Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 12 Medi 2023.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r Aelod bod yn rhaid i gamau mwyaf brys ac uniongyrchol Llywodraeth Cymru fod i helpu'r aelodau staff hynny y mae'r penderfyniad wedi effeithio arnyn nhw, a dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni mewn cysylltiad, trwy ein swyddogion, gyda pherchnogion y cwmni. Rydym ni, wrth gwrs, mewn cysylltiad â'r undebau llafur sy'n cynrychioli gweithwyr ar y safle. Dydw i ddim eisiau taro nodyn o optimistiaeth ffug, wrth gwrs, ond fel y dywedais i yn fy ateb i Jayne Bryant, mae cwmnïau eraill yn buddsoddi yn y maes hwn yng Nghasnewydd sy'n chwilio am weithwyr medrus, ac mae'r gweithwyr sy'n colli eu swyddi yn sicr yn hynny. Ac mae'r rhagolygon tymor hirach ar gyfer y clwstwr lled-ddargludyddion yn gryf. Roedd swyddogion Llywodraeth Cymru yn Taiwan dim ond yr wythnos diwethaf, yn mynd ar drywydd cyfleoedd a ddaeth o ganlyniad i ymweliad Gweinidog yr economi â California yn gynharach yn y flwyddyn. Mae Casnewydd yn lle da iawn, iawn i gwmnïau ddod i fuddsoddi, ac yn y diwydiant hwn yn arbennig. Ac er y byddwn ni'n gweithio gyda'r unigolion yr effeithiwyd arnyn nhw yn uniongyrchol ar unwaith, rwy'n credu y gall y rhagolygon tymor hirach ar gyfer cyflogaeth yn y sector, os gallwn ni ei wneud yn iawn—ac mae angen cefnogaeth Llywodraeth y DU arnom ni i hynny ddigwydd—fod yn addawol iawn.