Y Diwydiant Lled-ddargludyddion yng Ngorllewin Casnewydd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Llafur 2:02, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru yn ddiffuant yn eu cefnogaeth i'r diwydiant hollbwysig hwn a'r gweithlu sylweddol a thalentog y mae'n ei gefnogi. Rwy'n falch iawn o weld yr wythnos diwethaf bod Llywodraeth Cymru bellach wedi ymuno â'r gynghrair ranbarthol lled-ddargludyddion Ewropeaidd honno i gefnogi twf y sector. Yn anffodus, ni allaf ddweud yr un peth am y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan. Yr wythnos diwethaf, clywsom yr ergyd ofnadwy y gallai dros 100 o swyddi gael eu colli yn fy etholaeth i yn Nexperia. Ynghyd â chyhoeddiadau, bydd yn gyfystyr â gostyngiad o 25 y cant i weithlu Casnewydd. Mae'r colledion hyn o ganlyniad i weithredoedd uniongyrchol a diffyg gweithredoedd dilynol y Gweinidogion Ceidwadol yn Llundain. Ers y gorchymyn gwerthu ym mis Tachwedd, rwyf i wedi bod mewn trafodaethau cyson gyda'r gweithwyr ymroddedig hyn. Mae ganddyn nhw gannoedd o flynyddoedd o weithio yn y sector rhyngddyn nhw, ond dydyn nhw ddim wedi cael eu trin yn dda eto. Mae San Steffan wedi gwrthod ymgysylltu â nhw; mae Gweinidogion San Steffan wedi tanseilio'r clwstwr yn gyhoeddus ac mae diffyg ysgogiad San Steffan dros y gwerthiant hwn wedi gwneud colled swyddi yn anochel. Prif Weinidog, mae hyn yn warthus. Mae fy etholwyr wedi cael eu gadael ar y clwt. A all Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo'r gweithwyr medrus hyn, ac, yn hollbwysig, a allwn ni hefyd roi cymaint o bwysau â phosibl ar gwblhau'r gwerthiant, oherwydd gyda phob mis sy'n mynd heibio, mae'r sefyllfa yn dod yn fwy anghynaladwy? Mae'r gweithlu a'r clwstwr yn haeddu cymaint gwell.