Asbestos mewn Adeiladau Cyhoeddus

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur

7. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynllun ledled y DU ar gyfer symud yr holl asbestos o adeiladau cyhoeddus Cymru? OQ59901

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:23, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Llywydd, nid oes unrhyw drafodaethau diweddar wedi bod gyda Llywodraeth y DU ar y mater hwn. Mae Llywodraeth Cymru, yn enwedig drwy waith y gyfarwyddiaeth addysg ac Ystadau Cymru, wedi canolbwyntio ar sicrhau bod asbestos yn cael ei reoli'n gywir mewn adeiladau cyhoeddus ledled Cymru, gan greu amgylchedd diogel i'r gweithlu ac i ymwelwyr.

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ddydd Sul 2 Gorffennaf, lansiodd The Sunday Times ei ymgyrch yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu nawr ar asbestos. Mae'r ymgyrch drawsbleidiol yn galw ar Lywodraeth y DU i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer cael gwared ar yr holl asbestos yn ystod y 40 mlynedd nesaf. Cafodd asbestos ei wahardd mewn adeiladau newydd yn y DU ym 1999, ond, yn ôl Airtight on Asbestos, sy'n ymgyrchu dros gael gwared arno, mae'n bosibl bod mwy na 6 miliwn tunnell ohono mewn cynifer ag 1.5 miliwn o adeiladau ledled y DU. Cynhaliodd Syr Stephen Timms, yr AS a chadeirydd Pwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin, ymchwiliad i asbestos y llynedd a ddywedodd: 

'Pan fyddech chi'n crybwyll asbestos i'r rhan fwyaf o bobl, maen nhw'n dueddol o feddwl amdano fel problem yn y gorffennol sydd wedi'i datrys. Pan fyddech chi'n dweud wrthyn nhw ei fod o'n cwmpas ni o hyd, maen nhw'n synnu. Pan fyddech chi'n dweud wrthyn nhw mai asbestos yw'r rheswm dros y nifer mwyaf o farwolaethau sy'n gysylltiedig â gwaith, maen nhw'n synnu. A phan fyddech chi'n dweud wrthyn nhw ei fod yn y rhan fwyaf o'n hysgolion ni, maen nhw'n tueddu i bryderu.'

Prif Weinidog, mae mwy na 5,000 o bobl y flwyddyn yn dal i farw o glefydau sydd wedi'u hachosi gan asbestos, mesothelioma yn bennaf. Mae'r cyfnod rhwng dod i gysylltiad â ffibrau asbestos a datblygu symptomau yn amrywio o 10 i 50 mlynedd. Felly, pa sylwadau eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i Lywodraeth y DU ar ôl iddi wrthod yn llwyr i gytuno i raglen 40 mlynedd o symud asbestos o bob adeilad anfasnachol a sefydlu cofrestr genedlaethol o bob adeilad ag asbestos a chofnod o'i gyflwr? Oherwydd ni all yr un ohonon ni yn y Senedd hon orffwys tra bod unrhyw adeilad cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i fod yn llawn deunyddiau peryglus cudd a allai fod yn gyfrifol am farwolaethau dinasyddion yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod.

Prif Weinidog, beth yw uchelgeisiau a chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus hwn yng Nghymru, ac a fyddech chi'n fodlon cyfarfod â mi i drafod y mater hanfodol hwn?

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 2:25, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i Rhianon Passmore. Mae hi'n gywir, Llywydd, ei bod yn fater iechyd cyhoeddus pwysig iawn, iawn. Roedd yn siomedig bod Llywodraeth y DU, pan ymatebodd i adroddiad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ar y mater hwn ym mis Gorffennaf y llynedd—. Roedd pwyllgor dethol yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi gofyn i asbestos gael ei waredu o bob adeilad masnachol a chyhoeddus o fewn cyfnod diffiniedig, ac fe wrthododd Llywodraeth y DU dderbyn yr argymhelliad hwnnw. Heb eu parodrwydd i fwrw ymlaen â hyn, yna mae arnaf i ofn nad yw Llywodraeth Cymru, ar ein pen ein hunain, yn debygol o'u perswadio fel arall. Ond mae yna ymgyrch drawsbleidiol y gwnaeth yr Aelod ei chrybwyll. Rwy'n gwybod bod ymdrechion yn cael eu gwneud gan Aelodau Seneddol o sawl plaid i gychwyn dadl yn Nhŷ'r Cyffredin mor gynnar â'r wythnos hon, a byddwn ni'n sicr yn dilyn hynny'n ofalus iawn.

Yn y tymor byr, gallwn ni ond canolbwyntio ar sicrhau bod yr adeiladau hynny mor ddiogel ag y gallan nhw fod ac, wrth i adeiladau ddod i ddiwedd eu hoes naturiol, ein bod ni'n defnyddio deunydd adeiladu nad yw'n peri'r un anhawster yn ei le. Rydyn ni'n gwybod bod mentro ar eich pen eich hun yn y maes hwn, Llywydd, yn llawn cymhlethdodau cyfreithiol. Fi oedd y Gweinidog iechyd pan basiodd y Senedd y Bil mesothelioma a hyrwyddwyd gan Mick Antoniw. Cafodd ei basio drwy'r Senedd yma, a gwnaeth y Goruchaf Lys ganfod nad oedd gan y Senedd y pwerau i wneud yr hyn yr hoffen ni fod wedi'i wneud. Felly, mae mentro ar eich pen eich hun rwy'n credu yn llawn peryglon o'r fath. Byddwn ni'n gysylltiedig ag ymgyrchoedd ar lefel y DU i wneud yn well. Byddwn ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau ein hunain mewn ffordd sy'n cadw pobl yn ddiogel. Fe ges i gyfle i drafod y cwestiwn â Rebecca Evans, sef y Gweinidog sy'n gyfrifol am Ystadau Cymru, wrth i mi ei weld yn dod i mewn, ac rwy'n gwybod y byddai hi'n hapus iawn i gyfarfod â chi ac i sicrhau bod swyddogion ar gael ar gyfer y drafodaeth honno hefyd.