Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 12 Medi 2023.
Gweinidog, hoffwn achub ar y cyfle i groesawu'r adroddiad, a hoffwn ddiolch i'r Athro Elwen Evans CB am arwain y gwaith. Mae'r adolygiad hwn yn amlwg yn rhan hanfodol o'r cytundeb cydweithio. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa'r Senedd na'r Gweinidog bod Plaid Cymru yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd, o ystyried pa mor ddifrifol oedden nhw, ac rwy'n credu bod cwestiynau heb eu hateb. A bydd rhai o'r cymunedau rwy'n eu cynrychioli, ac Aelodau eraill yma, yn dal i ofyn ble mae'r atebion hynny, a sut ydyn ni'n sicrhau bod yr argymhellion yn adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd, o ran cael y sgwrs genedlaethol honno—ble rydyn ni arni?
Rwy'n deall o'ch datganiad, Gweinidog, fod nifer o bethau'n digwydd. Ond i'r cymunedau hynny sy'n gweld penawdau'r BBC eto heddiw sy'n dweud, 'Rhybudd tywydd am law trwm wrth i'r tywydd poeth ddod i ben, gallai achosi llifogydd', rydych chi'n gwybod am y gofid seicolegol; rydyn ni wedi siarad droeon am y gofid y mae'n ei achosi bob tro y bydd hi'n bwrw glaw yn drwm. Byddan nhw'n gofyn, 'Beth sydd wedi newid ers i mi ddioddef llifogydd ddiwethaf?' A fyddan nhw ddim wedi cael yr atebion roedden nhw'n chwilio amdanyn nhw yma, ac felly rwy'n credu bod hynny'n her i ni gyd, sut rydyn ni'n sicrhau bod cymunedau fydd yn cael eu gadael dan ddŵr eto, oherwydd, yn anffodus, fyddwn ni ddim yn gallu achub pob cartref a busnes—dyna'r realiti.
Rydych chi hefyd wedi amlinellu, o ran yr argyfwng hinsawdd yr ydym yn ei wynebu, mai dyna fydd y realiti i nifer o'n cymunedau, ac er bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod mwy o gartrefi a busnesau yn gallu cael eu hachub yn y dyfodol, bydd yn rhaid i eraill fyw gyda'r sefyllfa hon. Ac, fel y gwyddom, mewn llawer o gymunedau, gall pobl ddim symud allan o'r cymunedau hynny—does dim cartrefi eraill ar gael, gallan nhw ddim fforddio byw yn rhywle arall, ac yn y blaen. Felly, rwy'n credu mai'r hyn sydd ar goll yma, ar ddiwedd y dydd, yw'r cyswllt hwnnw â'r cymunedau hynny. Gall fod gennym ni'r holl strategaethau yn y byd, ond does ganddon ni ddim grwpiau gweithredu llifogydd ym mhob cymuned a does dim fforwm llifogydd yng Nghymru, er enghraifft. Er bod rhai o'r rhain yn cael eu nodi yn yr adroddiad a'r dystiolaeth a gyflwynwyd, dydw i ddim yn siŵr ein bod ni'n gliriach ynghylch sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r cymunedau hynny mewn gwirionedd tra bod y cynlluniau hyn yn cael eu rhoi ar waith.
Rwy'n falch o weld, yn dod allan, rhywbeth yr oedd llawer ohonom ni'n ei wybod. Fel yr oedd Janet Finch-Saunders yn sôn, mae llawer ohonom yn gwybod nad yw'r broses adran 19 yn gweithio, ac rwy'n credu mai un o'r pethau sy'n ddefnyddiol iawn o'r adolygiad hwn yw'r ffaith ei bod yn amlwg iawn bod angen iddi gael ei hailgynllunio. Mae angen i ni hefyd edrych ar atebolrwydd, oherwydd un o'r pethau sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd yw'r ffaith y gallai un afon orlifo, ac mae hynny'n fater o edrych ar bob adroddiad adran 19—[Torri ar draws.] Does dim ymyriadau mewn datganiad, mae'n ddrwg gennyf. Maen nhw i gyd yn adroddiadau adran 19 unigol. Mae'r un peth am ei fod yn croesi ffiniau awdurdodau lleol: gallech chi gael adroddiadau adran 19 gwahanol.
Un o'r pethau y byddwn i'n awyddus i'w weld yn digwydd yn sgil yr adolygiad, oherwydd ei fod yn amlinellu hyn, yw sut rydyn ni'n mynd i roi system ar waith sy'n caniatáu i ni ddysgu gwersi, oherwydd, a dweud y gwir, rydych chi wedi sôn am dempledi yn cael eu rhoi ar waith, ond yr hyn sydd ei angen arnom o adroddiadau adran 19, neu unrhyw adroddiad, yw dealltwriaeth o'r hyn sydd wedi digwydd ac a allai unrhyw beth fod wedi cael ei wneud yn wahanol. Rwy'n credu mai'r hyn nad yw'n dod drwodd o gwbl ar hyn o bryd yw ymateb awdurdodau lleol neu Cyfoeth Naturiol Cymru pan fydd llifogydd. Yr unig beth y mae'r adroddiadau hyn i gyd yn edrych arno yw pam y gwnaeth llifogydd ddigwydd ac unrhyw gamau lliniaru a gymerwyd wedyn, ond dydyn ni ddim yn cael y ddealltwriaeth ddofn honno o bethau fel a yw draeniau wedi cael eu gadael heb eu cynnal, a oes unrhyw beth fel ceuffosydd sydd heb eu cynnal, ac ati, neu a fu camgymeriad dynol neu a oes diffyg adnoddau efallai o ran awdurdodau lleol. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei gredu, o ystyried faint mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ei fuddsoddiad ers y llifogydd dinistriol a welsom, efallai fod cynnal a chadw yn rhywbeth a oedd o ganlyniad i gyni.
Rydym hefyd yn gweld mai un o'r heriau ledled Cymru yw'r diffyg arbenigedd—bod rhai awdurdodau lleol yn methu â denu staff sydd â'r arbenigedd hwnnw. Felly, a ydych chi wedi ystyried, yn dilyn adroddiad defnyddiol iawn Elwen Evans, y prosesau adran 19 hynny, hynny yw pwy ddylai fod yn gyfrifol am ymchwilio i lifogydd? A oes elfen o allu gweithio ledled Cymru i sicrhau ein bod ni yn dysgu'r gwersi gwirioneddol hynny?
Rwy'n credu mai un o'r pethau rydych chi wedi sôn amdano hefyd yw'r ffaith bod llawer o waith yn cael ei wneud, ac mae Elwen Evans yn dweud bod modd anfon sylwadau pellach mewn perthynas â'i hadroddiad at y rhai sy'n edrych ar hyn. Ond beth fyddai'ch cyngor chi i'r cymunedau hynny nawr sydd wedi dioddef llifogydd, ac sy'n parhau i fod mewn perygl, o ran sut y gallan nhw ddod o hyd i unrhyw gysur o'r hyn sydd wedi'i ddarganfod, a beth fydd yn newid, a hefyd efallai ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru ar sut y gallwn ni weithio gyda nhw a gweithredu ar adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, yn enwedig yr hyn a grybwyllir ynghylch dim digon o staff, a methu ymdopi? Ac os ydym yn mynd i weld y digwyddiadau hyn yn aml, sut gallwn ni weithio mwy mewn partneriaeth a sicrhau llais i'n cymunedau yn hyn i gyd, nid dim ond tasgluoedd gwahanol?