Gwasanaethau Deintyddol y GIG

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:50, 28 Mehefin 2023

Diolch am yr ateb hynny, Weinidog. Mae, wrth gwrs, i'w groesawu y bydd contract newydd yn dechrau rywbryd yn ystod y misoedd nesaf oherwydd y galw enfawr sydd yn y dref wedi i'r gwasanaeth ddod i ben. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ogystal, mae contract deintyddion Heol Llandeilo yn Cross Hands hefyd wedi dod i ben ym mis Awst y llynedd, a'r un peth wedi digwydd yn Llandeilo. Felly, mae yna alw enfawr nawr mewn ardaloedd cyfagos hefyd. Felly, pa sicrwydd ŷn ni'n gallu ei roi i drigolion Rhydaman yn y lle cyntaf, a oedd yn gyn-gleifion yr hen wasanaeth, y byddan nhw'n cael eu blaenori, ac a oes yna gynlluniau ar y gweill i gwrdd â'r galw yn yr ardaloedd cyfagos ac i greu capasiti newydd fanna hefyd?