Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 12 Medi 2023.
Diolch yn fawr, Vikki. Mae'n gwestiwn da iawn ac roedd hi'n dda iawn cael y cyfarfod gyda chi am y materion penodol a godwyd yn eich etholaeth. Ac mae hynny'n un diddorol iawn, on'd yw e, oherwydd mae'r math hwnnw o bryder am fflach-lifogydd sydd gennym ni yn un anodd iawn i fynd i'r afael ag ef.
Mae angen cydbwysedd o ran y gwaith sydd ei angen i ddeall pa gynllun allai weithio a pha mor hir mae hwnnw'n ei gymryd—ac rwy'n gwybod ei fod yn rhwystredig pa mor hir y mae'n ei gymryd—ac unrhyw fesurau lliniaru uniongyrchol a allai fod yn bosibl. Ac wedyn, mae'r holl beth gwerth am arian yma yn erbyn—. Wyddoch chi, os oes gennych chi saith tŷ ond mae'r cynllun yn ddrud iawn. Ond dyma fywyd a chymuned rhywun y maen nhw'n ceisio'u diogelu. Felly, mae ceisio cael y cydbwysedd anodd yn iawn rhwng yr hyn fydd yn gweithio a'r hyn fydd yn rhoi gwydnwch a'r gallu i addasu a'r hyn fydd, a bod yn onest, yn rhoi tawelwch meddwl i gymunedau a'r hyn y gallwn ni ei wneud wrth symud ymlaen i ddeall a oes risg barhaus neu a ellir symud y risg honno yn rhan fawr iawn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Fel y gwyddoch, weithiau nid dim ond y seilwaith o'i gwmpas ydyw, ond natur y dyffryn rydych chi'n byw ynddo a'r math o lifogydd rydyn ni'n edrych arnyn nhw.
Felly, yr ateb i'ch cwestiwn yw ein bod ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cael system ddealladwy ar waith y mae tryloywder yn ganolog iddi fel bod pobl yn deall pa asiantaeth sy'n gwneud beth mewn perthynas â'r llifogydd, beth mae'n bosibl ei wneud, beth nad yw'n bosibl ei wneud, ac felly beth yw'r prognosis ar gyfer y gymuned honno. Yn anffodus, dydw i ddim yn gallu addo amddiffyn pob tŷ yng Nghymru rhag llifogydd—dydy hynny ddim yn bosibl—ond byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod gennym gymaint o addasiadau â phosibl a chymaint o gymorth â phosibl i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny i wneud yn siŵr eu bod yn gallu byw bywydau iach a chynhyrchiol heb ofn llifogydd, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr. Rwyf wedi cwrdd â nifer fawr o bobl, yn enwedig plant, sydd wir yn ofni llifogydd unwaith y byddan nhw wedi profi hynny.
Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn hefyd i dynnu sylw at brosiect yswiriant llifogydd cenedlaethol hefyd, er mwyn sicrhau bod pobl wedi ceisio cael mynediad i hwnnw, oherwydd un o'r materion eraill yw adfer ar ôl llifogydd a'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu hynny. Rwy'n gweld bod Llywodraeth Lloegr wedi rhoi cynllun bach ar waith sy'n debyg i'n cynllun ni, oherwydd weithiau dydy'r cynlluniau cyfalaf mawr ddim yn gweithio ar lefel cymunedau unigol, ac rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu fy sylw at hynny yn y cyfarfod diwethaf a gawsom.