Anghydraddoldebau Iechyd

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 28 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Llafur 2:21, 28 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr. Rwyf wedi edrych ar yr adroddiad hwnnw ac rwy'n credu bod llawer o bethau i ni eu hystyried a gweithredu arnynt. Cyn inni gyrraedd cam 4, rwy'n credu bod yn rhaid inni sôn am yr elfen atal, a chlywsoch y cyhoeddiad ddoe gan fy nghyd-Aelod. Yr argyfwng gordewdra yng Nghymru—ac rwy'n mynd i'w alw'n argyfwng—pan fo gennych 60 y cant o'ch poblogaeth dros bwysau neu'n ordew, rydych chi'n anelu at sefyllfa anodd iawn, a'r hyn a wyddom yw bod y broblem honno'n fwy cyffredin mewn cymunedau tlotach, a dyna pam mae'n rhaid inni ymyrryd er mwyn osgoi'r math o sefyllfa rydych chi'n sôn amdani, lle mae'r gwahaniaethau yn glir i'w gweld rhwng ardaloedd cyfoethocach ac ardaloedd tlotach o ran y niferoedd sy'n dioddef o ganser.

Ar ddiagnosis, yr hyn sy'n amlwg yw bod yna rannau o Gymru sy'n perfformio'n llawer gwell nag eraill. Roedd yn eithaf diddorol—. Os edrychwch chi ar Betsi, mae bwrdd Betsi yn gyson dda o ran triniaeth ganser o'i gymharu ag eraill. Rwy'n bryderus iawn ar hyn o bryd, er enghraifft, ynghylch perfformiad yng Nghwm Taf Morgannwg. Mae'n debyg mai dyna un o fy mhroblemau mwyaf ar hyn o bryd. Ac rydym yn rhoi llawer o gefnogaeth tuag at hynny. Rydym wedi eu rhoi mewn fframwaith ymyrraeth arbennig i sicrhau ein bod yn monitro'r hyn y dylent ei wneud, ac rydym yn gweithio gyda chymunedau i weld a allwn fynd ar ôl pobl nad ydynt efallai wedi bod yn mynychu apwyntiadau sgrinio, er enghraifft. Mewn perthynas â chanser y colon a phethau, er enghraifft, gwn ei fod yn ymwneud â cheisio cael pobl i fanteisio ar y cyfleuster sgrinio a gweithio gyda chymunedau, ymgysylltu â nhw, dysgu'r gwersi rydym yn eu gwybod, ac rydym wedi dysgu llawer o wersi yn ystod y pandemig: sut i gyfathrebu â phobl? Sut i fynd i leoedd sy'n anodd eu cyrraedd? Ac rwy'n credu bod angen inni fynd â rhai o'r gwersi rydym wedi'u dysgu i mewn i'r holl feysydd eraill hynny.

Ond mae canser yn sicr—. Mae gennyf chwe blaenoriaeth, ond nawr, gyda'r pwysau ariannol anodd iawn sydd arnom, rwyf wedi gofyn i'r byrddau iechyd ganolbwyntio ar y tri cyntaf, sef osgoi sefyllfa lle mae angen i bobl fynd i'r ysbyty yn y lle cyntaf, symud adnoddau i'r gymuned, a gweithio gydag awdurdodau lleol i osgoi oedi wrth drosglwyddo gofal; yn ail, lleihau'r rhestrau aros; ac, yn drydydd, canolbwyntio ar ganser.