dilyn yr un trywydd. Wrth gwrs, y fantais o'i wneud yn y ffordd rydyn ni wedi'i wneud—ac mae hwn yn bwynt rwy'n cofio John Griffiths, Joyce Watson ac eraill yn ei wneud yn y dadleuon cynnar a gawsom, a David Melding hefyd—yw bod hon yn ffordd lawer mwy effeithlon a chost-effeithiol o sicrhau newid, trwy gael newid diofyn, oherwydd pe bai'n rhaid i chi gyflwyno Gorchymyn rheoleiddio traffig ar gyfer pob stryd—felly, dyma ymagwedd ac argymhelliad y Ceidwadwyr, sef ei gyflwyno dim ond lle maen nhw'n gweld bod ei angen—mae hynny'n ffordd ddrud iawn ac aneffeithlon iawn o wneud pethau. Mae ei wneud ar sail ddiofyn yn ffordd llawer mwy clyfar a chost-effeithiol.

Rwy'n gobeithio y bydd Caerdydd yn cael y budd wrth i hyn bellach ddod yn ymddygiad normal. Dyna, rwy'n credu, yw llwyddiant mawr hyn, os gallwn newid yr hyn sy'n teimlo'n normal, yn union fel nad yw bellach yn teimlo'n normal i danio sigarét mewn tafarn, er bod honiadau enfawr ar y pryd ynghylch y drwg a fyddai hynny yn ei achosi—ac, yn wir, roedd y Ceidwadwyr ar yr ochr anghywir yn hynny hefyd. Erbyn hyn mae'n ymddygiad arferol i beidio â gwneud hynny, yn union fel mae'n arferol gwisgo gwregys diogelwch, pan nad oedd yn normal roedd gwrthwynebiad enfawr i hynny hefyd. Felly, rwy'n gobeithio, dros amser, y bydd hyn yn newid yr hyn sy'n cael ei ystyried yn normal yn y ffordd yr ydym yn teithio o amgylch ardaloedd lle mae pobl yn byw.

Un o'r pethau ynghylch cael dull diofyn yw y bydd pobl yn gwybod ble maen nhw'n sefyll gyda'r terfynau cyflymder yn eu hardal, oherwydd mae pobl yn aml yn dweud ar hyn o bryd eu bod yn ddryslyd ynghylch beth yw'r terfyn cyflymder. Felly, o ddydd Sul, pan fyddwch chi'n gweld goleuadau stryd ac nad oes cyfyngiad cyflymder o 30 mya, mae yna gyfyngiad o 20 mya ar waith. Felly, o weld goleuadau stryd, meddyliwch am 20 mya, dyna yw'r darn clir o gyngor y gallwn ei roi i'n hetholwyr, a bydd hynny'n llawer haws i'w ddilyn.

O ran atebolrwydd, yr awdurdodau lleol yw'r cyrff sofran yn hyn o beth: nhw yw'r awdurdodau priffyrdd lleol. Yn ôl y gyfraith, nhw sy'n gyfrifol am ffyrdd lleol. Rydym wedi sefydlu fframwaith cenedlaethol. Felly, nid mater i ni yw eu dwyn i gyfrif, mater i'w pleidleiswyr lleol yw eu dwyn i gyfrif ac i gynghorwyr lleol eu dwyn i gyfrif. Rydym wedi nodi set o ganllawiau, sydd ar gael yn rhad ac am ddim ar-lein, ar gyfer lle byddai eithriad yn cael ei gyfiawnhau. Ond, yn y bôn, os ydych chi o fewn 200m i dai, ysgolion, ysbytai neu gyfleusterau cymunedol, yna mae 20 mya yn briodol, oni bai fod achos da dros beidio â gwneud hynny, a nhw sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniad hwnnw. Mae'n debyg gen i y bydd rhywfaint o amrywiaeth, ond mater o atebolrwydd lleol yw hynny, nid ein lle ni yw ceisio microreoli. Rydym wedi gosod fframwaith clir, rydym wedi nodi sylfaen dystiolaeth glir iawn sy'n ei gefnogi, ac rwy'n credu, dros amser, y bydd y galwadau am fwy o derfynau 20 mya, i leihau'r eithriadau, yn cynyddu.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Ceidwadwyr 4:57, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am eich datganiad y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, ac efallai yr hoffech nodi mai 17 Medi yw fy mhen-blwydd, felly diwrnod gorau'r flwyddyn bellach yw'r diwrnod y bu farw 30 mya yng Nghymru.

Nawr, yn eich datganiadau ac yng ngohebiaeth y Llywodraeth, Dirprwy Weinidog, mae'n ymddangos eich bod yn awyddus i bwysleisio nad rhaglen gyffredinol yw hon. Wel, mae gennyf ofn mai dyna yw hi, yn enwedig yn fy etholaeth i lle mae'r rhestr o esemptiadau yn druenus o isel, gan adael ffyrdd prifwythiennol 30 mya yn Nyffryn Clwyd, megis Ffordd Rhuddlan yn y Rhyl, Ffordd y Môr ym Mhrestatyn, pant Meliden, y Roe yn Llanelwy a llawer mwy yn agored i'r posibilrwydd truenus y bydd rhaid teithio ar ffyrdd syth a chlir ar gyflymder o 20 mya, gan arwain at fwy o rwystredigaeth i yrwyr a materion economaidd canlyniadol yn fy etholaeth i, lle nad wyf wedi llwyddo i siarad ag un aelod o'r cyhoedd, gwasanaeth na busnes yn Sir Ddinbych sy'n cefnogi'r polisi llym hwn.

Felly, a all y Dirprwy Weinidog ddisgrifio'r broses asesu o adolygu a chynyddu'r rhestr o esemptiadau ar gyfer ffyrdd prifwythiennol? A pha drafodaethau sydd gennych neu y byddwch yn eu cynnal gyda Chyngor Sir Ddinbych i fesur yr ymateb i'r gweithredu yn yr wythnosau a'r misoedd canlynol ar ôl 17 Medi, er mwyn sicrhau bod lleisiau fy etholwyr yn cael eu clywed a gallwn sefydlu rhestr o esemptiadau lleol yn Sir Ddinbych sy'n adlewyrchu hwyl y cyhoedd? Rydym yn byw mewn democratiaeth wedi'r cyfan.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:58, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Dechreuodd drwy ddweud mai 17 Medi fydd y diwrnod y bu farw 30 mya, ac fel y dywedodd Llyr Gruffydd yn gywir, yn hytrach na phlant yn marw. Rwy'n credu bod hynny wir yn ateb grym cyfraniad yr Aelod. Mae ganddo hawl i'w farn, wrth gwrs, ond rwy'n anghytuno ag ef, fel y gwnaeth Paul Davies, Russell George, Janet Finch-Saunders a Laura Jones pan wnaethant bleidleisio o blaid dull terfyn cyflymder diofyn ar 15 Gorffennaf 2020.

I ateb ei unig gwestiwn difrifol, nodir meini prawf eithriadau yn y ddogfen sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae awdurdodau lleol wedi cymhwyso'r rheini, nid ydym wedi cael ein hysbysu am unrhyw broblemau sylweddol, ac yn sicr nid yw Sir Ddinbych wedi codi unrhyw bryderon. Os daw pryderon i'r amlwg, mae gan awdurdodau lleol eisoes y disgresiwn i wneud y newidiadau hynny. Dyna pam rydyn ni wedi gweld y newidiadau ym Mwcle, dyna pam rydyn ni wedi gweld y newidiadau yng Nghil-y-coed, dyna pam rydyn ni wedi gweld y newidiadau ar y mapiau yn cael eu llunio mewn mannau eraill. Felly, mae'r pŵer a'r disgresiwn yno'n llwyr, oherwydd pe na baent, sut y gallent fod wedi llwyddo i wneud hyn? Ond os yw'n dod i'r amlwg bod angen newidiadau pellach, yna byddwn yn cael sgwrs adeiladol am hynny.

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 5:00, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, yn fy mhrofiad i, mae pobl yn deall yn iawn, os yw plentyn neu berson arall yn cael ei daro gan gerbyd yn gyrru ar gyflymder o 30 mya, bod y tebygolrwydd o farwolaeth neu anaf difrifol yn llawer mwy nag y byddai ar gyflymder o 20 mya. Ac wrth gwrs, mae pobl yn gwybod fel gyrwyr ei bod yn llawer haws stopio ar gyflymder o 20 mya os bydd rhywun yn camu i'r ffordd o'ch blaen nag y byddai ar gyflymder o 30 mya. Rwy'n credu bod pobl yn deall hynny'n iawn. Ond wrth gwrs, yr hyn maen nhw eisiau ei weld yw 20 mya ar y ffyrdd cywir, a dyna pam rwy'n croesawu'n fawr yr hyn rydych chi wedi'i ddweud am gael y polisi yn iawn a sicrhau bod yr eithriadau ar y ffyrdd cywir a bod monitro yn digwydd a'i bod yn broses barhaus. Rwy'n croesawu hynny'n fawr.

O ran y darlun ehangach wrth i ni symud ymlaen—oherwydd rwy'n credu y bydd 20 mya yn cael cefnogaeth barhaus a chefnogaeth sy'n cynyddu wrth i ni symud ymlaen ac wrth iddo ddod i drefn—mae'r darlun ehangach i ni yn lleol yng Nghasnewydd, Gweinidog, yn ymwneud ag agenda Burns a sicrhau bod teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, trafnidiaeth integredig, yn cael eu cryfhau a'u hategu gan y polisi 20 mya. Tybed a allech chi ddweud ychydig wrth i ni am y darlun ehangach hwnnw a sicrhau ein bod yn gwneud y cynnydd angenrheidiol gydag argymhellion Burns.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 5:01, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Unwaith eto, hoffwn gydnabod yr arweiniad yr ydych wedi'i ddangos yn yr agenda hon o'r dechrau. Yn wir, fel rwyf wedi myfyrio o'r blaen, y cyfarfod cyntaf a gefais fel Gweinidog rhyw bedair blynedd a hanner yn ôl oedd gyda chi a Rod King o'r ymgyrch Mae Ugain yn Ddigon i gyflwyno'r achos dros y dull hwn. Dylwn hefyd adleisio'r deyrnged i Rod King ac i'r lleill—Phil Jones ac eraill—a wasanaethodd ar y grŵp llywio gyda ni, i'n harwain ni drwy'r polisi hwn; mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.

Mae'n hollol gywir ynghylch priodoldeb ar y ffyrdd cywir, ac os yw cynghorau'n ddi-droi yn ei gylch, rydym mewn perygl o danseilio'r agenda a bydd cydymffurfio yn isel. Ac rwy'n credu mai dyna'r cydbwysedd sydd angen ei gael. Mae'n hollol gywir am bwysigrwydd cydweddu'r agenda teithio llesol; rydym yn gwybod mai dyma'r peth mwyaf arwyddocaol y gallwn ei wneud i annog cynnydd mewn lefelau beicio a cherdded. Mae'r dystiolaeth yn dangos cynnydd sylweddol yn lefelau beicio a cherdded lle mae terfyn 20 mya—ac mae hynny'n wir yn Llundain, yng Nghaeredin, yn Sbaen hefyd, yn ogystal ag yn ein hardal dreialu ni. Felly, rwy'n credu y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd hynny'n dod i'r amlwg, oherwydd mae'n teimlo cymaint yn fwy diogel, ac yn amlwg mae canlyniadau gwrthdrawiadau yn gostwng hefyd. Ond mae'n newid seicoleg ardal, a chredaf fod hynny'n anodd ei fesur ac yn anodd ei brofi, ond rwy'n credu y byddwn ni i gyd yn gwybod hynny pan fyddwn yn ei weld. Rwy'n credu bod hyn yn ategu agenda Burns yn llwyr, ac rydym yn parhau i fwrw ymlaen â honno.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur 5:03, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Byddai'n well i mi ddatgan buddiant fel aelod o sawl grŵp trawsbleidiol cysylltiedig, ond hefyd fel gyrrwr, fel beiciwr, ac fel cerddwr o amgylch y dref yn fy etholaeth leol yn rheolaidd, a hefyd fel tad i dri o fechgyn hefyd. Diolch iddo am bwysleisio yn ei sylwadau heddiw y bywydau a arbedwyd, yr anafiadau difrifol a fydd yn newid bywyd a fydd yn cael eu hatal trwy yrru ychydig yn arafach. Ymgynghorodd CBSP a RhCT yn fy ardal yn gyhoeddus iawn, yn eang iawn ar hyn. Rwy'n nodi eu bod wedi cyflwyno rhai esemptiadau lleol synhwyrol iawn. Ond a fydd yn cadarnhau unwaith eto, fel bod pawb yn glir yn y Siambr hon, y bydd cyfle, pan fydd hyn wedi ymwreiddio, i gael adolygiad llai manwl, felly os oes angen newidiadau synhwyrol mawr, byddant yn cael eu gwneud? Nid yw hwn yn derfyn cyffredinol o 20 mya, er gwaethaf yr hyn y mae'r gwrthbleidiau yn ei ddweud yn gyhoeddus; mae hwn yn bolisi synhwyrol a fydd yn achub bywydau, ac ni chafodd arbed bywyd ei grybwyll yn sylwadau agoriadol llefarydd y fainc flaen.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 5:04, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ei chael hi'n anodd deall a yw'r Ceidwadwyr yn deall naws y polisi hwn neu beidio, neu a ydynt yn ei ddeall ac yn dewis ei gamliwio'n fwriadol at ddibenion gwleidyddol sinigaidd. Rwy'n pendilio rhwng y ddau yna, os wyf yn onest. Ond yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw eu bod nhw'n anghywir, ac mae'r dystiolaeth yn siarad drosto'i hun. Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le, ac unwaith eto mae ei swyddogaeth arweiniol fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar deithio llesol wedi bod yn bwysig wrth ychwanegu cefnogaeth a chyfuno hyn ag agendâu eraill hefyd. Bydd yn briodol i ni fonitro sut mae hyn yn gweithio'n ymarferol; mae'n newid sylweddol, iawn, iawn, a byddai'n naïf i ni dybio ei fod yn mynd i fod yn ddi-wall. Ar hyn o bryd rydyn ni'n teimlo—ac mae'r cynlluniau treialu wedi amlygu ein ffydd yn y dyfarniad hwn—bod modd gwneud y newidiadau ar lefel leol. Rydym yn teimlo bod digon o ddisgresiwn yn y meini prawf esemptiadau presennol i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae nerfusrwydd ymhlith rhai awdurdodau lleol, a chyngor cyfreithiol sy'n eu gwneud yn nerfus ynghylch pa mor bell y maent yn fodlon crwydro oddi wrth union lythyren y canllawiau, er i ni gyflwyno disgresiwn ynddynt. Ac fel rwyf yn ei ddweud, yn Sir y Fflint, mae Bwcle—

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Llafur 5:05, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Datganiad yw hwn Joyce Watson. Dyma'r diwrnod cyntaf yn ôl, felly maddeuant—.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

—wedi dangos hynny. Ond os byddwn ni'n canfod, a bod awdurdodau lleol yn canfod, eu bod angen mwy o sicrwydd drwy newid y geiriad, yna byddwn yn ystyried hynny'n llwyr, ac rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio synnwyr cyffredin wrth weithredu hwn.