– Senedd Cymru am 3:47 pm ar 28 Mehefin 2023.
Eitem 5 heddiw yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod—Bil dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Galwaf ar Adam Price i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8293 Adam Price
Cefnogwyd gan Rhys ab Owen
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) ceisio efelychu llwyddiant democratiaethau eraill sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio o ran cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau a thrwy hynny wella lefel yr ymgysylltiad a'r cynrychioldeb ar draws pob oedran, dosbarth a chymuned;
b) cyflwyno dyletswydd ddinesig ar bawb sy'n gymwys i bleidleisio i gymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ac etholiadau cyngor sir;
c) caniatáu i'r rhai sy'n dymuno nodi eu hanfodlonrwydd gydag ymgeisydd, plaid neu wleidyddiaeth yn ehangach i wneud hynny drwy opsiwn o ymatal yn gadarnhaol ar y papur pleidleisio;
d) caniatáu cyflwyno cosb briodol am beidio â chydymffurfio â'r rhwymedigaeth ddinesig i bleidleisio neu ymatal yn gadarnhaol, gydag eithriadau cyfreithlon; ac
e) darparu ar gyfer cyflwyno cyfnod peilot ar gyfer cyflwyno'r ddyletswydd ar sail oedran benodol.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael gwneud y cynnig hwn ar gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Nid hwn yw'r cynnig cyntaf i'r Senedd ar yr argymhelliad hwn. Chwe blynedd yn ôl, cyflwynwyd cynnig yn dadlau dros bleidleisio cyffredinol gan Dawn Bowden, Jeremy Miles a'r diweddar Steffan Lewis, ond ni chafodd ei ddewis. Felly, dyma'r tro cyntaf inni gael cyfle fel Senedd i drafod y cynnig y dylai fod yn ofynnol i bob dinesydd, fel rhan o'u dyletswyddau dinesig sylfaenol, gyfranogi ym mywyd democrataidd y genedl.
Byddai Senedd o 96 Aelod, gdag o leiaf eu hanner yn fenywod, wedi'u hethol gan fwy na 90 y cant o'r etholwyr, yn fwy cynrychioliadol nag unrhyw Senedd arall yn y DU. Mae'n syniad trawsnewidiol tu hwnt, ond nid yw'n un newydd nac anarferol. Mae'n bodoli mewn 26 o wledydd ar draws y byd: gwledydd mor amrywiol â'r Ariannin, Awstralia, Gwlad Belg, Ecuador, Gwlad Groeg, Singapore, y Swistir ac Uruguay. Yn Awstralia, mae cymryd rhan mewn etholiadau wedi bod yn orfodol ers 1924. Ac mae'r syniad fod dinasyddiaeth yn ymwneud nid yn unig â hawliau ond â dyletswyddau yn un cyfarwydd yma yng Nghymru hefyd, gan ein bod yn derbyn ein dyletswydd i dalu trethi, i wasanaethu ar reithgor, i lenwi'r cyfrifiad, a hefyd, ie, i gofrestru i bleidleisio.
Felly, pam ymestyn yr egwyddor honno i'r weithred o bleidleisio ei hun? Wel, mae un cynsail canolog yn sail i'r cynnig hwn: fod iechyd unrhyw ddemocratiaeth yn ddibynnol ar i ba raddau y mae'r bobl yn cyfranogi ynddi. Er iddi gael ei chreu gan fwyafrif o etholwyr Cymru ym 1997, nid yw'r Senedd hon wedi cael ei hethol gan fwyafrif yn unrhyw un o'r etholiadau ers hynny, ac mae'r un peth yn wir am etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru dros y cyfnod hwnnw hefyd.
Y rheswm cyntaf dros gyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio yw y byddai'n cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio yn ddramatig i'r 90 y cant a mwy rydym fel arfer yn ei weld mewn etholiadau mewn gwledydd fel Gwlad Belg, Awstralia ac Uruguay, lle mae'n arferol. Nid oes amheuaeth y byddai nifer uwch o bleidleiswyr yn rhoi llawer mwy o gyfreithlondeb i'r Senedd a Llywodraeth Cymru. Ond byddai nifer uwch o bleidleiswyr hefyd yn gwneud y Senedd hon yn llawer mwy cynrychioliadol. Mae'r ychydig o dan hanner yr etholwyr sy'n pleidleisio ar hyn o bryd yn gwyro'n drwm tuag at y pleidleisiwr hŷn a mwy cefnog, felly ni fydd barn llawer o'r rhai ifanc a'r dosbarth gweithiol, yn enwedig y rheini sy'n teimlo mai gwleidyddiaeth prif ffrwd sydd â'r lleiaf i'w gynnig iddynt, yn cael sylw. Yn lle hynny, byddai dyletswydd ddinesig gyffredinol i bleidleisio yn rhoi system lle byddai pawb yn cyfrif, nid y rhai sy'n debygol o bleidleisio'n unig. Ac os yw pawb yn pleidleisio, mae pob llais yn cael ei glywed.
Yn hytrach na'i gwneud hi'n anos i bobl bleidleisio fel sy'n digwydd yn Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd, byddai cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio hefyd yn golygu y byddem yn ceisio ei gwneud mor hawdd â phosibl i bleidleisio, drwy gynnal etholiadau ar ddydd Sadwrn er enghraifft, neu gyflwyno pleidleisio digidol, a chaniatáu i bobl bleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio. A phe bai'n ofynnol i bob person ifanc bleidleisio, byddai gan ysgolion reswm hyd yn oed yn fwy pwerus dros ddarparu addysg wleidyddol fel rhan o'r cwricwlwm gorfodol.
Bydd dyletswydd ddinesig i bleidleisio yn trawsnewid cyfreithlondeb ein democratiaeth, ei chynrychioldeb a'i diwylliant. Ni fyddai unrhyw ddinesydd yn cael ei orfodi i bleidleisio dros unrhyw un yn erbyn eu hewyllys, a bydd gan bob un ohonom opsiwn i bleidleisio dros opsiwn 'dim un o'r uchod' neu ddychwelyd pleidlais wag neu ddifetha pleidlais os mai dyna yw ein dymuniad. Byddai sail resymol dros eithrio pobl. Dylai'r orfodaeth fod yn un ysgafn, fel y mae ym mhob awdurdodaeth sydd wedi cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio. Dylai dirwyon fod yn fach ac yn fwy symbolaidd eu natur, gyda gofynion gwasanaeth cymunedol yn ddewisiadau amgen yn lle dirwyon i bobl ar incwm isel a phobl ifanc, a dylem ystyried y defnydd posibl o gymhellion yn hytrach na chosbau, er mwyn lleihau unrhyw ganlyniadau niweidiol posibl.
Er mwyn inni asesu'r gwahanol fodelau ar gyfer gweithredu, rwy'n credu ei bod yn gwneud synnwyr i gael cynllun gweithredu graddol sy'n cynnwys defnyddio cynlluniau peilot. Gallaf feddwl am ddwy ffordd wahanol o ran sut y gallem wneud hynny—un mewn ardal benodol, y llall yn gysylltiedig ag oedran. Gallem dreialu dyletswydd ddinesig i bleidleisio mewn ardal awdurdod lleol benodol yn ystod cylch nesaf etholiadau 2027, ac efallai defnyddio hynny'n sail ar gyfer cynllunio i'w gyflwyno'n genedlaethol. Fel cam cyntaf, gallem benderfynu cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio ar gyfer y rhai sy'n pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y Senedd yn 2026. Ceir tystiolaeth gref fod meithrin arfer ymhlith pleidleiswyr ifanc i bleidleisio yn arwain at duedd gryfach i bleidleisio yn ddiweddarach mewn bywyd.
Os ceir cytundeb yn gyffredinol fod hon yn drafodaeth ddefnyddiol i ni fod yn ei chael, mae gennyf ddau awgrym ymarferol—un i'r Llywodraeth, ac un i ni fel Senedd. I'r Llywodraeth, fel y dywedais ddoe, byddai comisiynu rhywfaint o waith ymchwil annibynnol gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar sut y gallai dyletswydd ddinesig i bleidleisio effeithio ar ddangosyddion democratiaeth iach yn rhoi sylfaen dystiolaeth dda i ni ar gyfer trafodaeth wybodus. I'r Senedd, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol pe byddem yn cynnal yr ymchwiliad pwyllgor cyntaf ar yr ynysoedd hyn i edrych yn benodol ar ddyletswydd ddinesig gyffredinol i bleidleisio. Rwy'n meddwl yn arbennig am y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.
Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog i'r ddadl gyntaf hanesyddol hon.
Hoffwn ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn. Hoffwn siarad o'i blaid ac rwy'n ei ystyried yn ddechrau trafodaeth bwysig iawn.
Yn ôl ymchwil Sefydliad Brookings, melin drafod yn yr Unol Daleithiau, mae'r dystiolaeth yn dangos yr hyn rydym eisoes yn ei wybod, y gall dyletswydd ddinesig i bleidleisio ddileu gwahaniaethau yn niferoedd pleidleiswyr ar hyd llinellau dosbarth, ethnigrwydd a hil. Rydym yn gwybod bod y rhain yn bodoli. Rydym yn eu gweld. Rydym yn gweld gwahaniaethau enfawr mewn wardiau yn ein hardaloedd. Er enghraifft, yn yr etholiadau lleol y llynedd, y ganran a bleidleisiodd yn ward gefnog Rhiwbeina oedd 57.5 y cant. Mewn cyferbyniad, y ganran a bleidleisiodd yn Nhrelái oedd 23 y cant. Yn ddiweddar, rydym wedi gweld beth sy'n digwydd pan fo cymuned yn teimlo'u bod yn cael eu hanghofio a'u hanwybyddu. A chofiwch mai dyma ganran y pleidleiswyr cofrestredig, nid pawb sy'n gymwys i bleidleisio. Rwy'n siŵr ein bod i gyd wedi canfasio mewn rhai wardiau, fel Trelái, pan fyddwn yn pasio tŷ ar ôl tŷ nad ydynt wedi cofrestru. Mae arnaf ofn meddwl faint sy'n pleidleisio yn Nhrelái mewn gwirionedd. Gallaf eich sicrhau ei fod yn llawer llai na 23 y cant.
Yn Awstralia, daeth cofrestru yn orfodol cyn y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, yn ôl ym 1911, ac mae'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau Awstralia bob amser yn yr 80au uchaf o'r rhai sy'n gymwys i gofrestru. Roeddwn yn falch o glywed ddoe am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno Bil a fydd yn cymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr cymwys yng Nghymru ar y gofrestr etholiadol. Yn nes at adref, mae holl ddinasyddion Gwlad Belg wedi'u cofrestru'n awtomatig i bleidleisio. Pam ein bod yn creu rhwystrau ychwanegol i bobl fynegi eu llais democrataidd? Dylai fod mor syml â phosibl, ac mae hynny i'w weld yng Ngwlad Belg, gyda'r nifer sy'n pleidleisio dros 90 y cant ar gyfartaledd dros y 10 etholiad diwethaf.
Gallaf ddychmygu efallai fod rhai o fy ffrindiau ar y meinciau Ceidwadol yn teimlo'n anesmwyth am y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, ond cadwch hyn mewn cof: efallai eich bod yn ofni colli mewn etholiadau, efallai eich bod yn ofni colli pleidleisiau, ond cofiwch fod eich arweinydd Andrew R.T. Davies, ym mhob etholiad Senedd, yn siarad am yr angen i'r rhai sy'n pleidleisio drosoch yn etholiadau San Steffan bleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Nid yw hynny'n digwydd i chi ar hyn o bryd; nid ydych yn ysbrydoli'r rhai sy'n pleidleisio drosoch yn etholiadau San Steffan i bleidleisio yn eu heidiau yn etholiadau'r Senedd. Pwy a ŵyr, gall dyletswydd ddinesig i bleidleisio fod yn un ffordd o roi hwb i'ch cefnogaeth yn etholiadau'r Senedd. Fe wneuthum gyfrifiad cyflym cyn y ddadl hon, a phe bai eich cefnogaeth yn San Steffan yn cael ei adlewyrchu yn etholiadau'r Senedd, wel, dim ond mwyafrif bach o 17 pleidlais fyddai gan y Cwnsler Cyffredinol, sy'n ymateb i'r ddadl hon. Felly, cofiwch hynny pan fyddwch chi'n pleidleisio y prynhawn yma.
Wrth gynnig cyflwyno dyletswydd ddinesig i bleidleisio—
Mae'n rhaid i chi ddod i ben nawr, Rhys.
—byddai'n barhad o'n gwaith arloesol yng Nghymru ar gynyddu nifer y pleidleiswyr, gyda'r gallu i bleidleisio'n 16 oed a phleidleisiau mwy cynrychioladol. Bydd llawer yn gofyn, 'Pam gwyro o'r hyn sy'n digwydd yn San Steffan?', ond rydym wedi gweld gwahaniaeth mewn etholiadau yng Nghymru ers 1999. Fel y clywsom yn gynharach, mae gennym ddiffyg democrataidd yng Nghymru; bydd y Bil hwn yn un cam i fynd i'r afael â hynny. Diolch yn fawr.
Diolch, Adam Price, am gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n credu ei fod yn bwysig iawn. Rwy'n poeni'n fawr am y ffaith mai dim ond 46.6 y cant a bleidleisiodd yn etholiadau'r Senedd ddiwethaf, yn 2021. Ie, hwn oedd yr uchaf y bu erioed, ond gadewch inni gymharu hynny a phleidleiswyr yn Queensland, Awstralia, lle mae nifer y pleidleiswyr ychydig yn fwy ond nid yn annhebyg, a lle roedd y nifer a bleidleisiodd yn etholiadau talaith Queensland 2020 yn 87.9 y cant. Mae pleidleisio gorfodol o ryw fath neu'i gilydd wedi bod yn Queensland ers 1915, a gellir gweld effaith y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio yn glir. Er bod dirwy i'r rhai nad ydynt yn pleidleisio, gellir cyflawni trosedd am y tro cyntaf am gyn lleied ag AU$20 a'r gosb uchaf yw AU$180. Mae arnaf ofn nad wyf yn gwybod sut i drosi'r symiau hyn yn bunnoedd, ond rydym yn siarad am symiau cymedrol iawn o arian. Ac mae'r dirwyon hyn yn cael eu gorfodi'n rheolaidd.
Ar ben hynny, mae sawl ffordd o optio allan wedi'u hymgorffori yn y system sy'n caniatáu trugaredd. Os yw rhywun yn teithio, os ydynt yn sâl, gallant optio allan. Yn ogystal, mae eithriadau ar gyfer gwrthwynebiad crefyddol, gweithwyr tymhorol, a'r rhai heb gyfeiriad sefydlog. Os nad yw rhywun wedi cofrestru i bleidleisio, gellir eu cynnwys nhw fel rhai sy'n optio allan hefyd. Fodd bynnag, rhaid nodi bod cyfradd cofrestru etholiadol Queensland yn 96 y cant, mae'n debyg. Nid wyf yn hollol siŵr sut maent yn cyfrifo'r gyfradd honno, ond nid oes ganddynt yr un broblem ag y mae Rhys ab Owen newydd ei disgrifio, lle maent yn mynd heibio nifer diddiwedd o dai lle nad oes neb wedi cofrestru i bleidleisio pan fyddant yn mynd o gwmpas yn canfasio. Mae hyn yn wahanol i'r sefyllfa sydd gennym heddiw gyda bwriad pendant Llywodraeth y DU i lethu'r bleidlais ymhlith pobl ifanc, cymunedau a ymyleiddiwyd yn ieithyddol a phobl dlawd.
Mae talaith Queensland yn annog pobl i bleidleisio, nid ei ymgorffori yn y gyfraith yn unig. Mae ganddynt hefyd ffenomen y selsigen ddemocratiaeth, lle mae sefydliadau cymunedol yn trefnu barbeciws y tu allan i orsafoedd pleidleisio fel y gall y rhai sy'n ciwio i bleidleisio dalu ffi fach i gael ci poeth neu fyrbryd arall wrth giwio. Mae'n debyg fod hynny'n creu rhyw fath o amgylchedd gŵyl lle mae pawb yn credu bod hyn yn rhywbeth a wnawn gyda'n gilydd ac yn rhywbeth y dylem ei ddathlu. Ac i lawer o grwpiau cymunedol, diwrnod yr etholiad yw diwrnod codi arian mwyaf y flwyddyn. Felly, mae pawb yn ennill.
Fel y dywedodd Adam Price eisoes, maent yn pleidleisio ar ddydd Sadwrn, sy'n golygu nad oes rhaid i'r rhan fwyaf o bobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith ac effaith fach iawn a gaiff ar ysgolion, ac mae'n golygu bod ysgolion ar gael fel un o'r canolfannau pleidleisio oherwydd nad ydynt yn cael eu defnyddio ar gyfer addysg plant. Dylid nodi hefyd y gall Awstraliaid bleidleisio ger y traeth. Os yw'r etholiad yn yr haf, fe welwch bobl yn dod i bleidleisio yn eu dillad traeth gyda byrddau syrffio. Ac mae'n rhaid inni ddeall, pe bai pleidleisio'n orfodol—rwy'n cytuno'n llwyr ag Adam Price—byddai'n rhaid i ysgolion ddarparu addysg wleidyddol. Ac roeddwn yn siomedig iawn o glywed o'r trafodaethau gyda menywod ifanc o leiafrifoedd ethnig neithiwr yn y Neuadd, nad yw'r ysgolion y maent yn eu mynychu yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc i werthfawrogi pwysigrwydd pleidleisio o hyd, ac mae'n rhaid inni newid hynny ar unwaith.
Mae'n sicr yn wir, onid yw, yn y DU ac yng Nghymru, nad oes gennym y ddemocratiaeth ffyniannus y byddem yn dymuno ei gweld, ac rwy'n croesawu syniadau i wella'r sefyllfa honno, ac rwy'n falch iawn fod Adam Price wedi cyflwyno'r cynnig hwn i'w drafod heddiw. Yn ogystal â'r diffyg cyfreithlondeb democrataidd a diffyg democratiaeth iach fel rydym yn awyddus i'w chael yng Nghymru, oherwydd y nifer isel sy'n pleidleisio ac nad yw erioed wedi cyrraedd 50 y cant yn etholiadau'r Senedd, er enghraifft, fe wyddom fod yna gwestiwn ynghylch cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol hefyd o ran cyfranogiad, fel y dywedodd Adam Price, a cheisio sicrhau bod mwy o leisiau'n cael eu clywed ac yn wir, fod bron pob llais yn cael ei glywed.
Nodaf, yn 2014, fod Arolwg Cymdeithasol Ewrop wedi canfod bod pobl dros 55 oed ym Mhrydain ddwywaith yn fwy tebygol o bleidleisio na phobl ifanc dan 35 oed, a bod y rhai yn y cwintel incwm uchaf ddwywaith yn fwy tebygol o bleidleisio na'r rhai yn y cwintel gwaelod. Felly, mae yna gwestiynau go iawn yma y mae angen inni fynd i'r afael â nhw. Ac nid mater o orfodaeth yn unig ydyw; mae'n ymwneud ag anfon neges glir a chael ymdrech addysgol ynghylch dyletswydd ddinesig newydd i bleidleisio y byddwn i gyd yn frwdfrydig i helpu a chymryd rhan ynddi, rwy'n siŵr. Ac rwy'n meddwl bod treialon yn syniad da iawn ar gyfer y ffordd ymlaen, a gallem ei brofi yn y ffyrdd mae Adam Price wedi crybwyll.
Weithiau, pan fyddaf yn curo ar ddrysau, Ddirprwy Lywydd, a chael yr ymateb, 'Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth', rwyf weithiau'n dweud, 'Wel, efallai, ond mae gan wleidyddiaeth ddiddordeb ynoch chi'. A dyna'r pwynt, mewn gwirionedd, onid e—nad yw pleidiau gwleidyddol yn mynd i ganolbwyntio ar bobl iau a phobl mewn tlodi cymharol i'r un graddau ag y byddent fel arall, os ydynt yn credu bod y rhannau hynny o gymdeithas yn llai tebygol o bleidleisio, a bod eu polisïau'n cael eu teilwra'n unol â hynny, gan gynnwys os ydynt yn dod yn Llywodraeth. A nodaf fod ymchwil yn dangos mai grwpiau ar y cyrion nad ydynt yn pleidleisio mewn etholiadau sy'n tueddu i ddioddef y toriadau mwyaf i'w incwm aelwydydd gan Lywodraethau etholedig yn y DU. Wyddoch chi, mae'r rhain yn faterion sylfaenol bwysig y mae angen inni geisio mynd i'r afael â nhw i raddau llawer mwy nag a wnaethom hyd yma.
Ac rwy'n credu, Ddirprwy Lywydd, y gallem gyrraedd y cam o gael cylch rhinweddol, lle bydd pleidiau gwleidyddol, os bydd mwy o bobl yn mynd i bleidleisio, gan gynnwys y categorïau ymylol hynny, yn talu mwy o sylw iddynt, bydd polisïau'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â'u problemau i raddau helaethach, ac yn eu tro, bydd ganddynt fwy o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth a byddant yn fwy tebygol o bleidleisio. Rwy'n credu bod hyn i gyd yn cyd-fynd yn dda iawn â'n cynigion Senedd newydd—eto, fel mae Adam Price wedi sôn—ac efallai, â system gofrestru awtomatig, sydd hefyd yn fawr ei hangen yn fy marn i. Felly, dadl amserol iawn. Rwy'n ei chroesawu'n fawr, ac rwy'n gobeithio bod hyn yn ddechrau ar rywbeth a fydd yn arwain at weithredu cynigion pendant yma yng Nghymru.
Rwyf innau hefyd yn siarad i gefnogi'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan Adam Price ac yn croesawu'r cyfle i drafod y mater hynod bwysig hwn. Rhaid diogelu'r hawl i bleidleisio, pŵer y blwch pleidleisio a'r contract rhwng pobl a gwleidyddion, a'i wella yn wir. Fy marn i erioed yw bod angen inni fod yn wirioneddol radical a chreadigol wrth ddiwygio sut, pryd a lle mae pobl yn pleidleisio, a phwy sy'n cael pleidleisio yn wir. Dengys tystiolaeth o bob cwr o'r byd mai'r democratiaethau cryfaf yw'r rhai lle ceir cyfranogiad torfol mewn etholiadau ac atebolrwydd cadarn ar ran gweision etholedig, ond eto, yma yng Nghymru, yn y rhan fwyaf o etholiadau, rydym yn ei chael hi'n anodd cyrraedd 50 y cant o'r nifer sy'n gymwys i bleidleisio. Fel y mae Adam Price a John Griffiths wedi nodi, mae'r ifanc yn llawer llai tebygol o bleidleisio na phobl hŷn, mae pobl yn ein cymunedau lleiaf cefnog yn llai tebygol o ddefnyddio'u pŵer yn y blwch pleidleisio na phobl sy'n byw mewn cysur cymharol. Felly, mae gennym raddau anghyfartal iawn o gyfranogiad democrataidd. Nid oes angen imi ailadrodd y risgiau ofnadwy i lunio polisïau a darparu gwasanaethau y mae cynrychiolaeth anghyfartal o'r fath yn eu creu. Mae'n rhywbeth y mae Cymdeithas y Cyfansoddiad wedi'i godi gydag eglurder mawr yn ei chefnogaeth i gyfranogiad gorfodol.
Ar farn y cyhoedd ar y mater hwn, fy nealltwriaeth i yw bod mwy na 70 y cant o ddinasyddion Prydain yn cytuno ei bod yn ddyletswydd ddinesig i bleidleisio, fod y contract rhwng pobl a gweision gwleidyddol yn gweithio'r ddwy ffordd, a bod mwy o bobl yn cefnogi cyflwyno cyfranogiad gorfodol na sy'n ei wrthwynebu. Felly, wrth gefnogi'r cynigion, byddwn yn sicr yn annog cyd-Aelodau i bleidleisio dros y cynnig deddfwriaethol. Dylem o leiaf dreialu cyfranogiad gorfodol i benderfynu a ellir gwella ein democratiaeth, ac i weld a oes modd gwella'r gwasanaeth a welwn ar lefel genedlaethol ac ar lefel leol a'n hatebolrwydd i'r bobl a wasanaethwn trwy ddiwygiadau o'r fath. Ac rwy'n sicr yn cefnogi'r awgrym ynghylch treialu hyn gyda phleidleiswyr tro cyntaf yn y cam cychwynnol, yn anad dim oherwydd y gallai mesur o'r fath dynnu sylw at bwysigrwydd y ddyletswydd ddinesig y mae pobl hŷn ar hyn o bryd yn ei theimlo'n llawer cryfach na phobl ifanc.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol meddylgar a phwysig hwn? Fel y gŵyr yr Aelodau, rwyf wedi cyfeirio'n aml at bwysigrwydd iechyd democrataidd ein cenedl yn nadleuon y Senedd, ac rwy'n credu, ochr yn ochr â'r holl lesiannau eraill rydym yn ymwneud â nhw, fod iechyd democrataidd ein cymdeithas yn elfen hanfodol. Ni all cymdeithas lle mae cymaint o bobl wedi ymddieithrio o'n proses ddemocrataidd fod yn hyderus o'i sefydlogrwydd a'i diogelwch yn y dyfodol. Er mwyn i'r Llywodraeth fod yn sefydlog, yn effeithiol ac yn hyderus, mae angen iddi gael cyfreithlondeb cyhoeddus na all y system etholiadol yn unig ei roi. Felly, nid drwy ennill etholiadau a bod mewn grym yn unig y caiff cyfreithlondeb Llywodraeth ei benderfynu, ond hefyd drwy ennyn cefnogaeth gyffredinol y bobl.
Er mwyn cyflawni cyfreithlondeb democrataidd mae'n ofynnol i gymdeithas ddinesig arfer cyfrifoldeb democrataidd drwy gymryd rhan yn yr etholiadau hynny. Yn fy marn i, mae eich cynnig yn canolbwyntio'n gywir ar, ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd yr hyn y byddwn i'n ei ddisgrifio fel cyfamod democrataidd rhwng Seneddau, Llywodraethau a'r bobl. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth yn fy meddwl fod yna gyfrifoldeb dinesig i gymryd rhan mewn etholiadau a dyletswydd i bleidleisio, ac efallai y dylem atgoffa ein hunain mai prin 90 oed yw'r etholfraint ddemocrataidd gynhwysol lawn hyd yn oed yn Senedd y DU. Yn hynny o beth, gellid dweud bod y DU a ninnau yn ddemocratiaethau cymharol newydd.
Efallai fod y genhedlaeth rhwng y rhyfeloedd ac ar ôl y rhyfel a frwydrodd yn erbyn ffasgaeth ac y bu'n rhaid iddynt ailadeiladu'r wlad wedyn, creu'r wladwriaeth les, y GIG, ailadeiladu ein democratiaeth a sefydlu hawliau sifil a dynol sylfaenol yn deall pwysigrwydd etholiadau, yn cymryd rhan ynddynt yn rheolaidd, gan sefydlu linell sylfaen o ymhell dros 70 y cant o gyfranogiad mewn etholiadau, gyda llawer ohonynt yn ystyried pleidleisio'n ddyletswydd ddinesig yn wir. Neu efallai mai etifeddiaeth ddinesig ydoedd gan y rhai a frwydrodd dros hawliau sifil, hawliau undebau llafur, y Swffragetiaid, y Siartwyr a'r arloeswyr gwleidyddol cynnar y bu'n rhaid iddynt frwydro i sefydlu ein hawliau sylfaenol, gan gynnwys yr hawl i bleidleisio.
Fodd bynnag, yn ystod y degawdau diwethaf, mae'r ymrwymiad i gyfranogi wedi lleihau o flwyddyn i flwyddyn. Pa mor aml y clywsom bobl ar garreg y drws, fel y dywedodd John Griffiths, yn dweud nad ydynt yn trafferthu pleidleisio, nad ydynt yn gwybod dim amdano, neu nad yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth felly nid ydynt yn trafferthu. Rwy'n sicr fod llawer ohonom wedi edrych ar wledydd eraill sydd wedi trosi'r ddyletswydd ddinesig honno yn rhwymedigaeth gyfreithiol ffurfiol, ac wedi meddwl tybed pam nad ydym ni wedi gwneud rhywbeth tebyg. Fodd bynnag, ein man cychwyn fel Llywodraeth ar hyn o bryd yw moderneiddio'r system etholiadol, dileu rhwystrau i wella cynhwysiant, a sicrhau bod pawb sydd â hawl i fod ar y gofrestr etholiadol ar y gofrestr, ac felly o leiaf yn gallu pleidleisio. Ac rydym yn bwriadu cyflawni hyn drwy gofrestru awtomatig.
Ers datganoli polisi etholiadol, rydym hefyd wedi ymestyn yr etholfraint etholiadol i bobl ifanc 16 oed. Ochr yn ochr â hyn, fodd bynnag, mae angen sicrhau bod pobl yn ymgysylltu o oedran ifanc iawn i ddeall sut mae ein cymdeithas a'n system ddemocrataidd yn gweithio, a sut i gymryd rhan ynddi. Mae hyn yn golygu datblygu addysg ddinesig. Mae paratoi pobl ifanc i ddeall a gallu cymryd rhan mewn prosesau democrataidd yn gyfrifoldeb hanfodol i'n system addysg, ac yn wir yn un o amcanion y cwricwlwm cenedlaethol newydd. Rydym hefyd wedi cefnogi awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i annog pobl i fanteisio ar eu hawl i gofrestru. Cafodd hyn beth llwyddiant, ond byddwn yn mynd ymhellach gyda'n Bil diwygio etholiadol a byddwn yn sefydlu system gofrestru awtomatig. Fodd bynnag, un rhan yn unig o'r her yw cofrestru. Y rhan arall wedyn yw arfer yr hawl honno a phleidleisio.
Mae'r nifer sy'n pleidleisio mewn etholiadau yn fesur amlwg a syml o iechyd democrataidd. Rydym yn noddi ymchwil i ffyrdd mwy soffistigedig o fesur iechyd democrataidd, gan alluogi dulliau mwy gwybodus o'i feithrin. Mae'r awgrym o ddyletswydd ddinesig i bleidleisio yn ddiddorol ac mae iddo rinwedd cyhyd â'i fod hefyd yn cynnwys hawl i ymatal yn ffurfiol, i fwrw pleidlais 'dim un o'r uchod'. Byddai angen ystyried ein cymhwysedd i ddeddfu yn y fath fodd yn ofalus, a byddem eisiau ystyried y goblygiadau i hawliau dynol hefyd, byddem eisiau ystyried yn ofalus y canlyniadau am beidio â mynd i bleidleisio, beth fyddai'r gosb briodol, pwy fyddai'n ei orfodi a faint fyddai gorfodi'n ei gostio?
Felly, byddaf i—bydd Llywodraeth Cymru—yn ymatal ar y cynnig. Serch hynny, rydym yn gwybod y gall pleidleisio gorfodol weithio mewn llawer o wledydd lle caiff ei arfer a'i orfodi. Mae'r nifer sy'n pleidleisio yn wahanol iawn i'r hyn a welwn fel arfer yng Nghymru, ac ar draws y DU yn wir. Fodd bynnag, cyn cyflwyno newid mor sylfaenol, byddai angen inni ystyried ac ymgynghori'n sylweddol eto, ac yn wir, mae'n debyg y byddai angen mandad etholiad cyffredinol clir yng Nghymru. Rwy'n credu bod yr awgrym o waith ymchwil pellach, y posibilrwydd o dreialu, yn rhywbeth sy'n werth ei archwilio. Lywydd, byddaf yn ymatal ond rwy'n gobeithio mai dim ond dechrau dadl bwysig yw hon ar ddiwygio posibl y gwn fod llawer ohonom ar draws pob plaid wleidyddol wedi meddwl amdano dros nifer o flynyddoedd.
Galwaf ar Adam Price i ymateb i'r ddadl.
Rwy'n ddiolchgar i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl bwysig hon. Canolbwyntiodd Rhys ab Owen yn gynnar iawn ar y cwestiwn sydd byth yn rhy bell, efallai, o feddwl gwleidyddion wrth ystyried y cwestiwn hwn, sef: pwy sy'n mynd i ennill yn etholiadol? Byddwn i'n dweud ei bod hi'n amhosibl proffwydo'n gywir. Mater i bleidleiswyr nad ydynt yn cyfranogi ar hyn o bryd fydd penderfynu ar hynny. Fe fyddwn yn dweud ymhellach y byddwn i gyd ar ein hennill. Pwy bynnag y byddant yn pleidleisio drostynt yn y pen draw, byddwn i gyd ar ein hennill o greu democratiaeth sy'n fwy cynrychioliadol.
Rwy'n credu bod Jenny Rathbone yn gywir i dynnu sylw at y ffaith bod y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio yn bodoli nid yn unig mewn etholiadau ffederal yn Awstralia, ond ar lefel ranbarthol, daleithiol hefyd. Yn wir, mae'n gweithio mewn etholiadau lleol, felly gadewch inni beidio ag anghofio hynny hefyd, mewn llawer iawn o'r gwledydd sydd wedi'i gyflwyno. Ac fe nododd fod yna awyrgylch o ddathlu adeg etholiad yn Awstralia oherwydd bod y ddyletswydd ddinesig i bleidleisio wedi creu norm yn y bôn lle mae pobl yn teimlo fod democratiaeth yn eiddo iddynt. Felly mae diwylliant gwleidyddol wedi newid drwy greu dyletswydd statudol i bleidleisio, ac rwy'n credu mai dyna'r cylch rhinweddol y cyfeiriodd John Griffiths ato yn ei sylwadau.
Ar hyn o bryd, mae blaenoriaethau ein trafod gwleidyddol a'n diwylliant ar sgiw, onid ydynt, oherwydd yr anghydraddoldeb yn y nifer sy'n pleidleisio? Ac felly mae'n tueddu i wyro yn erbyn cenedlaethau iau ac yn erbyn y rhai ar incwm is. Ni all hynny fod yn iawn. Ni all hynny fod yn dderbyniol. Mae gennym gyfle i unioni hynny.
Ac mae Ken Skates yn iawn i nodi bod cefnogaeth ysgubol i'r syniad o ddyletswydd ddinesig foesegol i bleidleisio, ac mae cefnogaeth gynyddol dros roi'r ddyletswydd ddinesig foesegol honno ar sail gyfreithiol, statudol.
Rwy'n croesawu ymateb y Cwnsler Cyffredinol yn fawr. Mae'n dangos newid yn safbwynt Llywodraeth Cymru. Yn y Senedd ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn erbyn y syniad o bleidleisio gorfodol, fel y'i gelwir weithiau. Felly mae ymatal yn symudiad cadarnhaol i'n cyfeiriad ni, ac mae parodrwydd i ymgysylltu, Ddirprwy Lywydd, ar y cynigion cadarnhaol o ran ymchwil a threialu i'w croesawu'n fawr, ac edrychwn ymlaen at barhau â'r trafodaethau hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, felly gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.