Part of the debate – Senedd Cymru am 3:49 pm ar 12 Medi 2023.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr hyn sydd, serch hynny, yn adroddiad yr ydym wedi bod yn disgwyl yn hir amdano ar yr adolygiadau o adroddiadau adran 19 ar lifogydd 2021—2020-21. Hefyd, rhaid i ni beidio ag anghofio, cyn hyn—. Rwyf wedi codi, sawl gwaith yn y Siambr yma, bryderon, oherwydd, wrth gwrs, yn Aberconwy fe welsom ni lifogydd yn 2016 a 2018, ac rydyn ni hyd yn oed wedi cwestiynu rhinweddau adroddiadau adran 19.