4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Llafur 3:41, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ddatgan bod adolygiad annibynnol yr Athro Elwen Evans CB o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020 a 2021 wedi cael ei gyhoeddi. Cafodd yr adolygiad hwn ei gynnal fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar y cyd â Phlaid Cymru ac mae'n gam pwysig wrth wella'r ffordd mae'r gwaith o reoli perygl llifogydd, gan gynnwys yr ymateb i achosion o lifogydd a'u canlyniadau, yn cael ei gyflawni ledled Cymru. Adolygiad desg oedd hwn. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddeall y broses ymchwilio sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a sut y cafodd y broses hon ei defnyddio yng nghyd-destun yr achosion o lifogydd difrifol y cyfeiriwyd atyn nhw. Mae'r adolygiad hwn wedi nodi meysydd o arfer da, meysydd i'w gwella, llwyddiannau a gwersi i'w dysgu. Doedd dim bwriad i'r adolygiad hwn fynd i'r afael ag ymatebion awdurdodau lleol na Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn ehangach. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl a'r cwmpas trwy drafodaethau rhyngof fi, yr Aelod dynodedig a'r Athro Evans. Fe wnaeth yr Aelod dynodedig a minnau gyfarfod â'r Athro Evans ar wahanol gamau o'r adolygiad i drafod cynnydd a'i barn wrth symud ymlaen. Aeth yr Athro Evans ati i adolygu gwybodaeth ategol gan gynnwys tystiolaeth, adroddiadau cynnydd, adroddiadau adran 19 cyhoeddedig, ynghyd â chyflwyniadau eraill a ddarparwyd gan yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy Aelodau'r Senedd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr adolygiad.

Cafodd yr holl wybodaeth a deddfwriaeth berthnasol, ynghyd â pholisïau, strategaethau ac allbynnau presennol o adolygiadau eraill, eu hystyried o fewn terfynau'r cylch gorchwyl a maes cymhleth rheoli perygl llifogydd. Mae nifer o adolygiadau eraill wedi'u cynnal neu'n cael eu cynnal i'r ffordd y caiff perygl llifogydd ei reoli, a nodwyd yn benodol yn y cylch gorchwyl y dylai'r Athro Evans osgoi dyblygu a gorgyffwrdd â'r adolygiadau eraill hyn. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, gwaith gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, Archwilio Cymru a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, sydd, drwy'r cytundeb cydweithio, yn ystyried sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd ledled y wlad cymaint â phosibl erbyn 2050.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i amlinellu rhai o brif ganfyddiadau'r Athro Evans o'i hadolygiad, sy'n tynnu sylw at newidiadau strategol, polisi ac ymarferol a allai gryfhau'r broses o ymchwilio i lifogydd ac yn cydnabod y cyfyngiadau o fewn y fframwaith presennol. Mae'r Athro Evans wedi nodi dau faes eang lle mae'n teimlo bod angen mwy o eglurder a gwelliant. Dydy'r ddeddfwriaeth ei hun ddim yn cynnig yr eglurder sydd ei angen ar awdurdodau llifogydd lleol arweiniol i ddeall pwrpas ymchwiliad llifogydd adran 19. Mae'n parhau i fod yn oddrychol ac yn agored i'w dehongli a dydy hi ddim yn glir lle mae'n cyd-fynd â'r fframwaith adrodd ehangach ar reoli perygl llifogydd. Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu i ba raddau y caiff ymchwiliad ei gynnal a ph'un a oes angen adroddiad ffurfiol ai peidio. A dweud y gwir, does dim byd yn y ddeddfwriaeth sy'n gofyn i'n hawdurdodau lleol lunio adroddiad, dim ond cyhoeddi canfyddiadau unrhyw ymchwiliad a allai fod wedi'i gynnal. Yn absenoldeb yr eglurder hwn, mae awdurdodau lleol wedi datblygu'r broses y maen nhw'n ei defnyddio heddiw ar eu pen eu hunain, a'r disgwyliad yw y bydd adroddiad sy'n manylu ar ddigwyddiadau, camau gweithredu ac argymhellion yn cael ei lunio yn dilyn ymchwiliad. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn gyson ledled Cymru, ac mae'r Athro Evans yn argymell bod angen adolygiad polisi strategol i ddiffinio pwrpas ymchwiliad adran 19 yn glir a chryfhau'r broses. Argymhelliad ychwanegol yw bod angen mwy o gysondeb ar draws yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol o ran adroddiadau ehangach. Er enghraifft, pryd dylai ymchwiliadau gael eu cynnal, ac ar ba ffurf y dylai ymchwiliad fod? A ddylai fod adroddiad ar yr ymchwiliad? Ac, os felly, byddai datblygu templed yn gam cadarnhaol ymlaen. 

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddwyd 'Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru'. Mae'r strategaeth 10 mlynedd hon yn nodi pum amcan allweddol i helpu i leihau'r risg y mae llifogydd ac erydu arfordirol yn ei pheri i bobl a chymunedau. Yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcanion hyn mae 24 o fesurau sy'n nodi sut y byddwn ni'n cyflawni'r pum amcan hyn, y mae pob mesur yn un darn jig-so yn y dirwedd rheoli perygl llifogydd ehangach.

Mae mesur 21 o'r strategaeth genedlaethol eisoes yn nodi bod adran 19 yn faes i'w wella. Fel cam ymarferol y gellir ei gymryd ar unwaith o fewn y fframwaith presennol a heb ragflaenu'r gwaith strategol a pholisi ehangach sy'n mynd rhagddo, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda CLlLC, y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, ac awdurdodau lleol i wella'r ffordd o wneud ymchwiliadau ac adroddiadau adran 19 yn symlach, yn haws eu deall, ac yn fwy hygyrch. Mae'r Athro Evans yn cydnabod bod y darn penodol hwn o waith eisoes yn cael ei ystyried, a bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg i gynnwys y canfyddiadau hyn fel rhan o'r gwaith o gyflawni'r mesur strategol hwn.

Wrth adolygu cynnydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn camau gweithredu a nodwyd yn ei adroddiadau yn dilyn y llifogydd ym mis Chwefror 2020, mae'r Athro Evans wedi nodi cynnydd da yn erbyn y 94 o gamau gweithredu a nodwyd. Fodd bynnag, mae 15 o gamau gweithredu i'w cyflawni o hyd. Cydnabyddir y gallai'r camau sy'n weddill fod yn fwy hirdymor ac yn fwy cymhleth i'w cyflawni, ond mae'r Athro Evans yn argymell y dylid darparu amserlenni realistig ar gyfer cyflawni'r camau hyn.

Mae'r adolygiad hwn yn un maes rheoli perygl llifogydd a'r fframwaith adrodd, ond mae'n un pwysig wrth helpu pawb i feithrin gwell dealltwriaeth o lifogydd a'r strwythurau sy'n sail i'r gwaith o reoli perygl llifogydd. Mae deall achosion llifogydd a'u canlyniadau yn rhoi gwybodaeth bwysig i awdurdodau rheoli risg a chymunedau a all gefnogi dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd, sut y bu iddo ddigwydd a sut y gellid lliniaru'r risg yn y dyfodol. Ac er ein bod ni i gyd yn parhau i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau diweddar, rydym hefyd yn edrych i'r tymor hwy. Gall y wybodaeth mewn llawer o'r adroddiadau hyn ddarparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yn y dyfodol.

Yn ôl rhagfynegiadau hinsawdd y DU, bydd Cymru yn gweld gaeafau mwynach, gwlypach, mwy o lawiad dwysach, mwy o lifogydd arfordirol, a hafau poethach a sychach. Mae'r adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailadrodd yr angen i barhau i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru, addasu a gwydnwch, er mwyn ymateb i heriau cynhesu byd-eang. Felly, mae ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd yn hanfodol i'n cymunedau.

Er mwyn cefnogi sut rydym yn cynllunio ar gyfer llifogydd yn y dyfodol, ac eto fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gallwn leihau'r risg o lifogydd i gartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Bydd y comisiwn yn ystyried y sgiliau sydd gennym a'r adnoddau sydd eu hangen arnom, yr heriau sy'n ymwneud ag addasu, yr angen i weithio ar raddfa dalgylch a meddwl yn fwy mewn partneriaeth, nid yn unig ar draws awdurdodau rheoli risg, ond hefyd ar draws adrannau ehangach y Llywodraeth. Rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yr haf nesaf.

Hefyd, mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Mr Martin Buckle, yn cynnal dau adolygiad ar wahân, a ragnodwyd gan ein strategaeth genedlaethol. Yn gyson â rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Athro Evans, mae'r rhain hefyd yn ystyried a oes angen newid deddfwriaethol a pholisi ehangach ym maes rheoli perygl llifogydd, tra bod yr ail yn ystyried y sefyllfa adnoddau a sgiliau yn y maes o ran cyflawni gwaith perygl llifogydd ledled Cymru. Mae'r Athro Evans yn cydnabod mai dim ond un darn pwysig yw ei hadolgiad hi yn y dirwedd rheoli perygl llifogydd ehangach, sydd eisoes yn cael sylw mewn archwiliadau, adolygiadau ac asesiadau eraill, gan gynnwys rhai o'r rhai a nodwyd eisoes.

Yn ogystal, mae hi'n mynd ymlaen i gydnabod bod perygl llifogydd yn ddarlun cymhleth lle mae cynnydd wedi'i wneud eisoes mewn rhai ardaloedd, lle mae gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhoi ar waith nawr, ond hefyd lle mae angen gwelliant parhaus ar draws y maes rheoli perygl llifogydd yn ehangach. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r Aelod dynodedig ar y gwaith hwn yng ngoleuni'r ymrwymiad i weithredu ar yr argymhellion a wnaed yn adolygiad yr Athro Evans, ac yng ngoleuni'r gwaith ehangach sydd ar y gweill. Diolch.