Dad-ddofi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Llafur 2:00, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rwy'n credu bod gwastadeddau unigryw a hanesyddol Gwent yn enghraifft dda o'r math o gydbwysedd yr ydych chi'n ei ddisgrifio, lle mae tir yn cael ei ddychwelyd i natur, y llygoden ddŵr wedi'i hailgyflwyno, ffermio yn parhau, mynediad cyhoeddus wedi'i wella, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymrwymiad Llywodraeth Cymru sydd wedi diogelu, ac rwy'n credu fydd yn cynnal ac yn gwella, yr ardal bwysig iawn honno o dir, ac yn wir creu'r gweithgor yr wyf i'n ei gadeirio. Felly, hoffwn ddweud ar ran cymunedau lleol, Prif Weinidog, pa mor ddiolchgar y mae nhw am y cydbwysedd hwnnw yr ydych chi wedi ei ddisgrifio sy'n cael ei ddatblygu a'i gefnogi yn y rhan honno o Gymru, ac yn amlwg maen nhw'n gobeithio'n fawr y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid ar yr agenda hon yn parhau yn y dyfodol.