Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Medi 2023.
Mark Drakeford
Llafur
2:23,
12 Medi 2023
Llywydd, nid oes unrhyw drafodaethau diweddar wedi bod gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae Llywodraeth Cymru, yn enwedig drwy waith y gyfarwyddiaeth addysg ac Ystadau Cymru, wedi canolbwyntio ar sicrhau bod asbestos yn cael ei reoli'n gywir mewn adeiladau cyhoeddus ledled Cymru, gan greu amgylchedd diogel i'r gweithlu ac i ymwelwyr.