9. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

– Senedd Cymru am 5:56 pm ar 12 Medi 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:56, 12 Medi 2023

Felly, mae'r Rheolau Sefydlog wedi'u hatal i ganiatáu y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) i gael ei gyflwyno gan y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.

Cynnig NNDM8343 Lee Waters

Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 5:56, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig, ac rwy'n falch iawn o agor y ddadl ar egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Ac rwyf bellach wedi cymryd cyfrifoldeb am y Bil wrth iddo barhau i ddirwyn ei ffordd drwy'r Senedd, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Aelodau ar geisio sicrhau Bil mor uchelgeisiol â phosibl.

Wrth helpu i lunio camau cynharach y Bil, dywedais yn glir wrth y grŵp trawsbleidiol ar aer glân fy mod yn awyddus i sicrhau consensws trawsbleidiol ar y ddeddfwriaeth bwysig hon, a gobeithiaf ein bod yn gwneud cynnydd da yn hynny o beth. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid; y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am eu gwaith yn craffu ar y Bil hwn. Rwyf hefyd yn diolch i randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd a roddodd dystiolaeth ac adborth ar y Bil.

Gadewch i mi yn gyntaf fynd i'r afael â theitl y Bil. Rwy'n credu y byddai'n well gan lawer ohonom ni alw hwn yn Fil aer glân. Ond, wrth gwrs, mae cwmpas yr hyn rydym ni'n ei gynnig yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Drwy ystyried ansawdd aer ochr yn ochr â seinweddau yng Nghymru, rydym ni'n torri tir newydd. Ystyrir llygredd sŵn gan Sefydliad Iechyd y Byd fel yr ail gyfrannwr amgylcheddol mwyaf at iechyd gwael yng ngorllewin Ewrop ar ôl llygredd aer. Drwy fynd i'r afael â'r ddau yn y Bil hwn, rydym ni'n amlinellu dull o reoleiddio amgylcheddol sy'n cydnabod ansawdd bywyd ein cymunedau yn ogystal ag anghenion cenedlaethau'r dyfodol.

Llywydd, yn fy nghyfarfod cyntaf gyda swyddogion i drafod y Bil, gofynnais beth yw'r gwahaniaeth rhwng sain a sŵn. A'r ateb yw bod sain yn cynnwys yr hyn mae pobl eisiau ei glywed; sŵn yw sain nad oes arnom ni eisiau ei glywed. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr wrthblaid swyddogol yn ystyried hynny yn eu hymyriadau.

Rydym ni wedi derbyn cyfres o gwestiynau a heriau gan bwyllgorau, ac mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, lle bo hynny'n bosibl, i ymateb i adroddiadau gan y Pwyllgor Cyllid cyn y ddadl egwyddorion cyffredinol ar Filiau. Ond yn gwyro oddi wrth arfer arferol, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, yn hynod ddiffuant, eisoes wedi ymateb yn ysgrifenedig i'r rhan fwyaf o'r argymhellion yn yr adroddiadau gan y tri phwyllgor sydd wedi craffu ar y Bil, er bod gweision sifil yn awyddus i egluro nad yw hyn yn sefydlu cynsail, cyn i chi fynd i hwyl. [Chwerthin.] Felly, mae hyn yn caniatáu imi ganolbwyntio ar yr hyn rwy'n ei weld fel prif argymhellion pob un o'r pwyllgorau y prynhawn yma. Fel y dywedais, hoffem ganfod consensws. Lle nad ydym ni'n cytuno, byddwn ni'n dweud hynny—byddwn ni'n dweud pam a byddwn ni'n ymrwymo i barhau i drafod.

Felly, gan droi gyntaf at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, rwy'n falch iawn o ddweud ein bod yn cefnogi'r argymhellion, bod y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Cawsom ddechrau da iawn gyda'r un yna, rwy'n credu. Credwn mai'r prif densiwn i weithio drwyddo yn y Bil hwn yw'r graddau y mae'r Bil yn ymrwymo i fanylion penodol ar ei wyneb a faint sy'n well i'w gadael i fesurau sy'n deillio o'r ddeddfwriaeth. Ac mae hon yn ddadl gyfarwydd yn y Senedd hon.

Hoffem weithio gydag Aelodau i sicrhau Bil cryf. Ein barn ni yw bod strategaeth ansawdd aer genedlaethol gyda sail statudol yn darparu'r gorau o'r ddau fyd: ymrwymiad cadarn yn y gyfraith i sicrhau aer glanach yng Nghymru, yn ogystal â'r hyblygrwydd i ddiweddaru'r targedau wrth i'r dystiolaeth a'r amgylchiadau newid. A gaf i sicrhau'r Aelodau, lle mae gwahaniaeth, nad yw'n un o uchelgais? Mae'r ddadl arfaethedig yn un o'r ffyrdd mwyaf ymarferol o gyflawni ein hamcanion cyffredin. Rydym ni wedi ymrwymo i dargedau sy'n ystyried argymhellion ymestynnol Sefydliad Iechyd y Byd yng nghyd-destun Cymru.

Credwn fod ein dull o ystyried targedau ansawdd aer newydd yn uchelgeisiol iawn. Rydym yn arwain y ffordd yn y DU ar brosiect, sydd eisoes ar y gweill, i asesu'r achos dros gyflwyno rheoliadau gosod targedau sy'n ymwneud â holl ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar lygryddion ac amonia. Ystyrrir targedau ansawdd aer newydd ochr yn ochr â'r Bil hwn i gyflawni ein huchelgais fwy cyffredinol ar gyfer aer glân yn yr amser cyflymaf posibl. Mae'r prif fanteision a ddisgwylir o dargedau ansawdd aer yn gysylltiedig ag iechyd: llai o farwolaethau a morbidrwydd, llai o wariant gofal iechyd, llai o absenoldeb o'r gwaith oherwydd salwch a mwy o gynhyrchiant yn y gwaith. Bydd manteision amlwg i'r amgylchedd hefyd, a bydd targedau ansawdd aer newydd yn cyfrannu at ein hymateb ehangach i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Mae angen i ni hefyd feddwl yn glir am effaith ein targedau ar y sectorau hynny sy'n cynhyrchu'r llygredd. Mae cerbydau trafnidiaeth ffyrdd, gwresogi domestig, amaethyddiaeth a diwydiant i gyd yn sectorau allyriadau sylweddol o lygryddion aer yng Nghymru. Mae llawer o bolisïau yn effeithio ar faint o lygredd o bob un o'r sectorau hyn sy'n dylanwadu ar weithgareddau allweddol mewn meysydd fel trafnidiaeth, diwydiant, ynni, hinsawdd ac amaethyddiaeth. Ac mae nifer o'r polisïau hyn eisoes yn rhan o bolisïau ehangach sydd gennym ni ar y gweill: y cynllun aer glân, strategaeth drafnidiaeth Sero Net Cymru, 'Polisi Cynllunio Cymru', y cynllun gweithredu adfer natur a'n cynllun ffermio cynaliadwy. Nid ydym yn dechrau o'r dechrau yma. Mae gosod targedau effeithiol felly yn ddarn cymhleth iawn o waith gydag ystod o gyd-ddibyniaethau polisi, ac mae'n bwysig ein bod yn gosod targedau mewn ffordd sy'n lleihau canlyniadau anfwriadol.

Nawr, hoffem weithio ar hyn mewn ffordd dryloyw gyda phwyllgorau a rhanddeiliaid, fel y gwnaethom ni hyd yma. Disgwylir i'r gwaith o gwmpasu a datblygu achosion ar gyfer newid ac opsiynau targed posibl ar gyfer llygryddion aer gael ei gwblhau i'w ystyried gan weinidogion erbyn gwanwyn 2025. Felly, mae'n debygol y bydd Gweinidogion yn ystyried y cyngor ac yn penderfynu ar y camau nesaf yn ystod haf 2025. Felly, ni allaf gytuno ar yr amserlenni a argymhellwyd gan y pwyllgor ar gyfer dyletswyddau targed ansawdd aer newydd cyn y cyngor mewn perthynas â'r llygryddion unigol. Nid wyf ychwaith yn gallu rhagweld y canlyniadau o'r ymgysylltu a'r ymgynghori sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn. Nid oes anghytundeb ynghylch yr angen am dargedau. Fodd bynnag, os byddwn yn gweithredu ar frys, ni fydd yn helpu i ddarparu aer glân a byddwn, yn ôl pob tebyg, yn edifarhau'n fawr. Mae gennym ni gyfres gymhleth o heriau ymarferol gyda llawer o wahanol bartïon â diddordeb. Gallai dewis dyddiadau mympwyol ar gyfer gosod targed fod yn wrthgynhyrchiol. Felly, nid wyf yn cytuno â gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru lle na allwn ni warantu y bydd y rhwymedigaeth hon yn cael ei chyflawni. Nid yw hynny er budd neb.

Photo of Hefin David Hefin David Llafur 6:03, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

A wnewch chi dderbyn ymyriad?

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

Yn hapus iawn.

Photo of Hefin David Hefin David Llafur

(Cyfieithwyd)

O ran y mesurau ymarferol a'r pwerau sydd gan Weinidogion, mae'r Bil yn diwygio Deddf yr Amgylchedd 1995 i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru osod cosbau am segura yn llonydd mewn car, ac yn arbennig—ac mae'n broblem enfawr—ceir llonydd yn segura y tu allan i ysgolion. Rwy'n credu bod y memorandwm esboniadol yn dweud ei fod wedi'i osod ar gosb benodedig o £20 ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw fanylion am yr hyn y gallai'r Gweinidogion gynllunio i'w gyflwyno fel cosbau penodol ochr yn ochr â rhaglen addysg, felly pa fath o gosbau penodol fyddech chi'n awgrymu a allai fod yn effeithiol ar gyfer hynny?

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

Felly, yn amlwg, mae hyn i'w drafod, ond ein meddylfryd presennol yw bod arnom ni eisiau rhoi'r hyblygrwydd i awdurdodau lleol fynd i'r afael â hyn mewn ffordd bwrpasol yn eu hardal. Felly, bydd y gosb bresennol o £20 yn parhau. Fodd bynnag, rydym ni'n bwriadu rhoi pwerau iddyn nhw godi dirwyon uwch o hyd at £80 lle credant ei fod yn briodol, yn enwedig mewn meysydd sensitifrwydd—y tu allan i ysgolion, er enghraifft. Felly, dyna sut rydym ni am fynd ati ar hyn o bryd, yn hytrach na chael un dull cyffredinol i bawb. Mae hynny'n rhywbeth rydym ni'n gweithio drwyddo ac y byddwn yn amlwg yn parhau i'w drafod wrth i hyn fynd drwy'r pwyllgor. Ond rwy'n gobeithio fy mod i wedi rhoi rhyw arwydd o'r meddylfryd presennol. 

Felly, fel yr oeddwn yn ei ddweud, er nad ydym yn cytuno â'r gosodiad targed a argymhellwyd, rydym yn cynnig dyletswydd amgen sy'n darparu sylfaen gryfach ar gyfer sicrhau y gwneir cynnydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd, sydd, yn ein barn ni, yn fwy tebygol o sicrhau canlyniadau gwell. Felly, bydd dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddarparu adroddiad blynyddol i'r Senedd, gan nodi'r ystyriaeth a roesant i ddefnyddio adran 1 i osod targedau hirdymor mewn perthynas â chanllaw ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd ar lygryddion, fel y'i diweddarwyd yn 2021, ac amonia. Byddai'r llygryddion hyn yn cael eu henwi ar wyneb y Bil. Mae'r gwelliant hwn yn golygu na fydd unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol yn gallu esgeuluso eu pŵer o dan adran 1 o'r Bil, ac mae adrodd yn flynyddol ar y gydnabyddiaeth y mae'r Llywodraeth wedi'i rhoi i bennu targedau hirdymor ar gyfer llygryddion ac amonia yn darparu sail gadarn i'r Senedd ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am benderfyniadau a wna mewn perthynas â defnyddio'r pŵer o dan adran 1.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur 6:05, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Mae argymhelliad 7 yn awgrymu cyflwyno gwelliant i leihau'r cyfnod amser ar gyfer gosod targedau PM2.5 i ddwy flynedd. Nawr, mae'r cyfnod amser tair blynedd ar gyfer gosod targedau ar gyfer PM2.5 yn seiliedig ar gynllunio manwl nifer sylweddol o gamau y mae angen eu cymryd i gasglu tystiolaeth angenrheidiol a gwneud rheoliadau. Mae ein dadansoddiad yn dangos nad yw gosod rheoliadau o fewn dwy flynedd i Gydsyniad Brenhinol yn gyraeddadwy. Disgwylir hefyd i'r camau a gymerir i gyflawni targedau PM2.5 ddarparu gostyngiadau cysylltiedig mewn allyriadau llygryddion eraill.

Mae argymhelliad 11 yn awgrymu cyflwyno gwelliannau i sicrhau bod y Bil yn darparu ar gyfer adrodd yn rheolaidd i'r Senedd ar gynnydd tuag at gyflawni targedau ansawdd aer. Nawr, yn ogystal â gofynion adrodd yn adrannau 5 a 6 y Bil, mae adran 7 yn gosod dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i wneud trefniadau i gasglu data am ansawdd aer yng Nghymru. Mae hyn yn eu galluogi i fonitro cynnydd tuag at gyrraedd targedau penodol, ac yn sicrhau bod data'n cael ei gyhoeddi. Rwy'n gwerthfawrogi awydd y pwyllgor i adrodd yn rheolaidd a nodir yn yr argymhelliad hwn. Maen nhw hefyd yn cydnabod nad yw'r Bil yn dweud dim ar hyn o bryd ynghylch gofynion adrodd pellach unwaith y bydd targed wedi'i gyrraedd. Felly, mae hon yn her ddefnyddiol, ac rwy'n bwriadu cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth a fydd yn sicrhau y bydd Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gynnal unrhyw safon a gyflawnir yn rhinwedd unrhyw darged a bennir o dan y Bil, ac, yn ogystal, bydd dyletswydd ar Weinidogion i sicrhau bod gofynion adrodd ar waith mewn perthynas â'u dyletswydd i gynnal safonau ar ôl cyrraedd targed. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd. Rwyf hefyd yn ymrwymo i adrodd yn flynyddol ar y strategaeth ansawdd aer genedlaethol, a fydd yn cynnwys diweddariadau sy'n ymwneud â hyrwyddo ein cynllun cyflawni ymwybyddiaeth.

Awgrymodd argymhelliad 18 welliant i sicrhau bod sefydliadau eraill—y GIG, swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a byrddau gwasanaethau cyhoeddus—yn cael eu rhestru fel ymgyngoreion statudol wrth adolygu'r strategaeth ansawdd aer genedlaethol, ac rydym yn bwriadu cyflwyno gwelliant o'r fath yng Nghyfnod 2.

Gan droi nawr at argymhellion y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, rydym yn hapus i dderbyn nifer sylweddol o'u hargymhellion. Er enghraifft, fel y nodir yn argymhelliad 3, mae esboniad wedi'i roi ynghylch pam mae angen y Bil arnom ni. Yn yr un modd, fel y gofynnwyd yn argymhelliad 6, rydym ni wedi gallu cadarnhau dealltwriaeth y pwyllgor nad oes dim yn y Bil sy'n atal Gweinidogion Cymru rhag defnyddio Deddf yr Amgylchedd 1995 i osod targedau hirdymor ar gyfer ansawdd aer. Mae cydgrynhoi deddfwriaeth a hygyrchedd y gyfraith, yn briodol, yn bynciau o ddiddordeb, ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi darparu ymatebion manwl i argymhellion pwyllgor 4, 5, 6 a 7 sy'n ymdrin â'r pynciau hyn.

Gan droi at yr ymateb i argymhellion 9 a 10, rydym ni wedi cadarnhau i'r pwyllgor nad oes unrhyw faterion yn codi mewn perthynas â chadw cyfraith yr UE a ddargedwir o fewn y Bil hwn. Mae argymhelliad 11 yn tynnu sylw at bryderon y pwyllgor ynghylch y dryswch posibl o ddiffinio deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir fel deddfwriaeth sylfaenol yng ngoleuni adran 9 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023. Rwy'n cytuno â'r pwynt hwn, a byddwn yn cyflwyno gwelliant i ddileu cyfeiriad at ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir o adran 26 o'r Bil.

Rwy'n credu fy mod eisoes wedi trafod argymhellion 14 a 15 mewn perthynas â thargedau ansawdd aer. Er na fyddaf yn cyflwyno gwelliant mewn ymateb i argymhelliad 18, i gynnwys diffiniad o 'aer amgylchynol' yn adran 2 y Bil, rwy'n derbyn argymhelliad 19 ac yn bwriadu cyflwyno gwelliant i'r Bil gan ei gwneud hi'n glir bod yn rhaid i reoliad sy'n gosod targed PM2.5 wneud darpariaeth sy'n diffinio 'aer amgylchynol'. Felly, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cyflawni'r nod mewn ffordd wahanol. 

Wrth edrych ymlaen at argymhelliad 21, mae hyn yn argymell y dylai'r Llywodraeth gyflwyno diwygiad i'r Bil i fynnu bod angen gweithdrefn uwchgadarnhaol i wneud rheoliadau o dan adrannau 1 a 2 o'r Bil. Mae'r weithdrefn gadarnhaol, ynghyd â'n hymrwymiad i ymgynghori ar reoliadau, yn ein barn ni, yn rhoi cyfle digonol i'r Senedd graffu ar reoliadau gosod targedau a wneir o dan adrannau 1 a 2 o'r Bil. Mae gweithdrefn uwchgadarnhaol yn ymestyn yr amserlen ar gyfer gwneud rheoliadau yn sylweddol, ac yn cynyddu'r risg o fethu â chydymffurfio â'r ddyletswydd statudol i osod rheoliadau ar gyfer PM2.5 erbyn tair blynedd ar ôl y Cydsyniad Brenhinol. Yn ogystal, dim ond mewn achosion prin y defnyddir y weithdrefn uwchgadarnhaol pan fernir bod gweithdrefnau cadarnhaol yn annigonol, ac nid ydym yn credu bod hyn yn un o'r achosion hynny.

Yn olaf, ynghylch argymhellion y Pwyllgor Cyllid—rydym ni ar fin gorffen, gyfeillion—rwy'n falch iawn bod y pwyllgor yn fodlon ar y cyfan â goblygiadau ariannol y Bil, ac rwy'n derbyn yr holl argymhellion yn yr adroddiad hwn. Ysgrifennodd y Gweinidog Newid Hinsawdd at y pwyllgor i ddarparu'r wybodaeth a'r eglurhad y gofynnwyd amdanynt, ac nid wyf wedi ymdrin â'r holl argymhellion yn adroddiadau'r pwyllgor hwnnw. Fodd bynnag, credaf fod yr ymatebion ysgrifenedig a ddarperir yn cwmpasu'r manylion ehangach, ac rwy'n hapus i fynd i'r afael â hynny ymhellach yn ysgrifenedig.

Felly, a gaf fi orffen trwy ailadrodd mai Bil sy'n croesi rhaniadau pleidiol yw hwn? Mae'n hanfodol ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Aelodau sydd â diddordeb mewn pasio Deddf sy'n gweithio i Gymru. Diolch. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:11, 12 Medi 2023

Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd yn gyntaf—Llyr Gruffydd

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Reit ar y dechrau fan hyn, dwi'n meddwl ei bod hi'n gwbl addas i mi ddiolch i Heledd Fychan, a gamodd i'r adwy fel cadeirydd dros dro y pwyllgor amgylchedd am ran helaeth o ystyriaethau Cyfnod 1 y pwyllgor o'r Bil yma—diolch i ti am dy waith yn hynny o beth. Dwi hefyd, wrth gwrs, eisiau diolch i'r rhai roddodd dystiolaeth i lywio'n hystyriaethau ni o'r Bil, ac i aelodau o'r cyhoedd hefyd a dreuliodd amser yn cwblhau ein harolwg ar-lein. Yn olaf, hefyd, diolch i'r Gweinidog am ymateb i'n adroddiad cyn y ddadl heddiw, a dwi'n cydnabod bellach mai'r Dirprwy Weinidog fydd yn arwain ar y Bil yma o hyn ymlaen ac, yn amlwg, yn edrych ymlaen i gydweithio ag e wrth i'r Bil, ar ôl heddiw, gobeithio, symud yn ei flaen. 

Nawr, ar yr olwg gyntaf, mae'n ymddangos bod yr ymateb gan y Llywodraeth yn eithaf cadarnhaol, ond, efallai, pan oeddwn i'n edrych yn fanylach ar ymateb y Gweinidog, mae’r Bil fel y’i cyflwynwyd, mae'n ymddangos, ym marn y Gweinidog beth bynnag, cystal ag y mae e'n mynd i fod.

Mae ein hadroddiad ni yn cynnwys, fel rydych chi'n gwybod, dwi'n siŵr, 35 o argymhellion. Mae 20 ohonyn nhw yn galw ar Weinidogion y Llywodraeth i gyflwyno gwelliannau i'r Bil yng Nghyfnod 2. Mae'r gwelliannau arfaethedig hyn, wrth gwrs, yn seiliedig ar y dystiolaeth rydyn ni wedi derbyn gan arbenigwyr a phobl sydd yn gweithio yn y maes. Hyd yn hyn, yn ei hymateb, mi wnaeth y Gweinidog nodi ei bod hi'n fodlon derbyn dim ond un o'r 20 o argymhellion, felly, gallaf ddim ond gobeithio y bydd y Dirprwy Weinidog yn cadw meddwl agored o ran gwelliannau wrth i'r Bil wneud ei ffordd drwy gamau eraill y broses graffu. A dwi'n nodi rhai o'r sylwadau adeiladol mae e wedi gwneud, mewn rhai achosion, beth bynnag—efallai ddim bob un—ac, yn amlwg, bydd angen i ni ystyried y rheini wrth symud ymlaen. 

Ond gan droi at egwyddorion cyffredinol y Bil, mi fydd yr Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, fod disgwyl eiddgar wedi bod am y Bil yma. Mae rhanddeiliaid wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros Ddeddf aer glân. Ac efallai, ie, shorthand yw'r tetil yna, yn sicr, erbyn hyn, am Fil sydd ychydig yn ehangach na hynny yn benodol. Ond iddyn nhw, wrth gwrs, yr ymgyrchwyr, mae'r Bil yn gam ymlaen sydd ei angen yn fawr iawn, ond dyw e ddim yn ddigon. Fel y dywedodd Awyr Iach Cymru, mae'n ddechrau da, ond mi allai fod yn well, mi allai fod yn gryfach, mi allai fod yn fwy manwl. Ac mae'r argymhellion yn ein hadroddiad ni, wrth gwrs, yn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg yma o ran sylwedd ar wyneb y Bil, ac o ran uchelgais ar wyneb y Bil. A dwi'n derbyn y pwynt mae'r Dirprwy Weinidog yn ei wneud ynglŷn ag, wrth gwrs, bod, efallai, y sylwedd a'r uchelgais yna o safbwynt bwriad y Llywodraeth ond efallai ddim o reidrwydd yn ymddangos ar wyneb y Bil. Ond gan ystyried y cyfyngiadau amser, Llywydd, mi wnaf ganolbwyntio ar rai o'r argymhellion allweddol sydd gennym ni yn yr adroddiad.

Yn gyntaf, mae argymhellion 5 i 10 yn ymdrin â phennu targedau ansawdd aer, ac mi glywon ni'r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at beth o hyn. Does dim targedau ar wyneb y Bil. Yn hytrach, mae gofyniad i Weinidogion Cymru bennu targed ar gyfer PM2.5 o fewn tair blynedd wedi i'r Ddeddf gael Cydsyniad Brenhinol. Ynghyd â hyn, mae pŵer disgresiynol eang i bennu targedau hirdymor o ran, a dwi’n dyfynnu, 

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 6:15, 12 Medi 2023

'unrhyw fater sy'n ymwneud ag ansawdd aer’.

Allech chi ddim bod yn fwy amwys na hynny. Rŷn ni'n gwybod eisoes, onid ydym ni, beth yw'r llygryddion mwyaf niweidiol, ac mae gennym syniad eithaf clir hefyd am y safonau y dylem fod yn anelu atyn nhw, diolch i ganllawiau diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd, fel rŷn ni wedi clywed cyfeiriad atyn nhw. Ond, fel mae'n sefyll, dyw’r Bil ddim yn rhoi’r sicrwydd y mae rhanddeiliaid yn chwilio amdano fe y bydd yna dargedau uchelgeisiol ar gyfer llygryddion allweddol yn cael eu pennu, a hynny, wrth gwrs, yn fuan. Mae ein hargymhellion yn ceisio mynd i'r afael â hyn. Rŷn ni wedi galw, er enghraifft, am gynnwys dyletswydd i bennu targedau ar gyfer yr holl lygryddion sy'n cael eu cwmpasu gan ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd. Gallech chi wneud hynny ar wyneb y Bil a chaniatáu'r hyblygrwydd ehangach yna, efallai, rŷch chi’n chwilio amdano fe.

Ond i ddychwelyd at darged PM2.5, fydd y targed hwn ddim yn cael ei bennu, fel rŷn ni wedi clywed tan, os dwi wedi gweithio pethau mas yn iawn, Rhagfyr 2026. Mae hynny yn y seithfed Senedd. Mae'r dystiolaeth gawsom ni fel pwyllgor yn awgrymu bod pennu’r targed o fewn y ddwy flynedd nesaf hollol bosib gan ddefnyddio data presennol. Nid act in haste—dwi'n meddwl dyna oedd y disgrifiad gan y Dirprwy Weinidog—fyddai hynny, ond gweithredu ar sail tystiolaeth arbenigol sydd eisoes yn bodoli. Felly, yn amlwg, mae angen trafodaeth bellach, o’n safbwynt ni, gyda'r Dirprwy Weinidog yn hynny o beth.

Mae'r Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 7, os dwi wedi deall yn iawn, gan nodi bod rhaglen dair blynedd ar gyfer datblygu'r targed eisoes wedi'i chytuno. One ein pwynt ni, wrth gwrs, Dirprwy Weinidog, yw y gallwch chi ac y dylech chi gyflymu y rhaglen. Y gwir yw bod aros tair blynedd, ym marn nifer ohonom ni, yn rhy hir i aros, a gobeithio y byddwch chi yn barod ystyried hynny eto yn ystod y camau diwygio.

Gan symud ymlaen at ofynion adrodd, dyw’r Bil ddim yn cynnwys digon o gyfle i'r Senedd graffu ar waith Gweinidogion Cymru o ran cynnydd tuag at dargedau a chyflawni ei strategaeth ansawdd aer genedlaethol. Mae hynny’n broblem. Mae'r pwyllgor wedi cael profiad uniongyrchol o anawsterau gyda gwaith craffu effeithiol ar gynnydd tuag at gyflawni targedau newid hinsawdd, a'r cynllun sero net, oherwydd gwendidau o ran gofynion adrodd yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Mae cyfle fan hyn i osgoi ailadrodd y camgymeriad yna. Mae argymhellion 11 i 15 yn galw am ddyletswydd i adrodd yn flynyddol ar gynnydd. Yn anffodus, yn yr ymateb ysgrifenedig, mae'r Gweinidog, unwaith eto, wedi gwrthod ein hargymhellion. Ond, mae'r Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio, efallai, ei bod hi’n bosib edrych eto ar rai agweddau ar hyn, felly mi wnawn ni, gobeithio, weld meddwl agored yn hynny o beth hefyd.

Dwi am symud ymlaen at beth fyddai rhai, efallai, yn ei ystyried fel y darpariaethau mwyaf dadleuol—y rhai ar gynlluniau codi tâl ar ddefnyddwyr cefnffyrdd. Er bod y mwyafrif o randdeiliaid yn cefnogi'r darpariaethau hyn, doedd hynny ddim yn wir o ran mwyafrif yr aelodau hynny o'r cyhoedd a ymatebodd i'n harolwg ar-lein. Mae’n ddealladwy bod y posibilrwydd o dalu i ddefnyddio cefnffyrdd yn peri pryder i'r cyhoedd, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw parhaus. Mae'r ymateb chwyrn i ehangu parthau allyriadau isel iawn, yr ULEZ, yn Llundain yn ddiweddar yn enghraifft amlwg o hynny. Rŷn ni'n aml yn clywed mantra Llywodraeth Cymru ei bod yn bwysig mynd â'r cyhoedd gyda ni. Rŷn ni wedi clywed e yn gynharach y prynhawn yma mewn cyd-destun arall. Heb os, o ran cyflwyno cynlluniau codi tâl, mi fyddai hynny yn dasg heriol. Mae argymhelliad 28 yn galw am ddyletswydd i ymgynghori, gan gynnwys y cyhoedd lle maen nhw yn cael eu heffeithio, cyn cyflwyno cynlluniau codi tâl. Dyw e ddim yn llawer i'w ofyn, yn enwedig o gofio bod y Gweinidog eisoes wedi ymrwymo i ymgynghori â'r cyhoedd. Ond, unwaith eto, mae'r Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad ni. Mi ddywedodd wrthym ni na fyddai dyletswydd i ymgynghori yn ychwanegu gwerth o ystyried y rheidrwydd presennol i wneud hynny. Ond, unwaith eto, mae hyn yn methu'r pwynt. Fyddai Gweinidog yn y dyfodol, mewn Llywodraeth wahanol yng Nghymru, ddim o dan unrhyw rwymedigaeth i anrhydeddu ymrwymiad y Gweinidog presennol. Os ŷch chi, Dirprwy Weinidog, yn hapus i ymrwymo i ymgynghori, wel pam ŷch chi mor wrthwynebus i gynnwys dyletswydd ar wyneb y Bil? Unwaith eto, rwy'n gobeithio, efallai, y bydd hynny'n gallu cael ei ailystyried.

I gloi, dwi'n symud at ail ran y Bil, sy'n ymdrin â seinweddau. Roedd hwn yn gysyniad newydd i'r pwyllgor, ond fe ddaethom ni i ddeall yn gyflym bod seinweddau yn rhan hanfodol o'n hamgylchedd ni, gan gyfrannu'n aruthrol at ansawdd bywyd. Mi fydd awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus ar y rheng flaen o ran gweithredu polisi yn y cyd-destun yma. Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid yn pryderu am ddiffyg arbenigedd a diffyg adnoddau. Gall hyd yn oed y polisïau â’r bwriadau gorau fod yn annigonol heb hyfforddiant, heb adnoddau a heb ddealltwriaeth digonol. Felly, mae argymhelliad 34 wedi tynnu sylw at y bwlch posib yma. Rydym yn deall y bydd angen i'r Dirprwy Weinidog aros tan yr ymgynghoriad ar y strategaeth ddrafft cyn ymateb i hyn yn llawn.

Llywydd, mae'r pwyllgor yn argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, ac os bydd y Senedd yn gwneud hynny, mae gennym ni gyfle, wrth gwrs, dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, i sicrhau bod y Bil yn well, yn gryfach ac yn fwy manwl, gan helpu i ddarparu, gobeithio, aer glanach i'n cymunedau ac i fyd natur. Dwi'n edrych ymlaen at ddychwelyd at y materion yma yn ystod y camau diwygio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:20, 12 Medi 2023

Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad nesaf, Huw Irranca-Davies.

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siarad dim ond fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, nid fel Aelod o Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith Llyr, ac nid yn gwisgo het CPG ar deithio llesol chwaith—byddwn ni'n gwneud hynny rhyw dro arall, Gweinidog. Rydym yn edrych ymlaen at gael trin a thrafod hyn mewn gwahanol gyd-destunau. Mae'r sylwadau rydw i'n mynd i'w gwneud yn cydnabod bod ein hadroddiad wedi dod i bedwar casgliad ac wedi gwneud 32 o argymhellion, ac mae'n debyg ei fod yn adlewyrchu ein swyddogaeth—rydym ni'n dod ati o ongl wahanol i bwyllgorau eraill—wrth adlewyrchu'r flaenoriaeth a roddwn i'r ddeddfwrfa hon graffu ar y Pwyllgor Gwaith, ac osgoi i'r Pwyllgor Gwaith gymryd gormod o bwerau eu hunain, gan gynnwys am resymau fel diogelu at y dyfodol. Ond mae a wnelo rhai ohonyn nhw â materion sy'n ymwneud â pholisi hefyd.

Roedd y Gweinidog yn hynod o agored a diddorol ac yn barod i wrando ar ddadleuon, felly dyna beth hoffwn i ei ddweud heddiw, gan gydnabod, fel y mae wedi dweud mewn gwirionedd, fod y Llywodraeth, yn wir, wedi derbyn llawer o'n hargymhellion, ond mae yna rai yr hoffwn i ganolbwyntio arnyn nhw. Argymhellwyd gennym ni bod y Gweinidog yn esbonio pam mae angen y Bil ar hyn o bryd. Mae hyn yn rhyfedd, oherwydd mae cefnogaeth fawr i hyn, gan gynnwys gen i, ond pam mae ei angen ar hyn o bryd, o gofio efallai na chyflwynir rheoliadau o dan adrannau 1 a 2 yn y blynyddoedd nesaf, fel yr eglurwyd i ni, ac o gofio hefyd bod fframwaith deddfwriaethol sy'n bodoli'n barod, fel y mae'r Gweinidog wedi dweud, yn Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy'n caniatáu gosod targedau ar ansawdd aer. Nid ydym ni eto wedi cael ein perswadio gan ddadleuon Llywodraeth Cymru yn hyn o beth, yn anad dim oherwydd, yn yr ymateb i argymhelliad 6, mae'r Gweinidog yn cadarnhau, fel y mae wedi ailadrodd yma heddiw, y gellid defnyddio'r Ddeddf honno o 1995 i osod targedau tymor hir ar gyfer ansawdd aer a thargedau ar gyfer lefel cymedrig blynyddol o PM2.5 mewn aer amgylchynol.

Un canlyniad i'r cyfryngau deddfwriaethol cyfochrog hyn yw y gallai Llywodraeth yn y dyfodol, fel y cadarnhaodd y Gweinidog yn wir yn ei sylwadau, benderfynu peidio â defnyddio'r pwerau yn y Bil hwn i osod targedau ansawdd aer tymor hir, ond gallai rhai Gweinidog benderfynu yn lle hynny i ddefnyddio pwerau o dan y fframwaith presennol yn Neddf 1995. Felly, pam ddylen ni fod yn bryderus? Wel, mae'n arbennig o bwysig, oherwydd ni fyddai Gweinidogion Cymru, pe baen nhw'n gweithredu yn y ffordd honno yn y dyfodol, o dan ddyletswydd benodol i gyrraedd targedau a osodwyd yn y dyfodol a bennwyd o dan Ddeddf 1995, ond byddent pe baent yn gwneud hynny o dan y Bil hwn. Felly, dyna pam yr argymhellwyd y dylai'r Gweinidog gyflwyno gwelliannau i ymgorffori Rhan IV o Ddeddf 1995 yn y Bil hwn, fel ffordd o ddarparu darn o gyfraith gyfun, ddwyieithog a hygyrch ar ansawdd aer, sy'n gyson ag amcanion y Llywodraeth ei hun ar hygyrchedd y gyfraith. Rydym ni wedi cael llawer o'r trafodaethau hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol; mae yntau ar flaen y gad yn hyn ar agenda'r Deyrnas Unedig. Felly, yn yr achos hwnnw, gadewch i ni geisio cael cysondeb ar draws yr holl ddarnau o ddeddfwriaeth rydym ni'n eu llunio. Ac yn nodedig, mae'r Bil eisoes yn ceisio diwygio darpariaethau presennol yn Rhan IV o Ddeddf 1995, felly waeth i chi ei gynnwys ddim.

Un budd sylweddol o ymarfer cydgrynhoi o'r fath, byddwn i'n dadlau i'r Gweinidog, yw y byddai wedi osgoi cael pwerau i wneud rheoliadau i osod targedau ansawdd aer mewn dwy Ddeddf wahanol, ac wedi galluogi trefn fwy cyson ar gyfer adrodd ac adolygu a monitro targedau. Nid ydym yn credu y byddai dull o'r fath yn ddryslyd nac yn arwain at ail-adrodd y stori yn rhannol am ansawdd aer, fel yr awgrymwyd i'n pwyllgor. Yn ein barn ni, mae'r canlyniadau hynny'n fwy tebygol o ddigwydd os na fyddwn yn ymgymryd â'r cydgrynhoi. Felly, rydym yn gofyn i chi gadw meddwl agored, myfyrio ar argymhellion 4 a 5, fel y cred y pwyllgor. Fel arall, gallai hwn fod yn gyfle a gollir i ddarparu cyfraith ddwyieithog glir a hygyrch ar ansawdd aer.

Mae adrannau 1 a 2 o'r Bil yn darparu pwerau deddfu fframwaith eang—ac mae hyn bob amser yn anfon cryndod i lawr ein cefnau—caniatáu i bolisi pwysig ymddangos mewn is-ddeddfwriaeth yn hytrach nag ar wyneb y Bil. Rydym ni wedi mynegi pryder yn barhaus ynghylch cynnwys pwerau o'r fath, nid yn unig yn y Bil hwn, yn enwedig at ddibenion diogelu at y dyfodol, ac, yn unol â hynny, rydym ni wedi gwneud argymhellion i fynd i'r afael â'r mater hwn. A nodwn fod y Gweinidog yn cytuno ag ysbryd argymhelliad 12, ond dywedodd fod y polisi a'r egwyddorion mewn perthynas â gosod targedau o dan adran 1, yr ydym yn argymell eu gosod ar wyneb y Bil, 

'eisoes wedi eu cynnwys yn y memorandwm esboniadol a'r asesiad effaith rheoleiddiol.'

Gofynnaf yn syml i'r Senedd nodi, a'r Gweinidog i nodi hefyd, fod camau Llywodraeth y dyfodol yn dibynnu ar yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith ac nid yr hyn a ddisgrifir mewn dogfennau anstatudol. Felly, byddwn yn gofyn i chi fyfyrio eto. Rydym yn siomedig nad yw'r argymhelliad hwn wedi'i dderbyn, ac rydym yn parhau i bryderu bod y pŵer i ddeddfu yn llawer rhy eang. Felly, gobeithiwn y bydd rhywfaint efallai o ailystyried hyn.

Yn olaf, Llywydd, o ystyried y diffyg manylder ar wyneb y Bil, a phwysigrwydd targedau ar gyfer cyflawni'r gwelliannau yn ansawdd aer, yr ydym ni i gyd yn eu cefnogi, fe wnaethom ni argymell y dylai rheoliadau o dan adrannau 1 a 2 fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn uwchgadarnhaol. Nid yw'r Gweinidog wedi derbyn hyn—mae wedi esbonio pam heddiw. Credwn y byddai'n galluogi pwyllgorau i graffu arnynt, gan gynnwys drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, ac y gellid cyflawni hyn o fewn y terfyn amser statudol tair blynedd y mae'r Gweinidogion yn cyfeirio ato. Fel y mae ar hyn o bryd, mae'r terfyn tair blynedd hwnnw yn berthnasol i'r pŵer rheoleiddio adran 2 mwy penodol, yn hytrach na'r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1.

Wrth gloi, Llywydd, gofynnaf i'r Gweinidog ailystyried gwrthod argymhellion 22 a 29. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd y Gweinidog yn cynnal ymgynghoriadau priodol. Ni fydd gosod dyletswyddau i ymgynghori ar wyneb y Bil yn rhoi unrhyw faich ychwanegol ar y Llywodraeth, ond bydd yn sicrhau y bydd yn ofynnol i Weinidogion y dyfodol, o unrhyw Lywodraeth, wneud hynny. Felly, diolch unwaith eto i aelodau ein pwyllgor, clercod a'r tîm cymorth am eu gwaith, yr hyderaf sydd o gymorth i'r Senedd. Diolchaf i'r Gweinidog am ei ymatebion, a'i gyd-Weinidog am ei hymatebion hyd yma, ac rwy'n parhau i ofyn am ei ymgysylltiad, gyda meddwl agored, fel y mae Llyr wedi dweud.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

Diolch, Llywydd. Dwi'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl yma heddiw. Yn ein hadroddiad, fe ddaethom ni i un casgliad ac fe wnaethom ni chwech argymhelliad, a diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei sylwadau hyd yn hyn. Fel sydd wedi digwydd yn ddiweddar gyda Biliau eraill a noddir gan y Llywodraeth, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ymateb i'n hargymhellion cyn y ddadl heddiw. Mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, sy'n ychwanegu'n fawr at y ddadl ar egwyddorion cyffredinol. Rwy'n nodi hefyd y bydd y cynnig ynghylch y penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil hwn yn cael ei ystyried yr wythnos nesaf, yn hytrach nag yn syth ar ôl y cynnig ar egwyddorion cyffredinol fel sy'n digwydd fel arfer. Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn debygol o fod wedi digwydd ar ddamwain y tro hwn, ond mae'r Pwyllgor Cyllid wedi galw o'r blaen am i'r cynigion hyn gael eu hystyried yn yr wythnosau olynol. Fe fyddwn i'n galw ar y Dirprwy Weinidog, felly, i droi'r gwall gweinyddol hwn yn rhywbeth cadarnhaol, drwy ddefnyddio'r dull hwn ar gyfer pob Bil yn y dyfodol, fel y bydd gan y Senedd fwy o amser i allu trafod goblygiadau ariannol Bil ac ystyried ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cyllid.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:28, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Gan droi nawr at ein hargymhellion penodol, mae'r pwyllgor yn nodi bod gwella iechyd yn sbardun allweddol i'r Bil, ochr yn ochr â lliniaru effaith economaidd llygredd aer a'i effaith ar natur, yn ogystal â llygredd sŵn a goblygiadau ehangach ansawdd aer ar yr hinsawdd. Er ein bod yn nodi bod y Bil yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth fanwl, mae elfennau eraill yn fframweithiol eu natur a chyda'r manylion i'w nodi yn rheoliadau'r dyfodol. Felly, mae'n siomedig na ellir costio'n llawn elfennau sylweddol o'r Bil, gan mai dim ond ar ôl llunio'r rheoliadau y daw'r goblygiadau ariannol llawn yn hysbys. Cawsom dystiolaeth gan y Gweinidog Julie James, a diolch iddi am y dystiolaeth a roddwyd. Wrth roi tystiolaeth lafar, dywedodd y Gweinidog ei bod yn hapus iawn i reoliadau gael eu gwneud gan y weithdrefn uwchgadarnhaol. Rhoddodd hyn rywfaint o sicrwydd i'r pwyllgor y cai digon o gyfleoedd eu darparu i bwyllgorau'r Senedd a rhanddeiliaid graffu ar y rheoliadau a wnaed o dan y Bil, ac fe wnaethom argymell bod y Gweinidog yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y byddai'r weithdrefn well yn gweithio. Fodd bynnag, mae'r Gweinidog bellach wedi dod i'r casgliad na fydd yn cymhwyso gwelliannau pellach i'r gweithdrefnau rheoleiddio. O ystyried na ellid craffu ar rannau o'r Bil a fydd yn cael eu gwneud gan reoliadau, mae'r newid meddwl hwn yn hynod siomedig.

Y maes costau mwyaf sy'n gysylltiedig â'r Bil yw'r galluoedd monitro ansawdd aer. Mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn darparu ystod o gostau ar gyfer y gweithgaredd hwn. Clywsom y gallai targedau ar gyfer llygryddion ychwanegol yn y dyfodol gynyddu amcangyfrif o gostau prynu a gosod cyfalaf dangosol. Felly, argymhellwyd bod gwybodaeth bellach yn cael ei darparu ar y costau sy'n ymwneud â galluoedd monitro ansawdd aer, gan gynnwys yr amgylchiadau a allai arwain at ysgwyddo costau uwch yn yr ystod hon. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hesboniad bod yr amcangyfrif cost monitro is yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn cwmpasu ehangu PM2.5 yn unig, ac y byddai'r gost fonitro uchaf yn caniatáu cwmpas i ddarparu anghenion ansawdd aer ychwanegol yn y dyfodol. Yn naturiol, rydym yn disgwyl gweld dadansoddiad llawn o gostau unrhyw dargedau yn y dyfodol.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 6:30, 12 Medi 2023

Yn olaf, Llywydd, yn argymhelliad 6 rydym wedi gofyn i'r Gweinidog ddarparu rhagor o wybodaeth am effaith y gost dybiedig i awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill o ystyried a gweithredu ardal rheoli mwg. Rydym yn nodi barn y Gweinidog y bydd costau sy'n gysylltiedig â gweithredu ardaloedd rheoli mwg newydd yn amrywio, gan ddibynnu ar ffactorau megis lleoliad, dwysedd poblogaeth a nifer y stofiau nad ydynt yn cydymffurfio. Rydym yn falch o glywed bod y Gweinidog wedi ymrwymo i ddatblygu canllawiau rheoli mwg ar gyfer awdurdodau lleol, ac y bydd yr asesiad llawn o'r costau posib sy'n gysylltiedig â'r ddarpariaeth hon yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r canllawiau drafft ar gyfer yr ymgynghoriad. Diolch yn fawr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 6:31, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi fod yn onest—roedd hynny'n werth aros amdano mewn gwirionedd. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn dda iawn, a hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog, ei thîm, ac wrth gwrs, chi, y Dirprwy Weinidog a'ch tîm am gyflwyno hyn. Mae'r cyfraniadau yma, mae'n rhaid i mi ddweud, yn arbennig, ac rwy'n mynd i sôn eto am fy nghyd-Aelod—rydw i wedi eich enwi chi ddwywaith heddiw—Huw Irranca-Davies, oherwydd roeddwn i'n gweld hynny'n eithaf diddorol am y gwahanol Ddeddfau. 

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Stopiwch. [Chwerthin.]  

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Ceidwadwyr 6:32, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Beth bynnag, mae ychydig yn siomedig, serch hynny—ac rwy'n siŵr bod Aelodau eraill yn teimlo'r un fath—ei fod wedi cymryd pum mlynedd o'r adeg yr ymrwymodd ein Prif Weinidog i gyflwyno hyn. Beth bynnag, rydym ni lle'r ydym ni. Ar ei ffurf bresennol, ni allwn ni gefnogi'r Bil, ond fy ngobaith gwirioneddol yw gallu gweithio gyda chi, Lee, a'ch tîm i allu diwygio'r ddeddfwriaeth hon fel mai hwn yw'r Bil mwyaf priodol sy'n cael ei gyflwyno i Gymru. 

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith—ac eto, cyfraniad ardderchog gan Llyr Gruffydd, ein Cadeirydd—ac roeddwn i'n rhan o hyn, fe wnaethom ni gyfres o argymhellion, gan nodi bod y Bil yn methu â chwrdd â'r disgwyliadau yn llawn, ac fe fynegon ni bryder bod diffyg sylwedd ac uchelgais o hyd yn y Bil. Nawr, yn ysbryd craffu a herio adeiladol, byddaf yn amlinellu pam. Yn ôl adran 1(1), rhoddir awdurdod i Weinidogion Cymru osod targedau hirdymor mewn perthynas ag unrhyw fater sy'n ymwneud ag ansawdd aer. Mae'n debyg, i mi, bod cyfnod o 10 mlynedd fel tymor hir braidd yn bryderus. Lle mae targedau yn y ddeddfwriaeth, rwy'n teimlo eu bod braidd yn hael, ar ôl aros cyhyd i gyflwyno, er gwaethaf yr hyn yr ydym ni wedi'i glywed y prynhawn yma gan Huw Irranca-Davies.

Mae Adran 3(8) yn rhoi tair blynedd i chi osod targedau ansawdd aer PM2.5. Er gwaethaf eich ymateb i argymhelliad 7, beth am edrych eto? Buom yn aros am amser hir. Roeddwn i wastad yn poeni pan wnaethon nhw ymuno ag e a daeth yn seinwedd—. Wyddoch chi, rydym ni i gyd wedi bod eisiau Bil aer glân am resymau amlwg iawn. Gallaf ddeall y cyfiawnhad, oherwydd mae niwsans sŵn yn rhywbeth—ac mae hyn yn niwsans sŵn nawr—. Mae niwsans sŵn yn broblem fawr i bob un ohonom ni yn ein hetholaethau, felly mae cael rhai cyfyngiadau ar waith yn beth da. Mae amlygiad tymor byr i lefelau uchel o PM2.5 wedi'i gysylltu â pheryg uwch o drawiadau ar y galon, a hynny hyd yn oed ar ôl ychydig oriau o amlygiad yn unig. Mae adran 5(4) yn rhoi blwyddyn i chi osod datganiad yn esbonio pam nad yw targed wedi'i gyrraedd, felly pam mor hir? Ac mae'n ymddangos bod adran 14 yn rhoi ffenestr ddiderfyn i awdurdodau lleol baratoi cynllun gweithredu a'i anfon atoch i'w gymeradwyo. Rwy'n credu ei bod yn dda cael targedau llym ar waith ar gyfer Bil sydd mor bwysig.

Mae'n rhaid i ni weld gwaith monitro a gorfodi effeithiol. Mae angen llawer mwy o fanylion ynghylch pa mor aml y mae Gweinidogion Cymru yn cael data am ansawdd aer. Rwy'n credu os ydym yn mynd i gyflwyno Bil, y dylem osod yn gyfreithiol ganlyniad i gyrff cyhoeddus beidio â darparu'r data y mae Gweinidogion ei angen. Dylai'r ddeddfwriaeth hon roi i chi, ac unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol, yr wybodaeth sydd ei hangen arni er mwyn gallu barnu'n hyderus pa gamau sy'n cael eu cymryd er budd Cymru.

Rwy'n cytuno â hyrwyddo ymwybyddiaeth, ond nid ydych chi wedi rhestru sut na ble. Un awgrym sydd gen i yw ein bod ni'n creu dyletswydd i ysgolion, colegau a phrifysgolion hyrwyddo ymwybyddiaeth o hyn. Yn hytrach na cheisio wfftio argymhelliad 3 Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith drwy gyfeirio at adran 8, pam nad ydych chi'n feiddgar, felly, a defnyddio'r Bil i annog teithio llesol?

Mae angen mwy o wybodaeth yn adran 13. Nid oes gennyf unrhyw broblem o gwbl gydag adolygiadau ansawdd aer, ond hoffwn weithio gyda chi i ychwanegu cosb glir i awdurdodau lleol nad ydynt yn cydymffurfio. Mae'n wir fy mod yn credu bod y Senedd hon wedi dod yn gorff deddfwriaethol sy'n cynhyrchu gormod o gyfraith i awdurdodau lleol, ac fel arfer ar gost enfawr iddynt. Fodd bynnag, os ydym ni am wneud hynny, hoffwn sicrhau bod y gyfraith yn ddigon tynn i ddwyn pob un o'r 22 corff cyhoeddus i gyfrif os ydyn nhw'n methu â gweithredu. Edrychwch ar adran 23, sy'n rhoi dyletswydd i awdurdod lleol 'roi sylw i strategaeth genedlaethol ar seinweddau'. Mae'r geiriad hwnnw'n rhy amwys, ac yn berffaith i awdurdod lleol wneud cyn lleied â phosib ar hyn. Dyma fy marn o hyd hyd yn oed ar ôl darllen eich ymateb i argymhelliad 16.

Mae'r gosb ar losgi tanwydd solet i'w ddefnyddio mewn lle tân mewn man rheoli mwg yn ymddangos yn ormodol, felly a allwch chi amlinellu heddiw a fyddwch chi'n ystyried unrhyw eithriad i aelwydydd lle mae lle tân eisoes wedi'i osod—. A fyddwch yn cyflwyno cronfa grant i helpu aelwydydd i fforddio symud o losgi tanwydd solet mewn ardaloedd rheoli? Mae perygl gwirioneddol y gallai'r agwedd hon ar y ddeddfwriaeth daro'r tlotaf galetaf. Mae'r un peth yn wir am adran 19. Rydym yn gwrthwynebu'n gadarn—ac rwy'n siarad ar ran pob un ohonom ni ar y fainc hon—cynlluniau codi tâl cefnffyrdd. Felly, pe bai arnoch chi mewn difrif eisiau gwrando ar y cyhoedd yn y lle cyntaf, ni fyddech chi'n gwrthod argymhelliad 28. Dylid egluro'n glir yn y gyfraith hon bod dyletswydd arnoch chi i ymgynghori cyn sefydlu cynllun codi tâl cefnffyrdd.

Yn olaf, mae British Heart Foundation Cymru wedi cysylltu â mi i godi pryder na chaiff cyfeiriad at ganllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ei ymgorffori yn y Bil. Nid ydych chi wedi gallu ymateb i argymhelliad 5. Felly, a ydym ni'n gywir i gymryd yn ganiataol nad ydych chi a'ch tîm wedi ystyried canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd yn fanwl?

Mae pum mlynedd wedi bod, ac rwy'n dal i ailadrodd hynny, oherwydd buom ni i gyd yn awyddus i weld Bil aer glân, a dydw i ddim yn wrthwynebus o gwbl i'r agwedd seinwedd arno—. Er ein bod yn pleidleisio yn erbyn y Bil heddiw, rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn weithio'n gadarnhaol iawn ar y ddeddfwriaeth hon fel bod y Bil hwn yn addas i'r diben. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:38, 12 Medi 2023

Rwy'n siŵr y bydd nifer fawr iawn o bobl dros Gymru yn croesawu'r ddeddfwriaeth hon. Buaswn i'n hoffi hefyd estyn fy niolchiadau i bawb sydd wedi gweithio ar y Bil yma, y rhai sydd wedi cefnogi'r angen am ddeddfwriaeth, Deddf aer glân, y grwpiau trawsbleidiol o dan Huw, a nifer o bobl wahanol sydd wedi bod yn gweithio yn drawsbleidiol ar hyn, a'r gwaith mae Healthy Air Cymru a chymaint o bobl wedi'i wneud. Mae hyn i gyd wedi dod â ni at y pwynt hwn. Buaswn i hefyd eisiau diolch i'r gwaith mae'r pwyllgor newid hinsawdd o dan Llyr wedi'i wneud, a'r tîm.

Wrth gwrs, wnaethon ni aros lot rhy hir am y ddeddfwriaeth hon—mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn barod heno—ond pleser mawr yw gweld ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt yma.  

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Nawr, roeddwn yn falch iawn o weithio gyda'r pwyllgor newid hinsawdd i graffu ar y Bil. Mae ein hadroddiad yn darparu cyfres o argymhellion, fel y nodwyd yn llwyddiannus, ac er ein bod yn croesawu'r egwyddorion sy'n gefndir i'r Bil hwn, rydym ni wedi cyflwyno rhai argymhellion beirniadol, ym mhob ystyr y gair hwnnw. Mae gennym ni bryderon am yr hyn sydd ar goll ohono.

Rydym ni eisoes wedi clywed, Llywydd, pam mae angen y ddeddfwriaeth hon. Llygredd aer yw un o'r bygythiadau amgylcheddol mwyaf i iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu, ac mae'n cyfrannu at yr argyfyngau hinsawdd a natur sy'n ein hwynebu ar raddfa fyd-eang. Dywed Sefydliad Iechyd y Byd 

'mae effeithiau cyfunol llygredd aer amgylchynol a llygredd aer y cartref yn gysylltiedig â 6.7 miliwn o farwolaethau cynamserol' bob blwyddyn. Amcangyfrifir bod aer gwael yn y DU yn cyfateb i rhwng 29,000 a 43,000 o farwolaethau bob blwyddyn, ac ar gost o £1 biliwn y flwyddyn i'r GIG, mae llygredd aer yn disbyddu ein hadnoddau, yn rhoi straen ar ein system iechyd ac yn lleihau bron i 2,000 o fywydau'r flwyddyn yng Nghymru. Mae'n argyfwng iechyd cyhoeddus.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:40, 12 Medi 2023

Ac mae hefyd yn gwestiwn o anghyfiawnder cymdeithasol. Dengys ymchwil fod llygredd aer yn uwch yn yr ardaloedd hynny yng Nghymru sy'n cael eu disgrifio fel y rhai sydd wedi cael eu hamddifadu. Mae'r cysylltiad rhwng llygredd aer, tlodi ac iechyd yn glir, ac mae'r bobl o ardaloedd llai breintiedig yn fwy tebygol o ddioddef gyda llygredd aer a hefyd, felly, yn fwy tebygol o ddioddef gydag iechyd gwael, yn enwedig clefydau'r ysgyfaint.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Hoffwn adleisio pryderon sefydliadau iechyd cyhoeddus fel y British Heart Foundation ac Awyr Iach Cymru nad yw'r Bil fel y'i drafftiwyd yn ddigon cryf a bod cymaint o gyfleoedd wedi'u colli. Rwy'n gobeithio'n fawr, wrth i'r Bil fynd rhagddo, wrth i ni allu siarad a chraffu ar hyn ymhellach gyda'r Dirprwy Weinidog, y gallwn ni drafod manylion hyn a gweld ble y gellir gwneud iawn am y cyfleoedd hynny a gollwyd. Mae gwella ansawdd ein haer a lleihau llygryddion niweidiol yn rhywbeth sy'n mynd i fod, ie, yn bwysig nawr, ond wrth i'r argyfyngau hinsawdd a natur barhau i waethygu i genedlaethau o blant sydd eto i'w geni, bydd yn etifeddiaeth y gadawn i'r cenedlaethau hynny a ydym ni wedi gwneud digon nawr.

Cefais fy siomi gyda dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â rhywfaint o'r craffu yn gynharach, ac rwy'n rhannu'r pryder na chawsom ni ddigon o amser i ystyried a chraffu ar y dadleuon a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn iawn ynghylch a ydyn nhw wedi derbyn neu wrthod pob un o'r argymhellion hynny, er fy mod yn sylweddoli bod pwysau amser. Rwy'n gwybod bod ar y Llywodraeth eisiau pasio'r ddeddfwriaeth hon cyn gynted â phosibl, a gwn fod y Gweinidog wedi teimlo'n gryf iawn am hyn ac mae hynny wedi'i wneud yn glir iawn gan y Gweinidog i ni yn y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn adleisio'r ymdeimlad hwnnw o frys. Rwy'n deall yr angen i wneud hyn yn iawn hefyd, ond mae craffu yn bwysig iawn i sicrhau bod y broses honno'n digwydd yn briodol.

Ynghylch rhai o'r manylion penodol—ac mae rhai o'r pwyntiau hyn wedi'u gwneud yn barod—roeddwn yn siomedig bod y Llywodraeth wedi gwrthod argymhellion 9 a 12 y pwyllgor newid hinsawdd, sydd, fel y nodwyd, yn galw ar i'r ddeddfwriaeth ddarparu bod Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i ganllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd wrth osod ac adolygu targedau. Mae'n ymddangos yn rhyfedd na ddylem ni fod eisiau meincnodi ein hunain yn erbyn y safon hon. Rwy'n ystyried yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud ar hyn, ond dyna mae nifer o arbenigwyr wedi'i awgrymu sy'n angenrheidiol, ac unwaith eto, rwy'n gobeithio, wrth i hyn fynd yn ei flaen, y byddwn ni'n gallu edrych yn fanylach ar hyn. Rwy'n ystyried yr hyn a ddywedodd.

Ymhellach i hyn, mae materion yn ymwneud â llygryddion penodol, neu ddiffyg hynny, yn y Bil fel y mae—eto, mae hyn wedi ei drafod. Yn sylfaenol, mae'n rhaid i ni dderbyn nad oes lefel ddiogel o lygredd aer, gyda mater gronynnol a nitrogen deuocsid yn arbennig o niweidiol. Heb gyfres estynedig o lygryddion, ac amserlenni ar gyfer eu cyflwyno a bennir mewn deddfwriaeth, rydym ni mewn perygl o oedi pellach.

Nawr, Llywydd, rwy'n sylweddoli bod fy amser ar ben ar gyfer hyn, felly byddwn yn adleisio'r pwyntiau a wnaed gan Gadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon, ac rwy'n croesawu'r egwyddorion a'r ffaith ein bod yn gwneud hyn. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 6:43, 12 Medi 2023

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai argymhellion 5, 6, 9 a 12 yw'r rhai creiddiol, mewn gwirionedd, sy'n ymwneud â sut rydym ni'n meincnodi ein deddfwriaeth yn unol â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ai peidio. Felly, i'r rhai ohonoch chi nad ydynt ar y pwyllgor hwn, credaf mai'r mater allweddol yw sut y byddwn yn sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn addas i'r diben, gan gofio y gwyddom ni fod rhai pobl yn marw o lygredd aer, ond nid ydym yn gwybod y stori lawn eto, ac mae cryn dystiolaeth nad clefyd rhwystrol cronig amlwg neu asthma y mae pobl yn marw ohono, ond bod yna gysylltiad posib â chanser, camesgor, pwysau geni isel, gordewdra a dementia hefyd. Felly, mae'r dystiolaeth yn dal i fyny drwy'r amser.

Ond, a dweud y gwir, nid yw Sefydliad Iechyd y Byd yn casglu data ar lygryddion niweidiol oherwydd na allan nhw feddwl am unrhyw beth arall i'w wneud. Mae angen i ni atgoffa ein hunain mai canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd sydd wedi ein galluogi i ddeall y lefelau anghyfreithlon o lygredd aer a oedd yn arferol yn fy etholaeth, o amgylch Heol y Porth yng nghanol y ddinas a hefyd ar rannau o Heol Casnewydd ers blynyddoedd lawer, lle roedd yna—lle mae yna o hyd—ddwy ysgol gynradd, canolfan iechyd fawr gyda llawer o wasanaethau cleifion allanol, yn ogystal â chartrefi preswyl a llety gwarchod. Felly, canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd a orfododd Gyngor Caerdydd i weithredu drwy sicrhau bod y bysiau trydan cyntaf a gyflwynwyd yng Nghaerdydd yn gwasanaethu'r ardaloedd hyn, oherwydd deallwyd nad oedd hon yn sefyllfa allai barhau. Felly, Sefydliad Iechyd y Byd sydd wedi gosod y safon, ac felly mae'n rhaid bod rhesymau da iawn pam ein bod yn anwybyddu'r gwaith a'r corff o dystiolaeth y mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi'i gronni dros y blynyddoedd.

Rwy'n sylweddoli bod goblygiadau symud ymlaen i Gyfnod 2 ar y sail hon oherwydd effaith cyfres o dargedau ansawdd aer, nid ar ddulliau cludo yn unig, yn ogystal â manteision aer glanach; Byddai hefyd yn peri heriau sylweddol i (a) llygredd amaethyddol a (b) allyriadau diwydiannol hefyd. Yn yr amseroedd digynsail hyn ar gyfer cyllid cyhoeddus, mae angen i bob un ohonom ni gydnabod bod costau yn ogystal â manteision i godi'r safon ar ansawdd aer. Yn sicr, ni allwn ni fforddio diystyrru unrhyw ganlyniadau anfwriadol o ddeddfwriaeth. Mae llawer iawn eto nad ydym yn ei wybod am ryngweithio gwahanol lygryddion o, dyweder, gwrteithiau amaethyddol â'r rhai o allyriadau cerbydau. A yw'n creu cymysgedd gwenwynig hyd yn oed yn waeth o aer niweidiol na'r hyn y mae dinasyddion eisoes yn ei brofi? Gwyddom fod angen mwy o ymchwil ar hyn.

Ond, yn y pen draw, yn fy marn i, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â'r holl lygryddion hyn fel rhan o'n taith i sero net erbyn 2050, beth bynnag, felly mae hyn yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei wneud beth bynnag. Er fy mod yn deall y pryderon a fynegwyd gan fy nghyd-Aelodau ar fy hawl i beidio â defnyddio deddfwriaeth diogelu at y dyfodol i daflu popeth i mewn, fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau y bydd y ddeddfwriaeth a gynhyrchwn yn addas i'r diben am y blynyddoedd nesaf, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd gennym ni hyd yma.

Yn olaf, hoffwn longyfarch Llywodraeth Cymru ar fod yn ddigon dewr i fynd i'r afael â mesurau ynghylch llygredd sŵn. Mae seinweddau, nid sŵn, yn dibynnu i raddau helaeth ar farn bersonol. Gallaf gofio, fel cynghorydd lleol, cael gohebiaeth gyson gan drigolion nad oeddent yn hoffi'r ffaith bod ceiliog yn clochdar ymhellach i lawr y stryd, a oedd yn sain anarferol mewn amgylchedd trefol, er yn bleser i'r rhan fwyaf ohonom ni, ond gallaf ddeall os ydych chi'n byw drws nesaf iddo ac yn cael eich deffro'n gyson am bump y bore, efallai y bydd problemau. Ond rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fydd yn cyfoethogi'r drafodaeth a gawn wrth fynd rhagom i Gyfnod 2 y ddeddfwriaeth, oherwydd nid oes amheuaeth bod hyn yn rhywbeth sydd wir yn effeithio ar les dinasyddion ac, felly, mae'n gwbl briodol ein bod yn dechrau mynd i'r afael â hynny yn ein deddfwriaeth. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:48, 12 Medi 2023

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd nawr i ymateb i'r ddadl yma.

Photo of Lee Waters Lee Waters Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Roeddwn i'n meddwl bod honno'n ddadl aeddfed ac adeiladol iawn, ac, yn amlwg, mae llawer mwy sy'n ein huno ni nag sy'n ein rhannu ar y mater hwn, ac rwy'n edrych ymlaen, gyda chefnogaeth y Senedd, i allu ymdrin â'r materion hyn yn fanwl wrth graffu yn ystod Cyfnod 2. Rhof y sicrwydd i Llyr Gruffydd y mae'n gofyn amdano am gadw meddwl agored yn gyfnewid am sylw gan yr holl Aelodau wrth graffu ar yr hyn y gallwn ei gyflawni'n ymarferol, oherwydd credaf nawr mai dyna lle mae'r drafodaeth. Nid wyf yn credu bod gwahaniaeth mawr rhyngom o ran uchelgais, o ran egwyddor, yr hyn yr ydym ni'n ceisio'i wneud. Mae ynglŷn â sut rydym ni'n gweithredu ac, yn arbennig, y mater, rwy'n credu, o ganlyniadau anfwriadol, oherwydd rydym ni wedi gweld yn y Siambr hon eisoes uchelgais fawr o ran egwyddorion safon uchel. Rydym ni'n sicr wedi ei weld ar dargedau newid hinsawdd, ac efallai y gallaf dynnu sylw'n barchus, pan ddaw i weithredu rhai o'r manylion hynny mewn rhai meysydd polisi, y cafwyd ei fod yn anoddach ac yn fwy dadleuol, ac mae'r consensws yn cwympo'n ddarnau. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ymwybodol o hynny yn y fan yma. Nid oes pwynt pasio rhywbeth nad yw'n ddiffuant yn ein parodrwydd a'n gallu i barhau â hynny. Cyfeiriaf yn syml at y rheoliadau amonia fel enghraifft. Rydym yn gwybod y bydd hyn yn her sylweddol i'r sector ffermio, ac rydym ni wedi gweld yr anawsterau a gafodd y Siambr hon wrth gael consensws ar ymdrin â gwahanol elfennau o lygredd sy'n deillio o amaethyddiaeth. Ac un peth yw galw arnom ni i roi'r targedau ar wyneb y Bil ar gyfer amonia, ond nid wyf yn siŵr yr ystyriwyd y goblygiadau hynny'n llawn gan bob Aelod.

Felly, rwy'n gwneud y pwynt hwnnw mewn ysbryd diffuant o beidio â bod eisiau sgorio pwynt, ond dim ond fel enghraifft o 'gadewch i ni fod yn ofalus beth rydym yn dymuno amdano yma', oherwydd rydym yn tanio gyda bwledi byw yma, ac mae angen i ni fod yn ofalus iawn ynghylch yr hyn yr ydym yn cytuno iddo a'r hyn a osodwn yn y gyfraith. Ac rwy'n credu y cawn ni'r trafodaethau hynny yn y pwyllgor. Fel y dywedais i, byddwn i'n fwy na pharod i edrych eto ar yr ymatebion a roddwn, ond mae angen gwreiddio unrhyw wrth-ymatebion yn ymarferol, o'r hyn y gellir ei gyflawni. Ac wrth gwrs, nid yw hyn yn ein hatal rhag gweithredu nawr. Mae gennym ni eisoes y grym i wneud llawer o bethau. Mae gennym ni eisoes strategaethau a chynlluniau gweithredu sy'n cwmpasu'r pethau hyn ac mae gwaith ar y gweill. Ac a gaf i sicrhau cyd-Aelodau y byddwn yn ymgynghori ar reoliadau drafft PM2.5 yn nhymor y Senedd hon? Felly, nid yw popeth yn cael ei atal wrth i ni sicrhau'r fframwaith cywir ar gyfer y dyfodol.

Fel bob amser, mae angen i ni sicrhau nad yw'r perffaith yn gelyn i'r da, ond credaf fod gennym ni yma lun ar gonsensws ar gyfres o ddiwygiadau uchelgeisiol a grymus iawn a fydd yn gwella ein holl gymunedau, ac rwy'n gobeithio y gallwn ei gefnogi heno a symud ymlaen i'r cam nesaf a pharhau â'n trafodaethau. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:51, 12 Medi 2023

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, fe fyddwn ni yn gohirio'r bleidlais tan yr eitem yn y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.