Part of the debate – Senedd Cymru am 4:01 pm ar 12 Medi 2023.
Diolch, Heledd. Fe wnaethoch chi nifer o bwyntiau pwysig iawn fanna. Rwy'n credu bod yr Athro Evans wedi bod yn glir iawn bod yr hyn y mae hi wedi edrych arno yn rhan o jig-so, a bod y jig-so yn gymhleth, a bod angen i ni gael pob rhan o'r jig-so yn iawn fel y gallwn ni—sori am y gyfatebiaeth—weld y darlun cyfan yn dod i'r amlwg. Mae gennym nifer o adolygiadau eraill yn mynd rhagddynt, ac mae un ohonyn nhw'n rhan bwysig iawn o'n cytundeb cydweithio, a dyna'r adolygiad cyffredinol y bydd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn edrych arno sef, yn gyffredinol, y ffordd y gallwn ni atal ein cymunedau rhag dioddef yr hyn y mae'r cymunedau rydych chi'n cyfeirio atyn nhw wedi'i ddioddef yn y gorffennol, a sut gallwn ni fod yn fwy gwydn? Byddan nhw'n gallu edrych ar yr holl ddarnau gwahanol o'r adolygiadau yr ydym wedi bod yn eu gwneud.
Does dim un asiantaeth sy'n mynd i allu gwneud hynny. Mae'n hynod gymhleth, ac yn sgil ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, rydyn ni wedi etifeddu nifer o bethau ar lefel Llywodraeth Cymru y gellid mynd i'r afael â nhw'n well yn rhywle arall, fwy na thebyg. Yn sicr, mae angen rhywfaint o waith rhanbarthol gan yr awdurdodau lleol, oherwydd fel y dywedwch yn iawn, mae yna faterion trawsffiniol ac yn y blaen. Yn sicr, mae problem sgiliau a gwydnwch yn y maes hwn, rydyn ni'n gwybod oherwydd mae Llywodraeth Cymru yn chwilio yn yr un mannau am beirianwyr llifogydd a swyddogion cydnerthedd llifogydd. Felly, dydy gwneud y gorau o hynny ledled Cymru yn hytrach na bod pob un ohonom ni'n cystadlu â'n gilydd am staff cymwys ond anodd eu cael ddim yn ffordd dda ymlaen, chwaith. Byddwn ni'n sicr yn trafod yr holl bethau hynny.
Rydyn ni wedi gwneud nifer o bethau eraill, yn enwedig mewn ymateb i rai o'r pethau rydych chi wedi'u codi yn y Siambr, a dweud y gwir, o ran sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio'n well gyda grwpiau cymunedol. Mae gennym lawer iawn mwy o grwpiau cymunedol, rwy'n falch o ddweud, ers i ni drafod hyn ddiwethaf yn y Siambr, yn cael eu sefydlu fel rhan o'r pecyn. Mae gennym 27 o gymunedau erbyn hyn yng nghymoedd y de sydd â grwpiau llifogydd cymunedol—mae hynny'n fwy nag yr oedd gennym o'r blaen. Mae'n rhaid i mi ddod o hyd i'r dudalen—erbyn hyn mae 37 wedi cael eu sefydlu yn y de, 13 yn y canolbarth a 24 yn y gogledd. Mae llawer mwy o gymunedau a allai eu sefydlu, ac rydym wedi rhoi'r adnoddau ar waith i'w helpu i wneud hynny. Mae gennym nifer o weithgareddau ymgysylltu cymunedol yn mynd rhagddynt, nid yn unig o ran llifogydd ond hefyd o ran ynni cymunedol a choedwigoedd cymunedol, pob math o bethau. Ac un o'r pethau yr oeddwn i'n sôn amdano wrth rai o'r bobl galluogi tai gwledig yr ydym yn eu cyflogi yn ddiweddar iawn yw eu dwyn ynghyd i gael math o fforwm cymunedau gwydn, a fyddai'n cynnwys llifogydd, wrth gwrs. Wel, addasu i'r newid hinsawdd, mewn gwirionedd—oherwydd mae'n ymwneud â mwy na llifogydd, mae'n ymwneud â sychder hefyd. Oherwydd mae'r cymunedau sy'n tueddu i ddioddef llifogydd yn y gaeaf yn tueddu wedyn i gael sychder yn yr haf. Felly, mae'n ymwneud â cheisio gweld y darlun llawn hwnnw, unwaith eto.
Rwy'n credu bod hwn yn faes cymhleth i edrych arno. Dydy'r ddeddfwriaeth ddim yn addas i'r diben. Rydyn ni'n gwybod hyn ers peth amser. Mae'r adroddiadau adran 19, fel y mae'r Athro Evans yn ei ddweud yn iawn yn ei darn, wedi datblygu'n fath o arfer, mewn gwirionedd, oherwydd bod y ddeddfwriaeth sy'n sail iddo mor annigonol. Ond yn hytrach nag ymateb difeddwl i newid y ddeddfwriaeth honno a thrwsio'r un darn bach hwnnw, yr hyn rydyn ni wedi gofyn amdano yw cyfres o adroddiadau ar—. Dechreuwch gyda dalen bapur wag, a dweud y gwir. Sut fyddech chi'n sefydlu hyn yng Nghymru? Sut ddylai edrych? Pwy ddylai fod yn gyfrifol am beth? Pwy fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw wneud y gwaith gwydnwch? Nid afonydd yn unig sydd dan sylw—rydych chi'n gwybod, gwelyau'r afon, neu'r ceuffosydd. Mae'n ymwneud â'r draenio a'r priffyrdd a'r systemau draenio cynaliadwy a'r adeiladau newydd. Yn wir, mae hyd yn oed yn gysylltiedig â'r problemau sydd gennym gyda ffosffadau, a'r dwr ffo. Felly, mae'n set eithaf cymhleth o bethau. Mae nifer o bethau'n mynd rhagddynt, sy'n edrych ar y darnau unigol o hynny, ac yna rwy'n disgwyl i'r comisiwn seilwaith cenedlaethol, fel rhan o'r gwaith rydym wedi eu comisiynu i'w wneud ar y cyd, dynnu hynny at ei gilydd fel un set o argymhellion i ni, ac yna bydd gennym raglen gydlynol y gallwn fwrw ymlaen i edrych arni.
Eu lle nhw yw penderfynu ar hynny i gyd, ond byddwn i'n disgwyl i hynny gynnwys yr hyn rwyf newydd ei nodi: mwy o weithio rhanbarthol, cronni sgiliau'n well, dealltwriaeth well a llawer symlach o'r hyn y dylai pob awdurdod lleol ei wneud, yr hyn y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud a'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud, ac a ddylai'r corff newydd yr ydym yn gobeithio ei sefydlu drwy'r broses diogelwch tomenni glo gael ei oruchwylio mewn unrhyw ffordd, neu a ddylai'r bobl llywodraethu amgylcheddol yr ydym yn mynd i'w sefydlu wneud hynny. Wyddoch chi, mae set gymhleth o bethau rydyn ni'n eu gwneud yma, ac yn hytrach nag ychwanegu mwy a mwy o asiantaethau, rydyn ni'n ceisio gwneud y defnydd gorau o'r asiantaethau sydd gennym eisoes, fel bod gan y Mr a Mrs Jones yn ein cymunedau broses ddealladwy y gallan nhw fwydo i mewn iddi yn y pen draw. Dyna hoffwn i ei weld ac rwy'n gwybod mai dyna yr hoffech chi ei weld hefyd. Yn y cyfamser, os ydyn nhw am ysgrifennu at Martin Buckle yn y pwyllgor, yna, yn amlwg, nhw yw'r rhai sy'n bwrw ymlaen â'r adolygiad cyfredol. Felly, gallwch chi anfon unrhyw beth dydych chi ddim yn meddwl ei fod wedi'i gynnwys yn hyn.