– Senedd Cymru am 2:30 pm ar 12 Medi 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad a chyhoeddiad busnes, a'r Trefnydd sy'n gwneud y datganiad. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Mae llawer o newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Mae'r holl newidiadau wedi'u cyhoeddi ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Trefnydd, mae peth amser wedi bod ers i mi alw am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y camau y mae'n eu cymryd i fynd i'r afael â gofal strôc yn y gogledd, sydd yn anffodus, fel y gwyddoch chi o'r wybodaeth ddiweddaraf rydyn ni'n ei chael gan y Gymdeithas Strôc, yn methu â chyrraedd lle y dylai fod, gyda gradd gyffredinol o D neu E ym mhob un o'r ysbytai yn y gogledd. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n dderbyniol. Mae llawer o'r dangosyddion hefyd yn gwaethygu, yn enwedig o ran mynediad i unedau strôc, ac rydyn ni'n gwybod bod y rhain yn hanfodol wrth drin cleifion cyn gynted â phosibl a rhoi'r cyfle gorau posibl iddyn nhw wella. Felly, a gaf i eich annog eto i weithio gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fel y gallwn ni gael datganiad ar y mater pwysig hwn cyn gynted â phosibl?
Yn ail, a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog hefyd ar gynnydd tuag at gyflawni'r ymrwymiad cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth y mae fy mhlaid wedi'i gefnogi, ac rydyn ni'n dymuno'n dda i'r Llywodraeth wrth sicrhau ei fod yn cael ei weithredu. Fodd bynnag, yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at y ffaith bod rhai cartrefi gofal yn fy etholaeth fy hun nad ydyn nhw'n talu'r cyflog byw gwirioneddol i'w staff, ac maen nhw'n dweud mai'r rheswm am hynny yw nad yw'r comisiynwyr wedi rhoi digon o adnoddau iddyn nhw i allu gwneud i hynny ddigwydd. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i gyflawni'r ymrwymiad pwysig hwn, a thybed pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn sicrhau bod yr arian hwnnw ar gael i weithredwyr cartrefi gofal i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei gyflawni'n llawn, a bod y gweithwyr gofal cymdeithasol gweithgar yn ein hetholaethau yn cael y tâl a'r gydnabyddiaeth ariannol y maen nhw'n eu haeddu.
Diolch. Wel, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei lle, a bydd hi wedi clywed yr hyn a ddywedoch, yn enwedig ynghylch yr ail fater, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n pryderu'n fawr am yr hyn a ddywedoch. Fel y sonioch, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid ychwanegol i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod ein staff gweithgar iawn yn y sector gofal cymdeithasol yn cael y cyflog byw gwirioneddol. Byddwn i'n dychmygu bod swyddogion y Gweinidog yn monitro hyn, ond fel y dywedais, mae hi wedi clywed eich cwestiwn, ac rwy'n siŵr os bydd ganddi unrhyw bryderon yn y ffordd rydych chi wedi'i disgrifio y bydd hi'n sicrhau bod ei swyddogion yn ymwybodol ohonyn nhw ac yn cael y sgyrsiau hynny gyda—. Rwy'n tybio eich bod chi'n cyfeirio at Sir Ddinbych yn benodol, gan i chi gyfeirio at eich etholaeth eich hun.
O ran datganiad arall ar strôc, dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau na gwybodaeth arall am y strategaeth strôc, ond unwaith eto, fe ofynnaf i'r Gweinidog a oes unrhyw beth y gall hi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni amdano.
A gaf ofyn, os gwelwch yn dda, am ddatganiad llafar o ran RAAC tu hwnt i ysgolion? Yn amlwg, rydyn ni'n ddiolchgar iawn fod y Gweinidog addysg ar ôl hyn yn mynd i fod yn rhoi diweddariad o ran ysgolion, ond fel y soniwyd yng nghwestiwn Ken Skates, mae'n amlwg bod yna sefyllfa ledled Cymru, ac yn ymateb y Prif Weinidog mi roedd o'n sôn bod y gwaith yn parhau. Ond dwi yn meddwl, oherwydd difrifoldeb y sefyllfa rydyn ni'n gweld yn fy rhanbarth i—Neuadd Dewi Sant, er enghraifft, ar gau am bedair wythnos, a nifer o rybuddion mawr o ran diogelwch yr adeilad hwnnw—y byddai o'n fuddiol, gydag adeiladau megis Neuadd Dewi Sant yn rhai sydd wedi gorfod cau, gwybod beth ydy'r darlun ehangach, gwybod beth ydy'r amserlen, a pha gydweithio sydd yn digwydd i sicrhau nad oes unrhyw risg i fywyd, naill ai unrhyw un sy'n gweithio yna neu'n mynychu digwyddiadau, er enghraifft, yn achos Neuadd Dewi Sant.
Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei ateb i Ken Skates bod adolygiad cynhwysfawr yn cael ei gynnal gan swyddogion Llywodraeth Cymru, ac, yn ffodus, ar hyn o bryd, dim ond ambell enghraifft brin o RAAC sy'n cael eu nodi. Mae'n broses dau gam. Yn amlwg, mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, ac rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed y Cynghorydd Llinos Medi, yn ei datganiad ynghylch y ddwy ysgol—. Ac fel y dywedwch chi, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi datganiad llafar y prynhawn yma ar bresenoldeb RAAC mewn sefydliadau addysgol. Ond fe ddywedodd hi fod cyngor Ynys Môn yn ymwybodol iawn, a hynny oherwydd bod y gwaith yma wedi bod yn mynd rhagddo ers peth amser. Mae'n broses dau gam. Rwy'n credu, yn gyntaf, fod swyddogion yn casglu gwybodaeth gryno, fel bod gennym ni ddarlun cliriach o'r gwaith y bydd angen ei wneud, wrth symud ymlaen, i sicrhau bod ein holl ystad gyhoeddus yn parhau i fod yn ddiogel. Ac yna, yn amlwg, mae pryderon eraill ynghylch theatrau a chyfleusterau hamdden. Fe sonioch chi'n benodol am Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd, sydd wedi bod ar gau oherwydd eu bod wedi cadarnhau bod RAAC yn nenfwd a tho Neuadd Dewi Sant. Felly, rwy'n credu, pan fydd yr holl wybodaeth honno wedi dod i law—fel yr wyf i'n ei ddweud, heddiw, bydd y Gweinidog addysg yn rhoi datganiad i ni ar sefydliadau addysgol—byddwn ni'n disgwyl i Weinidogion Llywodraeth Cymru roi datganiadau eraill ar yr adeg fwyaf priodol.
Yn gyntaf oll, tybed a gawn ni ddatganiad ynghylch a fydd y Llywodraeth yn ystyried ardoll ddymchwel ai peidio fel yr ymateb lleiaf i ddymchwel adeilad rhestredig yn anghyfreithlon yn Guildford Crescent yn fy etholaeth i yr wythnos diwethaf. Mae gan y cwmni masnachol hwn enw drwg o ran hyn, gan ddangos diystyrwch bwriadol o'r rheoliadau cynllunio wrth fynd ar drywydd elw, ac roedd yr adeilad rhestredig hwn yn rhwystr i'w floc o fflatiau 30 llawr. Roedd llawer o alwadau gan y gymuned i ganslo'r cais cynllunio o ganlyniad i'w ymddygiad. Efallai na fydd hynny'n bosibl, ond mae angen i ni amddiffyn adeiladau'r dyfodol, a hoffwn weld datganiad ar sut y gallen ni ystyried ardoll ddymchwel fel un ffordd o sicrhau bod datblygwyr yn ufuddhau.
Yn ail, tybed a gawn ni ddatganiad ar y cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro a gafodd ei gyhoeddi gennych chi yn ystod y toriad, y gwn ei fod yn achosi rhywfaint o bryder ymhlith dros 500 o gynhyrchwyr organig, sy'n poeni y gallai'r holl gynnydd rydyn ni wedi'i wneud yng Nghymru o ran ffermio organig gael ei golli os na fydd unrhyw fath o grant ar gael yn benodol ar gyfer cynnyrch organig, pan fo prinder cynhyrchu, er enghraifft, llaeth, nad yw'n ateb y galw yn barod, ac yn enwedig gan fod hyn yn amlwg yn gwella natur, sef un o'r pethau rydyn ni'n ceisio'i wneud. Rwy'n gwerthfawrogi mai cynllun dros dro yw hwn, cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy gael ei gyflwyno, ond mae'n ymddangos i mi fod angen i ni sicrhau ein bod ni'n symud ymlaen ac nid yn ôl ar hynny.
Yn drydydd, tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y ddwy ysgol sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer Gwobrau Ysgolion Gorau'r Byd, o dan y cynllun datblygu cynaliadwy. Mae'r rhain yn cynnwys Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri, sydd â siop ragorol talu fel y dymunwch, gyda golchdy a siop gwisgoedd ysgol, i gefnogi aelodau tlotach ei chymuned, a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd yn fy etholaeth i, sydd hefyd yn gwneud gwaith gwych i sicrhau ei fod yn cryfhau iechyd corfforol a meddyliol ei fyfyrwyr Safon Uwch, yn bennaf, y mae llawer ohonyn nhw'n byw yn bell iawn i ffwrdd oddi wrth eu teuluoedd.
Yn olaf, tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar yr hyn rydyn ni wedi'i ddysgu heddiw am gasineb at fenywod yn y theatr lawdriniaeth, oherwydd mae'r datgeliad y bore yma bod llawfeddygon benywaidd yn destun aflonyddu wrth iddyn nhw gyflawni llawdriniaeth yn anghredadwy. Rwy'n gwybod bod hyn yn amlwg yn canolbwyntio ar ymchwil sydd wedi'i chynnal sy'n canolbwyntio ar Loegr, ond mae angen i ni sicrhau bod ein llawfeddygon benywaidd rhagorol, sydd gyda llaw yn perfformio'n well yn gyffredinol na llawfeddygon gwrywaidd, yn teimlo'n gyfforddus bod hon yn yrfa y gallan nhw ei dilyn heb gael eu herlid a bod yn destun aflonyddu wrth iddyn nhw gyflawni eu gwaith. Mae hi wir yn anghredadwy.
Diolch. Mae Gweinidogion Cymru yn ymwybodol bod Cyngor Caerdydd wrthi'n ystyried cais cynllunio sy'n ymwneud â dymchwel ac ailadeiladu ffasâd bresennol Guildford Crescent. Nawr, rwy'n gwybod eu bod nhw'n gorfod ystyried unrhyw gamau angenrheidiol i ymdrin â'r achos diweddar o dorri rheolaeth gynllunio, y gwnaethoch chi gyfeirio ato, ac yn amlwg, o ystyried rôl statudol ehangach Gweinidogion Cymru yn y broses gynllunio, nid yw'n briodol gwneud sylw ar hynny, ond rydych chi'n codi cwestiwn ynghylch ardoll ddymchwel. Nid wyf yn ymwybodol bod hynny'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried, ond yn sicr rwy'n siŵr y byddai gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddiddordeb yn hynny.
O ran Glastir organig, yn amlwg rwyf wedi ymestyn contractau Glastir sawl gwaith, ac maen nhw'n dod i ben ym mis Rhagfyr 2023, oherwydd bod y cyllid Ewropeaidd yn dod i ben ac nid wyf yn gallu ei ymestyn mewn ffordd rwy'n gwybod y byddai rhai pobl wedi'i hoffi, ond nid yw'n bosibl gwneud hynny. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn am y gwaith rhagorol a'r cynnydd rydyn ni wedi'i wneud o ran ffermwyr organig, ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n gallu manteisio ar amrywiaeth o gynlluniau cymorth, a bydd hynny'n cynnwys y cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro y mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio arno dros yr haf, a byddwn ni'n cyhoeddi'r cynllun a phryd bydd y ffenestri'n agor yn ddiweddarach y mis hwn. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cadw cymaint o fudd ag sydd gennym ni, a dyna pam roeddwn i'n awyddus iawn i gael cynllun dros dro cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy gael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2025.
Yn sicr, fe wnaf i ymuno â chi i longyfarch Ysgol Gynradd Tregatwg a Choleg Chweched Dosbarth Caerdydd sydd yn eich etholaeth chi. Mae'r ysgol gynradd yn etholaeth Jane Hutt. Fe wnes i gyfarfod â Janet Hayward, pennaeth yr ysgol ardderchog honno, yn y Sioe Frenhinol. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o'r Big Bocs Bwyd, er enghraifft. Roedd hi'n wych siarad â grŵp o blant o Ferthyr Tudful a oedd wedi dweud wrthyf nad oedden nhw erioed wedi bod i fferm, nid oedden nhw erioed wedi deall o ble roedd eu bwyd yn dod ac roedd y gwersi yr oedden nhw'n eu cael yn y Sioe Frenhinol yn wych i'w gweld. Felly, yn sicr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog addysg wedi canmol y ddwy am gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y wobr hon. Mae'n gamp enfawr, rwy'n credu, i weld dwy ysgol Gymraeg yn y rownd derfynol. Felly, mae'n braf clywed am hynny, felly llongyfarchiadau i'r ddwy.
O ran eich pwynt olaf, fe ddarllenais innau'r erthygl honno heddiw gydag arswyd llwyr ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, unwaith y bydd hi wedi cael amser i edrych ar yr erthygl honno, yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan Lywodraeth Cymru y prynhawn yma. Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddatganiad hefyd gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â darganfod RAAC yn ysbyty Llwynhelyg? Fe ges i fy nghalonogi i'ch clywed yn dweud y bydd Gweinidogion eraill yn cyflwyno datganiadau ar y mater hwn nawr, oherwydd mae adroddiadau diweddar yn dweud wrthyn ni fod ei fodolaeth ar safle ysbyty Llwynhelyg wedi bod yn hysbys ers 2019, ac mae angen datganiad brys arnom ni nawr gan y Gweinidog iechyd i egluro yn union beth oedd Llywodraeth Cymru yn ei wybod a phryd oedd y Llywodraeth yn gwybod amdano. Nawr, fel sydd wedi'i ddweud eisoes, mae'r Gweinidog addysg yn rhoi datganiad heddiw, a hynny'n briodol, ar y sefyllfa sy'n wynebu ysgolion yng Nghymru, ac rwy'n credu y dylai'r Gweinidog iechyd wneud yr un peth cyn gynted â phosibl, gan ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl i gefnogi'r bwrdd iechyd lleol a sicrhau bod gwasanaethau'n parhau ar y safle. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi ymweld â'r safle yn ddiweddar ac felly byddwn i'n ddiolchgar pe bai modd rhoi amser i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr cyn gynted â phosibl, ac amlinellu'n union beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ymdrin â'r mater hwn. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Gweinidog iechyd yn rhoi datganiad ar y mater hwn oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n effeithio ar safleoedd ysbytai eraill hefyd.
Yn ail, Llywydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch ansawdd dŵr yma yng Nghymru? Rwy'n gwybod bod rhywfaint o symud wedi bod ar y mater hwn, ond mae hyn yn parhau i fod yn broblem wirioneddol i ni yn Sir Benfro a ledled Cymru. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gweld rhywfaint o arweinyddiaeth ar y mater hwn ac y gall y cyhoedd ddeall yn union beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r mater hwn. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael ag ansawdd dŵr ar frys.
Diolch. Wel, byddwch chi wedi clywed fy ateb cynharach i Heledd Fychan ynghylch y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch RAAC. Nid rhywbeth newydd yw hwn. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, ac roeddwn i'n synnu'n fawr—nid wyf i wedi'i drafod gyda'r Gweinidog addysg—i glywed Gillian Keegan yn dweud ei bod yn cadeirio cyfarfodydd aur o'i thŷ yn Sbaen, oherwydd dylai Llywodraeth Cymru fod wedi bod yn rhan o'r cyfarfodydd grŵp aur hynny. Felly, wyddoch chi, rydyn ni'n gwneud y darn annibynnol hwn o waith nawr, ond rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn ers sawl blwyddyn, felly nid yw'n fater newydd. Cyflwynodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad ysgrifenedig, ac, fel y dywedais i yn fy ateb i Heledd Fychan, byddwn i'n ystyried y gwaith sydd wedi'i wneud a, sut a phryd, byddwn ni'n cyflwyno datganiadau. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gwneud datganiad llafar heddiw ar sefydliadau addysgol oherwydd, yn amlwg, ychydig wythnosau yn ôl, dyma oedd y prif ffocws, ond roedden ni o'r farn ei bod yn bwysig i'r Gweinidog ddiweddaru'r Aelodau heddiw.
O ran eich cais am ddatganiad ar ansawdd dŵr, rwy'n credu bod arweinyddiaeth yn cael ei dangos yn y maes hwn. Fel y gwyddoch chi, mae'r Prif Weinidog wedi cadeirio dwy uwchgynhadledd ansawdd dŵr. Bydd trydedd un yr hydref hwn y byddaf i a'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei mynychu, ac, yn sicr, bydd datganiad arall yn cael ei gyflwyno yn dilyn yr uwchgynhadledd honno.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd am y sefyllfa wirioneddol dyngedfennol sy'n wynebu gwasanaethau bysys yn Ynys Môn ar hyn o bryd? Ers cyhoeddiad gan gwmni bysys Arriva wythnos diwethaf, mae degau o etholwyr wedi cysylltu efo fi i fynegi eu pryderon nhw am golli gwasanaethau bws—rhai ohonyn nhw yn dweud y bydden nhw'n colli mynediad i wasanaeth sy'n hollbwysig iddyn nhw o ran eu bywydau bob dydd, rhai yn poeni y bydd hi'n anodd iddyn nhw gael mynediad i addysg, rhai yn ofni y bydd rhaid iddyn nhw roi'r gorau i waith, hyd yn oed. Yn eu cyhoeddiad, mi ddywedodd llefarydd Arriva, ymysg rhesymau eraill, fod newidiadau i'r ffordd mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bws ar ôl COVID wedi arwain at ddiwygiadau i rwydwaith Arriva ar draws gogledd Cymru. Rŵan, dwi'n cyfarfod Arriva yfory, yn digwydd bod, ond mae gwasanaethau bws, wrth gwrs, yn hollol hanfodol mewn ardaloedd gwledig fel Ynys Môn. Mae'r cyhoeddiad yma'n ergyd drom i gymunedau fel Llanddaniel, Bodedern, Trefor, Llynfaes, Bodffordd, Gwalchmai. Allwn ni ddim fforddio gweld y cymunedau yma yn cael eu hynysu, a mi fyddwn i'n licio cael datganiad yn rhoi ymrwymiad am sut mae'r Llywodraeth am weithredu ar frys i warchod y gwasanaeth bws yma.
Diolch i chi. Mae gwasanaethau bysiau yn wirioneddol hanfodol i lawer o'n hetholwyr ni ledled Cymru, ac rydych chi'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi £46 miliwn o gyllidebau bysiau ar gyfer y cynllun argyfwng bysiau a'r gronfa bontio bysiau i rwystro diddymu gwasanaethau yn gyfan gwbl fel hyn. Ac rydym ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru a'r gweithredwyr gynllunio'r rhwydwaith sy'n diwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio yn y ffordd orau bosibl. Erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf, fe fydd Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £190 miliwn i ddiogelu ein rhwydwaith bysiau ni ers dechrau pandemig COVID, ac, fel gwyddoch chi, rydym ni'n cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio'r system fysiau yng Nghymru, gan ddwyn y system fysiau i reolaeth y cyhoedd drwy rwydwaith o fasnachfreintiau, sy'n rhoi pobl o flaen elw a gwneud bysiau yn rhwydd ac yn ddeniadol i'w defnyddio.
A gaf i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo adrodd cyfrifol am hunanladdiad? Fe wn i fod atal hunanladdiad yn rhywbeth sy'n agos iawn at galon y Dirprwy Weinidog, ac mae hi'n hanfodol ein bod ni Aelodau'r Senedd yn cadw'r mater ar yr agenda ac yn trafod y ffordd orau o fynd i'r afael â hynny. Roedd hi'n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ddydd Sul, ac fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i atgoffa'r Aelodau bod rhaid i ni arwain trwy esiampl wrth drafod y pwnc pwysig hwn, a bod ein geiriau ni a'r ffordd yr ydym ni'n portreadu pethau yn gallu bod â dylanwad enfawr. Mae'r Samariaid wedi bod yn rhoi llais i arbenigedd ers tro byd ar y pwnc hwn, ac fe wn i fod Aelodau o amgylch y Siambr wedi gweld eu briff nhw ar bwysigrwydd adrodd cyfrifol am hunanladdiad. Mae adrodd cyfrifol, boed hynny yn y cyfryngau neu yn y cyfryngau cymdeithasol, yn hynod bwysig, ac mae tystiolaeth y gall rhai mathau o bortreadau arwain at gynnydd yng nghyfraddau hunanladdiad. Mae'r briff yn cynnwys llawer o awgrymiadau defnyddiol sy'n hanfodol i ni eu hystyried, yn fy marn i. Mae'r rhain yn cynnwys osgoi trafod manylion dulliau o gyflawni hunanladdiad, peidio â labelu lleoliadau yn fannau problemus, a bod yn ofalus wrth gyfeirio at gyd-destun hunanladdiad, ac osgoi gorsymleiddio hunanladdiad drwy awgrymu mai achos unigol sydd iddo. Yn wleidyddion etholedig, fe ddylem ni gael ein hatgoffa bob amser o bwysigrwydd y geiriau a ddewiswn ni, ac fe all Llywodraeth Cymru a'r Senedd wneud eu rhan wrth rymuso'r genadwri hon ledled y wlad.
Ie, rwy'n cytuno yn llwyr â Jayne Bryant ac rydym ni'n croesawu'r canllawiau hyn yn fawr iawn. Fel rydych chi'n dweud, mae gan bob un ohonom ni ran wrth wneud yn siŵr ein bod ni'n siarad am hunanladdiad mewn ffordd gyfrifol, ac mae'r canllawiau hyn yn ein helpu ni i wneud hynny. Rwy'n deall bod swyddogion y Dirprwy Weinidog yn gweithio gyda'r Samariaid i ddatblygu'r strategaeth newydd ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio i Gymru, a fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer cynnal ymgynghoriad tua diwedd y flwyddyn eleni.
A gaf i ofyn am ddatganiad brynhawn yma gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch adolygiad darpariaeth frys gwasanaeth tân gogledd Cymru gan ei fod yn cael ei gynnig ar hyn o bryd i bobl y gogledd-ddwyrain ynghylch dyfodol darpariaethau gwasanaeth tân yng ngorsafoedd tân y Rhyl, Glannau Dyfrdwy a Wrecsam? Mae'r tri dewis sydd ar gael yn ceisio diddymu gwasanaethau 24 awr ym mhob un o'r tair gorsaf, gan adael darpariaeth y nos i'r gwasanaeth wrth gefn ac mae hynny'n peri llawer o bryder i'm hetholwyr a phobl ledled y gogledd-ddwyrain o ran eu diogelwch i'r dyfodol, yn enwedig yn oriau'r nos. Dros doriad yr haf, rwyf i wedi cysylltu yn agos â diffoddwyr tân rheng flaen a chynrychiolwyr o Undeb y Frigâd Dân, sydd i gyd o'r farn pe byddai mesurau o'r fath yn cael eu rhoi ar waith, fe fydden nhw'n peryglu diogelwch trigolion lleol a'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a blinder ymhlith y rhai sy'n rhoi eu bywydau yn y fantol er ein mwyn ni, sy'n wynebu'r posibilrwydd o gael eu hadleoli, i orsafoedd cefn gwlad yng Ngwynedd, mewn rhai achosion.
Bu pryderon hefyd ynghylch ansawdd yr ymarferion i ymgysylltu â'r cyhoedd, gydag ymgynghoriadau yn cael eu hyrwyddo mewn ffordd wael ac amseru'r cyfarfodydd yn ystod y dydd, pan fo'r rhan fwyaf o bobl yn gweithio neu'n brysur, a chymhlethdodau wrth lenwi'r arolygon ar-lein, sy'n cymryd llawer o amser ac yn ddryslyd iawn. Felly, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â'r trafodaethau a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â'r mater hwn a beth yw sefyllfa'r Llywodraeth o ran cynnal darpariaeth gydnerth o wasanaeth tân yn y gogledd-ddwyrain? Diolch i chi.
Diolch i chi. Mae'r mater yr ydych chi'n cyfeirio ato, yn amlwg, allan ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac rwy'n credu bod y pwynt a wnewch chi ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd yn un pwysig iawn. Fe wn i fod y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi cyfarfod â chadeirydd a swyddogion y gwasanaeth tân ac achub i sicrhau bod yr ymgynghoriad hwnnw â chyhoeddusrwydd sicr fel bydd pobl yn ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad a bod hwnnw'n ymgynghoriad sy'n ystyrlon.
Rwyf innau hefyd yn dymuno galw am ddiweddariad gan Lywodraeth Cymru ar y RAAC ar safle ysbyty Llwynhelyg. Rwy'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo gwariant o £13 miliwn eisoes ar gyfer gwneud gwaith arolwg, ac fe wn i fod y gwaith hwnnw ar y gweill. Ond fe hoffwn i ofyn i chi ymuno â mi i ddiolch i'r staff yn Ysbyty Llwynhelyg a effeithiwyd gan y tarfu hwnnw ac a fydd yn effeithio arnyn nhw wrth i'r gwaith atgyweirio fynd rhagddo. Mae dealltwriaeth ac ymrwymiad y staff i ddarparu gofal cleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn wedi bod yn ganmoladwy. Mae rhai staff wedi symud safleoedd ysbyty i sicrhau bod cleifion wedi gallu symud o Lwynhelyg ac wedi parhau i dderbyn y gofal y mae taer angen amdano. Gweinidog, fe hoffwn i glywed yn y diweddariad gan Lywodraeth Cymru pa sicrwydd y byddan nhw'n gallu ei roi i gleifion a staff y bydd gofal a gwasanaethau yn parhau i ddigwydd mor lleol â phosibl tra bod y gwaith arolygu a'r atgyweiriadau yn cael eu cyflawni. Ac un o'r gofynion—fe wn i nad yw hynny'n rhwydd i'w wneud—gan aelodau fy etholaeth i yw amserlen, pan fo'r amserlen honno'n bosibl.
Diolch i chi. Fe glywsoch chi fy atebion i'n gynharach i Weinidogion ynghylch yr amserlen wrth wneud datganiadau unigol pan fyddwn ni'n cael yr wybodaeth. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn o ran diolch i'r staff yn ysbyty Llwynhelyg, sydd wedi gweld tarfu mawr ar eu gwaith nhw, ac wedi sicrhau eu bod nhw'n gallu gwneud popeth yn eu gallu ar gyfer parhad gofal cleifion. Rydym ni'n mynegi ein 'diolch' aruthrol iddyn nhw am wneud hynny, gan orfod symud rhwng safleoedd ysbytai. Nid oes yr un ohonom ni'n hoffi tarfu mawr ar ein bywyd gwaith, ond maen nhw'n amlwg yn rhoi'r cleifion yn gyntaf, a bu'n rhaid i gleifion symud o ysbyty Llwynhelyg.
Ni allaf i roi amserlen i chi ar hyn o bryd. Fel y dywedais i, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond fe fydd y Gweinidog yn gwneud datganiad pan fydd yr wybodaeth bellach honno ar gael i ni.
A gaf i alw am ddau ddatganiad gennych yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog materion gwledig, os gwelwch chi'n dda, y cyntaf ynglŷn â rhaglen Glastir yn dod i ben a chyflwyniad cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro, a'r ail ynglŷn â'r cynllun rheoli maethynnau, y cyhoeddwyd y ddeubeth mewn datganiadau ysgrifenedig ar yr un diwrnod yn ystod wythnos gyntaf y toriad? Mae'r Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ati hi i fynegi fy mhryder oherwydd mai datganiadau ysgrifenedig oedd y rhai a wnaethpwyd yn ystod y toriad, heb gynnig unrhyw gyfle i'r Siambr hon graffu ar y newidiadau na'u trafod nhw. Gyda Glastir yn dod i ben ar y dyddiad arfaethedig o 31 Rhagfyr, dim ond pedwar mis sydd ar ôl i graffu ar y penderfyniad hwn a'r cynllun dros dro, a fydd yn bodoli am 12 mis yn unig cyn i'r cynllun ffermio cynaliadwy gychwyn yn 2025.
Fe gefais i fy synnu braidd o gael gwybod hefyd, drwy gyfrwng 8point9.com a'u cais rhyddid gwybodaeth, na chafodd unrhyw asesiad effaith ei gynnal cyn y penderfyniad i ddwyn Glastir i ben, felly nid yw canlyniadau ei derfynu yn hysbys. Mae hyn wedi achosi pryder gwirioneddol yn y gymuned amaethyddol, yn enwedig ymhlith cyfranogwyr Glastir Organig, y mae nifer ohonyn nhw wedi cysylltu â mi ac wedi mynegi eu rhwystredigaethau nhw i mi.
Roeddwn i wedi gobeithio y byddai datganiad llafar ynglŷn â'r cynllun rheoli maethynnau yn nodi eich penderfyniad ynghylch a ddylid gweithredu cynllun trwyddedu ai peidio, fel gall ffermwyr Cymru fod â chyfran o eglurder wrth i'r amser ddirwyn i ben. Felly, er gwaethaf yr amser sylweddol a aeth heibio ers gwneud y datganiadau ysgrifenedig hyn, mae'r ddau yn dal i fod yn bynciau hynod bwysig, ac fe fyddwn i'n croesawu datganiadau llafar ar y ddau. Diolch, Llywydd.
Wel, mae'r ddau bwnc yn bwysig iawn, a dyna pam roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig inni gyflwyno'r datganiadau ysgrifenedig hynny. Rydych chi'n ymwybodol bod y ddau yn cyfeirio at waith sy'n parhau. Felly, o ran dod â Glastir i ben, fe hoffwn i ei gwneud hi'n eglur iawn na allwn ni ymestyn Glastir eto. Rwyf i wedi ei ymestyn sawl gwaith, ond mae'r arian o Ewrop a oedd yn talu am Glastir yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Ond, fel dywedais i yn fy ateb i Jenny Rathbone, mae hi'n bwysig iawn ein bod yn cadw'r gwaith da sydd wedi bod, nid yn unig gan Glastir Organic, ond gan bawb sydd wedi cael cymorth gan Glastir, felly mae hi'n bwysig iawn fod cynllun amaeth-amgylcheddol dros dro gennym ni. Mae swyddogion wedi bod yn gweithio ar y cynllun hwnnw dros yr haf. Rydym ni wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid, oherwydd mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael eu barn nhw. Roedd yr undebau amaeth yn eglur iawn eu bod nhw'n awyddus i fod â chynllun dros dro. Rydym ni am gyflwyno cynllun dros dro, ac fe fydd y ffenestr ar gyfer agor hynny'n dod yn fuan. Yn sicr, rwyf i am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd rhagor o waith wedi bod dros yr wythnosau nesaf, ac fe fyddaf i'n rhoi datganiad gerbron pan fydd gwaith cael ei wneud eto ynglŷn â rheoli maetholion.
Trefnydd, fel gwyddoch chi efallai, mae prinder cyflenwad meddyginiaethau yma yng Nghymru ar hyn o bryd, gyda chynhyrchion therapi amnewid hormonau yn un o'r prif feddyginiaethau sy'n cael ei heffeithio arnyn nhw. Rwy'n ymwybodol fy mod i wedi bod yn gohebu â'r Gweinidog iechyd ynghylch y mater hwn, ond, ers hynny, mae preswylwyr ac ymarferwyr meddygol pryderus wedi cysylltu â mi eto ynglŷn â'r nifer cynyddol o feddyginiaethau cyffredin sydd wedi mynd yn brin. Felly, rwy'n pryderu nad yw asesiad Llywodraeth Cymru o brinder cyflenwi achlysurol a thros dro yn adlewyrchu profiadau gweithwyr iechyd proffesiynol. Gyda hynny mewn golwg, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynglŷn â hyn a'i effaith ar ofal cleifion yng Nghymru? Fel byddech chi'n cytuno, siŵr o fod, fe fyddai datganiad yn cynnig cyfle i'r Aelodau holi'r Gweinidog yn uniongyrchol ynglŷn â hyn a thawelu unrhyw bryderon a allai fod gan y cyhoedd. Diolch i chi.
Wel, fe geir cyfleoedd bob amser i holi'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod ei sesiwn holi llafar, ond rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig ac mae hwn yn amlwg yn fater—. Rwy'n gwybod fy mod innau wedi cael etholwyr yn cysylltu â mi, nid ynglŷn â'r cyffur yr oeddech chi'n cyfeirio ato, ond yn amlwg fe fu yna broblemau gyda chael gafael ar amrywiaeth o feddyginiaethau. Fe fyddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig.
Fe hoffwn i ofyn am a gweld datganiad gan y Gweinidog Addysg ar y llu o faterion a welsom ni'n plagio dychwelyd plant i'r ysgol o ran trafnidiaeth ysgolion. Mae plant yn mynd yn ôl i'r ysgol ar ôl y gwyliau bob amser yn anniben yr adeg hon o'r flwyddyn, ond eleni fe aeth hi'n annibendod llwyr. Gadawyd miloedd o rieni a phlant pryderus heb drafnidiaeth o gwbl neu â thrafnidiaeth sy'n anaddas. Mae hi'n amlwg nad yw'r darpariaethau cyfredol na'r dull o gyflawni hyn yn ddigon da. Rwy'n gwbl ymwybodol mai mater i lywodraeth leol yw hwn, ond rwy'n ymwybodol hefyd ein bod ni wedi cael adroddiad oddi wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynglŷn ag absenoldeb o'r ysgol yn ddiweddar, ac rydym ni newydd weld pa mor hanfodol yw'r mater, ond eto rydym ni'n caniatáu i gludiant ysgol fod yn gyfrannwr enfawr at ddiffyg presenoldeb yn yr ysgolion. Rydym ni'n siarad am ddiogelu a hawliau'r plentyn hefyd, yr ydym ni'n gywir i'w hyrwyddo, ond eto rydym ni'n gweld plant yn cael eu rhoi ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn aros am oriau, yn y glaw o bosibl, cyn ac ar ôl yr ysgol oherwydd nad yw amseroedd cludiant cyhoeddus yn cyd-fynd ag oriau ysgol.
Fe allwn i fynd ymlaen, ac mae'n rhaid bod pob Aelod yn y Senedd hon fod yn ymwybodol o'r materion yr wyf i'n eu cyflwyno i chi, oherwydd mae'r negeseuon yn eu mewnflychau nhw, ond mae angen dull arnom ni sy'n rhoi'r disgybl yn gyntaf ac mae angen diwygiad llwyr arnom, nid mireinio yn unig. Ni all rhieni aros am Bapur Gwyn ar gludiant ysgol i weithredu arno ymhen blynyddoedd lawer. Mae angen gweithredu ar unwaith; ni ellir ailadrodd hyn y flwyddyn nesaf. Fe ddylai pob plentyn allu mynd i'r ysgol ac fe ddylai allu mynd i'r ysgol yn ddiogel. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb—
Mae angen i chi ofyn cwestiwn.
—i weithredu yn hyn o beth. Felly, fe hoffwn i weld datganiad, Gweinidog.
Diolch i chi. Nid yw hyn yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg; rhan o bortffolio'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yw hyn. Rydych chi'n ymwybodol, beth amser yn ôl, mewn tymor Seneddol blaenorol, y cyflwynwyd Mesur Teithio i Ddysgwyr (Cymru) 2008, ac mae hynny'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Ac fe glywsoch chi yn fy ateb cynharach i arweinydd Plaid Cymru y byddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau, ac rwyf i o'r farn y bydd o gymorth yn y maes hwn.
Ac yn olaf, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â phresenoldeb RAAC yn ysbytai Cymru, yn enwedig Ysbyty Bryn y Neuadd yn Llanfairfechan? Nid yw'r broblem gyda'r adeilad anniogel penodol hwn yn Ysbyty Bryn y Neuadd yn rhywbeth newydd; rwyf i wedi bod yn codi'r mater hwn ers mis Chwefror, yn arbennig felly'r ôl-groniad o wariant o £27.7 miliwn a chofnodir nad yw 70 y cant o arwynebedd y llawr yn addas yn ymarferol. Fe amlygwyd hyn yn strategaeth ystadau'r bwrdd iechyd. Ysbyty iechyd meddwl yw hwn ac mae'n gofalu am 25 o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni. Nid yw'r rhan fwyaf o'r adeilad yn gwbl addas i'w ddiben, ac mae'r dogfennau yn dangos hynny'n eglur. Felly, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn rhoi datganiad ar fyrder i egluro beth sy'n cael ei wneud i asesu presenoldeb RAAC mewn ysbytai, pa gamau sy'n cael eu cymryd ymlaen llaw i sicrhau nad yw RAAC yn effeithio ar ofal cleifion y GIG ac amseroedd aros, a sut mae ysbyty fel Bryn y Neuadd wedi mynd i'r fath sefyllfa lle nad yw'r rhan fwyaf o'r ystâd, yn ôl eu hadroddiadau nhw eu hunain, yn cael ei hystyried yn addas yn ymarferol. Diolch.
Diolch i chi. Janet Finch-Saunders yw'r pedwerydd Aelod i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ar RAAC mewn lleoliadau gofal iechyd. Fel dywedais i, pan fydd y wybodaeth angenrheidiol gennym ni, fe fydd y Gweinidog yn gwneud hynny.
Diolch i'r Trefnydd.