– Senedd Cymru am 4:31 pm ar 27 Mehefin 2023.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rhaglen imiwneiddio genedlaethol i Gymru. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan, i wneud y datganiad.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn heddiw o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiad y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol a'r gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y misoedd diwethaf i greu system frechu i Gymru sy'n addas ar gyfer y dyfodol. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, brechu yw un o'r buddsoddiadau iechyd gorau y gall arian ei brynu ac mae'n helpu i atal hyd at 3 miliwn o farwolaethau'r flwyddyn ledled y byd.
Rydyn ni i gyd yn cofio'r llawenydd a'r rhyddhad a ddaeth gyda brechlyn COVID-19. Mae'n amhosibl gorbwysleisio'r effaith y mae'r rhaglen frechu wedi'i chael ar ein bywydau i gyd. Ond nid dyna ddiwedd arni. Heddiw, rwy'n falch iawn o adrodd y bydd rhaglen atgyfnerthu gwanwyn COVID-19 yn dod i ben yr wythnos hon. Mae hi wedi darparu dros 0.25 miliwn o frechiadau. Daeth rhaglen y gwanwyn yn fuan iawn ar ôl rhaglen frechu anadlol y gaeaf, a oedd yn rhedeg o fis Medi diwethaf tan 31 Mawrth. Felly, yr hyn mae hynny'n ei olygu yw ein bod ni wedi bod yn cynnig amddiffyniad brechu COVID-19 i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau am 10 mis yn olynol, a dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i'n GIG ni ddarparu rhaglen COVID yn ogystal â'r rhaglen ffliw, yn gyflym ac o dan bwysau. Mae dros 12 miliwn dos o frechiadau COVID-19 a'r ffliw wedi cael eu rhoi i bobl Cymru ers 2020, mewn poblogaeth o ychydig dros 3 miliwn o bobl. Mae hyn yn rhywbeth na allem ni fyth fod wedi'i ragweld cyn y pandemig, a hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i bawb a gymerodd ran.
Mae ymgysylltu'r cyhoedd wrth ddod ymlaen am eu brechiadau wedi bod yn hanfodol i lwyddiant y rhaglen. Rwyf i mor ddiolchgar i bobl am hynny, ond ni allwn ni, ac ni ddylem ni gymryd yr ymgysylltu hwnnw yn ganiataol.
Llwyddiant ysgubol rhaglen frechu COVID-19 a wnaeth ein gosod ni ar y daith o ddiwygio sydd wedi'i disgrifio yn y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Rwyf i eisiau i Gymru fod â dull gweithredu o ran brechiadau sy'n arwain y byd ac sy'n sicrhau bod ein dinasyddion, ar bob cam o'u bywydau, yn cael eu hamddiffyn rhag clefydau a allai arwain at salwch difrifol neu farwolaeth. Ond mae'n rhaid i mi fod yn glir: ni fydd un dull sy'n addas i bawb byth yn briodol ar gyfer brechiadau. Wedi dweud hynny, ein huchelgais ni yw creu system lle mae dull cenedlaethol yn cael ei fabwysiadu pryd a lle bo hynny'n briodol. Bydd hon yn system sy'n canolbwyntio'n ddygn ar ddileu annhegwch i sicrhau bod pob dinesydd yn mwynhau'r manteision diogelu iechyd sy'n cael eu darparu gan ein rhaglenni brechu.
Er mwyn datblygu'r system yr wyf i'n ei disgrifio, rwyf i wedi darparu cyllid i Weithrediaeth y GIG i sefydlu tîm i oruchwylio'r gwaith o gyflawni'r holl raglenni brechu. Mae gan y system newydd waith partneriaeth wrth ei chraidd. Mae'r cyflymder a welwyd wrth i ni sefydlu ein rhaglen frechu mpox mewn ymateb i'r achosion y llynedd yn enghraifft o sut y gall ein system sydd wedi'i thrawsnewid gyflawni'n gyflym i bobl Cymru.
Nod craidd y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol yw datblygu'r seilwaith digidol sydd ei angen i ddarparu system frechu effeithiol ac effeithlon sy'n gweithio'n ddi-dor i ymarferwyr ac i gleifion fel ei gilydd. Bydd y gwaith hwn yn hanfodol i gyflawni'r fframwaith yn llwyddiannus, ac mae'n rhaid i mi fod yn onest gyda chi, mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd. Ond rwy'n falch o ddweud bod y gwaith darganfod yn mynd rhagddo'n dda, ac rwy'n disgwyl gweld cynlluniau ar gyfer sut y mae modd datblygu'r gwaith hwn yn fuan iawn.
Gan ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd o'r pandemig, a chydnabod lefel y risg y mae practis cyffredinol yn ei ysgwyddo ar gyfer caffael y brechlyn ffliw presennol, rwyf i wedi ymrwymo i gyflwyno model caffael canolog. Eto, bydd hwn yn ddarn cymhleth o waith, a fydd yn cael ei ddatblygu a'i gyflawni mewn partneriaeth, ond rwy'n gobeithio y bydd modd cyflwyno'r model newydd mewn pryd ar gyfer y tymor ffliw 2025.
Mae sicrhau mynediad teg at frechu yn flaenoriaeth sylfaenol ym mhob rhan o'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Mae'r byrddau iechyd yn datblygu cynlluniau i wireddu'r nod o leihau anghydraddoldeb a'i ddileu'n llwyr yn y pen draw—bydd hyn yn sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gael eu brechu.
Fe wnaeth y pandemig amharu ar ein rhaglenni brechu, yn enwedig y rhai sy'n cael eu darparu mewn ysgolion. Dwi'n falch iawn o weld bod rhaglenni dal i fyny ar waith, a bod gwaith da iawn yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc a fethodd frechiadau hanfodol tra roedd y cyfyngiadau mewn grym yn gallu eu cael nhw nawr.
Dwi'n siŵr y bydd Aelodau'n cytuno bod yna lawer i'w ddathlu, ond dwi'n ymwybodol iawn bod camwybodaeth a thwyllwybodaeth am frechu wedi cynyddu lot yn ystod y pandemig. Byddwn ni'n parhau i weithio gyda chyrff y gwasanaeth iechyd i sicrhau bod gwybodaeth glir, cywir a dibynadwy am ein rhaglenni brechu ar gael i bawb.
Ond hoffwn i gymryd y cyfle nawr i rannu newidiadau a fydd yn cael eu gwneud i rai o'n rhaglenni brechu yn nes ymlaen eleni. Yn ddiweddar, gwnes i dderbyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu sy'n argymell newid o ddau ddos i un wrth frechu yn erbyn y feirws papiloma dynol, neu HPV. Mae'r cydbwyllgor wedi cyfeirio at dystiolaeth gadarn bod un dos o'r brechlyn HPV yn ddigon i amddiffyn unigolion yn effeithiol am gyfnod hir o amser, os caiff y brechlyn ei gynnig yn gynnar yn ystod y cyfnod glasoed. Mae brechlyn HPV yn helpu i ddiogelu pobl rhag canser y geg a'r gwddf yn ogystal â chanser ceg y groth. Mae astudiaethau wedi dangos gostyngiad o bron i 90 y cant mewn achosion o ganser ceg y groth ymysg grwpiau sydd wedi'u brechu. Bydd y newid i un dos yn cael ei roi ar waith yn y flwyddyn academaidd nesaf.
Rŷn ni hefyd yn paratoi at newid arwyddocaol i'r rhaglen frechu rhag yr eryr. Nawr, pwy sy'n gwybod beth yw 'eryr'? [Torri ar draws.] O, da iawn; mae e'n cael 10 mas o 10. Shingles—da iawn. Mae yna frechlyn newydd ar gael, a bydd yna fwy o oedrannau'n gymwys i gael y brechiad. Gall shingles, neu'r eryr, achosi salwch difrifol, yn enwedig mewn pobl hŷn. Gall un o bob 1,000 o achosion arwain at farwolaeth. Trwy frechu pobl i'w hatal rhag dal y feirws rŷn ni'n diogleu unigolion a'r gwasanaeth iechyd.
Am y tro cyntaf erioed, diolch i'r strwythurau gafodd eu creu gan y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol, fydd modd cyflwyno'r newidiadau hyn yn ddi-dor: byddwn yn gwneud hyn wrth i raglenni rheolaidd eraill barhau ac wrth i raglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol 2023 gael eu rhoi ar waith.
Unwaith eto, dwi eisiau diolch i bawb sy'n rhan o gynllunio a darparu ein rhaglenni brechu. Mae gwaith ein timau brechu yn anhygoel; mae'n sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cael yr amddiffyniad gorau posibl rhag clefydau. Dwi'n ddiolchgar i wasanaeth iechyd Cymru am groesawu'r newidiadau gafodd eu cyflwyno gan y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol ac am helpu i greu gwasanaeth brechu cynaliadwy, gan ddarparu buddion i unigolion a'n cymunedau, ac atgyfnerthu ein gwasanaeth iechyd. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Nid wyf i'n credu bod llawer iawn i anghytuno ag ef ynddo. Rwy'n gefnogol iawn i lawer o'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud y prynhawn yma. Rwy'n cofio—. Soniodd y Gweinidog am y llawenydd pan gafodd y brechiad ei ddatblygu, ac, wrth gwrs, roeddem ni'n arbennig o dda yn y DU a Chymru wrth gyflwyno'r brechiad yn gyflym hefyd, a gafodd gymaint o effaith ar y ffordd y daethom yn ôl i normalrwydd eto.
Gweinidog, gwnaethoch chi sôn am raglen atgyfnerthu'r gwanwyn yn dod i ben yr wythnos hon a'ch bod chi wedi darparu 0.25 miliwn o frechiadau, ond mae'n debyg mai'r cwestiwn sydd yna yw asesu pa mor llwyddiannus oedd y rhaglen dros gyfnod y gwanwyn. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl oedd yn gymwys i gael y brechiad neu roi canran i ni o ran y nifer sydd wedi manteisio arno?
Wrth gwrs, rwy'n deall bod yna gamu lawr o ran cyllid ar gyfer canolfannau brechu. Rwy'n deall pam mai dyna oedd y sefyllfa—dyna oedd y dull gweithredu cywir, i ailgyfeirio cyllid i rywle arall—ond yr hyn mae hynny wedi'i olygu yw bod pobl, yn aml, mewn ardaloedd gwledig yn teithio llawer pellach, y rhai sy'n gymwys, ar gyfer eu brechiadau COVID nag o'r blaen—pobl efallai yn teithio dros awr. Felly, allwch chi ein helpu ni i ddeall ychydig am—? Meddygfeydd, ie, maen nhw'n cynnig yr hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato fel y brechiad ffliw, ond, ie, mae pobl yn teithio dros awr am eu brechiad ar gyfer COVID, felly dywedwch chi ychydig wrthym ni efallai o ran sut yr ydych chi'n teimlo y gallwch chi gymell neu annog meddygfeydd i gynnig y brechiad COVID hefyd.
Gweinidog, rydych chi'n sôn am y rhestr aros ganolog—sori, model caffael canolog—felly, rwy'n gwrando ar hynny gyda diddordeb hefyd. Rwy'n credu eich bod chi wedi siarad am hynny y llynedd, ac ar y pryd roeddech chi'n sôn y byddai o bosibl yn barod ar gyfer 2023-24, ond mae'n edrych fel 2025 erbyn hyn. Rydych chi'n sôn am ddarn o waith sy'n gymhleth, felly efallai y byddai'n werth ehangu ar yr hyn sy'n gymhleth am y gwaith hwnnw. Rwy'n gallu dychmygu ei fod, ond efallai y gallwch chi amlinellu hynny i ni. A hefyd beth yw manteision model caffael canolog? Rwy'n gallu derbyn y bydd manteision, ond efallai y gallwch chi amlinellu beth ydyn nhw dros y system bresennol, ac a oes unrhyw anfanteision yr ydych chi'n eu rhagweld o ran model caffael canolog? Gwn i fod Cymdeithas Feddygol Prydain yng Nghymru wedi mynegi rhai pryderon o'r blaen ynghylch symud i system gaffael ganolog, oherwydd eu bod yn pryderu y gallai meddygfeydd gael eu hariannu'n llai a gallai hynny arwain at oblygiadau ar gyfer ailfuddsoddi mewn gwasanaethau eraill. Felly, a wnewch chi gadarnhau eich bod chi'n cael trafodaethau gyda BMA Cymru ynglŷn â hyn?
Rydych chi hefyd, Gweinidog, yn sôn am gamwybodaeth ynghylch y brechlyn. Mae camwybodaeth, rwy'n cytuno â chi, yn beryglus iawn, pan yr ydym ni'n gweld llawer o'r wybodaeth hon sy'n cael ei bostio, ac efallai y gallech chi ond amlinellu —. Rydych chi'n sôn am sut yr ydych chi'n mynd i weithio gyda sefydliadau'r GIG yn eich datganiad i sicrhau bod gwybodaeth glir a chywir a dibynadwy ar gael, ond sut ydych chi'n mynd i wneud hynny, neu sut mae sefydliadau'r GIG y gwnaethoch sôn amdanyn nhw'n mynd i gyflawni hynny?
Rydych chi hefyd wedi sôn am y rhaglenni brechu a oedd ar y gweill cyn COVID o ran y rhaglenni brechu cyffredinol, wedi'u cyflwyno yn arbennig mewn ysgolion hefyd. Felly, roeddech chi'n sôn am y rhaglenni dal i fyny. I ba raddau y mae Cymru wedi dal i fyny, ac i ba raddau y mae brechiadau yn digwydd nawr o'u cymharu â chyn COVID? A ydym wedi gweld pobl yn eu derbyn? Beth yw'r dadansoddiad? A oes teimlad bod mwy o bobl yn derbyn brechiadau cyffredinol, neu lai? Efallai y byddai'n dda cael rhywfaint o syniad ynghylch rhai o'r materion hynny hefyd. Rwy'n credu mai dyna fy nghwestiynau i gyd. Diolch yn fawr, Gweinidog.
Diolch yn fawr. Felly, gallaf i roi rhai manylion i chi am y sefyllfa ynghylch brechiad atgyfnerthu'r gwanwyn o ran ffigurau. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd yw ein bod wedi darparu 277,000 o frechiadau atgyfnerthu—roedd hynny hyd at 22 o fis Mehefin—ac mae hynny'n cynnwys tua 76 y cant o breswylwyr cartrefi gofal, a 71 y cant o bobl dros 75 oed. Yr hyn sy'n dda iawn yw ein bod ni wedi cyflawni cynnig brechlyn i 100 y cant o'r bobl gymwys hynny, felly roedd ar gael iddyn nhw os oedden nhw'n dymuno ei dderbyn. Nid ydyn nhw'n ffigurau gwael. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ddarganfod yw, bob tro yr ydym ni'n cynnig hyn, mae'n gostwng ychydig. Mae'n ymddangos bod hynny'n wir ar draws gweddill y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd yn iawn, ac ni allwn ni wneud hyn heb y cyhoedd. Mae perygl o flinder brechu, felly mae'n rhaid i ni barhau i wneud hyn o hyd, oherwydd dyma'r amddiffyniad gorau i'r unigolyn a'r GIG, felly dyna pam yr wyf yn credu bod y dull newydd hwn mor hanfodol.
Gwnaethoch chi ofyn am ddull sy'n addas i bawb. Wel, yr hyn sy'n amlwg yw, gall yr hyn sy'n iawn, efallai, mewn ardal drefol adeiledig fod yn wahanol iawn mewn ardal wledig, a dyna pam mae cydnabyddiaeth nad yw'n iawn cael un ateb sy'n addas i bawb. Efallai y bydd byrddau iechyd lleol eisiau ymateb yn wahanol, efallai y bydd cymunedau lleol eisiau ymateb yn wahanol, a'r hyn sydd gennym ni, er enghraifft, gyda meddygon teulu, yw mai mater i feddygon teulu yw hi i ba raddau y maen nhw eisiau cymryd rhan, ac yn sicr yr hyn yr ydym ni'n ei wneud o ran brechiadau ffliw yw sicrhau bod yna gymhelliant i feddygon teulu roi'r brechiad ffliw. Cyn belled ag y bo modd, rwy'n credu bod cyfleoedd gwirioneddol yma i gyd-gyflwyno'r brechiadau ffliw a COVID, ond bydd rhywfaint o hyn yn dibynnu ar amseru a sut yr ydym ni'n gwneud y mwyaf o amseriad gweinyddu'r brechlyn, fel ein bod ni'n amddiffyn pobl ar yr adeg pan fo'r angen mwyaf am yr amddiffyniad. Mae cryn dipyn o fanylion i'w penderfynu yma, ac nid yw'r logisteg yn hawdd. Dyna pam mae gennym ni dîm ardderchog iawn sydd wir wedi deall—gwnaethon nhw gymaint yn ystod y pandemig, ac maen nhw nawr yn gwthio hynny drwy'r system frechu gyfan. Felly, mae hynny'n dda.
Yna'r model caffael canolog: rwy'n credu, unwaith eto, mai'r hyn y gwnaethom ni ei ddysgu o bandemig COVID oedd bod caffael hynny'n ganolog yn golygu ein bod ni'n gwybod yn union beth oedd yn digwydd, pwy gafodd y brechiadau, pwy oedd heb eu cael, ac y gallem ni weithio'r system o gwmpas hynny. Y broblem gyda brechiadau ffliw yn aml iawn yw eu bod yn cael eu caffael gan y meddygon teulu eu hunain, ac weithiau maen nhw'n tan-gaffael, ac mae'n rhaid iddyn nhw ddod i ofyn i ni yn ganolog i wneud yn iawn amdano. Felly, rydyn ni'n gwybod y gallwn ni ei wneud yn ganolog nawr. Mae gennym ni lawer o ffydd a hyder yn y system honno, a'r pwynt yw bod hyn i gyd yn cael ei wneud mewn partneriaeth. Nid yw'n cael ei wneud i bobl; mae'n cael ei wneud gyda phobl, ar bob lefel o lywodraeth.
O ran camwybodaeth, rhan allweddol o hyn yw'r newid digidol sy'n mynd i ddigwydd. Nawr mae gennym ni ap y GIG, bydd cyfle i bobl weld ar yr ap pa frechiadau y maen nhw wedi'u cael, ac mae cyfleoedd gwirioneddol yn sgil hynny. Rwy'n credu bod cael diogelwch ap GIG y mae modd dibynnu arno, sydd wedi cymryd—. Mae pobl yn dal i ofyn i mi, 'Pam mae wedi cymryd cyhyd, yr ap hwn?' ac rydw i wedi bod yn gofyn hynny, rwy'n gallu dweud wrthoch chi—rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiwn yna hefyd. Ac mae rhywfaint ohono oherwydd bod angen i bobl fod yn hollol sicr y gallan nhw ddibynnu ar hyn, a bod beth bynnag y maen nhw'n ei weld ar yr ap hwnnw yn ddibynadwy. Felly, mae hynny'n ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y dyfodol lle y gall pobl droi ati heb gael camwybodaeth.
A dim ond o ran rhaglenni dal i fyny, wel, rydyn ni'n gwneud llawer gwell ar y rhaglenni dal i fyny sydd ar gael. Rwy'n credu os ystyriwch chi'r imiwneiddiadau arferol, mae gennym ni'r brechlyn chwech mewn un y mae plant yn ei gael yn ifanc iawn, gan amddiffyn rhag difftheria, tetanws, y pas, polio, ffliw math B, hepatitis B—mae rhestr gyfan yma. Yr hyn y byddaf i'n ei wneud, os nad oes gwahaniaeth gennych chi, yw y byddaf i'n anfon peth gwybodaeth atoch chi, fel y bydd syniad gennych o ble yr ydym ni ar y rhaglen dal i fyny honno.
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad, ac am gael cipolwg arno fo rhag blaen. Mae'r cyhoeddiad yma i'w groesawu, ac wrth gwrs mae'n bwysig sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu himiwneiddio yma yng Nghymru. Mae o'n ffaith ddiymwad fod brechu ac imiwneiddio wedi arbed ac yn arbed miliynau o fywydau ar hyd y degawdau.
Rŵan, mae'r datganiad yn cyfeirio at gamwybodaeth sydd yn cael ei rhannu ynghylch brechiadau COVID. Ar yr un pryd, rydyn ni'n gwybod am gamwybodaeth yn parhau ynghylch brechiadau MMR, ac mae'n syndod faint o bobl sy'n parhau i fod yn amheus o frechiadau ffliw, hyd yn oed. Roeddech chi'n sôn rŵan am un ffordd roeddech chi'n gobeithio rholio allan dealltwriaeth oedd trwy ddefnyddio ap. Wrth gwrs, efo Rhun ap Iorwerth a Mabon ap Gwynfor, hwyrach y medrech chi droi at Blaid Cymru am wybodaeth am aps. [Chwerthin.] Ond sut ydych chi'n mynd i sicrhau bod pobl yn lawrlwytho yr ap? A sut ydych chi'n mynd i daclo pethau fath â'r papur The Light yma, sydd yn rhoi newyddion ffiaidd o anwir ar hyd a lled y wlad, a sicrhau bod y prif lif newyddion yn cael gwybod am y pethau da yma a phwysigrwydd brechlynnau, yn ogystal â chael pobl i ddefnyddio aps? Sut ydyn ni'n mynd i gael y wybodaeth yna i dreiddio drwyddo i'r cyhoedd, felly?
Mi fydd y Gweinidog yn ymwybodol o bryderon meddygon teulu ynghylch y cynlluniau i ganoli caffael. Ddaru Russ sôn ynghynt am bryderon y BMA hefyd ynghylch hyn. Eu pryderon nhw, wrth gwrs, ydy eu hanallu nhw i negodi eu prisiau eu hunain ar gyfer brechiadau. Pan gyflwynwyd cynlluniau tebyg yn yr Alban, fe roddodd y Llywodraeth yno £5 miliwn o'r neilltu er mwyn cefnogi practisys meddygon teulu er mwyn medru trosi i'r drefn ganolog. Felly, tra bod datganiad y Gweinidog yn sôn am ariannu'r NHS i sefydlu tîm i oruchwylio delifero rhaglenni brechu, does yna ddim sôn am faint o arian nag ychwaith pa fath o gymorth fydd yna a pha fath o gyllideb a fydd ar gyfer meddygon teulu er mwyn eu helpu nhw yn y broses o drosi i'r drefn yma. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ychydig ar sut fydd meddygon teulu yn cael eu cynorthwyo i ymdopi â throsi i'r drefn newydd ganolog yma o gaffael a dilyn esiampl yr Alban.
Flwyddyn ddiwethaf, pan ofynnodd Plaid Cymru i'r Gweinidog ynghylch cefnogaeth ariannol i feddygon teulu pe byddai'r Llywodraeth yma'n mabwysiadau system gaffael brechiadau ganolog, fe soniodd y Gweinidog bryd hynny fod yna enghreifftiau o feddygon teulu oedd ddim yn archebu digon o frechiadau, efo'r Llywodraeth yn gorfod camu i mewn. Ddaru'r Gweinidog sôn am hynny yn ei hateb i Russell George ynghynt. Ond dydy pwyllgor Cymreig y BMA ddim yn ymwybodol o unrhyw brinder sylweddol mewn caffael brechiadau gan feddygon teulu. Dwi'n nodi, serch hynny, gyngor diweddar y Gweinidog i feddygon teulu i beidio â chaffael brechiadau ffliw ar gyfer pobl 50 i 64 mlwydd oedd y gaeaf yma. Mae'n rhaid cadw mewn cof pe byddai yna newid ym meddwl y Gweinidog rŵan ar y mater yma, yna mi fyddai yna brinder o frechiadau ffliw y gaeaf yma o ganlyniad i'r cyngor. Felly, a fedrith y Gweinidog fanylu ychydig ar sawl meddyg teulu mae hi'n ymwybodol ohonynt sydd wedi tangaffael brechiadau yn y gorffennol, a chydnabod hefyd, os oes yna brinder mewn brechlynnau ffliw am fod y gaeaf yma, fod hynny'n mynd i fod o ganlyniad i'w chyngor hi yn hytrach nag unrhyw beth arall?
Yna fe gyfeiriodd y Gweinidog at isadeiledd ddigidol, ac mae'n dda gweld hyn yn ganolog i'r fframwaith sydd yn cael ei gyflwyno heddiw. Mae hyn am fod yn ddatblygiad pwysig, nid yn unig fod technoleg fodern yn galluogi gwell trefn, ond mae'n andros o bwysig wrth fedru sicrhau bod cleifion yn derbyn y brechiadau cywir. Dwi wedi sôn yn y Siambr yma o'r blaen am y systemau cyfrifiadurol wahanol sydd ar waith o fewn yr NHS yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymhelaethu ychydig ar y system ddigidol newydd yma a rhoi'r sicrwydd i ni fod y system newydd yma ddim am gael ei dal i fyny yng nghanol y cymhlethdod o wahanol systemau digidol sydd ar waith yn yr NHS, a'i bod hi'n mynd i weithio yn—beth ydy'r term—seamlessly efo'r systemau digidol eraill sydd ar waith? Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr. Dwi eisiau diolch nid yn unig am y jôc, roedd hwnna'n eithaf good, chwarae teg, ond hefyd am eich bod chi'n gwybod beth yw shingles yn Gymraeg. Roedd hwnna'n eithaf impressive a dweud y gwir.
O ran camwybodaeth, dwi yn meddwl bod hwn yn bwnc difrifol. Mae yn effeithio ar bobl, mae rhai pobl yn gwrando ar y dwli yma maen nhw'n ei weld ar-lein yn arbennig. Dyna pam mae'n bwysig bod pobl yn gallu mynd at lefydd a mannau ac at wefannau lle maen nhw'n gallu cael hyder bod y wybodaeth maen nhw'n ei chael yn wybodaeth ffeithiol, gwyddonol maen nhw'n gallu dibynnu arni. Felly, dyna pam dwi'n meddwl bod yna rôl amlwg nid yn unig i'r ap, ond hefyd i'r NHS yn lleol i wneud yn siŵr bod gan bobl hyder. Mae dal pobl sydd â lot o hyder yn yr NHS ac yn y bobl sy'n arwain yr NHS.
Felly, jest o ran y canoli caffael yma, mae'n amlwg i fi os ydych chi'n mynd i negodi pris, rŷch chi'n mynd i gael pris gwell os ydych chi'n negodi dros 3.1 miliwn o bobl o'i gymharu â 30,000 o bobl. Felly, mae'n gwneud synnwyr am lot o resymau. Ond nid jest arian yw hwn. Beth rydym ni wedi'i ddysgu o'r pandemig oedd yr oedd rhywun gennym ni yn Llywodraeth Cymru oedd yn gwybod yn union faint o vials oedd ar gael ym mhob rhan o Gymru, ac roedd cael y trosolwg yna yn golygu ein bod ni'n gallu symud pethau o gwmpas y system pan oedd angen. Felly, dwi'n gweld bod hynny'n golygu eich bod chi'n cymryd rhywfaint o bŵer i ffwrdd o'r GPs lleol, ond dwi'n meddwl bod y ddarpariaeth ar y cyfan ar gyfer Cymru, dwi'n meddwl ei bod hi'n gwneud synnwyr inni ddilyn y llwybr yna.
Jest o ran y ffliw a beth sy’n digwydd y flwyddyn nesaf, beth rŷn ni'n gwybod yw bod pobl, er enghraifft, sydd dros 50 ac o dan 65, bod y risg o gael ffliw yn is, neu'r effaith o gael ffliw arnyn nhw yn is. Yn amlwg, mae arian yn dynn ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid inni ystyried y pethau hyn, ac mae’n rhaid inni sicrhau ein bod ni'n cael gwerth am arian. Pe byddai yna fwy o arian, efallai byddem ni'n dod i ganlyniad gwahanol, ond beth rŷn ni yn gwybod yw bod yn rhaid inni ganolbwyntio’r help rŷn ni'n rhoi ar y rheini sydd fwyaf bregus.
Jest o ran yr isadeiledd digidol, rŷn ni'n gwneud lot i drawsnewid systemau digidol yn yr NHS. Byddwn i'n licio gwneud lot, lot yn fwy pe bai mwy o arian gen i. Dwi'n meddwl ei bod hi'n ardal lle byddem ni'n cael gwerth ein harian ni, ond mae yna broblemau, yn amlwg, yn ariannol gennym ni ar hyn o bryd, felly beth rŷn ni yn trio ei wneud yw gwneud yn siŵr bod y systemau cyfrifiadurol mewn lle, ac mae'n tîm digidol ni yn truelio lot o amser yn sicrhau bod hwn yn y lle iawn.
Ac, yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i eisiau diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad heddiw, ac rwy'n mynd i ganolbwyntio fy nghyfraniad i, fy munud gyfan i, ar y feirws papiloma dynol, y brechlyn HPV. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn amddiffyn yn erbyn canserau sy'n cael eu hachosi gan HPV, gan gynnwys bron pob canser ceg y groth. Mae HPV yn haint feirws hynod gyffredin, a'r amcangyfrif yw y bydd 80 y cant o bobl yn cael eu heintio gan y feirws hwn ar ryw adeg yn ystod eu hoes. I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd hynny'n cael effaith fawr ar eu hiechyd, ond i rai, gall arwain at ganlyniadau dinistriol, ac at ganserau sy'n gysylltiedig â HPV, fel canser ceg y groth, sy'n dangos i ni y bydd y brechlyn hwn yn atal—ac mae'n debyg ei fod wedi atal—llawer o farwolaethau. Rwy'n falch o weld eich bod chi'n mynd i lawr i un dos, oherwydd gallai helpu i gynyddu'r nifer a fyddai'n manteisio arno, ac yr ydych chi wedi sôn bod y nifer wedi gostwng ers pandemig COVID.
Rwyf i eisiau canolbwyntio hefyd ar gydraddoldeb mynediad at y brechlyn hwn, gan ei fod yn cael ei gynnig ym mhob ysgol ym mhob ardal yng Nghymru, ac eto mae tystiolaeth yn dangos yn eithaf clir bod gan bobl o ardaloedd lle mae lefelau sylweddol o amddifadedd lefelau uwch o ganser ceg y groth yn yr ardaloedd hynny. Felly, mae cydraddoldeb mynediad at y brechlyn yn gwbl hanfodol.
Ac yn olaf gennyf i, rydw i'n mynd i ofyn beth yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i roi gwybod i bobl, pobl ifanc a'u rhieni, am fantais derbyn cynnig y brechlyn, oherwydd unwaith eto, mae llawer iawn o stigma wedi bod ynghylch y brechlyn penodol hwn, ac efallai nad yw rhai rhieni yn ymwybodol o'r manteision ac, felly, nid ydyn nhw'n trosglwyddo hynny i'r bobl ifanc.
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n hollol gywir—rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr hefyd i ni ganolbwyntio ychydig ar y sefyllfa o ran HPV. Fel yr ydych chi wedi'i awgrymu, ar hyn o bryd rydyn ni'n ei roi mewn dau ddos, ond mae cyngor arbenigol gan Sefydliad Iechyd y Byd ac o'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi awgrymu eich bod chi'n cael yr un lefel o amddiffyniad os ydych chi'n ei roi i berson ifanc ag y gwnewch chi os ydych chi'n rhoi dau ddos, felly rydyn ni'n dilyn y cyngor arbenigol hwnnw. Mae hynny'n golygu bod pob merch 12 i 13 oed yn cael cynnig hynny, a bechgyn, yn amlwg. Yr hyn yr ydyn ni wedi'i ddarganfod yw mai tua 82 y cant yw'r nifer sy'n derbyn y cynnig cyntaf, ond tua 70 y cant ar gyfer yr ail un. Felly, byddwn ni'n cyrraedd y targed, ac mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof, ond mae hynny'n dal i adael—ac rwy'n credu bod hyn yn ymdrin â'ch mater cydraddoldeb—cryn dipyn o bobl. Mae bron i 20 y cant heb eu diogelu. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ddysgu yn ystod y pandemig yw bod yn rhaid i chi fynd ar ôl y bobl hyn, gan sicrhau eu bod nhw'n teimlo bod ganddyn nhw fynediad, eu bod nhw'n cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, ac rydyn ni wedi datblygu rhywfaint o arbenigedd o ran hynny, o ran sut i gyrraedd y cymunedau hynny sy'n draddodiadol anoddach eu cyrraedd. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw, os yw'n cael ei roi i ferched a bechgyn sy'n 12 a 13, rydych chi'n llai tebygol—. Mae 87 y cant llai o siawns y byddwch chi'n cael canser ceg y groth yn eich 20au o'i gymharu â phobl sydd heb eu brechu. Dyna'r peth i'w werthu, bod y dystiolaeth yn ei gefnogi mewn gwirionedd; os ydych chi eisiau amddiffyn eich hun, dyma beth yr ydych chi'n ei wneud. Ond, unwaith eto, mae'n rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n cyfleu'r dystiolaeth honno ac yn cyfathrebu'n gywir.
Diolch i'r Gweinidog.