5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Terfyn cyflymder diofyn 20 mya ar ffyrdd cyfyngedig

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 4:21, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Bydd awdurdodau priffyrdd lleol yn cadw'r pŵer i amrywio'r terfyn cyflymder yn ôl amodau lleol. Nid yw'n derfyn cyflymder unffurf. Nid yw'n derfyn cyflymder cyffredinol. Gall amrywio yn ôl amgylchiadau lleol, fel y penderfynir gan yr awdurdod priffyrdd lleol, ac mae hynny eisoes yn digwydd. Pe bai'n derfyn cyffredinol, sut y gallodd Rhondda Cynon Taf gyflwyno cymaint o esemptiadau? Sut y gallodd Cil-y-coed yn Sir Fynwy newid ei derfyn cyflymder o ganlyniad i'r treial? Sut felly yr oedd hi'n bosibl i newid y terfyn cyflymder ar ffyrdd nad oeddent yn gweithio yn y treial ym Mwcle? Gall hynny dim ond digwydd oherwydd nad yw'n derfyn diofyn ac mae gan awdurdodau priffyrdd lleol yr hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau lleol. Mae pob un o'r awdurdodau lleol hyn wedi cynnal asesiad trylwyr o'u ffyrdd ac wedi defnyddio canllawiau esemptiadau Llywodraeth Cymru a'u gwybodaeth leol. Mae hwn wedi bod yn ddarn sylweddol o waith ac rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl awdurdodau lleol sydd wedi helpu i sicrhau bod y newid yn digwydd mor esmwyth â phosibl. Mae'r rhain yn dimau bach, ac maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o galed, ac rwy'n credu bod ein dyled yn fawr iddyn nhw.

Nawr, mae'n anochel bod rhywfaint o amrywioldeb lleol o ran sut mae'r meini prawf eithriadau wedi'u cymhwyso ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol—rydym wedi clywed bod hyn yn cael ei ganmol fel lleoliaeth yn y gorffennol—ac wrth gwrs gan Lywodraeth Cymru ein hunain ar y rhwydwaith cefnffyrdd. Rydym wedi annog cynghorau i feithrin ymagwedd synnwyr cyffredin, gan gydnabod bod cymeriad rhai rhannau o ffyrdd yn addas ar gyfer 30 mya, lle nad yw pobl a cherbydau'n cymysgu. Dyma'r newid mwyaf mewn diogelwch ar y ffyrdd mewn cenhedlaeth, ac er gwaethaf yr holl ymdrechion, mae'n annhebygol o fod heb ddiffygion ar y diwrnod cyntaf. Er enghraifft, rydym yn gwybod y bydd rhai cynghorau yn gosod eu holl arwyddion ddydd Sul, ac mae eraill wedi penderfynu mabwysiadu dull gwahanol wrth wneud newidiadau fesul cam. Bydd yn dod i drefn. A lle mae cymunedau'n credu bod cynghorau wedi gwneud camgymeriadau ar rai rhannau o'r ffyrdd, bydd cyfle i fyfyrio ac ailedrych arno. Byddwn yn cynnal adolygiad llai manwl o'r meini prawf esemptiadau ar ôl i'r newidiadau gael cyfle i ymsefydlu, a gellir edrych ar hyn eto os oes problemau. Ond rydym yn disgwyl, yn seiliedig ar y profiad yn y cynlluniau treialu, y bydd y dull newydd yn cael ei groesawu gan gymunedau lleol. Bydd yn cymryd amser i addasu. Fel gyrrwr, mae gyrru 20 mya yn teimlo'n arafach. Ac yn yr un modd 'doedd dim llawer o bobl yn hoffi gwisgo gwregys diogelwch ar y dechrau, mae pobl yn addasu. Ac wrth i bobl addasu, byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu cyfrannol o ran gorfodi. Bydd goryrwyr eithafol yn cael eu dirwyo ac yn cael pwyntiau ar eu trwydded, ond tra bod gyrwyr yn dod i arfer â'r terfyn newydd o 20 mya, ac os nad ydynt yn ei dorri'n ormodol, byddant yn cael cynnig sesiynau ymgysylltu ar ochr y ffordd, pan fo ar gael, gyda GanBwyll a'r gwasanaethau tân ac achub yn hytrach na chael eu herlyn.

Nawr, gwn fod pryderon y bydd y terfyn cyflymder newydd yn ychwanegu'n sylweddol at amseroedd teithio. Mae'r data cynnar o'r treialon yn dangos bod y terfyn newydd wedi llwyddo i leihau terfynau cyflymder cyfartalog heb gael effaith sylweddol ar amseroedd teithio. Mae hyn yn wir oherwydd bod y rhan fwyaf o oedi yn digwydd wrth oleuadau traffig ac ar gyffyrdd. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd wedi gweld car yn ein goddiweddyd dim ond i'w weld eto wrth y goleuadau traffig nesaf. Ar gyflymder o 20 mya mae llai o frecio a llai o gyflymu. Mae hynny nid yn unig yn lleihau gronynnau niweidiol o deiars a breciau, sy'n gwella ansawdd yr aer, ond mae hefyd yn golygu mai dim ond tua 1 munud yn hirach yw'r daith gyfartalog. Ac mae'n fwy effeithiol. Yn achos llawer o geir bydd 20 mya cyson yn sicrhau gwell defnydd o danwydd a defnyddir llai o ynni. Ond yn bwysicaf oll, Llywydd, bydd yn achub bywydau. Er gwaethaf holl anghysur newid, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith y bydd hyn yn lleihau marwolaethau, bydd yn gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau trwy leihau llygredd sŵn, sef yr ail niwed mwyaf i iechyd y cyhoedd, a bydd yn teimlo'n fwy diogel, a fydd yn arwain at lefelau uwch o gerdded a beicio. Ac mae tystiolaeth gref i gefnogi pob un o'r pwyntiau hyn. Dyna pam mae Cymru'n dilyn Sbaen i wneud 20 mya y terfyn cyflymder diofyn ar strydoedd lleol. Bydd eraill yn dilyn. Mae hyn i gyd yn rhan o'n gweledigaeth o wneud Cymru'n gryfach, yn decach ac yn wyrddach. Ac rwy'n ffyddiog y byddwn yn edrych yn ôl ar y newid hwn gyda balchder. Diolch.