1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Medi 2023.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i groesawu pawb yn ôl ar ôl toriad yr haf?
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno un o'i pholisïau mwyaf dadleuol—y terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mae hynny yn eich maniffesto, Prif Weinidog—rwy'n derbyn hynny—ac mae gan y Llywodraeth berffaith hawl i gyflwyno hynny gan fod ganddi'r pleidleisiau o fewn y Siambr hon. Ond, yn amlwg, ceir llawer o bobl sydd ag amheuon cryf ynghylch effaith y terfyn cyflymder diofyn 20 mya hwn. Pa asesiad wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i'w wneud, pan gaiff y terfyn cyflymder hwn ei gyflwyno, o'r effaith y bydd yn ei chael ar yr economi—mae eich papurau chi eich hun yn dangos effaith o £4.5 biliwn; mae'n £8.9 biliwn ar ben uchaf y raddfa—ac yn y pen draw y gallu i gyrraedd y nodau yr ydych chi wedi eu gosod a fydd yn lleihau cyfraddau anafiadau a chyfraddau damweiniau mewn ardaloedd sensitif?
Wel, Llywydd, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn—roedd hwn yn un o ymrwymiadau maniffesto fy mhlaid. Mae wedi bod yn y rhaglen lywodraethu ers cychwyn tymor newydd y Senedd, a bydd y Llywodraeth hon yn cadw ei haddewid i bobl yng Nghymru i gyflawni'r diwygiad hwn. Byddwn ni, wrth gwrs, yn union fel yr ydym ni wedi ei gael gyda'r isafbris uned, yn cael gwerthusiad annibynnol o effaith y polisi hwn. Dangosodd y gwerthusiad arfaethedig y byddai'n achub hyd at 10 o fywydau bob blwyddyn a hyd at 20,000 o ddamweiniau dros gyfnod o 10 mlynedd, ac y byddai'r GIG yn arbed £92 miliwn bob blwyddyn o ganlyniad i'r nifer lai o bobl wedi'u hanafu o ddamweiniau traffig ffyrdd y bydd y polisi hwn yn helpu i'w hybu. Byddwn yn cael gwerthusiad annibynnol o hynny, wrth gwrs, ac, yn union fel y gwnaethom ni gyhoeddi'r gwerthusiad interim o'r isafbris uned, byddwn yn cyhoeddi canlyniad y gwerthusiadau y byddwn ni'n eu comisiynu.
Un o'r pethau sydd wedi cael eu hamlygu, Prif Weinidog, yw'r sgil-effaith y bydd hyn yn ei chael ar y gwasanaethau brys. Mae'r gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft, wedi dweud, yn eu cynllun gwaith a'u dull rheoli, mai dim ond 20 mya dros y terfyn cyflymder y gall ambiwlansys deithio. Felly, er eu bod yn gallu teithio 60 mya mewn ardal 30mya os ydyn nhw'n defnyddio'r goleuadau glas ar hyn o bryd, byddan nhw'n mynd i lawr i 40 mya. Rydym ni wedi gweld llythyrau a gohebiaeth gan Heddlu De Cymru y bydd sgil-effaith o bosibl. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael i newid y fframwaith gwaith y bydd yn rhaid i'r gwasanaethau golau glas weithredu yn unol ag ef fel na fydd canlyniad anfwriadol o ambiwlansys yn cael eu hoedi neu wasanaethau goleuadau glas yn cael eu hoedi cyn cyrraedd y galwadau hanfodol hynny y gallai'r polisi hwn effeithio arnyn nhw o bosibl?
Llywydd, rydym ni'n cael y sgyrsiau hynny drwy'r amser. Nid wyf i'n credu bod y pryderon hynny'n cael eu rhannu gan y gwasanaethau chwaith. Rwy'n credu na fydd y pryderon hynny yn cael eu cadarnhau yn ymarferol. Mae ein holl wasanaethau golau glas yng Nghymru wedi arfer ag ymdrin â chyfyngiadau 20 mya, 30 mya, 40 mya, 50 mya, 60 mya, 70 mya ar wahanol ffyrdd mewn gwahanol gyd-destunau. Maen nhw'n rheoli hynny yn berffaith lwyddiannus; byddan nhw'n rheoli hyn yn union yr un ffordd.
Wel, mae pryderon wedi cael eu mynegi gan y rhai sydd yn y gwasanaethau brys. Yn ôl eich ffigurau eich hun, hefyd, Prif Weinidog, cydnabyddir y gallai hyn gael sgil-effaith o £8.9 biliwn ar weithgarwch economaidd. Eich ffigurau eich hun yw'r rheini. £4.5 biliwn yw'r raddfa ganolig. Nid yw hwnnw'n swm dibwys o arian pan fyddwch chi'n ystyried y cyfleoedd a fydd yn cael eu cymryd oddi wrth economi Cymru. Mae ardaloedd ugain mya yn synhwyrol y tu allan i ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal ac ardaloedd eraill lle gellir gwneud y ddadl, ond y safbwynt diofyn y mae'r Llywodraeth, yn amlwg, wedi ei fabwysiadu, i gael 20 mya cyffredinol, yw'r opsiwn anghywir, Prif Weinidog. Rwy'n erfyn arnoch chi, fel y mae llawer o bobl wedi ei nodi, nad ydyn nhw wedi cael eu twyllo gan y polisi hwn—. Mae'r arolwg barn gan ITV heddiw yn dangos nad yw dros ddwy ran o dair o bobl Cymru yn cytuno â'r polisi yr ydych chi wedi ei gyflwyno, ac, yn wir, mae'r cyn Weinidog a'r Aelod dros Dde Clwyd wedi nodi bod y Llywodraeth wedi methu ag argyhoeddi pobl ynghylch y polisi hwn. Felly, pam ydych chi'n parhau i fynd ar drywydd y polisi pan ei bod yn gwbl amlwg nad yw'n cael ei dderbyn gan fwyafrif helaeth pobl Cymru, ac, yn y pen draw, os edrychwch chi ar arolygon o Belfast, na fydd y nodau yr ydych chi wedi eu gosod eich hunain yn cael eu cyflawni?
Wel, mae cyfres faith o bwyntiau i'w cywiro yn y fan yna, Llywydd. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r polisi gan fod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros y polisi mewn etholiad, a gallaf ddweud wrthych chi fod unrhyw newid—unrhyw newid—yn y maes hwn yn aml yn cael ei wrthwynebu gan bobl cyn i'r newid gael ei wneud. Rwy'n sicr yn ddigon hen i gofio cyflwyniad yr anadlennydd, pan oedd pobl yn teimlo ei bod hi'n berffaith iawn iddyn nhw dreulio'r diwrnod yn y dafarn ac yna gyrru adref yn y car pan nad oedden nhw mewn unrhyw gyflwr i wneud hynny. Roedd cymaint o ddadlau am hynny ag y mae am hyn, ac mae yna bob amser pan fyddwch chi'n cyflawni newid. Unwaith mae'r newid yno ac mae pobl yn ei weld yn gweithredu yn eu hardaloedd, fel y digwyddodd yn y rhan o Gaerdydd lle'r wyf i wedi byw ers nifer o flynyddoedd bellach, yna bydd pobl yn gweld y manteision ac nid wyf i'n credu y bydd pobl eisiau dychwelyd i ddim byd arall.
Nid yw'n bolisi cyffredinol. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n deall beth yw'r polisi. Mae'n bolisi diofyn ac yna gall awdurdodau lleol ddynodi ffyrdd ar gyflymder o 30 mya lle mae'n synhwyrol iddyn nhw wneud hynny. Rwyf i wedi bod allan cymaint ag y gallaf yn ddiweddar, yn ceisio esbonio'r polisi ac eirioli drosto. Nid wyf i bob amser yn ei wneud mor huawdl ag eraill, felly gadewch i mi ddyfynnu'r hyn a ddywedodd gwahanol Aelod o'r Senedd am hyn mewn dadl yma ar lawr y Senedd:
'Mae'n synnwyr cyffredin ac mae'n gam diogel. Mae unigolyn saith gwaith yn llai tebygol o farw os yw'n cael ei daro ar 20mya na 30mya, neu 10 gwaith os yw dros 60 oed.'
Fe wnaeth yr Aelod gloi gan ddweud:
'Y safon mewn gwirionedd ar gyfer strydoedd mwy diogel a chyfeillgar i bobl erbyn hyn yw 20mya, gyda therfynau uwch dim ond lle gellir eu cyfiawnhau.'
Wel, roeddwn i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders yn y ddadl honno. Nid yw'n waharddiad cyffredinol. Dyma'r mesur diofyn, fel y dywedodd Janet—dyma'r sefyllfa ddiofyn, y gall awdurdodau lleol ei ddiystyru wedyn pan fyddan nhw'n dymuno gwneud hynny.
Gadewch i mi roi'r dystiolaeth orau sy'n bodoli i chi. Dywedodd Russell George yn ei gwestiwn agoriadol ei fod yn gobeithio y byddai isafbris uned yn llwyddo gam mai'r dystiolaeth o weddill y byd yw ei fod yn achub bywydau a'i fod yn targedu'r rhai sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf. Yn Sbaen, lle bu ganddyn nhw ardaloedd 20 mya ers nifer o flynyddoedd—[Torri ar draws.] Na, 20 mya fel eu sefyllfa ddiofyn, fel y bydd gennym ni yng Nghymru—yr union bolisi y gwnaethoch chi eirioli drosto mor huawdl, Janet. Yno, mae marwolaethau trefol o ddamweiniau ffordd wedi gostwng 20 y cant. Mae nifer y beicwyr sy'n cael eu lladd mewn damweiniau traffig ffyrdd wedi gostwng 34 y cant. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw un ar lawr y Senedd hon a fyddai'n meddwl ei fod yn bris annheg i ofyn i rywun ei dalu i yrru ychydig yn arafach, pan fyddwch chi'n gwybod eich bod chi'n helpu i gadw pobl eraill yn fyw drwy wneud hynny.
Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. Mae'n braf bod yn ôl ar ôl toriad yr haf. Mae'n amlwg bod y gwres wedi dweud ar rai. Nid yw'n synnu dim arnaf i weld y Ceidwadwyr yn gofyn cwestiynau am yr uchafswm cyflymder heddiw. Wedi gweld cyfle i chwarae gwleidyddiaeth y maen nhw—mae o mor syml â hynny, dwi'n ofni. Rydw i yn credu, serch hynny, fod yna gonsyrns go iawn gan bobl sydd yn gefnogol o'r egwyddor—consyrns am sut mae'r Llywodraeth wedi gweithredu'r newid, pa mor eang ydy o—ac rydw i'n credu'n gryf y bydd angen adolygu hyn ar ôl gweld sut mae o'n gweithredu'n ymarferol. Mi gawn ni drafod mwy ar hynny yn nes ymlaen heddiw ac yfory.
Rydw i yn cytuno 100 y cant â'r Prif Weinidog pan ddywedodd o ychydig ddyddiau yn ôl nad oedd angen iddo drafod y mater yma â Keir Starmer, oherwydd mater wedi ei ddatganoli ydy o. Ond, mae yna faterion eraill y dylai, ac yn wir y mae'n ddyletswydd ar Brif Weinidog Cymru i fod yn argyhoeddi Keir Starmer arnyn nhw. Un enghraifft ydy'r modd y mae'r Llywodraeth Geidwadol yn Llundain wedi crebachu cyllideb Cymru o £3 biliwn. Felly, yng ngoleuni'r rhybuddion y bydd toriadau pellach—£900 miliwn eleni, efallai—pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i gael gan arweinydd ei blaid y byddai'r holl arian hwnnw yn dychwelyd i goffrau Llywodraeth Cymru pe bai y Blaid Lafur mewn grym yn San Steffan? Ydyn ni'n gallu cael y sicrwydd hwnnw heddiw?
I ddechrau, diolch i arweinydd Plaid Cymru am beth ddywedodd e am y polisi i dynnu'r cyflymder ar yr heol yn ôl. Mae'r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud am bwysigrwydd adolygu'r polisi yn bwyntiau rhesymol. Wrth gwrs rydym yn mynd i wneud hynny, achos pan fydden ni'n gwneud rhywbeth newydd fel hyn, mae'n bwysig dysgu o'r profiadau rydym yn mynd i'w gweld ledled Cymru, a dyna beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud gan gydweithio gyda’r bobl yn yr awdurdodau lleol.
Cyn belled ag y mae Keir Starmer yn y cwestiwn, wrth gwrs, rydym ni'n trafod yn rheolaidd gyda'n cydweithwyr ym Mhlaid Lafur y DU. Rydym ni'n deall yr amgylchiadau y byddan nhw'n eu hwynebu os a phan fyddan nhw'n ffurfio Llywodraeth, o gofio'r llanast ariannol y byddan nhw'n ei etifeddu.
Yr hyn y gwnaf i ei ddweud wrth yr Aelod yw gadewch i ni, yn hytrach na gofyn cwestiynau damcaniaethol i mi am yr hyn a allai ddigwydd neu ddim digwydd yn y dyfodol, edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd eisoes, oherwydd mae Keir Starmer wedi gwneud ymrwymiad penodol y bydd cyllid Ewropeaidd, fel yr oedd, yn cael ei roi yn nwylo Llywodraeth Cymru yn y dyfodol pan fwriedir iddyn nhw gael eu defnyddio yng Nghymru. Felly, mae hwnnw'n ymrwymiad penodol iawn; mae'n dangos, rwy'n credu, ddealltwriaeth ar ran arweinyddiaeth y Blaid Lafur o le mae cyfrifoldebau datganoledig yn bodoli yn briodol. Eu nod fydd cryfhau'r Senedd hon a byddan nhw'n ceisio gwneud yn siŵr bod gennym ni'r adnoddau sydd eu hangen arnom ni i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny. Ni fydd ganddyn nhw hudlath ar y diwrnod cyntaf, ond bydd ganddyn nhw bwrpas gwahanol iawn, iawn yn sail i'r penderfyniadau y byddan nhw'n eu gwneud a pherthynas wahanol iawn, iawn rwy'n credu, gyda phwy bynnag sydd mewn Llywodraeth yma.
Rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn chwilio am sicrwydd y byddai Llywodraeth Lafur yn adfer cyllid. Rydym ni'n gwybod bod angen adnoddau ar lywodraethau er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac anghyfiawnder. Yn ganolog i'm gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer Cymru, mae angen adnoddau ar Lywodraeth er mwyn buddsoddi mewn seilwaith, a hyd yn hyn, nid yw Plaid Lafur y DU wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn gwneud hynny. Mae'n ymddangos bod Keir Starmer yn eithaf ymrwymedig i wneud beth bynnag sydd ei angen i gyrraedd Downing Street, ond beth am yr ymrwymiad i Gymru? Nid oes unrhyw ymrwymiad i roi ei chyfran deg o £6 biliwn o gyllid HS2 a Northern Powerhouse Rail i Gymru, dim ymrwymiad i ddadwneud y toriad mewn termau real i gyflogau sector cyhoeddus, ac mae hynny er i Brif Weinidog Llafur Cymru ddweud ei fod eisiau'r ddau.
Ar ôl ad-drefniant yr wythnos ddiwethaf, mae bron i 90 y cant o ASau Llafur yng Nghymru mewn swyddi gweinidogol cysgodol, felly, ar ôl blynyddoedd o'r Ceidwadwyr yn siomi Cymru, a all y Prif Weinidog addo nawr y bydd Keir Starmer, o ran HS2 a chyflogau sector cyhoeddus, yn cyflawni bellach ei ddymuniadau ef fel arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru?
Mae arweinydd Plaid Cymru yn gwybod yn iawn nad yw'r rheini'n addewidion i mi eu gwneud. Yr hyn y mae'n brysur yn ei wneud—gadewch i ni fod yn eglur am y naratif gwleidyddol y mae e'n ceisio ei ddatblygu yma—yw ceisio argyhoeddi pobl nad yw Llywodraeth Lafur hyd yn oed wedi cael ei hethol eto ac y bydd yn cael ei hethol dim ond oherwydd ymdrechion pobl ar yr ochr hon i'r Siambr, ac yn sicr nid ymdrechion y bydd ef byth yn cyfrannu atyn nhw, mae eisoes wedi eu gadael i lawr. Dyna ei ymgais. 'Bydd Llafur yn eich gadael i lawr'—dyna'r naratif y mae'n ceisio ei greu. Ni thâl hynny gyda phobl yng Nghymru; bydd pobl yng Nghymru yn deall yn yr etholiad mai'r brif dasg o'n blaenau fydd ethol y Llywodraeth Lafur honno a'r rhagolygon gwahanol iawn ar gyfer y dyfodol a ddaw yn ei sgil.
Mae pobl eisiau i lywodraethau gael eu hethol am reswm; oherwydd eu bod nhw eisiau newid. Dim addewidion yno o ran HS2 na chyflogau sector cyhoeddus, nac o ran cynyddu cyllideb Llywodraeth Cymru.
Gadewch i ni droi at yr hyn y mae'r Prif Weinidog a minnau'n sicr yn cytuno arno—y gallai ac y dylai Llywodraeth Geidwadol y DU fod yn gwneud cymaint mwy i leddfu'r argyfwng costau byw. Rwyf i wedi esbonio rhai o syniadau Plaid Cymru yn fanwl: treth ffawdelw ar fanciau; taliad gwres y gaeaf nad yw'n dibynnu ar ba mor oer fydd y tymheredd—rhywbeth a gyflwynwyd yn yr Alban; ac ymestyn y cynllun cymorth biliau ynni. Mae'r rhain yn syniadau a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau miloedd o bobl yng Nghymru.
Ond wrth gwrs, mae gan Lywodraeth Cymru bethau y gall eu gwneud hefyd. Rydym ni'n gwybod bod rhenti cynyddol yn gwaethygu'r argyfwng costau byw—ac rwy'n ddiolchgar i Carolyn Thomas, Jack Sargeant a Mike Hedges am gefnogi ein cynnig diweddar i gyflwyno rheolaethau a fyddai'n capio neu'n atal cynnydd i rent. Nawr yw'r amser i weithredu. Ac onid yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai'r cwbl y mae peidio â gwneud hynny yn ei wneud yw atgyfnerthu'r teimlad bod y Torïaid a'r Blaid Lafur yn rhy brysur yn ymladd yn erbyn ei gilydd nag ymladd ar ran pobl Cymru?
Rwy'n cytuno â Rhun ap Iorwerth bod cynnydd i renti yn peri pryder enfawr i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat, yn arbennig. Dyna pam, yn y cytundeb cydweithio, yr ydym ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i ffyrdd o weithredu yn y maes hwnnw. Dyna pam rydym ni wedi cyhoeddi Papur Gwyn ar y mater hwn. Rwy'n deall, i rai pobl, bod hynny'n ymddangos yn broses lafurus, ond, yn anffodus, ym myd go iawn llywodraeth, pan fyddwch chi'n cymryd un cyfres o gamau, mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi wedi deall eu canlyniadau, ac efallai nad yr holl ganlyniadau yw'r rhai yr oeddech chi'n chwilio amdanyn nhw neu hyd yn oed yn eu disgwyl.
Rydym ni'n gwybod nawr, onid ydym, bod rhewi rhenti honedig Llywodraeth yr Alban wedi arwain at ostyngiad i eiddo sector preifat sydd ar gael i'w rhentu mewn rhannau o'r Alban. Nid dyna y bwriadwyd i'r polisi ei wneud, ond cafodd yr effaith honno, a'r cwbl yr oedd hynny'n ei olygu ei bod hi hyd yn oed yn anoddach i bobl sy'n chwilio am eiddo rhent sector preifat nag yr oedd cyn i'r polisi gael ei gyflwyno.
Rwy'n awyddus iawn ein bod ni'n mynd ar drywydd yr hyn sydd yn y cytundeb cydweithio a'n bod ni'n edrych i weld beth arall y gellir ei wneud wrth ymdrin â'r anawsterau y mae pobl yn eu cael, ond ei wneud yn y ffordd yr ydym ni wedi ei gytuno drwy'r Papur Gwyn, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n clywed gan y rhai yn y maes a fydd â dealltwriaeth fwy cynnil o sut y bydd rhai o'r camau hynny yn gwneud gwahaniaeth ar lawr gwlad, yw'r ffordd iawn o'i wneud.