Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 12 Medi 2023.
Yn ystod llifogydd trasig y blynyddoedd a grybwyllwyd, gadawyd 3,130 o gartrefi ledled Cymru dan ddŵr. Amharwyd ar fywydau 3,130 o deuluoedd. Roedd hi'n aeaf digynsail—neu felly roeddem ni'n ei meddwl—am stormydd a llifogydd, ac mae wedi arwain at angen dybryd i weithredu o ddifrif, a hynny ar fyrder. Cafodd galwadau eu gwneud o'r meinciau hyn ar y pryd, yn ystod 2021, i gynnal adolygiad trylwyr o waith rheoli llifogydd ac adroddiadau adran 19, a'r angen am ddiwygiadau ar unwaith. Felly, wrth gwrs, rydyn ni'n croesawu'r adolygiad o adroddiadau adran 19, o ystyried ei fod mor hwyr, ac rydym wedi gofyn a gofyn a gofyn amdano. Roeddem ni'n aros am yr adroddiad hwn gyda disgwyliadau mawr, gan obeithio y byddai'n cynnig ffordd ymlaen ar gyfer digwyddiadau llifogydd eithafol. Ers 2020, rydyn ni wedi bod yn tynnu sylw'r Senedd at dystiolaeth sy'n dangos bod adroddiadau adran 19 yn cymryd llawer gormod o amser i'w cynhyrchu a'u cyhoeddi, ac a dweud y gwir, mewn rhai awdurdodau lleol, byddwn i'n dweud nad oes llawer o awydd wedi bod i'w gwneud nhw.
Bron i dair blynedd yn ôl i'r diwrnod—dair blynedd yn ôl i'r diwrnod—ar 16 Medi 2020, fe dynnais i sylw at y ffaith ei bod yn cymryd llawer gormod o amser i adroddiadau adran 19 gael eu cyflwyno, gan ddefnyddio enghraifft o adroddiad o Fetws-y-Coed a Dolwyddelan a gymerodd fwy na chwe mis. Roeddwn i'n meddwl bod hynny'n wael. Mae cyhoeddi'r adroddiad penodol hwn yn cadarnhau nawr bod 43 o adroddiadau adran 19 wedi'u cwblhau, ond does dim bwriad iddyn nhw gael eu cyhoeddi. Mae wyth adroddiad yn dal i aros i gael eu cymeradwyo. Ac yn fwy pryderus, mae 34 o adroddiadau yn mynd rhagddynt o hyd. Rydyn ni nawr ym mis Medi 2023; cytundeb yn y weinyddiaeth flaenorol oedd hwn. Felly, Gweinidog, rwy'n credu bod angen ateb llawer o gwestiynau yma.
Felly, mae'r data hwn nawr o fis Ebrill 2023, ddwy flynedd ar ôl y llifogydd sy'n destun ymchwiliad. Mae'r rhain yn adroddiadau i'r llifogydd hynny a ddinistriodd gartrefi, bywoliaeth a bywydau, ac mae'r ffaith bod dros 50 y cant naill ai heb eu cyhoeddi, heb eu gorffen neu'n aros i gael eu cymeradwyo yn warthus. Ac ymatebion gwan Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i'r adroddiad sy'n gyfrifol am hyn i gyd. Rydym yn gwybod nawr bod hyn i gyd, yr adroddiadau adran 19, yr adolygiad gwirioneddol o adroddiadau adran 19, yn wastraff costus o arian ac amser trethdalwyr, ar adeg pan fydden ni'n wynebu argyfwng llifogydd yng Nghymru.
Tynnodd datganiad y Gweinidog eleni, ar 31 Awst 2023, sylw at fuddsoddiad cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n methu'r pwynt yn llwyr. Mae'n nodi bod angen cyd-destun adolygiadau neu adroddiadau eraill sy'n mynd rhagddynt, felly, does dim byd bron yn mynd i ddigwydd ar unwaith. Er fy mod i'n croesawu'r gwaith ar fesur 21, y gwir amdani yw bod y gwaith hwnnw'n cael ei wneud yn barod, dydy e ddim wedi cael ei sbarduno gan yr adroddiad penodol hwn. Mae'r adroddiad yn gofyn am dri chanlyniad: adolygiad o ddeddfwriaeth ehangach ar berygl llifogydd yng Nghymru; ymagwedd Cymru gyfan at adroddiadau adran 19; cydgysylltu ledled Cymru rhwng awdurdodau rheoli risg, a sefydlu arweinydd i adolygu cynnydd a rhannu materion cyffredin. Roeddem ni'n gofyn am hyn yn 2021.
Ar 20 Medi 2021, fe wnaethom ni, fel grŵp, gynnig y Bil Llifogydd (Cymru). Yn y cynnig hwn, fe amlinellais i sail gyfreithiol dros sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol, un corff a fyddai'n mynd i'r afael â llifogydd ac yn gosod terfynau amser statudol ar gyhoeddi adroddiadau adran 19. Felly, Gweinidog, a wnewch chi sefydlu asiantaeth llifogydd genedlaethol i Gymru, fel bod yna arweinydd y mae'r adroddiad yn gofyn amdano? A wnewch chi nodi yn y gyfraith strwythurau a therfynau amser statudol ar gyfer adroddiadau adran 19? Ac a wnewch chi gyflwyno Bil Llifogydd (Cymru), fel bod y Senedd hon yn gallu dechrau'r broses o gryfhau deddfwriaeth i Gymru?
Dydy hi ddim yn ddigon da sefyll o'r neilltu ac aros i'r gaeaf ddod a gweld yr holl lifogydd sy'n dod gyda hynny. Rydyn ni hyd yn oed yn gweld llifogydd yn ystod yr haf nawr. Rydyn ni'n wynebu argyfwng, Gweinidog. Mae'n effeithio arnom ni yn Aberconwy, fy nghydweithiwr yng Ngorllewin Clwyd, a llawer o'r Aelodau sy'n gwasanaethu yma, bydd llifogydd wedi effeithio ar eu hetholaethau nhw. Dydy hi ddim yn deg i'r perchnogion tai hyn, a byddwn yn gofyn ein bod ni nawr yn cymryd ymagwedd llawer mwy rhagweithiol at lifogydd nag yr wyf wedi'i gweld ers i mi fod yma. Diolch.