Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 12 Medi 2023.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle heddiw i nodi'r ffeithiau. Y ffaith fwyaf brawychus yw hon, os yw cerddwr yn cael ei daro gan gerbyd sy'n symud ar gyflymder o 30 mya, mae ef tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd na phe bai e'n cael ei daro gan gerbyd yn symud ar gyflymder o 20 mya. Mae'n syml: mae cyflymderau is yn achub bywydau. Erbyn i gar sy'n teithio 20 mya stopio, bydd car sy'n teithio 30 mya yn dal i deithio 24 mya: mae cyflymderau is yn achub bywydau. Nid dim ond fi sy'n dweud hynny—dyna union eiriau Dr David Hanna, ymgynghorydd brys pediatrig yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Ei waith ef yw ymdrin â'r canlyniadau pan gaiff plant eu taro gan geir yn teithio 30 mya a mwy. Mae wedi disgrifio'r anafiadau trychinebus sy'n newid bywyd y mae'n rhaid i blant a phobl ifanc a'u teuluoedd ddelio â nhw o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ffyrdd, ac mae mwy na hanner ohonynt yn digwydd ar ffyrdd lle mae'r terfyn cyflymder yn 30 mya ar hyn o bryd.
Cael eich taro gan gar yn symud yw'r achos mwyaf cyffredin o anaf difrifol i blant. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif y gallwn ddisgwyl gweld gostyngiad o 40 y cant mewn gwrthdrawiadau, chwech i 10 o fywydau'n cael eu hachub bob blwyddyn, a rhywle rhwng 1,200 a 2,000 o bobl bob blwyddyn yn osgoi anaf yng Nghymru ar ôl i ni symud i 20 mya. Felly, yn ogystal â lleihau gofid dynol, bydd hyn hefyd yn lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau brys sydd dan bwysau. Mae disgwyl i arbedion atal anafiadau, sy'n cynnwys lleihau'r angen i fynd i gynifer o wrthdrawiadau traffig ffyrdd a lleihau llif y bobl sydd wedi'u hanafu sydd angen triniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys arbed £92 miliwn yn y flwyddyn gyntaf yn unig, ac ymhob blwyddyn wedyn. Fel y dywed Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:
'Nid yn unig y bydd cyflymderau arafach yn achub bywydau ac yn lleihau anafiadau, bydd hefyd yn helpu i gadw pobl yn iachach ac yn lleihau'r baich ar y GIG.'
Dirprwy Lywydd, bydd terfyn cyflymder diofyn o 20 mya yn talu amdano'i hun dair gwaith drosodd o'r arbedion i'r gwasanaeth iechyd yn y flwyddyn gyntaf yn unig. Nid yw hwn yn bolisi sydd wedi cael ei frysio, mae wedi bod yn datblygu dros bedair blynedd, mewn partneriaeth agos ag awdurdodau lleol, yr heddlu a sefydliadau cyflawni allweddol. Rydym wedi ei dreialu mewn wyth cymuned ledled Cymru. Yn Llandudoch yn Sir Benfro, y cyntaf o'r ardaloedd prawf, mae 20 mya eisoes wedi profi ei hun. Fe wnaeth gyrrwr car osgoi taro bachgen ifanc yn croesi'r ffordd oherwydd, yn ei eiriau ef ei hun:
'Yn ffodus, roeddwn i'n gwneud 20 mya. Ar gyflymder o 30 mya, byddwn i wedi ei daro.'
Nid oedd angen ambiwlans, dim angen yr heddlu a diolch byth, nid oedd angen i rieni'r plentyn hwnnw glywed newyddion drwg yn yr ysbyty. Mae llawer ohonom yn rhieni a neiniau a theidiau, ac rydyn ni'n deall yr ofn sy'n gysylltiedig â thraffig, ac rydym yn gwybod pam y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi cyflymderau arafach ar y strydoedd y maent yn byw ynddynt. Ac rydym yn gwybod bod ofni traffig yn arwain at gadw llawer o blant dan do er mwyn osgoi'r risg o niwed sy'n eu hamddifadu o'r profiadau a gafodd llawer ohonom wrth archwilio ein cymdogaethau a chael hwyl gyda ffrindiau. Mae hyn i gyd yn cyfrannu at yr amgylchedd gordewogenig y mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi ein rhybuddio sy'n ychwanegu at epidemig diabetes math 2 a gordewdra. Yn Sbaen, yn Llundain, yng Nghaeredin, ac yn fuan yn Iwerddon hefyd, mae cyfyngiadau cyflymder wedi'u gostwng i 20 mya ac mae anafiadau a marwolaethau yn gostwng hefyd. Mae'r dystiolaeth ar gyfer newid yn gryf iawn a does dim dadlau yn ei gylch.
Rwyf wedi rhoi pwyslais parhaus ar wneud popeth o fewn ein gallu i ganolbwyntio ar ymarferoldeb gweithredu'r terfyn cyflymder newydd i sicrhau ei lwyddiant. Ym mis Mai 2019 sefydlais grŵp tasglu i brofi ein bwriad polisi gydag arbenigwyr ac ymarferwyr. Dan arweiniad yr arbenigwr trafnidiaeth annibynnol uchel ei barch Phil Jones, treuliodd y grŵp dros flwyddyn yn ystyried y ffyrdd gorau o gyflwyno'r newid a dod o hyd i gonsensws. Roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion llywodraeth leol, Ffederasiwn y Busnesau Bach a'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, ymhlith eraill. Argymhellodd y grŵp tasglu ein bod yn symud i ffwrdd o ailddosbarthu rhannau byr o'r ffyrdd yn rhai 20 mya, a dywedodd y dylem yn hytrach newid y terfyn cyflymder diofyn sylfaenol. Dylem symud i ffwrdd o'r sefyllfa bresennol lle mae gan ffyrdd lleol, ffyrdd cyfyngedig, derfyn diofyn o 30 mya, lle gellir cyflwyno achos i leihau hynny i 20 mya, terfyn diofyn o 20 mya, lle gellir cyflwyno achos dros osod hynny ar 30 mya. Felly, does dim terfyn cyffredinol o 20 mya, fel mae'r Ceidwadwyr yn honni ar gam. Rydym yn dilyn y dull a argymhellodd yr arbenigwyr. Ac rwy'n gwybod nad yw'r Ceidwadwyr yn hoffi arbenigwyr, ond yn y Siambr hon, rydyn ni yn eu hoffi nhw.