1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am ar 12 Medi 2023.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y sefyllfa bresennol o ran parhau i fwyngloddio glo yn Ffos-y-frân? OQ59900
Diolch yn fawr i Delyth Jewell am y cwestiwn, Llywydd.
Cyflwynwyd hysbysiad gorfodi cynllunio i weithredwr y safle gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r cwmni wedi cyflwyno apêl yn erbyn yr hysbysiad i Weinidogion Cymru. Hefyd, mae gan y Rhwydwaith Gweithredu Glo achos cyfreithiol sy'n parhau, ac mae trafodaethau gyda'r llysoedd yn cael eu cynnal ar hyn o bryd.
Mae mwynglawdd brig Ffos-y-frân ym Merthyr wedi cael sylw ledled y DU oherwydd bod y cwmni wedi parhau i echdynnu glo flwyddyn ar ôl cael cyfarwyddyd i roi'r gorau iddi, gan daflu llwch a charbon a baw allan i'r atmosffer. Mae'r Good Law Project yn amcangyfrif bod mwy na 300,000 o dunelli o lo wedi eu hechdynnu'n anghyfreithlon eisoes. Mae'r cwmni wedi dweud y bydd yn rhoi'r gorau i gloddio ym mis Tachwedd—dim ond eu gair nhw sydd gennym ni i'w gymryd am hynny—ond mae fy mhrif bryder ynghylch y swm prin o arian sydd wedi ei roi o'r neilltu i adfer y tir, tirwedd sydd â hanes maith o gael ei halogi am lo. Rhoddwyd pymtheg miliwn o bunnoedd o'r neilltu pe na bai'r cwmni yn cwblhau'r gwaith a addawyd, a gellid defnyddio hynny i'w adfer, ond amcangyfrifir bod costau'r gwaith adfer hwnnw yn £100 miliwn—£120 miliwn efallai. Os nad yw'r cwmni yn cadw ei addewidion neu'n gadael y safle yn segur, bydd diffyg o fwy na £100 miliwn. Pa fesurau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd, Prif Weinidog, i sicrhau bod y tir hwnnw yn cael ei adfer, a beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau nad yw ein Cymoedd yn gweld ochr mynydd arall eto yn cael ei ddifetha gan safle mwyngloddio segur?
Wel, Llywydd, rwy'n rhannu llawer o'r pryderon y mae'r Aelod wedi'u mynegi. Dyma gwmni lle daeth caniatâd i echdynnu glo i ben ym mis Medi y llynedd. Maen nhw wedi parhau i gloddio am lo byth ers hynny, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddyfeisiau er mwyn caniatáu iddyn nhw wneud hynny, felly mae gennym ni'r gyfres gymhleth hon o apeliadau a chamau yn y llys. Ond nawr, mae cyfres newydd o beryglon yn dechrau dod i'r amlwg. Ceir yr hysbysiadau diswyddo, a fydd wedi cael eu cyflwyno i'r 150 o staff, ac er mai polisi eglur Llywodraeth Cymru yw y dylai adnoddau ffosil cyfyngedig aros yn y ddaear, yn y cyfnod pontio hwnnw oddi wrth gloddio am lo, mae'n rhaid i ni roi sylw priodol o hyd i dynged unigolion y mae eu bywoliaeth yn dal i fod ynghlwm wrtho. Mae'r cwmni yn dweud eu bod nhw'n bwriadu cau'r mwynglawdd ar 30 Tachwedd. Ceir perygl gwirioneddol, o ystyried yr hanes, y gallai'r safle gael ei adael yn segur. Os bydd hynny'n digwydd, ceir cyfres o beryglon uniongyrchol y bydd yn rhaid i ni fod yn effro iddyn nhw. Mae'r holl botensial o lifogydd os bydd pympiau sydd ar y safle ar hyn o bryd yn cael eu symud neu eu diffodd. Mae'n rhaid meddwl am sefydlogrwydd y ddaear, os caiff peiriannau a ddefnyddir ar y safle ar hyn o bryd eu tynnu oddi arno. Ceir hen weithfeydd ar y safle hwnnw y bydd angen rhoi sylw iddyn nhw. Ni fydd unrhyw ddiogelwch ar y safle os caiff ei adael yn segur. Gyda'r holl beryglon i—. Dydw i ddim eisiau bod yn ddifrïol a dweud 'pobl ifanc', ond unrhyw un sy'n meddwl y gallai hwn fod yn lle i fynd i archwilio, bydden nhw'n gweld eu bod nhw'n archwilio lle eithaf peryglus â dim diogelwch yno i'w cynorthwyo. Ac yna'r holl heriau a fyddai'n codi ar gyfer adfer y safle. Dyna pam—a dyma lle mae'n anodd dweud llawer mwy y prynhawn yma, Llywydd—dyna pam mae'r camau llys presennol mor bwysig, i geisio datrys hyn i gyd, yn anfoddhaol iawn fel y mae wedi bod, mewn ffordd sy'n helpu i leihau'r risgiau newydd hyn, a allai, os nad ydym yn ofalus, yn y ffordd y dywedodd Delyth Jewell, grisialu yn ystod yr wythnosau nesaf. Os byddan nhw, yna bydd yn rhaid i ni gymryd un cyfres o gamau. Mae'r pwyslais presennol ar geisio lliniaru'r risgiau hynny.
Prynhawn da, Prif Weinidog. Mewn ymateb i'r materion y gwnaeth Delyth Jewell eu codi a'ch sylwadau chi am y gweithlu yn y fan yna, un o'r pethau rydw i wedi bod yn awyddus iawn i'w ystyried yw incwm sylfaenol cyffredinol pontio, hynny yw, sut rydyn ni'n cefnogi gweithwyr sy'n symud o ddiwydiannau tanwydd ffosil, diwydiannau sy'n drwm ar garbon, i ddiwydiannau gwyrdd a sicrhau bod ganddyn nhw'r sylfaen sgiliau i wneud hynny.
O ran Ffos-y-frân, ac mae gennym ni byllau glo eraill sydd yn y cyflwr penodol yma hefyd—Aberpergwm a Glan Lash—a fyddech chi, pe bai cyllid ar gael, yn cefnogi incwm sylfaenol cyffredinol pontio? Diolch yn fawr iawn.
Wel, Llywydd, mae hynny'n syniad diddorol iawn. Mae'r Aelod yn gwybod bod gen i ddiddordeb mewn incwm sylfaenol cyffredinol yn gyffredinol. Mae'n debyg, pe na bai'r syniad hwnnw wedi cael ei gyflwyno i mi, byddwn i wedi dweud mai'r hyn yr wyf o'i blaid yw trefniadau dileu swyddi teilwng, oherwydd mae trefniadau teilwng o ran dileu swyddi yn darparu'r union glustog honno y mae Jane Dodds wedi sôn amdani. Yr hyn rydyn ni wedi'i weld yw erydu hawliau gweithwyr a hawliau undebau llafur a hawliau dileu swyddi a'r hyn y dylen nhw fod wedi bod mewn gwladwriaeth o undod sy'n dweud wrth weithwyr sy'n cael eu hunain yn y sefyllfa hon y bydd gweithredu ar y cyd yn y gymuned ehangach yn eu cefnogi nhw wrth iddyn nhw drosglwyddo o un math o gyflogaeth i'r llall.
Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru gyfres o gwestiynau i mi am arweinydd y Blaid Lafur. Wel, heddiw, o flaen cyngres y TUC, mae'r Blaid Lafur unwaith eto wedi ailddatgan ein hymrwymiad i'r hawliau hynny y dylai gweithwyr allu eu mwynhau yn y gweithle. Mae'n dda i weithwyr ac mae'n dda i'r economi pan fydd pobl yn gwybod, os na fydd pethau'n gweithio allan fel y bydden nhw'n gobeithio, y bydd rhwyd ddiogelwch yno sy'n ddigon cryf i'w cefnogi. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol yn yr amgylchiadau hynny fod yn ffordd wahanol o wneud hynny, ond byddai cynllun dileu swyddi boddhaol, fel hawl, wedi'i warantu i bobl yn y gweithle, yn ffordd arall o gyflawni'r un amcan.