3. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad Addysg ar RAAC

– Senedd Cymru am 3:02 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:02, 12 Medi 2023

Eitem 3 yw datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, diweddariad addysg ar RAAC. Galwaf ar y Gweinidog, Jeremy Miles.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y defnydd o goncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth, neu RAAC, mewn ysgolion, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyhoeddi canllawiau newydd ar RAAC mewn lleoliadau addysg yn annisgwyl ddiwedd Awst. 

Mae RAAC yn ddeunydd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu nifer o adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au ledled y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraethau'r Deyrnas Unedig wedi bod yn ymwybodol o rai o wendidau RAAC ers y 1990au ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 wrth reoli RAAC. Tan yn ddiweddar iawn, mae pob Llywodraeth wedi ystyried bod y canllawiau ar gyfer rheoli RAAC mewn adeiladau yn ddull cadarn ar gyfer rheoli RAAC, ac o ran sicrhau bod diogelwch y rhai sy’n defnyddio’r adeiladau yn cael blaenoriaeth bob amser. 

Fel y dywedais yn fy natganiad ar 4 Medi, cafodd awdurdodau lleol Cymru wybod am gyfyngiadau strwythurol cynhenid RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Chwefror 2020, yn dilyn hysbysiad diogelwch a gyhoeddwyd yn 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol. Mae dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i asesu cyflwr adeiladau ac unrhyw risgiau diogelwch, gan gynnwys uniondeb strwythurol pob adeilad o fewn ei ystâd, ac i gadw cofnodion. Gofynnwyd am fanylion unrhyw achos neu ymwybyddiaeth o RAAC fel rhan o’r ymarfer casglu data addysg blynyddol. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwblhau adolygiad o’u hystâd ysgolion ac mae’r adolygiad hwnnw ar y gweill mewn awdurdodau eraill.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:04, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

O ganlyniad i'r newid annisgwyl gan Lywodraeth y DU i'w profiadau o RAAC mewn adeiladau yn Lloegr ac yng ngoleuni canllawiau RAAC ar sail tystiolaeth sydd newydd eu darparu, fe fuom ni'n gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol i adolygu ystadau eu hysgolion nhw i nodi unrhyw fannau y mae amheuaeth eu bod nhw'n cynnwys RAAC. Ar ddydd Llun 4 o fis Medi, cadarnhawyd y byddai dwy ysgol yn Ynys Môn, sydd ag RAAC yn bresennol yn eu hadeiladau nhw, yn cau dros dro ar gyfer cynnal archwiliadau diogelwch pellach. Yn gwbl briodol, a chyda'r wybodaeth a oedd ar gael bryd hynny, hwn oedd y penderfyniad priodol i'w wneud gan Gyngor Ynys Môn. Rwy'n falch o ddweud, yn dilyn rheolaeth ragweithiol gan y ddau bennaeth, fod Ysgol David Hughes wedi ailagor heddiw ac yn ddiogel i bob dysgwr.

Yn ogystal â hynny, rwy'n falch o roi gwybod i chi, o'r 7 o fis Medi, bod Ysgol Uwchradd Caergybi wedi darparu gwersi ar-lein i ddysgwyr, ac o 11 o fis Medi fe lwyddodd i agor yn rhannol ar gyfer disgyblion â gwersi wyneb yn wyneb ar gyfer pedwar grŵp blwyddyn ysgol, gyda thri grŵp blwyddyn ysgol yn cael addysg ar-lein. Mae'r trefniant hwn yn newid bob dydd i sicrhau y bydd pob grŵp blwyddyn yn cael yr un cydbwysedd rhwng addysg wyneb yn wyneb ac addysg ar-lein.

Mae'r Aelodau yn gwybod am y rhaglen eang sydd gan Gymru i adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a llwyr adnewyddu'r rhai y mae'r angen mwyaf i wneud hynny yno am resymau o ran diogelwch ac ansawdd. Mae ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ni'n darparu'r rhaglen newydd adeiladu ysgolion ac addysg bellach fwyaf yng Nghymru ers y 1960au i fynd i'r afael ag ystadau sy'n heneiddio. Cymaint yw'r ymrwymiad i wella'r cyfleusterau ar gyfer ein dysgwyr ni, fe gynyddodd Llywodraeth Cymru gyfradd y cyllid cyfalaf sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy hyd at £300 miliwn bob blwyddyn ar gyfer y cyfnod 2022-23 i 2024-25, sy'n golygu cynnydd o 33 y cant o'i gymharu â gwaelodlin 2021-22. Hyd yn hyn, anelwyd dros £2.35 biliwn at brosiectau i adeiladu o'r newydd a chynnal gwaith adfer sylweddol.

O'r 1,463 o ysgolion a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru, fe fanteisiodd mwy na 140 o ysgolion ar y buddsoddiad hwn yn ystod cylch cyntaf y buddsoddiadau, ac mae 200 o ysgolion a cholegau yn elwa ar y cylch cyfredol. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £203 miliwn mewn cyfalaf cynnal a chadw dros y pedair blynedd diwethaf, yn golygu bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi gallu mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gynnal a chadw i'w hysgolion a'u colegau. Cydnabyddir bod gwaith cynnal a chadw arfaethedig mewn adeiladau ysgolion a cholegau yn gyffredinol a mynd i'r afael â dŵr yn gollwng yn arbennig felly yn elfen allweddol o ran cynnal cyfanrwydd strwythurol adeiladau RAAC. Mae'r cyllid a ddarparwyd wedi galluogi awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i gael ymwared ar asbestos mewn ysgolion a cholegau hefyd, sydd wedi cynorthwyo gallu mynd at y RAAC i'w nodi a'i asesu.   

Hyd yn hyn, Dirprwy Lywydd, ni chafwyd unrhyw hysbysiadau pellach gan unrhyw awdurdod lleol ynghylch presenoldeb, nac amheuaeth o bresenoldeb, RAAC mewn ysgolion yng Nghymru. Ddydd Gwener diwethaf, fe gyhoeddais i sefyllfa ddiweddaraf pob awdurdod lleol wrth i'r gwaith asesu fynd rhagddo, ac rwy'n disgwyl cael dealltwriaeth fwy cyflawn erbyn 15 o fis Medi. Yn y cyfamser, fe fyddwn ni'n parhau i weithio ar gyflymder i gael gwybodaeth newydd a roddir gan yr Adran Addysg ac ymateb yn gyflym i unrhyw ganfyddiadau sy'n deillio o waith adolygu'r awdurdodau lleol, gan gynnwys unrhyw fesurau angenrheidiol o ran diogelwch sy'n deillio o'r gwaith hwnnw. Mae hyn yn cynnwys parhau i gefnogi awdurdodau lleol mewn unrhyw achosion a allai fod ag angen cyngor strwythurol arbenigol.

Rydym ni'n gweithio yn agos gyda CholegauCymru hefyd i sicrhau y bydd gennym ni ddarlun cyflawn o effaith RAAC yn y sector hwnnw. Cynhelir asesiadau rhagarweiniol o'r ystâd gyfan ac mae cyfarwyddwyr ystadau addysg bellach yn gweithio i gwblhau asesiadau i roi darlun mwy diweddar erbyn y pymthegfed o'r mis hwn yn unol â'r ysgolion.  

Yn olaf, rydym ni'n gweithio yn agos gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Phrifysgolion Cymru i gael darlun cyflawn o effaith RAAC yn y sector addysg uwch. Y prifysgolion a fydd yn gwneud eu hasesiadau eu hunain, gan weithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau'r Brifysgol, sy'n cynnal arolwg o sefydliadau.

Fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n gweithio yn y sector addysg a'r awdurdodau lleol sydd wedi bod yn gweithio yn ddiflino yng ngoleuni'r datblygiadau hyn. Fe wn i hefyd y bydd llawer o rieni, gofalwyr a staff wedi bod yn gofidio. Fe hoffwn eich sicrhau chi mai ein blaenoriaeth ni bob amser fydd sicrhau diogelwch dysgwyr a staff a chynnal addysg ein plant a'n pobl ifanc.

Photo of Laura Anne Jones Laura Anne Jones Ceidwadwyr 3:09, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich datganiad chi heddiw, Gweinidog. Roedd hi'n bwysig i'r Aelodau i gyd, a'r cyhoedd, wrth gwrs, gael gwybod y cyfan, felly rydym ni'n gwerthfawrogi eich datganiad chi heddiw. Ar ôl siarad â chi yn ystod yr haf, rwy'n gwybod pa mor bryderus yr ydych chi wedi bod ynglŷn â hyn i gyd, fel rydym ni i gyd, wrth gwrs. Mae hwn yn bryder mawr i rieni, arweinwyr yr ysgolion, pobl ifanc a chymunedau ledled Cymru. Felly, rwyf i ychydig yn ddryslyd ynglŷn â pham nad ydych chi'n gweithredu yn gynt yn hyn o beth, yn enwedig pan fo'n effeithio ar addysg ein dysgwyr ni ledled Cymru. Mae hi'n amlwg, unwaith eto, fod Llywodraeth Cymru yn llusgo ei thraed ac ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU yn y cyswllt hwn.

Gweinidog, rydych chi'n dweud bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau newydd yn annisgwyl, ac eto roedd y Llywodraeth hon yn gwybod am faint y difrod a achoswyd gan RAAC yn 2019 yn Ysbyty Llwynhelyg ac yn Ysbyty Bronglais—flynyddoedd yn ôl—yn ogystal â gwybod i RAAC gael ei nodi yn ysgolion Ynys Môn yn yr un flwyddyn. Mae hi'n wir nad oedd y canllawiau ledled y DU wedi newid hyd yn ddiweddar, ond roeddech chi'n gwybod am ddiffygion RAAC ers 2019 a chyn hynny, efallai. Pam nad oeddech chi'n credu ei bod hi'n angenrheidiol cymryd mwy o gamau bryd hynny? Rwy'n rhyfeddu nad oeddech chi'n credu bod angen gwneud hynny, ar sail y dystiolaeth yn yr ysbytai hyn yng Nghymru, i ymchwilio i adeiladau cyhoeddus eraill, gan gynnwys ysgolion a adeiladwyd yn ystod yr un cyfnod. Efallai y byddai hi wedi bod yn fuddiol, felly, bod â datganiad mwy cyffredinol heddiw yn hynny o beth, fel mae llawer o Aelodau ar draws y Siambr newydd ei ofyn amdano.

Mae Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio dodi'r bai ar Lywodraeth y DU am beidio â rhoi gwybod iddyn nhw'n gynt am y dystiolaeth a welson nhw, ond rwy'n eich holi chi heddiw ynglŷn â'r hyn yr oeddech chi'n ei wybod a'r hyn yr ydych chi'n ei wybod am y materion hyn a ddatganolwyd. Fe gafodd hyn ei ddatganoli; cafodd ystadau addysgol ac ystadau iechyd eu datganoli. Roedd y canllawiau hyn ledled y DU. Roedd y wybodaeth a oedd gennych chi eisoes am yr adeiladau hyn yng Nghymru yn ddatganoledig. Yr hyn sy'n amlwg yw bod Llywodraeth Cymru wedi methu, yn amlwg, â monitro cyflwr y seilwaith yng Nghymru yn ddigonol, a hynny er gwaethaf i hwn gael ei ddatganoli, ac er iddi fod yn hysbys mai yng Nghymru mae'r seilwaith a'r stoc dai hynaf a mwyaf simsan yn y DU. Unwaith eto, rydych chi'n ceisio dodi'r bai ar rywun arall pryd bynnag y gallwch chi. Fe ddylai eich Llywodraeth chi fod yn dilyn dull cyflym a phendant Llywodraeth y DU. Nid ydyn nhw wedi gwastraffu unrhyw amser i benodi gweithiwr achos penodol ar gyfer yr ysgolion yr effeithir arnyn nhw. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw eisoes am wefan sy'n helpu i wella cyfathrebu i fyfyrwyr a rhieni ac sy'n cynnig sicrwydd yn hyn o beth.

Gweinidog, oherwydd yr angen am welliant yn y cyfathrebu ynglŷn â hyn i gyd—ac unwaith eto, mae eich datganiad chi heddiw o gymorth gyda hynny—a yw gweithiwr achos pwrpasol ac efallai gwefan neu rywbeth tebyg yn bethau y byddech chi'n eu hystyried yng Nghymru, ac a wnewch chi gadarnhau a ydych chi o'r farn y byddai hynny'n addas heddiw? Gweinidog, mae angen atebion ac amserlenni ar rieni, ysgolion ac, yn bwysicaf i gyd, y disgyblion oddi wrth Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r union amser y disgwylir i'r materion hyn gael eu datrys, felly sut ydych chi am liniaru'r argyfwng sy'n deillio o gau llawer o ysgolion, a sut bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei ariannu, wrth gwrs. Rydym ni eisoes wedi gweld effaith y pandemig ar ba mor niweidiol y gall colli amser o'r ysgol fod, ac fe fydd yna sgil-effeithiau oherwydd materion presenoldeb mewn ysgolion ar hyn o bryd.

Gweinidog, pan, gyda gobaith, fydd gennym ni wybodaeth fwy cynhwysfawr am yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad yn ein hawdurdodau lleol ni ddydd Gwener, yn hytrach na chyhoeddiad annelwig fel gwnaethoch chi ddydd Gwener diwethaf, mae angen i ni wybod sut y byddwch yn cyfyngu ar y tarfu a fydd ar ddysgwyr ac o ble y bydd yr arian yn dod i atgyweirio. Fe allech chi ddweud, 'Llywodraeth y DU', ond fe wyddom ni ein dau fod Llywodraeth Cymru wedi elwa ar adeiladau yn cael eu rhoi yn ei dwylo hi gyda datganoli, felly mae angen i Lywodraeth Cymru roi cynllun i ni cyn gynted â phosibl ynghylch sut y bydden nhw—os mai eu cyfrifoldeb nhw ydyw hwn—yn cywiro'r problemau, ac o ble byddai'r arian hwnnw'n dod mewn gwirionedd. Diolch i chi.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:12, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Aelod am yr amrywiaeth yna o gwestiynau. Fe atebwyd llawer ohonyn nhw, wrth gwrs, yn y datganiad a roddais i ac efallai nad oedd yr Aelod wedi gallu ei ddarllen, ond rwyf i am geisio ymgysylltu â'r pwyntiau allweddol a wnaeth hi.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig egluro rhai o'r camsyniadau yn ei chwestiynau hi. Nid oes newid wedi bod yn y canllawiau gan Sefydliad y Peirianwyr Adeiladu. Mae'r canllawiau wedi bod ar gael i Lywodraethau ym mhob rhan o'r DU ers nifer o flynyddoedd ac maen nhw wedi cael eu diweddaru o bryd i'w gilydd, ac mae'r rhai sydd â chyfrifoldeb ym mhob rhan o'r DU am reoli adeiladau cyhoeddus wedi gwneud hynny—roedd hi'n ofynnol iddyn nhw wneud hynny—yn unol â'r canllawiau hyn.

Yr hyn a ddigwyddodd yr wythnos cyn i'r tymor ddechrau yw y darparwyd gwybodaeth newydd, a oedd wedi achosi i Lywodraeth y DU, ddeuddydd cyn dechrau'r tymor, gyhoeddi ei safbwynt diwygiedig. Gwybodaeth oedd honno fel rwy'n deall a oedd wedi bod ar gael iddyn nhw ers peth amser, ond mater iddyn nhw ydyw hwnnw. Y rheswm pam roedd yr wybodaeth ar gael iddyn nhw ac nid i ni yw oherwydd bod yr wybodaeth yn adlewyrchu methiannau o ran adeiladau cyhoeddus yn Lloegr o fath nad ydyw'n bodoli yng Nghymru. Dyna pam roedd yr wybodaeth hon yn eu dwylo nhw ac nid yn ein dwylo ni.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud bod yr RAAC yn y ddwy ysgol yn Ynys Môn wedi cael ei ddarganfod o ganlyniad i arolwg ac fe'i rheolwyd yn unol â chanllawiau peirianneg arbenigol dros y cyfnod y mae'r ysgolion a'r awdurdod wedi bod yn ymwybodol ohono, sef yr hyn y byddem ni'n disgwyl iddo ddigwydd.

Mae'r amserlen ar gyfer hyn yn llawer hwy nag y mae hynny'n ymddangos o gwestiwn yr Aelod. Mae llywodraethau yn y DU wedi bod yn cydweithio yn hyn o beth, fel dywedais i yn fy natganiad, ers tua 2018. Mae'r broses wedi amrywio mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig. Er enghraifft, yn Lloegr—mae hi'n fy ngwahodd i ddwyn y gymhariaeth—fe anfonodd yr Adran Addysg holiaduron allan i benaethiaid ei hysgolion. Mae ganddi tua 24,000 o ysgolion, fel gwŷr yr Aelod. Mae honno'n broses wahanol iawn i'r broses sydd ar gael i ni yng Nghymru, oherwydd mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol yma y mae gennym ni berthynas gydweithredol glòs iawn â nhw, oherwydd rydym ni'n trafod gyda nhw'n wythnosol anghenion eu hysgolion a'u hystadau eraill oherwydd ein bod ni'n buddsoddi gyda'n gilydd yn sylweddol iawn yn hynny, yn y ffordd yr oeddwn i'n ei disgrifio yn fy natganiad. Felly, mae'r broses wedi bod—. Rydym ni'n trafod gyda grŵp llawer llai o bobl ac rydym ni'n gallu gweithio mewn ffordd sy'n llawer mwy strategol. Mae hynny o ganlyniad i'r ffordd y cafodd ein system addysg ni ei strwythuro yng Nghymru. Nid yw hyn ar gael dros y ffin gan fod y trefniadau yno'n wahanol. Nid wyf i'n beirniadu hynny, dim ond yn esbonio pam mae'r gwahaniaeth hwnnw'n bodoli.

Mae'r awdurdodau wedi bod yn gweithio i ddarganfod y RAAC sy'n bresennol yn eu hadeiladau nhw. Fel y mae'r Aelod yn gwybod, mae ganddyn nhw raglen gyson o arolygu adeiladau ac felly fe fyddan nhw yn gwneud ymyriadau cynnal a chadw cynlluniedig o bryd i'w gilydd, ac rwy'n credu bod hynny'n amlwg yn rhywbeth defnyddiol iawn iddyn nhw fod yn ei wneud ac mae'r sefyllfa yn wahanol iawn, yn fy marn i, i'r hyn sy'n digwydd yn rhai rhannau eraill o'r DU.

Roedd hi'n gofyn i mi am amserlenni penodol. Rwyf i wedi bod yn eglur iawn, rwy'n credu, yn y datganiad ein bod ni'n disgwyl am ragor o wybodaeth ar ddiwedd y mis hwn. Rydym ni'n gobeithio, ac yn disgwyl, pe byddai unrhyw ysgolion eraill yn cael eu nodi, y byddwn wedi datrys y sefyllfa honno erbyn diwedd y flwyddyn eleni. Dyna'r amserlen y mae Llywodraeth y DU yn gweithio iddi hi'n fras, ac rwy'n deall bod hynny'n gwbl gyson ledled y DU. Roeddwn i o'r farn, os caf i ddweud, ei bod hi'n arwyddocaol iddi hi gyfeirio at ysgolion yn cael eu dodi yn nwylo Llywodraeth Cymru gyda datganoli. Mae'r ymagwedd sydd gennym ni yma wedi bod yn un, rwy'n credu, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn cydnabod bod y buddsoddiad a wnaethom ni yn ystadau ysgolion yng Nghymru dros y degawd diwethaf wedi bod yn un sylweddol iawn, oherwydd ein bod ni'n blaenoriaethu buddsoddiad cyfalaf at ddibenion cynnal a chadw, ar gyfer addasiadau sero net ac at ddibenion ansawdd a diogelwch, ac rwy'n falch iawn o hynny, ac mae'r rhan fwyaf o Aelodau yn y Siambr hon, rwy'n credu, yn falch iawn o'r gwaith hwnnw.

Yn y pen draw, blaenoriaethu diogelwch ein dysgwyr a wnawn ni. Rwy'n falch iawn, wrth i mi sefyll yn y fan hon heddiw, mai dwy ysgol yn unig yng Nghymru a gafodd eu nodi. Fe fydd gennym ni ddarlun mwy cyflawn ar ddiwedd yr wythnos hon. A phan fydd yr wybodaeth honno gennym ni, pe byddai yna—ac rwy'n gobeithio na fydd gennym ni ddim, ond pe byddai yna ysgolion yn cael eu nodi â RAAC o bosibl, os nad ydyn nhw wedi cael eu harolygu eisoes, ac fe fydd llawer wedi cael eu harolygu, ond os nad ydyn nhw wedi cael eu harolygu felly, fe fyddwn ni'n gweithio gyda'r awdurdodau i roi'r trefniadau hynny ar waith. Ac os byddwn ni'n nodi ysgolion a allai fod ag RAAC, fe fyddwn ni'n cytuno ar ddull ar y cyd â'r awdurdod lleol i fod â chynllun rheoli penodol ar gyfer yr ysgol honno, yn union fel gwnaethom ni gydag Ynys Môn ar ddechrau'r wythnos diwethaf. Rwyf i o'r farn mai ymagwedd gydweithredol, bwyllog fel hon yw'r ffordd gwbl briodol ymlaen.

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:18, 12 Medi 2023

Diolch, Weinidog, am ddod â'r datganiad hwn gerbron heddiw, a hefyd diolch am y diweddariadau yn ystod cyfnod y toriad, gan gynnwys rhoi briff personol. Dwi'n ddiolchgar iawn am hynny, oherwydd yn amlwg mi oedd o'n gyfnod pryderus iawn i weld y penawdau ac ati, ac mae o wedi bod yn fater o gysur, dwi'n meddwl, o ran gweld efo Ynys Môn eu bod nhw, am un peth, yn ymwybodol o'r broblem, bod Llinos Medi fel yr arweinydd yn gallu dweud eu bod nhw'n gwneud arolygon blynyddol ac felly yn gallu gweithio efo chi. Dwi'n meddwl lle sydd yn peri pryder wedyn ydy, efallai, yr awdurdodau lleol lle dydy'r gwaith yna ddim yn wybyddus eto. Fel chi, dwi'n mawr obeithio bod hynny'n golygu nad oes enghreifftiau pellach, ond yr hyn sydd yn bryderus ydy ein bod ni ddim efo'r darlun cyflawn ar hyn o bryd.

Dŷch chi wedi sôn nifer o weithiau o ran 15 Medi fel targed o ran hwnnw a'r gobaith y bydd gennych chi ddarlun mwy cyflawn. Ydy hynny'n golygu darlun llawn? Sori i fod yn bedantig o ran iaith, ond mae darlun mwy cyflawn—. Yr hyn y buaswn i'n hoffi gwybod ydy pryd y byddwn ni'n gwybod yn bendant, felly, oherwydd un o'r pethau roeddech chi'n sôn amdanynt wrth ymateb yn yr haf oedd bod gwaith wedi cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru o ran edrych ar yr ystâd, ond mi oedd hynny'n benodol o ran datgarboneiddio, oedd yn cynnwys RAAC ac ati. A dwi'n meddwl bod yna bach o amwysedd i ddechrau pan ddaeth y datganiad hwnnw o ran lle'r oedd y gwaith arni ac ati. Yn sicr, os oeddech chi'n edrych ar y datganiad a fu o ran datgarboneiddio, roedd y gwaith hwnnw i fod i ddechrau ym mis Hydref eleni, fis nesaf, a'i gwblhau o fewn 12 mis. Ydy'r gwaith hwnnw, felly, wedi gorfod dod ymlaen o ran yr elfen RAAC a beth sydd felly'n weddill? Pryd fyddwn ni go iawn efo'r darlun cyflawn hwnnw, er mwyn gallu rhoi sicrwydd i staff ac, yn amlwg, disgyblion yn yr ysgolion hyn?

Mi fyddwn i'n hoffi ategu rhai o'ch sylwadau chi ynglŷn â phryd ddaeth gwybodaeth ychwanegol at Lywodraeth Cymru. Mae'n bwysig bod yna bartneriaeth rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru a dangos parch i'r ffaith bod gennym ni Lywodraeth yn fan hyn. Un o'r pethau dwi'n meddwl sy'n bwysig iawn o ran cyllid ydy'r cyfrifoldeb sydd o ran y cydweithio hwnnw, os ydyn ni'n gweld bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn poeni o unrhyw fath am Gymru. Mi ofynnodd Hywel Williams, yr Aelod Seneddol, a fyddai'r Trysorlys yn talu am unrhyw gostau sydd yn gysylltiedig â RAAC yn adeiladau Cymru, a 'na' oedd yr ateb a ddaeth o ran hynny. Felly, a gaf i ofyn pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gydag Aelodau Seneddol Llafur o Gymru er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gwthio'r achos ymlaen, a hefyd unrhyw sicrwydd gan Keir Starmer, os mai fo fydd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, o ran beth fydd y sefyllfa pan fo'r math yma o bethau yn codi? Yn sicr, mae'n rhaid inni—. Nid chwarae gwleidyddiaeth rydyn ni eisiau gwneud o ran hyn. Y peth pwysig ydy bod yna ddatrysiadau, ac rydyn ni'n gwybod bod cyllid Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael Llywodraeth Prydain yn cydweithio yn hytrach na dweud, 'Wel, chi ddylai dalu—wnawn ni ddim helpu.' Mae'n rhaid bod y math yna o sicrwydd yn cael ei roi.

Felly, yn fwy na dim, os caf i eglurder, os gwelwch yn dda, o ran yr amserlen, y gwaith datgarboneiddio a sut mae hwnnw'n gysylltiedig efo RAAC, a hefyd o ran yr achos o ran ariannu. Diolch.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:21, 12 Medi 2023

Diolch i Heledd am y cwestiynau pellach hynny. Gaf i jest dweud—? O ran y cwestiwn am y berthynas, y rheswm roeddwn i'n ateb llawer iawn o gwestiynau am hyn, ar ddechrau'r wythnos diwethaf, oedd oherwydd bod pobl eisiau gwybod pam oedd y penderfyniad yn cael ei gymryd ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Dyna pam. Felly, er mwyn esbonio'r amserlen i bobl. Roedd e'n gwestiwn—. Roedd e'n her ddigon teg i newyddiadurwyr ac eraill i'w rhoi i'r Llywodraeth, felly roedd angen esbonio'n onest i bobl pam oedd y sefyllfa'n codi. Felly, nid gwleidyddiaeth y peth oedd o ddiddordeb i fi o gwbl, ond esbonio i bobl beth oedd y sefyllfa.

Jest er mwyn y darlun cyflawn, ers hynny gwnes i alw am ddau beth wrth y Llywodraeth yn San Steffan. Y peth cyntaf oedd mwy o wybodaeth am yr asesiadau technegol oedd tu cefn i'r wybodaeth a rannwyd gyda ni ar y nos Sul. Yr ail beth oedd i gynnal cyfarfod o'r pwyllgor trawslywodraethol—roedd Llywodraeth Cymru'n cael ei gynrychioli ar hwnnw dros yr haf—i alw am gyfarfod pellach o hwnnw fel bod pob Llywodraeth yn gweithio gyda'r un sail o wybodaeth. Mae'n bwysig ein bod ni'n cydweithio ac yn rhannu'r wybodaeth yma; yn enwedig os ydy wedi digwydd i un Llywodraeth ond ddim i eraill, mae'n bwysig ein bod ni'n cael gweld hynny. Ac, er tegwch, mae'r ddau beth yna wedi digwydd ers inni alw amdanyn nhw. Felly, mae'r wybodaeth wedi bod yn symud yn well ers hynny.

O ran y wybodaeth ar gyfer diwedd yr wythnos hon, wel, mae tri chategori, onid oes? Y categori cyntaf yw, 'Yn anffodus, rŷn ni wedi darganfod mwy o RAAC.' Gobeithio bydd hynny ddim yn digwydd, ond mae wrth gwrs yn bosibiliad. Ar y llaw arall mae, 'Rŷn ni'n gwbl sicr nad oes unrhyw RAAC gyda ni', felly mae hynny'n sicrwydd ac mae hynna'n wybodaeth glir. Ond bydd categori yn y canol sydd yn—'Wel, dyma i chi ysgol sydd efallai gyda risg o RAAC—mae angen gwneud gwaith survey efallai mwy manwl er mwyn bod yn sicr', ond bydd hynny yn grŵp llai o ysgolion. Byddwn ni wedi gallu diffinio yr ysgolion hynny. Fel gwnes i sôn yn gynharach, os oes gwaith wedi digwydd eisoes o ran survey, wel, efallai does dim angen ail-wneud hynny. Mae'n dibynnu ar yr amgylchiadau: faint sydd, beth yw oed yr adeilad—mae'r math o bethau yna yn bwysig. Felly, dyna'r darlun llawnach. Bydd y manylion yn gyflawn, ond efallai bydd angen profi rhai o'r pethau pellach. Efallai bydd angen mwy o waith pellach ar ysgolion er mwyn bod yn gwbl sicr. Felly, dyna'r wybodaeth fydd gyda ni erbyn dydd Gwener. Ond wrth gyhoeddi'r hyn wnaethon ni ddydd Gwener diwethaf, roedden ni'n awyddus, ac roedd cynghorau lleol, er tegwch iddyn nhw, eisiau bod yn gwbl dryloyw am lle'r oedden nhw a lle maen nhw yn y broses.

O ran y gwaith ddigwyddodd cyn yr haf, roedd y survey roeddwn i'n sôn amdano yn y datganiad—. Fel rŷch chi'n dweud, survey ar gyfer datgarboneiddio oedd prif fwriad hwnnw, ond y math o gwestiynau sy'n codi yn sgil hynny—'Beth yw oed yr adeilad?', 'Pa ddeunyddiau y cafodd ei adeiladu gyda?', 'Oes diweddariadau wedi bod yn digwydd ers hynny?'—yw'r math o wybodaeth fyddech chi'n defnyddio er mwyn deall a oes risg o RAAC beth bynnag. Mae mwy o waith i'w wneud, wedyn, os ydych chi’n credu bod y categori yna yn addas. Ac rŷn ni wedi cynnwys RAAC, ar ddechrau’r haf, fel rhan o'r broses honno hefyd, fel bod sicrwydd annibynnol, os hoffwch chi, gyda ni. Ond y gwaith fydd yn dod â’r manylion y byddwn ni'n gallu dweud wrthych chi, 'Dyma'r darlun', yw’r gwaith sydd yn digwydd nawr gyda chynghorau lleol a'r gwaith survey pellach i unrhyw ysgolion ble mae cwestiwn, os hoffwch chi. Felly, dyna sail y wybodaeth fydd yn rhoi sicrwydd. Rhyw ychwanegiad, os hoffwch chi, yw’r llall, fel bod gyda ni ffynhonnell arall hefyd. Ond gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint mwy o sicrwydd i chi.

O ran arian y peth, wel, dwi'n meddwl y gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad cwbl glir yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog yn gynharach o ran lle mae e’n credu bod y cyfrifoldeb yn syrthio, ac mae'n iawn i ddweud hynny, wrth gwrs. Mae'r penderfyniadau hyn wedi cael eu gwneud mewn cyfnod cyn i'r ysgolion gael eu rhoi inni, fel rhoddodd y Ceidwadwyr yn eu cwestiwn. Felly, dyna’r egwyddor. Felly, os oes gan unrhyw un ddylanwad ar y Llywodraeth yn San Steffan i gael y safbwynt hwnnw i fynd â’r maen i'r wal, byddwn i'n ddiolchgar o’u cefnogaeth nhw yn hynny.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Llafur 3:26, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Y ffordd orau i ddisgrifio sment yw ei fod yn lud hydrolig. Nid yw nemor glud arbennig sy'n rhwymo tywod a graean gyda'i gilydd, gan ffurfio elfen galed sy'n debyg i garreg. Ar ei ben ei hun, ychydig iawn o ddefnydd sydd i sment. Fodd bynnag, pan gymysgwch chi ef ag agregau, fel tywod a graean, mae'n gwneud concrit. Da iawn, hyd yma. Concrit yw'r deunydd a ddefnyddiwyd fynychaf a ddyfeisiwyd erioed gan ddyn. Yn anffodus, ceisiodd pobl wneud pethau iddo i leihau'r gost o'i gymysgu. Nid yw'r broblem gyda choncrit a atgyfnerthwyd a awyrwyd a'i awtoclafio o unrhyw syndod i mi. Mae ar restr hir o broblemau gyda deunyddiau adeiladu annhraddodiadol sydd wedi bod yn y gorffennol. Faint o bobl sy'n cofio sment alwmina uchel, a oedd yn bresennol mewn nifer o ysgolion a'r canlyniad oedd tyllau yn y sment? Faint o bobl sy'n cofio concrit wedi'i rag-gastio a atgyfnerthwyd, lle bu'n rhaid tynnu'r tai i lawr am eu bod yn anniogel i bobl fyw ynddyn nhw? Faint o bobl sy'n cofio Wimpey No-Fines? Mae'r tai yno o hyd, ond mae hi'n anodd iawn, iawn cael morgais ar eu cyfer. Faint o bobl sy'n cofio'r tai dur, a oedd gennym ni yn Abertawe, y bu'n rhaid eu tynnu i lawr? Fe allwn i fynd drwy restr arall eto o'r rhain, ond fe fyddai hynny'n cymryd llawer gormod o amser. Y cyfan yr wyf i'n ei ofyn yw i Lywodraeth Cymru orchymyn mai dim ond deunyddiau adeiladu traddodiadol a gaiff eu defnyddio i godi adeiladau ysgolion. Efallai y bydd hynny'n costio mwy, ond fe fyddan nhw'n para.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:27, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am hynna, ac rwy'n gwerthfawrogi'r manylion technegol y mae ef yn eu rhoi yn ei gwestiynau ef bob amser, ac rwy'n ddiolchgar iddo am hynny. Fe nododd ef nifer o bwyntiau yn ei gwestiwn. Fe wŷr ef, beth bynnag, o'i brofiad ei hun, ein bod ni'n adeiladu ysgolion mewn ffordd wahanol yng Nghymru i'r ffordd y maen nhw'n gwneud hynny yn Lloegr. Rydym ni'n caniatáu mwy o gydweithio, os mynnwch chi, fel roeddwn i'n tynnu sylw at hynny ychydig yn gynharach, gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod codi adeiladau newydd i'n hysgolion ni, er enghraifft, yn adlewyrchu'r safonau priodol. Rydym ni mewn trafodaeth led barhaus, mewn gwirionedd, a thrwy'r amser, gyda'r Consortiwm o Awdurdodau Lleol yng Nghymru, y mae ef yn gwybod amdanyn nhw—consortiwm adeiladu awdurdodau lleol Cymru—o ran cwestiynau ynghylch safonau a safonau dylunio a deunyddiau a chwestiynau eraill. Yn wir, dros y naw mis diwethaf, mae fy swyddogion i wedi bod yn gweithio gyda'r sector, mewn gwirionedd, gan adolygu'r safonau hynny'n drylwyr iawn, safonau dylunio a safonau gofod, yn ogystal ag eraill. Rydym ni'n gwneud hynny o bryd i'w gilydd i adnewyddu hynny'n rhan o'n rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Fe wŷr ef ein bod ni'n comisiynu adeiladu rhai ysgolion cynradd newydd gan ddefnyddio deunyddiau naturiol, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gallu cyflawni ein nodau amgylcheddol trwy ymgymryd â menter o'r fath hefyd. Ond fe fydd y safonau newydd, y mae fy swyddogion i'n eu trafod gyda'r sector, yn benodol i ysgolion yng Nghymru. Mae'r trafodaethau hynny wedi bod yn digwydd ers peth amser, fel dywedais i, ac fe fyddan nhw'n cefnogi ein hymrwymiad ni yn y Llywodraeth yn uniongyrchol, y gwn ei fod ef o'r un farn, i sicrhau bod ein hysgolion ni yng Nghymru yn addas i'r unfed ganrif ar hugain ym mhob modd.

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Ceidwadwyr 3:29, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y datganiad, Gweinidog, ac am eich datganiadau ysgrifenedig yn gynharach. Roeddwn i'n falch o weld nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dod o hyd i unrhyw RAAC yn eu hysgolion nhw. Ond a yw hyn yn golygu bod ein hysgolion ni'n ddiogel? Gweinidog, pa mor ffyddiog ydych chi fod pob adeilad ysgol yn ddiogel, pe byddai RAAC wedi cael ei ddarganfod neu beidio?

Ar ymweliad diweddar ag Ysgol Gyfun Brynteg, fe welais i adeiledd atgyfnerthol dur enfawr yn dal y nenfwd yn ystafell y prifathro. Er fy mod i'n deall yr angen am flaenoriaethu ymdrin â mater yr RAAC yn dda iawn, mae hi'n rhaid i ni sicrhau hefyd y bydd pob un o adeiladau ein hysgolion ni 100 y cant yn ddiogel ar gyfer y disgyblion a'r staff. Gweinidog, pa gamau a ddylid eu cymryd i adolygu integredd adeiledd adeiladau ysgolion ledled Cymru? Ac yn olaf, a yw'r mater RAAC wedi ysgogi unrhyw newidiadau o ran polisi ynglŷn â sut i ymdrin ag adeiladau sy'n heneiddio wrth fynd ymlaen? Mae hi'n debyg ein bod yn rheoli asbestos ac rydym ni'n rheoli RAAC. A ydych chi'n derbyn na allwn barhau i bapuro dros y craciau? Diolch yn fawr. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:30, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n credu bod cyd-destun cwestiwn yr Aelod yn bwysig iawn. Felly, yr ateb i'w gwestiwn ef, 'A yw ein hysgolion ni'n ddiogel yng Nghymru?' yw, 'Ydynt, maen nhw.' Ac rwy'n credu y dylem ni fod yn eglur iawn nad ydym ni'n caniatáu i'r ensyniad ymwreiddio bod unrhyw adeilad sydd â RAAC yn bresennol ynddo yn anniogel dim ond am y rheswm hwnnw. Mae canllawiau Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, sydd wedi cadw i fyny, os mynnwch chi, gyda gwybodaeth a ddatblygodd dros nifer o flynyddoedd, yr ydym ni wedi siarad â nhw ynglŷn â hyn yn ystod yr wythnos diwethaf yn dweud, 'A yw'r wybodaeth newydd hon yn achosi i chi newid y canllawiau hynny?' —. A'r ateb yw, 'Nac ydyw, mae'r canllawiau yn parhau i fod yn ganllawiau da.' A'r holl bwynt yw helpu perchnogion adeiladau, rheolwyr adeiladu, i reoli'r ystad mewn ffordd ddiogel pan fydd RAAC yn bresennol. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn sefydlu'r pwynt hwnnw hefyd.

Mae hi'n wir dweud hefyd y bydd gan awdurdodau lleol ledled Cymru, o ran pob un o'u hysgolion nhw, ac, yn wir, pob un o'r adeiladau y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw, raglen barhaus o arolygu a chynnal a chadw. Felly, mae Ynys Môn yn enghraifft dda iawn o hyn. Mae RAAC wedi cael ei ddarganfod yn yr ysgol oherwydd bod yr awdurdod wedi gwneud yr arolygon yn iawn ac wedi nodi'r ardaloedd hynny, ac wedi bod yn rheoli'r adeilad yn unol â'r canllawiau hyn. Felly, ledled Cymru, mae rhaglenni ar waith i reoli adeiladau cyhoeddus yn y ffordd honno.

O ran y cwestiwn olaf, 'A wyf i o'r farn fod angen newid y canllawiau?' Wel, rydym ni wedi rhoi prawf ar hynny yn enwedig gyda'r Sefydliad Peirianwyr Strwythurol. Yr hyn sy'n digwydd nawr yn Ynys Môn, ac mewn adeiladau eraill, a phe byddem ni'n darganfod RAAC yn bresennol mewn ysgol arall, er hynny, yn amlwg, fel mae hi heddiw, na wnaethom ni ond fe fyddwn ni'n gwybod mwy yn y dyddiau nesaf, yr hyn sy'n cael ei wneud yno yw cymhwyso'r safonau proffesiynol hynny gyda'r wybodaeth newydd hon sydd ar gael. Mae'n honno'n ymagwedd bwyllog, ymagwedd sy'n ymdrin ag achosion unigol ar lawer ystyr, ond mae ein hymrwymiad ni yng Nghymru wedi bod yn amlwg iawn, a dyna yn union pam rydym ni'n buddsoddi cymaint mewn cynnal a chadw cynlluniedig ac uwchraddio cyfalaf, a llawer iawn mwy nag yn ein rhaglen ar gyfer adeiladu ysgolion a cholegau newydd, hyd yn oed.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:33, 12 Medi 2023

Dwi'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y datganiad heddiw, a hefyd am y cyfle am sgwrs a briefing personol am hyn yn ystod y toriad. Sefyllfa bryderus, wrth gwrs, trwy Gymru, ond, yn digwydd bod, yn fy etholaeth i oedd y ddwy ysgol y penderfynwyd yr oedd angen eu cau nhw neu beidio â'u hagor nhw ar ddechrau'r tymor. Mi fyddwn i'n licio yn fan hyn datgan fy niolch i Llinos Medi ac i Gyngor Sir Ynys Môn am eu hymateb prydlon nhw, a diolch iddyn nhw am y gwaith proactive, fel dŷn ni wedi'i glywed yn fan hyn, o gynnal yr asesiadau RAAC angenrheidiol fel eu bod nhw'n gwybod beth roedd angen ei wneud pan ddaeth y newid canllaw munud olaf yma. Dwi'n hynod o ddiolchgar hefyd i benaethiaid a thimau rheoli a staff Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi am ymateb mor gyflym a sicrhau bod yr addysgu wedi gallu parhau. Mae'r heriau'n fwy, dŷn ni'n gwybod, yn Ysgol Uwchradd Caergybi nag yn Ysgol David Hughes erbyn hyn, ond mae'r gwaith sydd wedi cael ei wneud i sicrhau bod yr addysg yn gallu parhau yn bwysig tu hwnt. 

Mi oedd gen i gwestiynau ynglŷn â'r cyllid, a chwestiynau am sut y gallai hyn ddigwydd efo cyn lleied o rybudd cyn dechrau'r tymor, ond mae'r rheini wedi cael eu gofyn yn barod. Ond dau gwestiwn byr iawn: (1), pa gamau mae'r Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi Ysgol Uwchradd Caergybi yn benodol i sicrhau eu bod nhw'n gallu agor eu drysau yn llwyr mor fuan â phosib? Ac ymhellach, wrth symud ymlaen, pa sicrwydd gall y Gweinidog ei roi y bydd unrhyw waith cynnal a chadw, trwsio ac yn y blaen, yn gallu digwydd mewn ffordd fydd ddim yn amharu ymhellach ar addysg y disgyblion?

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:34, 12 Medi 2023

Wel, mae'n gyfle i fi ailadrodd fy niolch i'r ysgol, i'r penaethiaid a'r staff am weithio o dan bwysau amser, ond hefyd mor greadigol, i ffeindio ffyrdd o allu lleihau'r cyfnod y mae'r ysgolion wedi bod yn rhannol ar gau, ac i'r cyngor ac i Llinos Medi a'r tîm fanna hefyd. Maen nhw wedi gweithio'n gyflym iawn, a chydweithio â ni hefyd, felly diolch iddyn nhw am hynny.

O ran y gwaith a ddaw nesaf, dŷn ni'n dal i aros i glywed wrth yr arbenigwyr sydd wedi bod yn yr ysgolion ddiwedd yr wythnos diwethaf. Byddwn ni'n cael, neu bydd y cyngor yn cael, adroddiad wrthyn nhw. Maen nhw'n arbenigwyr yn y maes, maen nhw'n defnyddio'r canllawiau swyddogol i edrych i weld a oes angen newid pethau yng ngoleuni'r wybodaeth newydd a ddaeth i fewn ar y nos Sul. Felly, dŷn ni'n dal i aros i glywed beth ddaw o hynny. Oherwydd bod gyda ni gynllun ar y cyd â chynghorau o gyd-fuddsoddi, mae cyfle bron bob wythnos i gael y math yma o sgyrsiau beth bynnag. Felly, mae'r cynllun cyfalaf yn un sylweddol. Os oes angen i ni ail-flaenoriaethu o fewn hwnnw er mwyn gallu ateb rhai o'r pethau yma sy'n codi, wel, mae cyfle i ni allu gwneud hynny ar y cyd. Felly, mae'r trafodaethau hynny'n digwydd yn gyson, fel mae'n digwydd.

O ran y gwaith dŷn ni'n ei wneud i gefnogi'r ddwy ysgol ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae Ysgol David Hughes wedi ailagor yn llwyr. Dŷn ni wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Uwchradd Caergybi i ddod o hyd i opsiynau eraill o ran adeiladau lleol i allu sicrhau ein bod ni'n cynyddu niferoedd y plant sy'n gallu cael addysg wyneb yn wyneb. Ar hyn o bryd, mae lot o ddysgu ar-lein yn digwydd, wrth gwrs, a grwpiau ysgol yn dod i mewn am yn ail, fel eu bod nhw'n cael profiad o fod yn yr ysgol. Ond dŷn ni'n ceisio cael ymateb strategol i hynny gyda'n cynllun o ran pa adeiladau eraill cyfagos sydd ar gael a fyddai'n gallu darparu gofod dros dro i allu cynyddu'r niferoedd sy'n cael addysg wyneb yn wyneb.

Felly, dyna'r brif flaenoriaeth ar hyn o bryd o ran trefniadau amgen, a byddwn ni'n gweld beth a ddaw nôl wrth yr engineers i weld pa gamau pellach sydd angen eu cymryd yn yr ysgol hefyd. Mae'n bwysig cofio nad yw RAAC yn bresennol ym mhob rhan o un o'r ddwy ysgol—mewn adeiladau penodol y mae e. Felly, mae opsiynau i allu gweithio o amgylch hynny hefyd.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ni fydd Cymru yn anghofio canlyniadau trychinebus anwybyddu pryderon diogelwch yn ymwneud ag ysgolion. Ac eto, er gwaethaf hyn, mae hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n ymddangos bod ymateb Llywodraeth y DU yn cael ei ysgogi gan ideoleg i raddau helaeth. Rydym ni yn y sefyllfa hon—gadewch i ni atgoffa ein hunain—rydym ni yn y sefyllfa hon oherwydd toriadau yng nghyllideb y DU i waith atgyweirio ysgolion, gwybodaeth hanfodol na chafodd ei rhannu a'r cyfrifoldeb yn cael ei daflu ymlaen i eraill. Nid oeddwn i'n gallu credu'r peth pan ddarllenais i'r wythnos diwethaf fod Gweinidog addysg y DU yn credu y byddai penaethiaid yn gallu nodi RAAC yn eu hysgolion nhw. Fel y mwyafrif ohonom, rwy'n siŵr nad oedden nhw wedi clywed am RAAC erioed cyn diwedd tymor yr haf, heb sôn am allu bod yn ddigon o arbenigwyr ym maes concrit i wybod pa fath o goncrit a oedd ganddyn nhw. Pryd mae'r Gweinidog yn disgwyl i arolygon Llywodraeth Cymru gael eu cwblhau? Fe welwn ni, wrth edrych ar goncrit brau uwchben ein plant ni, ganlyniad 13 mlynedd o gyni yn y DU. Mae canlyniadau i'r polisïau hyn. Mae hyn hefyd o ganlyniad i Lywodraeth y DU sy'n dymuno gwladwriaeth lai ac sy'n casáu manylion. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwybodaeth hanfodol yn cael ei rhannu mewn da bryd? Diolch yn fawr.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Llafur 3:38, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cytuno â'r Aelod o ran rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod ystadau ein hysgolion yng Nghymru yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Rwy'n credu efallai nad yw ei gwestiwn ef, os caf i ddweud, yn rhoi digon o ystyriaeth i'r dewisiadau gwahanol a wnaethom ni yng Nghymru o ran polisi, hyd yn oed yng nghyd-destun ehangach y DU fel hyn, a ddisgrifiwyd yn deg, yn fy marn i, o fod â Llywodraeth y DU nad yw hi wedi blaenoriaethu buddsoddiad cyhoeddus dros y 13 blynedd diwethaf. Ond rwy'n credu, yng Nghymru, ein bod ni'n gweld tystiolaeth o ragoriaeth datganoli, pryd y gallwch chi wneud penderfyniadau gwahanol a chymhwyso blaenoriaethau gwahanol i'r cyllid sydd gennych chi ar gael, a dyna pam, o'r band blaenorol a'r band buddsoddi yn yr ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd fel ei gilydd, ein bod ni'n edrych ar oddeutu 340 o ysgolion a fydd naill ai'n cael eu hadnewyddu yn gyfan gwbl neu'n cael eu hadnewyddu yn sylweddol. Ac rwy'n credu bod hwnnw'n bolisi yr ydym i gyd yn falch ohono yn y Siambr hon, onid ydyw, mewn gwirionedd, ac rwy'n credu ei fod yn bolisi y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn angerddol iawn yn ei gylch, yn sicr.

Rwy'n credu ei fod ef yn gwneud pwynt pwysig ynglŷn â sut y gallwn ni weithio gydag ysgolion yn y cyswllt hwn. Fe fyddwn i'n dweud ein bod ni'n gallu bod ag ymagwedd sy'n fwy seiliedig ar bartneriaeth yng Nghymru oherwydd y parch sydd gennym ni tuag at yr awdurdodau lleol. Rydym ni'n dal i fod—. Dros y ffin, oherwydd strwythur y system ysgolion, mae yna lawer iawn o ysgolion, yn amlwg, sy'n gweithredu'r tu allan i faes cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol, felly dyna pam, rwy'n credu, y mae'r Adran Addysg yn gorfod ymgysylltu â phenaethiaid unigol. Mae yna 24,000 o ysgolion, rwy'n credu, yn Lloegr, felly mae hwnnw'n gryn dipyn o orchwyl. Yn amlwg, yng Nghymru, mae gennym ni nifer llai o awdurdodau lleol, sy'n deall eu stoc adeiladu nhw'n dda iawn, felly rydym ni'n gallu gweithio yn gyflym iawn gyda nhw. Ac fel dywedais i, erbyn diwedd yr wythnos hon, fe fydd gennym ni ragor o wybodaeth.

Ac fe ofynnodd ef i mi, yn olaf, 'Erbyn pryd y gallwn ni ddisgwyl datrysiad llwyr i hyn?', wel, rwy'n mawr hyderu na fydd unrhyw ysgolion eraill gennym ni'n cael eu nodi yn rhai sydd â RAAC, yn amlwg, ond, pan fydd yr wybodaeth gennym ni, erbyn dydd Gwener, fe fyddwn ni'n ymgysylltu â pheirianwyr strwythurol arbenigol wedyn ar sail yr wybodaeth honno gan awdurdodau lleol a hefyd, fe ddylwn ddweud, sefydliadau addysg bellach, oherwydd maen nhw hefyd am roi gwybodaeth i ni gyda'r un amserlen, ac fe fyddwn ni'n gwneud unrhyw arfarniadau brys y mae angen eu gwneud bryd hynny oherwydd unrhyw achosion sydd newydd eu nodi—ac rwy'n gobeithio yn daer na fydd yna unrhyw un—ac rydym ni'n rhagweld y bydd y gwaith hwnnw i gyd yn cael ei gwblhau wedyn erbyn diwedd mis Rhagfyr eleni, sef, rwy'n credu, yn fras, yr un amserlen ag sydd ganddyn nhw mewn rhannau eraill o'r DU ar gyfer y gwaith hwn hefyd.