4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Adolygiad annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd

– Senedd Cymru am 3:41 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:41, 12 Medi 2023

Eitem 4 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, adolygiad annibynnol ac adroddiadau 2020-21 Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd. A galwaf ar y Gweinidog, Julie James. 

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ddatgan bod adolygiad annibynnol yr Athro Elwen Evans CB o adroddiadau adran 19 llywodraeth leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar y llifogydd eithafol yn ystod gaeaf 2020 a 2021 wedi cael ei gyhoeddi. Cafodd yr adolygiad hwn ei gynnal fel rhan o'r cytundeb cydweithio ar y cyd â Phlaid Cymru ac mae'n gam pwysig wrth wella'r ffordd mae'r gwaith o reoli perygl llifogydd, gan gynnwys yr ymateb i achosion o lifogydd a'u canlyniadau, yn cael ei gyflawni ledled Cymru. Adolygiad desg oedd hwn. Roedd yn canolbwyntio'n benodol ar ddeall y broses ymchwilio sydd ar waith ar hyn o bryd o dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 a sut y cafodd y broses hon ei defnyddio yng nghyd-destun yr achosion o lifogydd difrifol y cyfeiriwyd atyn nhw. Mae'r adolygiad hwn wedi nodi meysydd o arfer da, meysydd i'w gwella, llwyddiannau a gwersi i'w dysgu. Doedd dim bwriad i'r adolygiad hwn fynd i'r afael ag ymatebion awdurdodau lleol na Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn ehangach. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl a'r cwmpas trwy drafodaethau rhyngof fi, yr Aelod dynodedig a'r Athro Evans. Fe wnaeth yr Aelod dynodedig a minnau gyfarfod â'r Athro Evans ar wahanol gamau o'r adolygiad i drafod cynnydd a'i barn wrth symud ymlaen. Aeth yr Athro Evans ati i adolygu gwybodaeth ategol gan gynnwys tystiolaeth, adroddiadau cynnydd, adroddiadau adran 19 cyhoeddedig, ynghyd â chyflwyniadau eraill a ddarparwyd gan yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol, Cyfoeth Naturiol Cymru a thrwy Aelodau'r Senedd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd at yr adolygiad.

Cafodd yr holl wybodaeth a deddfwriaeth berthnasol, ynghyd â pholisïau, strategaethau ac allbynnau presennol o adolygiadau eraill, eu hystyried o fewn terfynau'r cylch gorchwyl a maes cymhleth rheoli perygl llifogydd. Mae nifer o adolygiadau eraill wedi'u cynnal neu'n cael eu cynnal i'r ffordd y caiff perygl llifogydd ei reoli, a nodwyd yn benodol yn y cylch gorchwyl y dylai'r Athro Evans osgoi dyblygu a gorgyffwrdd â'r adolygiadau eraill hyn. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill, gwaith gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, Archwilio Cymru a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, sydd, drwy'r cytundeb cydweithio, yn ystyried sut y gellir lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd ledled y wlad cymaint â phosibl erbyn 2050.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i amlinellu rhai o brif ganfyddiadau'r Athro Evans o'i hadolygiad, sy'n tynnu sylw at newidiadau strategol, polisi ac ymarferol a allai gryfhau'r broses o ymchwilio i lifogydd ac yn cydnabod y cyfyngiadau o fewn y fframwaith presennol. Mae'r Athro Evans wedi nodi dau faes eang lle mae'n teimlo bod angen mwy o eglurder a gwelliant. Dydy'r ddeddfwriaeth ei hun ddim yn cynnig yr eglurder sydd ei angen ar awdurdodau llifogydd lleol arweiniol i ddeall pwrpas ymchwiliad llifogydd adran 19. Mae'n parhau i fod yn oddrychol ac yn agored i'w dehongli a dydy hi ddim yn glir lle mae'n cyd-fynd â'r fframwaith adrodd ehangach ar reoli perygl llifogydd. Yr awdurdod lleol sy'n penderfynu i ba raddau y caiff ymchwiliad ei gynnal a ph'un a oes angen adroddiad ffurfiol ai peidio. A dweud y gwir, does dim byd yn y ddeddfwriaeth sy'n gofyn i'n hawdurdodau lleol lunio adroddiad, dim ond cyhoeddi canfyddiadau unrhyw ymchwiliad a allai fod wedi'i gynnal. Yn absenoldeb yr eglurder hwn, mae awdurdodau lleol wedi datblygu'r broses y maen nhw'n ei defnyddio heddiw ar eu pen eu hunain, a'r disgwyliad yw y bydd adroddiad sy'n manylu ar ddigwyddiadau, camau gweithredu ac argymhellion yn cael ei lunio yn dilyn ymchwiliad. Fodd bynnag, dydy hyn ddim yn gyson ledled Cymru, ac mae'r Athro Evans yn argymell bod angen adolygiad polisi strategol i ddiffinio pwrpas ymchwiliad adran 19 yn glir a chryfhau'r broses. Argymhelliad ychwanegol yw bod angen mwy o gysondeb ar draws yr awdurdodau llifogydd lleol arweiniol o ran adroddiadau ehangach. Er enghraifft, pryd dylai ymchwiliadau gael eu cynnal, ac ar ba ffurf y dylai ymchwiliad fod? A ddylai fod adroddiad ar yr ymchwiliad? Ac, os felly, byddai datblygu templed yn gam cadarnhaol ymlaen. 

Ym mis Hydref 2020, cyhoeddwyd 'Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru'. Mae'r strategaeth 10 mlynedd hon yn nodi pum amcan allweddol i helpu i leihau'r risg y mae llifogydd ac erydu arfordirol yn ei pheri i bobl a chymunedau. Yn cefnogi'r gwaith o gyflawni'r amcanion hyn mae 24 o fesurau sy'n nodi sut y byddwn ni'n cyflawni'r pum amcan hyn, y mae pob mesur yn un darn jig-so yn y dirwedd rheoli perygl llifogydd ehangach.

Mae mesur 21 o'r strategaeth genedlaethol eisoes yn nodi bod adran 19 yn faes i'w wella. Fel cam ymarferol y gellir ei gymryd ar unwaith o fewn y fframwaith presennol a heb ragflaenu'r gwaith strategol a pholisi ehangach sy'n mynd rhagddo, bydd fy swyddogion yn gweithio gyda CLlLC, y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, ac awdurdodau lleol i wella'r ffordd o wneud ymchwiliadau ac adroddiadau adran 19 yn symlach, yn haws eu deall, ac yn fwy hygyrch. Mae'r Athro Evans yn cydnabod bod y darn penodol hwn o waith eisoes yn cael ei ystyried, a bydd swyddogion yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau rheoli risg i gynnwys y canfyddiadau hyn fel rhan o'r gwaith o gyflawni'r mesur strategol hwn.

Wrth adolygu cynnydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn erbyn camau gweithredu a nodwyd yn ei adroddiadau yn dilyn y llifogydd ym mis Chwefror 2020, mae'r Athro Evans wedi nodi cynnydd da yn erbyn y 94 o gamau gweithredu a nodwyd. Fodd bynnag, mae 15 o gamau gweithredu i'w cyflawni o hyd. Cydnabyddir y gallai'r camau sy'n weddill fod yn fwy hirdymor ac yn fwy cymhleth i'w cyflawni, ond mae'r Athro Evans yn argymell y dylid darparu amserlenni realistig ar gyfer cyflawni'r camau hyn.

Mae'r adolygiad hwn yn un maes rheoli perygl llifogydd a'r fframwaith adrodd, ond mae'n un pwysig wrth helpu pawb i feithrin gwell dealltwriaeth o lifogydd a'r strwythurau sy'n sail i'r gwaith o reoli perygl llifogydd. Mae deall achosion llifogydd a'u canlyniadau yn rhoi gwybodaeth bwysig i awdurdodau rheoli risg a chymunedau a all gefnogi dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd, sut y bu iddo ddigwydd a sut y gellid lliniaru'r risg yn y dyfodol. Ac er ein bod ni i gyd yn parhau i ddysgu gwersi o ddigwyddiadau diweddar, rydym hefyd yn edrych i'r tymor hwy. Gall y wybodaeth mewn llawer o'r adroddiadau hyn ddarparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau lliniaru llifogydd yn y dyfodol.

Yn ôl rhagfynegiadau hinsawdd y DU, bydd Cymru yn gweld gaeafau mwynach, gwlypach, mwy o lawiad dwysach, mwy o lifogydd arfordirol, a hafau poethach a sychach. Mae'r adroddiadau diweddar gan y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd a Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU wedi ailadrodd yr angen i barhau i fuddsoddi mewn mesurau lliniaru, addasu a gwydnwch, er mwyn ymateb i heriau cynhesu byd-eang. Felly, mae ein buddsoddiad parhaus mewn rheoli perygl llifogydd yn hanfodol i'n cymunedau.

Er mwyn cefnogi sut rydym yn cynllunio ar gyfer llifogydd yn y dyfodol, ac eto fel rhan o'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi gofyn i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru asesu sut y gallwn leihau'r risg o lifogydd i gartrefi, busnesau a seilwaith erbyn 2050. Bydd y comisiwn yn ystyried y sgiliau sydd gennym a'r adnoddau sydd eu hangen arnom, yr heriau sy'n ymwneud ag addasu, yr angen i weithio ar raddfa dalgylch a meddwl yn fwy mewn partneriaeth, nid yn unig ar draws awdurdodau rheoli risg, ond hefyd ar draws adrannau ehangach y Llywodraeth. Rydym yn disgwyl i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yr haf nesaf.

Hefyd, mae pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol annibynnol Cymru, dan gadeiryddiaeth Mr Martin Buckle, yn cynnal dau adolygiad ar wahân, a ragnodwyd gan ein strategaeth genedlaethol. Yn gyson â rhai o'r cwestiynau a ofynnwyd gan yr Athro Evans, mae'r rhain hefyd yn ystyried a oes angen newid deddfwriaethol a pholisi ehangach ym maes rheoli perygl llifogydd, tra bod yr ail yn ystyried y sefyllfa adnoddau a sgiliau yn y maes o ran cyflawni gwaith perygl llifogydd ledled Cymru. Mae'r Athro Evans yn cydnabod mai dim ond un darn pwysig yw ei hadolgiad hi yn y dirwedd rheoli perygl llifogydd ehangach, sydd eisoes yn cael sylw mewn archwiliadau, adolygiadau ac asesiadau eraill, gan gynnwys rhai o'r rhai a nodwyd eisoes.

Yn ogystal, mae hi'n mynd ymlaen i gydnabod bod perygl llifogydd yn ddarlun cymhleth lle mae cynnydd wedi'i wneud eisoes mewn rhai ardaloedd, lle mae gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhoi ar waith nawr, ond hefyd lle mae angen gwelliant parhaus ar draws y maes rheoli perygl llifogydd yn ehangach. Byddaf yn parhau i weithio gyda'r Aelod dynodedig ar y gwaith hwn yng ngoleuni'r ymrwymiad i weithredu ar yr argymhellion a wnaed yn adolygiad yr Athro Evans, ac yng ngoleuni'r gwaith ehangach sydd ar y gweill. Diolch.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 3:49, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr hyn sydd, serch hynny, yn adroddiad yr ydym wedi bod yn disgwyl yn hir amdano ar yr adolygiadau o adroddiadau adran 19 ar lifogydd 2021—2020-21. Hefyd, rhaid i ni beidio ag anghofio, cyn hyn—. Rwyf wedi codi, sawl gwaith yn y Siambr yma, bryderon, oherwydd, wrth gwrs, yn Aberconwy fe welsom ni lifogydd yn 2016 a 2018, ac rydyn ni hyd yn oed wedi cwestiynu rhinweddau adroddiadau adran 19.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 3:50, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Yn ystod llifogydd trasig y blynyddoedd a grybwyllwyd, gadawyd 3,130 o gartrefi ledled Cymru dan ddŵr. Amharwyd ar fywydau 3,130 o deuluoedd. Roedd hi'n aeaf digynsail—neu felly roeddem ni'n ei meddwl—am stormydd a llifogydd, ac mae wedi arwain at angen dybryd i weithredu o ddifrif, a hynny ar fyrder. Cafodd galwadau eu gwneud o'r meinciau hyn ar y pryd, yn ystod 2021, i gynnal adolygiad trylwyr o waith rheoli llifogydd ac adroddiadau adran 19, a'r angen am ddiwygiadau ar unwaith. Felly, wrth gwrs, rydyn ni'n croesawu'r adolygiad o adroddiadau adran 19, o ystyried ei fod mor hwyr, ac rydym wedi gofyn a gofyn a gofyn amdano. Roeddem ni'n aros am yr adroddiad hwn gyda disgwyliadau mawr, gan obeithio y byddai'n cynnig ffordd ymlaen ar gyfer digwyddiadau llifogydd eithafol. Ers 2020, rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw'r Senedd at dystiolaeth sy'n dangos bod adroddiadau adran 19 yn cymryd llawer gormod o amser i'w cynhyrchu a'u cyhoeddi, ac a dweud y gwir, mewn rhai awdurdodau lleol, byddwn i'n dweud nad oes llawer o awydd wedi bod i'w gwneud nhw.

Bron i dair blynedd yn ôl i'r diwrnod—dair blynedd yn ôl i'r diwrnod—ar 16 Medi 2020, fe dynnais i sylw at y ffaith ei bod yn cymryd llawer gormod o amser i adroddiadau adran 19 gael eu cyflwyno, gan ddefnyddio enghraifft o adroddiad o Fetws-y-Coed a Dolwyddelan a gymerodd fwy na chwe mis. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n wael. Mae cyhoeddi'r adroddiad penodol hwn yn cadarnhau nawr bod 43 o adroddiadau adran 19 wedi'u cwblhau, ond does dim bwriad iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Mae wyth adroddiad yn dal i aros i gael eu cymeradwyo. Ac yn fwy pryderus, mae 34 o adroddiadau yn mynd rhagddynt o hyd. Rydyn ni nawr ym mis Medi 2023; cytundeb yn y weinyddiaeth flaenorol oedd hwn. Felly, Gweinidog, rwy'n credu bod angen ateb llawer o gwestiynau yma.

Felly, mae'r data hwn nawr o fis Ebrill 2023, ddwy flynedd ar ôl y llifogydd sy'n destun ymchwiliad. Mae'r rhain yn adroddiadau i'r llifogydd hynny a ddinistriodd gartrefi, bywoliaeth a bywydau, ac mae'r ffaith bod dros 50 y cant naill ai heb eu cyhoeddi, heb eu gorffen neu'n aros i gael eu cymeradwyo yn warthus. Ac ymatebion gwan Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i'r adroddiad sy'n gyfrifol am hyn i gyd. Rydym yn gwybod nawr bod hyn i gyd, yr adroddiadau adran 19, yr adolygiad gwirioneddol o adroddiadau adran 19, yn wastraff costus o arian ac amser trethdalwyr, ar adeg pan fydden ni'n wynebu argyfwng llifogydd yng Nghymru.

Tynnodd datganiad y Gweinidog eleni, ar 31 Awst 2023, sylw at fuddsoddiad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n methu'r pwynt yn llwyr. Mae'n nodi bod angen cyd-destun adolygiadau neu adroddiadau eraill sy'n mynd rhagddynt, felly, does dim byd bron yn mynd i ddigwydd ar unwaith. Er fy mod i'n croesawu'r gwaith ar fesur 21, y gwir amdani yw bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn barod, dydy e ddim wedi cael ei sbarduno gan yr adroddiad penodol hwn. Mae'r adroddiad yn gofyn am dri chanlyniad: adolygiad o ddeddfwriaeth ehangach ar berygl llifogydd yng Nghymru; ymagwedd Cymru gyfan at adroddiadau adran 19; cydgysylltu ledled Cymru rhwng awdurdodau rheoli risg, a sefydlu arweinydd i adolygu cynnydd a rhannu materion cyffredin. Roeddem ni'n gofyn am hyn yn 2021.

Ar 20 Medi 2021, fe wnaethom ni, fel grŵp, gynnig y Bil Llifogydd (Cymru). Yn y cynnig hwn, fe amlinellais i sail gyfreithiol dros sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol, un corff a fyddai'n mynd i'r afael â llifogydd ac yn gosod terfynau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau adran 19. Felly, Gweinidog, a wnewch chi sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol i Gymru, fel bod yna arweinydd y mae'r adroddiad yn gofyn amdano? A wnewch chi nodi yn y gyfraith strwythurau a therfynau amser statudol ar gyfer adroddiadau adran 19? Ac a wnewch chi gyflwyno Bil Llifogydd (Cymru), fel bod y Senedd hon yn gallu dechrau'r broses o gryfhau deddfwriaeth i Gymru?

Dydy hi ddim yn ddigon da sefyll o'r neilltu ac aros i'r gaeaf ddod a gweld yr holl lifogydd sy'n dod gyda hynny. Rydyn ni hyd yn oed yn gweld llifogydd yn ystod yr haf nawr. Rydyn ni'n wynebu argyfwng, Gweinidog. Mae'n effeithio arnom ni yn Aberconwy, fy nghydweithiwr yng Ngorllewin Clwyd, a llawer o'r Aelodau sy'n gwasanaethu yma, bydd llifogydd wedi effeithio ar eu hetholaethau nhw. Dydy hi ddim yn deg i'r perchnogion tai hyn, a byddwn yn gofyn ein bod ni nawr yn cymryd ymagwedd llawer mwy rhagweithiol at lifogydd nag yr wyf wedi'i gweld ers i mi fod yma. Diolch.

Photo of Julie James Julie James Llafur 3:55, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Janet. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth rydych chi'n ei ofyn i mi fanna. Dydw i ddim yn mynd i sefydlu asiantaeth genedlaethol ar gyfer llifogydd. Rwy'n gwbl argyhoeddedig na fyddai'r bobl sydd wedi dioddef llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf—ac, yn wir, cyn hynny—yn cael unrhyw gysur o'r syniad y byddai asiantaeth arall yn cael ei sefydlu mewn ymateb i hynny. Yn hytrach, rydyn ni wedi gwneud nifer o bethau ymarferol iawn yn yr amser byr ers y llifogydd hynny, ac rwyf wrth fy modd â'r syniad eich bod chi'n credu bod oedi wedi bod pan yw wedi cymryd dwy flynedd i gwblhau'r adroddiad. Wn i ddim sut ar y ddaear rydych chi'n meddwl y gall y math hwn o waith manwl iawn gael ei wneud yn gyflymach na hynny, ac os hoffech chi i mi roi rhestr i chi o bethau y mae eich Llywodraeth eich hun wedi cymryd llawer hirach—[Torri ar draws.] Ydych chi eisiau clywed yr hyn rwy'n ei ddweud wrthych neu beidio? 

Photo of David Rees David Rees Llafur

(Cyfieithwyd)

Gadewch i'r Gweinidog ymateb i'r cwestiwn os gwelwch yn dda. 

Photo of Darren Millar Darren Millar Ceidwadwyr

(Cyfieithwyd)

Dim byd newydd yn ôl pob tebyg.

Photo of Julie James Julie James Llafur

(Cyfieithwyd)

Wel, os felly, Darren, wna i ddim trafferthu ei ateb. Awn ni at y person nesaf? Fyddaf i ddim yn dweud unrhyw beth newydd, mae'n debyg. 

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:56, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Gweinidog, hoffwn achub ar y cyfle i groesawu'r adroddiad, a hoffwn ddiolch i'r Athro Elwen Evans CB am arwain y gwaith. Mae'r adolygiad hwn yn amlwg yn rhan hanfodol o'r cytundeb cydweithio. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa'r Senedd na'r Gweinidog bod Plaid Cymru yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, o ystyried pa mor ddifrifol oedden nhw, ac rwy'n credu bod cwestiynau heb eu hateb. A bydd rhai o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac Aelodau eraill yma, yn dal i ofyn ble mae'r atebion hynny, a sut ydyn ni'n sicrhau bod yr argymhellion yn adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, o ran cael y sgwrs genedlaethol honno—ble rydyn ni arni?

Rwy'n deall o'ch datganiad, Gweinidog, fod nifer o bethau'n digwydd. Ond i'r cymunedau hynny sy'n gweld penawdau'r BBC eto heddiw sy'n dweud, 'Rhybudd tywydd am law trwm wrth i'r tywydd poeth ddod i ben, gallai achosi llifogydd', rydych chi'n gwybod am y gofid seicolegol; rydyn ni wedi siarad droeon am y gofid y mae'n ei achosi bob tro y bydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Byddan nhw'n gofyn, 'Beth sydd wedi newid ers i mi ddioddef llifogydd ddiwethaf?' A fyddan nhw ddim wedi cael yr atebion roedden nhw'n chwilio amdanyn nhw yma, ac felly rwy'n credu bod hynny'n her i ni gyd, sut rydyn ni'n sicrhau bod cymunedau fydd yn cael eu gadael dan ddŵr eto, oherwydd, yn anffodus, fyddwn ni ddim yn gallu achub pob cartref a busnes—dyna'r realiti. 

Rydych chi hefyd wedi amlinellu, o ran yr argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu, mai dyna fydd y realiti i nifer o'n cymunedau, ac er bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod mwy o gartrefi a busnesau yn gallu cael eu hachub yn y dyfodol, bydd yn rhaid i eraill fyw gyda'r sefyllfa hon. Ac, fel y gwyddom, mewn llawer o gymunedau, gall pobl ddim symud allan o'r cymunedau hynny—does dim cartrefi eraill ar gael, gallan nhw ddim fforddio byw yn rhywle arall, ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd ar goll yma, ar ddiwedd y dydd, yw'r cyswllt hwnnw â'r cymunedau hynny. Gall fod gennym ni'r holl strategaethau yn y byd, ond does ganddon ni ddim grwpiau gweithredu llifogydd ym mhob cymuned a does dim fforwm llifogydd yng Nghymru, er enghraifft. Er bod rhai o'r rhain yn cael eu nodi yn yr adroddiad a'r dystiolaeth a gyflwynwyd, dydw i ddim yn siŵr ein bod ni'n gliriach ynghylch sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r cymunedau hynny mewn gwirionedd tra bod y cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith.  

Rwy'n falch o weld, yn dod allan, rhywbeth yr oedd llawer ohonom ni'n ei wybod. Fel yr oedd Janet Finch-Saunders yn sôn, mae llawer ohonom yn gwybod nad yw'r broses adran 19 yn gweithio, ac rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n ddefnyddiol iawn o'r adolygiad hwn yw'r ffaith ei bod yn amlwg iawn bod angen iddi gael ei hailgynllunio. Mae angen i ni hefyd edrych ar atebolrwydd, oherwydd un o'r pethau sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd yw'r ffaith y gallai un afon orlifo, ac mae hynny'n fater o edrych ar bob adroddiad adran 19—[Torri ar draws.] Does dim ymyriadau mewn datganiad, mae'n ddrwg gennyf. Maen nhw i gyd yn adroddiadau adran 19 unigol. Mae'r un peth am ei fod yn croesi ffiniau awdurdodau lleol: gallech chi gael adroddiadau adran 19 gwahanol.

Un o'r pethau y byddwn i'n awyddus i'w weld yn digwydd yn sgil yr adolygiad, oherwydd ei fod yn amlinellu hyn, yw sut rydyn ni'n mynd i roi system ar waith sy'n caniatáu i ni ddysgu gwersi, oherwydd, a dweud y gwir, rydych chi wedi sôn am dempledi yn cael eu rhoi ar waith, ond yr hyn sydd ei angen arnom o adroddiadau adran 19, neu unrhyw adroddiad, yw dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd ac a allai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud yn wahanol. Rwy'n credu mai'r hyn nad yw'n dod drwodd o gwbl ar hyn o bryd yw ymateb awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru pan fydd llifogydd. Yr unig beth y mae'r adroddiadau hyn i gyd yn edrych arno yw pam y gwnaeth llifogydd ddigwydd ac unrhyw gamau lliniaru a gymerwyd wedyn, ond dydyn ni ddim yn cael y ddealltwriaeth ddofn honno o bethau fel a yw draeniau wedi cael eu gadael heb eu cynnal, a oes unrhyw beth fel ceuffosydd sydd heb eu cynnal, ac ati, neu a fu camgymeriad dynol neu a oes diffyg adnoddau efallai o ran awdurdodau lleol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei gredu, o ystyried faint mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ei fuddsoddiad ers y llifogydd dinistriol a welsom, efallai fod cynnal a chadw yn rhywbeth a oedd o ganlyniad i gyni.

Rydym hefyd yn gweld mai un o'r heriau ledled Cymru yw'r diffyg arbenigedd—bod rhai awdurdodau lleol yn methu â denu staff sydd â'r arbenigedd hwnnw. Felly, a ydych chi wedi ystyried, yn dilyn adroddiad defnyddiol iawn Elwen Evans, y prosesau adran 19 hynny, hynny yw pwy ddylai fod yn gyfrifol am ymchwilio i lifogydd? A oes elfen o allu gweithio ledled Cymru i sicrhau ein bod ni yn dysgu'r gwersi gwirioneddol hynny?

Rwy'n credu mai un o'r pethau rydych chi wedi sôn amdano hefyd yw'r ffaith bod llawer o waith yn cael ei wneud, ac mae Elwen Evans yn dweud bod modd anfon sylwadau pellach mewn perthynas â'i hadroddiad at y rhai sy'n edrych ar hyn. Ond beth fyddai'ch cyngor chi i'r cymunedau hynny nawr sydd wedi dioddef llifogydd, ac sy'n parhau i fod mewn perygl, o ran sut y gallan nhw ddod o hyd i unrhyw gysur o'r hyn sydd wedi'i ddarganfod, a beth fydd yn newid, a hefyd efallai ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallwn ni weithio gyda nhw a gweithredu ar adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig yr hyn a grybwyllir ynghylch dim digon o staff, a methu ymdopi? Ac os ydym yn mynd i weld y digwyddiadau hyn yn aml, sut gallwn ni weithio mwy mewn partneriaeth a sicrhau llais i'n cymunedau yn hyn i gyd, nid dim ond tasgluoedd gwahanol?

Photo of Julie James Julie James Llafur 4:01, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Heledd. Fe wnaethoch chi nifer o bwyntiau pwysig iawn fanna. Rwy'n credu bod yr Athro Evans wedi bod yn glir iawn bod yr hyn y mae hi wedi edrych arno yn rhan o jig-so, a bod y jig-so yn gymhleth, a bod angen i ni gael pob rhan o'r jig-so yn iawn fel y gallwn ni—sori am y gyfatebiaeth—weld y darlun cyfan yn dod i'r amlwg. Mae gennym nifer o adolygiadau eraill yn mynd rhagddynt, ac mae un ohonyn nhw'n rhan bwysig iawn o'n cytundeb cydweithio, a dyna'r adolygiad cyffredinol y bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn edrych arno sef, yn gyffredinol, y ffordd y gallwn ni atal ein cymunedau rhag dioddef yr hyn y mae'r cymunedau rydych chi'n cyfeirio atyn nhw wedi'i ddioddef yn y gorffennol, a sut gallwn ni fod yn fwy gwydn? Byddan nhw'n gallu edrych ar yr holl ddarnau gwahanol o'r adolygiadau yr ydym wedi bod yn eu gwneud.

Does dim un asiantaeth sy'n mynd i allu gwneud hynny. Mae'n hynod gymhleth, ac yn sgil ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, rydyn ni wedi etifeddu nifer o bethau ar lefel Llywodraeth Cymru y gellid mynd i'r afael â nhw'n well yn rhywle arall, fwy na thebyg. Yn sicr, mae angen rhywfaint o waith rhanbarthol gan yr awdurdodau lleol, oherwydd fel y dywedwch yn iawn, mae yna faterion trawsffiniol ac yn y blaen. Yn sicr, mae problem sgiliau a gwydnwch yn y maes hwn, rydyn ni'n gwybod oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn chwilio yn yr un mannau am beirianwyr llifogydd a swyddogion cydnerthedd llifogydd. Felly, dydy gwneud y gorau o hynny ledled Cymru yn hytrach na bod pob un ohonom ni'n cystadlu â'n gilydd am staff cymwys ond anodd eu cael ddim yn ffordd dda ymlaen, chwaith. Byddwn ni'n sicr yn trafod yr holl bethau hynny.

Rydyn ni wedi gwneud nifer o bethau eraill, yn enwedig mewn ymateb i rai o'r pethau rydych chi wedi'u codi yn y Siambr, a dweud y gwir, o ran sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n well gyda grwpiau cymunedol. Mae gennym lawer iawn mwy o grwpiau cymunedol, rwy'n falch o ddweud, ers i ni drafod hyn ddiwethaf yn y Siambr, yn cael eu sefydlu fel rhan o'r pecyn. Mae gennym 27 o gymunedau erbyn hyn yng nghymoedd y de sydd â grwpiau llifogydd cymunedol—mae hynny'n fwy nag yr oedd gennym o'r blaen. Mae'n rhaid i mi ddod o hyd i'r dudalen—erbyn hyn mae 37 wedi cael eu sefydlu yn y de, 13 yn y canolbarth a 24 yn y gogledd. Mae llawer mwy o gymunedau a allai eu sefydlu, ac rydym wedi rhoi'r adnoddau ar waith i'w helpu i wneud hynny. Mae gennym nifer o weithgareddau ymgysylltu cymunedol yn mynd rhagddynt, nid yn unig o ran llifogydd ond hefyd o ran ynni cymunedol a choedwigoedd cymunedol, pob math o bethau. Ac un o'r pethau yr oeddwn i'n sôn amdano wrth rai o'r bobl galluogi tai gwledig yr ydym yn eu cyflogi yn ddiweddar iawn yw eu dwyn ynghyd i gael math o fforwm cymunedau gwydn, a fyddai'n cynnwys llifogydd, wrth gwrs. Wel, addasu i'r newid hinsawdd, mewn gwirionedd—oherwydd mae'n ymwneud â mwy na llifogydd, mae'n ymwneud â sychder hefyd. Oherwydd mae'r cymunedau sy'n tueddu i ddioddef llifogydd yn y gaeaf yn tueddu wedyn i gael sychder yn yr haf. Felly, mae'n ymwneud â cheisio gweld y darlun llawn hwnnw, unwaith eto.

Rwy'n credu bod hwn yn faes cymhleth i edrych arno. Dydy'r ddeddfwriaeth ddim yn addas i'r diben. Rydyn ni'n gwybod hyn ers peth amser. Mae'r adroddiadau adran 19, fel y mae'r Athro Evans yn ei ddweud yn iawn yn ei darn, wedi datblygu'n fath o arfer, mewn gwirionedd, oherwydd bod y ddeddfwriaeth sy'n sail iddo mor annigonol. Ond yn hytrach nag ymateb difeddwl i newid y ddeddfwriaeth honno a thrwsio'r un darn bach hwnnw, yr hyn rydyn ni wedi gofyn amdano yw cyfres o adroddiadau ar—. Dechreuwch gyda dalen bapur wag, a dweud y gwir. Sut fyddech chi'n sefydlu hyn yng Nghymru? Sut ddylai edrych? Pwy ddylai fod yn gyfrifol am beth? Pwy fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw wneud y gwaith gwydnwch? Nid afonydd yn unig sydd dan sylw—rydych chi'n gwybod, gwelyau'r afon, neu'r ceuffosydd. Mae'n ymwneud â'r draenio a'r priffyrdd a'r systemau draenio cynaliadwy a'r adeiladau newydd. Yn wir, mae hyd yn oed yn gysylltiedig â'r problemau sydd gennym gyda ffosffadau, a'r dwr ffo. Felly, mae'n set eithaf cymhleth o bethau. Mae nifer o bethau'n mynd rhagddynt, sy'n edrych ar y darnau unigol o hynny, ac yna rwy'n disgwyl i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol, fel rhan o'r gwaith rydym wedi eu comisiynu i'w wneud ar y cyd, dynnu hynny at ei gilydd fel un set o argymhellion i ni, ac yna bydd gennym raglen gydlynol y gallwn fwrw ymlaen i edrych arni.

Eu lle nhw yw penderfynu ar hynny i gyd, ond byddwn i'n disgwyl i hynny gynnwys yr hyn rwyf newydd ei nodi: mwy o weithio rhanbarthol, cronni sgiliau'n well, dealltwriaeth well a llawer symlach o'r hyn y dylai pob awdurdod lleol ei wneud, yr hyn y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud a'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud, ac a ddylai'r corff newydd yr ydym yn gobeithio ei sefydlu drwy'r broses diogelwch tomenni glo gael ei oruchwylio mewn unrhyw ffordd, neu a ddylai'r bobl llywodraethu amgylcheddol yr ydym yn mynd i'w sefydlu wneud hynny. Wyddoch chi, mae set gymhleth o bethau rydyn ni'n eu gwneud yma, ac yn hytrach nag ychwanegu mwy a mwy o asiantaethau, rydyn ni'n ceisio gwneud y defnydd gorau o'r asiantaethau sydd gennym eisoes, fel bod gan y Mr a Mrs Jones yn ein cymunedau broses ddealladwy y gallan nhw fwydo i mewn iddi yn y pen draw. Dyna hoffwn i ei weld ac rwy'n gwybod mai dyna yr hoffech chi ei weld hefyd. Yn y cyfamser, os ydyn nhw am ysgrifennu at Martin Buckle yn y pwyllgor, yna, yn amlwg, nhw yw'r rhai sy'n bwrw ymlaen â'r adolygiad cyfredol. Felly, gallwch chi anfon unrhyw beth dydych chi ddim yn meddwl ei fod wedi'i gynnwys yn hyn.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Llafur 4:06, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw ac am y gwaith y mae'r Athro Elwen Evans CB wedi'i wneud ar y maes polisi hollbwysig hwn.

Rwy'n croesawu'r argymhelliad y dylid unioni'r ffordd yr ymdrinnir ag adroddiadau sy'n ymchwilio i lifogydd ar draws ein hawdurdodau lleol. Rwy'n credu y dylai hyn arwain at fwy o gysondeb o ran y sylfaen dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chasglu i gynorthwyo gyda'i gwaith ei hun i liniaru effaith llifogydd, yn ogystal â mwy o dryloywder i drigolion yng Nghymru sy'n byw mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd neu y mae llifogydd yn effeithio arnyn nhw, sydd, fel y gwn y byddwch chi'n ei ddeall, yn sefyllfa frawychus i'r bobl hynny fyw ynddi.

Gweinidog, mae gen i un cwestiwn i chi heddiw ac mae hyn yn arbennig ar ran fy etholwyr yng Nghae Felin Parc yn Hirwaun a Clydach Terrace yn Ynysybwl. Wrth i chi a'ch swyddogion fynd ati i ystyried yr argymhellion a gyflwynwyd gan Elwen Evans ochr yn ochr â'r adolygiadau eraill hynny rydych chi hefyd wedi'u crybwyll a cheisio rhoi'r holl argymhellion hynny ar waith, sut fyddwch chi'n cydbwyso'r angen i arbenigwyr gael yr amser i ddarparu sylfaen dystiolaeth drylwyr ar gyfer unrhyw ymyriadau, unrhyw fesurau lliniaru llifogydd sy'n cael eu rhoi ar waith yn yr ardaloedd hyn sydd mewn perygl, ochr yn ochr â'r angen i gymryd camau gweithredu cyflym ac ymarferol i ddiogelu bywydau, cartrefi a bywoliaeth pobl yn wyneb mwy o dywydd eithafol a gaiff ei achosi gan y newid yn yr hinsawdd sy'n mynd yn rhemp?

Photo of Julie James Julie James Llafur 4:07, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Vikki. Mae'n gwestiwn da iawn ac roedd hi'n dda iawn cael y cyfarfod gyda chi am y materion penodol a godwyd yn eich etholaeth. Ac mae hynny'n un diddorol iawn, on'd yw e, oherwydd mae'r math hwnnw o bryder am fflach-lifogydd sydd gennym ni yn un anodd iawn i fynd i'r afael ag ef. 

Mae angen cydbwysedd o ran y gwaith sydd ei angen i ddeall pa gynllun allai weithio a pha mor hir mae hwnnw'n ei gymryd—ac rwy'n gwybod ei fod yn rhwystredig pa mor hir y mae'n ei gymryd—ac unrhyw fesurau lliniaru uniongyrchol a allai fod yn bosibl. Ac wedyn, mae'r holl beth gwerth am arian yma yn erbyn—. Wyddoch chi, os oes gennych chi saith tŷ ond mae'r cynllun yn ddrud iawn. Ond dyma fywyd a chymuned rhywun y maen nhw'n ceisio'u diogelu. Felly, mae ceisio cael y cydbwysedd anodd yn iawn rhwng yr hyn fydd yn gweithio a'r hyn fydd yn rhoi gwydnwch a'r gallu i addasu a'r hyn fydd, a bod yn onest, yn rhoi tawelwch meddwl i gymunedau a'r hyn y gallwn ni ei wneud wrth symud ymlaen i ddeall a oes risg barhaus neu a ellir symud y risg honno yn rhan fawr iawn o'r gwaith yr ydym yn ei wneud. Fel y gwyddoch, weithiau nid dim ond y seilwaith o'i gwmpas ydyw, ond natur y dyffryn rydych chi'n byw ynddo a'r math o lifogydd rydyn ni'n edrych arnyn nhw.

Felly, yr ateb i'ch cwestiwn yw ein bod ni'n gobeithio y byddwn ni'n gallu cael system ddealladwy ar waith y mae tryloywder yn ganolog iddi fel bod pobl yn deall pa asiantaeth sy'n gwneud beth mewn perthynas â'r llifogydd, beth mae'n bosibl ei wneud, beth nad yw'n bosibl ei wneud, ac felly beth yw'r prognosis ar gyfer y gymuned honno. Yn anffodus, dydw i ddim yn gallu addo amddiffyn pob tŷ yng Nghymru rhag llifogydd—dydy hynny ddim yn bosibl—ond byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod gennym gymaint o addasiadau â phosibl a chymaint o gymorth â phosibl i bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny i wneud yn siŵr eu bod yn gallu byw bywydau iach a chynhyrchiol heb ofn llifogydd, yr wyf yn ei ddeall yn llwyr. Rwyf wedi cwrdd â nifer fawr o bobl, yn enwedig plant, sydd wir yn ofni llifogydd unwaith y byddan nhw wedi profi hynny.

Rwyf am ddefnyddio'r cyfle hwn hefyd i dynnu sylw at brosiect yswiriant llifogydd cenedlaethol hefyd, er mwyn sicrhau bod pobl wedi ceisio cael mynediad i hwnnw, oherwydd un o'r materion eraill yw adfer ar ôl llifogydd a'r hyn y gallwn ni ei wneud i helpu hynny. Rwy'n gweld bod Llywodraeth Lloegr wedi rhoi cynllun bach ar waith sy'n debyg i'n cynllun ni, oherwydd weithiau dydy'r cynlluniau cyfalaf mawr ddim yn gweithio ar lefel cymunedau unigol, ac rwy'n falch eich bod chi wedi tynnu fy sylw at hynny yn y cyfarfod diwethaf a gawsom.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad heddiw a gwaith yr Athro Evans yn y maes hwn. Ni wnaethom ddioddef y dinistr eang a wnaeth rhai cymunedau ychydig flynyddoedd yn ôl, ond yr hyn a gawsom oedd llifogydd lleol oherwydd y digwyddiadau tywydd trawmatig hynny. Yn y cymunedau clasurol hynny yn y Cymoedd yr ydych wedi'u disgrifio, roedd gennym ddŵr ffo cyflym, yn rhannol oherwydd y ffordd y cafodd strydoedd eu cynllunio, yn rhannol oherwydd draeniau wedi blocio a chydgysylltu, yn union fel rydych chi wedi'i ddisgrifio. Ond yr wyf yn eich annog, yn gyntaf oll, gadewch i ni ddeddfu, ond dim ond pan fo gwir angen. Gadewch i ni archwilio'r pwerau sydd gennym ar hyn o bryd, ac a wnaethom ni ddefnyddio a gweithredu'r pwerau hynny'n iawn. Yn ail, gadewch i ni beidio â chyflwyno mwy o gyrff ychwanegol, er fy mod i'n cefnogi fforymau llifogydd gwirfoddol sy'n dod at ei gilydd i helpu pobl ar lawr gwlad yn lleol. Ond gadewch i ni beidio â chyflwyno rhai cyrff cenedlaethol arbennig newydd i guddio y tu ôl i'r stwff yma; gadewch i ni symud ymlaen. A dyna fy mhrif bwynt, Gweinidog: beth allwn ni fwrw ymlaen ag ef nawr, gweithredu ar lefel awdurdod lleol nawr gyda phartneriaid lleol yn yr ardaloedd hyn lle ceir fflach-lifogydd lleol? Beth allwn ni ei wneud nawr? Oherwydd dyna beth mae fy etholwyr yn Llangeinwyr, Heol-y-cyw, Garth a mannau eraill sydd wedi dioddef llifogydd dinistriol mewn ardaloedd lleol eisiau gwybod: a allwn ni wneud pethau iddyn nhw nawr?

Photo of Julie James Julie James Llafur 4:11, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Huw. Rydym yn ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru a'r awdurdodau lleol i gymryd rhan yn y math hwn o weithgaredd, fel yr oeddwn i'n ei ddweud wrth Heledd, drwy gydol y flwyddyn. Ar wefan newydd CNC mae rhywbeth o'r enw 'Beth i'w wneud cyn, yn ystod neu ar ôl llifogydd'—sy'n eithaf syml, mae ar gael ar y wefan. Mae CNC yn cynnal digwyddiadau cymorth y rhwydwaith gwirfoddol ledled Cymru ac yn cynghori grwpiau cymunedol ar gwblhau a phrofi cynlluniau llifogydd cymunedol. Mae gennym ddigwyddiadau gwirfoddol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o CNC, awdurdodau lleol, fforymau cydnerthedd lleol—dyna'r fforymau cydnerthedd sifil ehangach—y sector gwirfoddol, gan gynnwys y Groes Goch Brydeinig, yr oeddwn yn falch iawn o gyfarfod â nhw yn ddiweddar iawn ynghylch eu hadroddiad ar lifogydd, a'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol.

Eleni, rydym wedi rhoi £24.5 miliwn i CNC mewn cyllid refeniw, sydd £2 filiwn yn fwy na'r llynedd, i gynnal y rhwydwaith o asedau ledled Cymru a chefnogi'r gwaith o ymgysylltu â'r gymuned. Ceir cyngor a chymorth ynglŷn â sut i ymuno â grŵp llifogydd cymunedol a rhestr o sefydliadau sy'n darparu cymorth i grwpiau llifogydd, ac mae hynny hefyd ar y wefan. Fel yr oeddwn yn ei ddweud mewn ymateb i Heledd, mae 74 o gynlluniau llifogydd cymunedol ledled Cymru ar hyn o bryd, felly gallwn eich helpu, os nad oes un yn eich ardal chi, i sefydlu un. Fel y dywedais, os nad ydych wedi cwrdd â'r Groes Goch Brydeinig ychwaith, mae'n werth gwneud hynny.

Mae gennym hefyd gynllun ar raddfa fach ar waith yng Nghymru sydd bellach wedi cael ei gopïo gan Loegr. Mae dim ond ar gael yn Lloegr lle mae 10 neu fwy o eiddo wedi dioddef llifogydd ddwywaith neu fwy yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, felly mae ein un ni ychydig yn fwy hael na hwnnw. Gall y cynllun ar raddfa fach yng Nghymru ddiogelu cyn lleied â dau eiddo ac nid oes angen i eiddo fod wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur, felly mae ychydig yn fwy hael na hwnnw.

Rydym yn mabwysiadu'r hyn a elwir yn ddull graddedig o arfarnu cynlluniau, fel yr oeddwn yn ei ddweud wrth Vikki. Cefais sgwrs ddiddorol iawn â Vikki am ardal yn ei hetholaeth lle ceir problem benodol iawn ac mae'n ymwneud â cheisio dod o hyd i ateb pwrpasol. Ond cafodd CNC, yr awdurdod lleol a minnau ymgysylltiad da wrth geisio dod o hyd i hwnnw. Mae'n un o'r manteision yng Nghymru, onid ydyw—rydyn ni'n ddigon bach i allu canolbwyntio ar gymuned fach sydd â phroblem benodol iawn. Felly, rwy'n hapus iawn i wneud hynny os oes gennych gymuned benodol mewn golwg, Huw, fel bob amser, ac yna, fel y dywedais, eich helpu i gael rhywfaint o'r cymorth sydd ei angen i ffurfio un o'r grwpiau cymunedol hynny.