6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:49, 27 Mehefin 2023

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad, ac am gael cipolwg arno fo rhag blaen. Mae'r cyhoeddiad yma i'w groesawu, ac wrth gwrs mae'n bwysig sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu himiwneiddio yma yng Nghymru. Mae o'n ffaith ddiymwad fod brechu ac imiwneiddio wedi arbed ac yn arbed miliynau o fywydau ar hyd y degawdau.

Rŵan, mae'r datganiad yn cyfeirio at gamwybodaeth sydd yn cael ei rhannu ynghylch brechiadau COVID. Ar yr un pryd, rydyn ni'n gwybod am gamwybodaeth yn parhau ynghylch brechiadau MMR, ac mae'n syndod faint o bobl sy'n parhau i fod yn amheus o frechiadau ffliw, hyd yn oed. Roeddech chi'n sôn rŵan am un ffordd roeddech chi'n gobeithio rholio allan dealltwriaeth oedd trwy ddefnyddio ap. Wrth gwrs, efo Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor, hwyrach y medrech chi droi at Blaid Cymru am wybodaeth am aps. [Chwerthin.] Ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod pobl yn lawrlwytho yr ap? A sut ydych chi'n mynd i daclo pethau fath â'r papur The Light yma, sydd yn rhoi newyddion ffiaidd o anwir ar hyd a lled y wlad, a sicrhau bod y prif lif newyddion yn cael gwybod am y pethau da yma a phwysigrwydd brechlynnau, yn ogystal â chael pobl i ddefnyddio aps? Sut ydyn ni'n mynd i gael y wybodaeth yna i dreiddio drwyddo i'r cyhoedd, felly?

Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon meddygon teulu ynghylch y cynlluniau i ganoli caffael. Ddaru Russ sôn ynghynt am bryderon y BMA hefyd ynghylch hyn. Eu pryderon nhw, wrth gwrs, ydy eu hanallu nhw i negodi eu prisiau eu hunain ar gyfer brechiadau. Pan gyflwynwyd cynlluniau tebyg yn yr Alban, fe roddodd y Llywodraeth yno £5 miliwn o'r neilltu er mwyn cefnogi practisys meddygon teulu er mwyn medru trosi i'r drefn ganolog. Felly, tra bod datganiad y Gweinidog yn sôn am ariannu'r NHS i sefydlu tîm i oruchwylio delifero rhaglenni brechu, does yna ddim sôn am faint o arian nag ychwaith pa fath o gymorth fydd yna a pha fath o gyllideb a fydd ar gyfer meddygon teulu er mwyn eu helpu nhw yn y broses o drosi i'r drefn yma. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ychydig ar sut fydd meddygon teulu yn cael eu cynorthwyo i ymdopi â throsi i'r drefn newydd ganolog yma o gaffael a dilyn esiampl yr Alban.

Flwyddyn ddiwethaf, pan ofynnodd Plaid Cymru i'r Gweinidog ynghylch cefnogaeth ariannol i feddygon teulu pe byddai'r Llywodraeth yma'n mabwysiadau system gaffael brechiadau ganolog, fe soniodd y Gweinidog bryd hynny fod yna enghreifftiau o feddygon teulu oedd ddim yn archebu digon o frechiadau, efo'r Llywodraeth yn gorfod camu i mewn. Ddaru'r Gweinidog sôn am hynny yn ei hateb i Russell George ynghynt. Ond dydy pwyllgor Cymreig y BMA ddim yn ymwybodol o unrhyw brinder sylweddol mewn caffael brechiadau gan feddygon teulu. Dwi'n nodi, serch hynny, gyngor diweddar y Gweinidog i feddygon teulu i beidio â chaffael brechiadau ffliw ar gyfer pobl 50 i 64 mlwydd oedd y gaeaf yma. Mae'n rhaid cadw mewn cof pe byddai yna newid ym meddwl y Gweinidog rŵan ar y mater yma, yna mi fyddai yna brinder o frechiadau ffliw y gaeaf yma o ganlyniad i'r cyngor. Felly, a fedrith y Gweinidog fanylu ychydig ar sawl meddyg teulu mae hi'n ymwybodol ohonynt sydd wedi tangaffael brechiadau yn y gorffennol, a chydnabod hefyd, os oes yna brinder mewn brechlynnau ffliw am fod y gaeaf yma, fod hynny'n mynd i fod o ganlyniad i'w chyngor hi yn hytrach nag unrhyw beth arall?

Yna fe gyfeiriodd y Gweinidog at isadeiledd ddigidol, ac mae'n dda gweld hyn yn ganolog i'r fframwaith sydd yn cael ei gyflwyno heddiw. Mae hyn am fod yn ddatblygiad pwysig, nid yn unig fod technoleg fodern yn galluogi gwell trefn, ond mae'n andros o bwysig wrth fedru sicrhau bod cleifion yn derbyn y brechiadau cywir. Dwi wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen am y systemau cyfrifiadurol wahanol sydd ar waith o fewn yr NHS yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ychydig ar y system ddigidol newydd yma a rhoi'r sicrwydd i ni fod y system newydd yma ddim am gael ei dal i fyny yng nghanol y cymhlethdod o wahanol systemau digidol sydd ar waith yn yr NHS, a'i bod hi'n mynd i weithio yn—beth ydy'r term—seamlessly efo'r systemau digidol eraill sydd ar waith? Diolch yn fawr iawn.