1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 12 Medi 2023.
3. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dad-ddofi yng Nghymru? OQ59876
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi gadael i dir fynd yn segur ar raddfa eang fel ffurf o ddad-ddofi. Gydag eraill, rydym ni'n gweithio i greu tirweddau byw lle mae ffermio a choedwigaeth yn bodoli o fewn ac ochr yn ochr ag amddiffyn a hyrwyddo natur.
Diolch, Prif Weinidog. Rwyf i, fel llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, rwy'n siŵr, yn gweld dad-ddofi fel rhan o nifer o opsiynau a fydd yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth yng Nghymru, ac yn y blynyddoedd i ddod, rwy'n credu y gallwn ni i gyd ddisgwyl i fwy o ardaloedd ledled Cymru gael eu dad-ddofi. Fel rwy'n siŵr y byddwch chi'n gwybod, ceir llawer o fanteision o ddad-ddofi, yn enwedig wrth ddatblygu'r economi seiliedig ar natur, lleihau'r perygl o danau gwyllt a gwella ansawdd dŵr i enwi dim ond rhai. Wedi dweud hynny, mae llawer o ffermwyr yn poeni am ddad-ddofi, gan eu bod nhw'n gweld nid yn unig ei fod ar dir amaethyddol o'r ansawdd gorau, ond gall rhai o'r anifeiliaid a ailgyflwynir achosi difrod helaeth a chostus. Bydd y Prif Weinidog yn gwybod am ailgyflwyno afancod yng Nghymru, gyda chymorth trwy raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Er nad yw afancod yn achosi problem yng Nghymru ar hyn o bryd, maen nhw mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig Alban yn arbennig. Mae'r niferoedd wedi tyfu i'r fath raddau fel eu bod nhw'n cael effaith niweidiol mewn rhai mannau ac yn achosi llifogydd lleol. Yn anffodus, mae hyn wedi arwain at gynnydd mewn difa heb ei reoleiddio ac absenoldeb llwyr afancod mewn rhai mannau. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i integreiddio ail-ddofi i gefn gwlad Cymru tra hefyd yn cynorthwyo ffermwyr a allai ddioddef canlyniadau niweidiol i'w busnesau o ganlyniad? Diolch.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am y ffordd gytbwys y cyflwynodd y ddadl. Rwy'n cytuno ag ef ei fod yn sicr o fod yn gydbwysedd o geisio sicrhau'r manteision sy'n dod i rywogaethau ac adfer natur lle mae'n bosibl cyflawni agweddau ar ddad-ddofi. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi amrywiaeth eang o gynlluniau sydd â dad-ddofi yn rhan o'u pwrpas, ond mae'n rhaid ei wneud mewn ffordd nad yw'n arwain at ganlyniadau y gallwn ni eu gweld mewn mannau eraill na fwriadwyd na defnyddio tir y gellid ei ddefnyddio'n well at ddibenion cynhyrchiol eraill.
I roi enghraifft i'r Aelod o ble'r ydym ni'n credu y gall dad-ddofi yn sicr fod â rhan i'w chwarae, bydd yr Aelodau yma yn gwybod y byddwn ni'n cyflwyno Bil o'u blaenau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ar ddiogelwch tomenni glo. Wrth adfer tomenni glo, ceir rhai cyfleoedd gwirioneddol i wella amrywiaeth rhywogaethau ac i greu cyfleoedd bywyd gwyllt newydd trwy ychydig o weithredu a fyddai'n dod o dan y categori dad-ddofi. Roeddwn i'n ddigon ffodus, Llywydd, o fynd i Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf yn gynharach yn yr haf. Bydd yr Aelodau yn cofio'r tirlithriad a ddigwyddodd yno yn ôl yn ystod llifogydd 2020. Mae'r adferiad bron wedi'i gwblhau erbyn hyn. Roedd yn drawiadol iawn gweld y ffordd y mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y gwaith adfer wedi bod mor ofalus i wneud yn siŵr eu bod nhw wedi ailgartrefu rhywogaethau sydd eisoes wedi gwreiddio yn y dirwedd honno, wedi creu dôl blodau gwyllt newydd yn rhan o'r gwaith adfer, a sut mae defnyddio'r tir hwnnw, nad yw ar gael ar gyfer cynhyrchu bwyd neu fathau eraill o weithgarwch yn cyfrannu, yn y dyfodol, at ddiogelu rhywogaethau ac adfer natur. Mae'r math hwnnw o ddad-ddofi—wedi'i ystyried yn ofalus, wedi'i ddefnyddio'n briodol lle mae'r cyfleoedd yn iawn ar ei gyfer—yn rhan o'r gymysgedd y byddwn ni eisiau bwrw ymlaen â hi yng Nghymru.
Prif Weinidog, rwy'n credu bod gwastadeddau unigryw a hanesyddol Gwent yn enghraifft dda o'r math o gydbwysedd yr ydych chi'n ei ddisgrifio, lle mae tir yn cael ei ddychwelyd i natur, y llygoden ddŵr wedi'i hailgyflwyno, ffermio yn parhau, mynediad cyhoeddus wedi'i wella, ac rwy'n ddiolchgar iawn am ymrwymiad Llywodraeth Cymru sydd wedi diogelu, ac rwy'n credu fydd yn cynnal ac yn gwella, yr ardal bwysig iawn honno o dir, ac yn wir creu'r gweithgor yr wyf i'n ei gadeirio. Felly, hoffwn ddweud ar ran cymunedau lleol, Prif Weinidog, pa mor ddiolchgar y mae nhw am y cydbwysedd hwnnw yr ydych chi wedi ei ddisgrifio sy'n cael ei ddatblygu a'i gefnogi yn y rhan honno o Gymru, ac yn amlwg maen nhw'n gobeithio'n fawr y bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda phartneriaid ar yr agenda hon yn parhau yn y dyfodol.
Wel, Llywydd, diolch yn fawr iawn i John Griffiths am yr hyn a ddywedodd. Yn ei arbenigedd fel cadeirydd gweithgor gwastadeddau Gwent, mae'n ased gwych nid yn unig i'r poblogaethau lleol hynny ond i'r agenda bolisi ehangach yr ydym ni'n ceisio bwrw ymlaen â hi drwy Lywodraeth Cymru. Mae Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw yn allweddol i hynny i gyd, gan ei bod yn dod â chymunedau, ffermwyr, ynghyd, gan helpu i reoli ac adfer bioamrywiaeth a nodweddion tirwedd gwastadeddau Gwent. Ac mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud mwy yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio, yn eithaf buan, y bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu dweud rhywbeth am y ffordd y byddwn ni'n defnyddio rhai o'r safleoedd a gaffaelwyd cyn y polisi a fabwysiadais o ran ffordd liniaru'r M4—sut y gallwn ni ddefnyddio'r safleoedd hynny i wella gwastadeddau Gwent ymhellach. Bydd hwnnw'n gyfle i wneud mwy fyth yn y dirwedd honno a werthfawrogir yn fawr.