5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Diwygio’r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru

– Senedd Cymru am 3:53 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Llafur 3:53, 27 Mehefin 2023

Felly, nesaf yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar ddiwygio'r tribiwnlysoedd ac esblygiad y maes cyfiawnder yng Nghymru. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y datganiad. Mick Antoniw.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 3:54, 27 Mehefin 2023

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. System gyfiawnder deg ac effeithiol a rheolaeth y gyfraith yw conglfeini ein democratiaeth ni. Aeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, i wraidd y mater pan nododd:

'Cyfiawnder sydd wrth wraidd system llywodraeth ddemocrataidd unrhyw wlad: Nid yw'r system gyfiawnder yn bodoli ar ei phen ei hun. Mae'n rhan annatod o'r gwaith o sicrhau bod hawliau pobl Cymru yn cael eu diogelu, eu gwella a'u gorfodi ym mhob ffordd. Mae gorfodi'r gyfraith a dyfarnu ar

anghydfodau mewn ffordd gyfiawn yn hanfodol i gymdeithas deg a chyfiawn.'

Ym mis Mai y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi'r ddogfen, 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru', sy'n nodi llawer o'r ffyrdd arloesol sy'n cael eu defnyddio i sicrhau cyfiawnder yng Nghymru. Roedd y cyhoeddiad hwn yn fan cychwyn pwysig o ran cyfathrebu'r weledigaeth bendant a phwerus ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru, nid drwy roi addewidion ar gyfer y dyfodol ond drwy roi tystiolaeth o'r ymarfer yn rhannau o'r system nawr.

Heddiw, dwi eisiau gwneud datganiad am rai o'r camau ymarferol pellach rŷn ni'n eu cymryd i ddatblygu'r weledigaeth honno.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 3:55, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Yn benodol, rydym yn gwneud cynnydd pwysig ym maes cyfiawnder lle mae gennym y rheolaeth fwyaf, sef y tribiwnlysoedd datganoledig. Bydd y rhan fwyaf o Aelodau'n gyfarwydd â'r ffaith bod gweithredu nifer o dribiwnlysoedd wedi'i ddatganoli i Gymru mewn meysydd fel iechyd meddwl, addysg, prisio'r dreth gyngor a'r Gymraeg, ymhlith eraill. Mae'r tribiwnlysoedd datganoledig hynny yn darparu gwasanaeth clodwiw i bobl Cymru, ond barn ddiamwys y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, yn ei adolygiad o gyfiawnder yng Nghymru, a Chomisiwn y Gyfraith, yn ei adolygiad o dribiwnlysoedd datganoledig, yw bod angen diwygio i ddiogelu'r system dribiwnlysoedd yn y dyfodol a'i gwneud yn well.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyhoeddi Papur Gwyn o'r enw 'System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru'. Mae'r prif gynigion yn cynnwys creu tribiwnlys haen gyntaf i Gymru, i ymgymryd â swyddogaethau'r holl dribiwnlysoedd datganoledig presennol, a chreu tribiwnlys apêl i Gymru, i wrando ar bob apêl o'r haen gyntaf honno. Hwn fydd y corff apeliadol cyntaf erioed i Gymru yn unig. Bydd y strwythur newydd yn caniatáu dull symlach a chydlynol o benodi aelodau'r tribiwnlys, ymdrin â chwynion a disgyblaeth, a chreu rheolau gweithdrefnol. Bydd yn fwy hygyrch. Yn hollbwysig, bydd hefyd yn rhoi annibyniaeth strwythurol, trwy greu corff hyd braich statudol i weinyddu'r ddau dribiwnlys newydd. Bydd y system dribiwnlysoedd newydd a gynigir gan y Papur Gwyn nid yn unig yn diwallu anghenion presennol cyfiawnder tribiwnlysoedd yn well, ond bydd hefyd yn gallu diwallu anghenion Cymru yn y dyfodol, o hyn allan.

I roi un enghraifft: mae'r penderfyniad i wahardd plentyn o ysgol yn ganolog i'w obeithion yn y dyfodol. Ni ddylai fod unrhyw amheuaeth, pan apelir yn erbyn y penderfyniadau hynny, dylent gael eu clywed yn annibynnol, gan arbenigwyr, a gyda dull gweithredu cyson, lle bynnag y mae'r gwaharddiad yn digwydd. Bydd ein diwygiadau yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb am yr apeliadau hyn o baneli ad hoc a sefydlwyd yn lleol i siambr addysg y tribiwnlys haen gyntaf newydd. Mae diwygio'r tribiwnlysoedd yn bwysig ynddo'i hun, ond mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol lle mae cyfiawnder wedi'i ddatganoli a Chymru yn gweinyddu ei system ehangach ei hun, gan gynnwys y llysoedd. Rwyf wedi credu ers tro bod datganoli cyfiawnder yn anochel.

Wrth gwrs, byddwn yn aros am ganfyddiadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ond yn y cyfamser, yn sgil comisiwn Gordon Brown ar gyfer Plaid Lafur y DU, mae datganoli yn dod yn obaith gwirioneddol iawn, ac mae gennym ddyletswydd i baratoi. Mae'n hanfodol bod unrhyw gynlluniau'n cael eu cyd-gynhyrchu gydag arbenigwyr a'r rhai sydd â phrofiad bywyd o gysylltiad â'r system gyfiawnder. Dyna pam rydym wedi comisiynu amrywiaeth o waith ym meysydd cyfiawnder ieuenctid a phrawf i ddeall sut y gallai datganoli'r meysydd hyn ddigwydd yn ymarferol a sut y gallem sicrhau'r effaith gadarnhaol fwyaf posibl o ddatganoli'r gwasanaethau hyn i Gymru. Rydym hefyd yn gobeithio gwneud gwaith tebyg ar ddatganoli plismona yn y dyfodol agos.

O ran cyfiawnder ieuenctid, comisiynwyd Dr Jonathan Evans i arwain adolygiad anffurfiol o'r system yng Nghymru, a fydd yn dod i ben cyn bo hir. Mae hyn wedi cael ei ddatblygu drwy grŵp cynghori gydag ystod eang o aelodau. Hyd yn hyn, mae'r grŵp hwn wedi cynhyrchu mewnwelediadau allweddol i sut y gellid cryfhau gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru fel eu bod yn cyd-fynd yn well â pholisi cyfiawnder cymdeithasol Cymru. Mae'n gofyn cwestiynau cyffrous am sut y gall gwasanaethau cyhoeddus weithio gyda'i gilydd hyd yn oed yn fwy effeithiol wrth atal troseddau ieuenctid, yn ogystal â sut rydym yn trin y plant hynny sy'n cyflawni troseddau ac, yn wir, eu dioddefwyr. Rhan o'r gwaith hwnnw, hefyd, yw edrych ar weithrediad y llys ieuenctid ac a ellid gwella hwnnw, gan gynnwys a yw hwn yn faes arall lle gallai arbenigedd aelodau'r tribiwnlys addysg presennol chwarae rhan.

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn bwrw ymlaen â darn tebyg o waith ar brawf. Bydd y gwaith hwn yn plethu â gwaith y grŵp datblygu prawf, grŵp o academyddion a phobl sydd â phrofiad o ymarfer, sydd eisoes yn ymgymryd â gwaith sy'n ystyried rhai elfennau o weledigaeth ar gyfer gwasanaethau prawf yng Nghymru yn y dyfodol.

Bydd y prosiectau hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer myfyrio a gweithgaredd pellach. Rydym yn gobeithio gallu defnyddio'r allbynnau fel sylfaen ar gyfer ymgynghori ehangach yn ystod y misoedd nesaf. Bydd ein cynghorydd arbenigol annibynnol, y Fonesig Vera Baird CB, yn chwarae rhan hanfodol yn hyn, gan ddarparu cefnogaeth arbenigol a sicrhau bod ein cynlluniau'n cael eu rhoi drwy'r broses graffu angenrheidiol.

Wrth gwrs, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo. Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddi adolygiad blynyddol o 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' yn yr hydref, gan nodi ein cynnydd yn y meysydd hyn yr wyf wedi'u crybwyll heddiw, yn ogystal â'r rhaglen waith cyfiawnder ehangach. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein dull pragmatig o baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder, a'n cynigion ar gyfer diwygio tribiwnlysoedd fel rhan o hyn. Bydd y camau cychwynnol hyn yr wyf wedi'u hamlinellu, yn fy marn i, yn ein paratoi ar gyfer creu gwasanaeth cyfiawnder gwell i bobl Cymru. Diolch yn fawr. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Ceidwadwyr 4:01, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Sefydlodd Deddf Cymru 2017 y DU swyddogaeth llywydd Tribiwnlysoedd Cymru i oruchwylio'r saith tribiwnlys datganoledig y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt ac y mae'r llywydd yn llywyddu drostynt. O ganlyniad, rydym yn cydnabod y rhesymeg wrth sefydlu un system gydlynol lle mae'r saith tribiwnlys hyn i gyd yn gweithredu o fewn yr un fframwaith, fel yn Lloegr o dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 y DU. Fodd bynnag, ni allwn gefnogi'r mater ar wahân o ddatganoli'r system gyfiawnder yn llawn am y rhesymau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a grynhoais yma eto yr wythnos diwethaf ac nid wyf yn bwriadu eu hailadrodd unwaith eto.

Hefyd, o ran canlyniadau, nid yw hanes Llywodraeth Cymru o ran y gwasanaethau datganoledig sy'n gysylltiedig â chyfiawnder ieuenctid a phrawf, i'w roi yn gwrtais, yn dda iawn. Fodd bynnag, pan ofynnais i chi yn flaenorol am ddiwygio'r tribiwnlysoedd, nodais fod adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn cynnwys y canlynol:

'rydym wedi ein hargyhoeddi mai model yr adran anweinidogol yw’r un y dylid ei fabwysiadu ar gyfer gweinyddu’r system tribiwnlysoedd datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol.'

Dywedodd:

'Dylai’r gwasanaeth tribiwnlysoedd fod yn annibynnol yn weithredol ar Lywodraeth Cymru.'

Wrth ymateb i mi ynghylch hyn ym mis Mawrth, dywedoch chi:

'mae'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu codi yn gwbl sylfaenol, sef bod yn rhaid i'r rhan honno o'r system gyfiawnder fod yn annibynnol ar y Llywodraeth...mae'n rhaid iddo fod yn fodel sy'n sicrhau gweithrediad annibynnol uned Tribiwnlysoedd Cymru'.

Ond ychwanegoch, er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhoi llawer mwy o annibyniaeth i uned Tribiwnlysoedd Cymru, nid yw wedi ymrwymo i greu adran anweinidogol i weinyddu tribiwnlysoedd Cymru.

Mae'r cysyniad o wahanu pwerau rhwng deddfwrfa—h.y. y Senedd—Gweithrediaeth—h.y. Llywodraeth Cymru—a'r farnwriaeth wedi'i hen gymhwyso yn y DU ac ar draws y DU i atal crynodiad pŵer trwy ddarparu proses o wirio a chydbwyso. Sut felly y bydd y cynnig yn y Papur Gwyn 'System Dribiwnlysoedd Newydd i Gymru' i greu corff newydd hyd braich strwythurol annibynnol i weinyddu tribiwnlys yr haen gyntaf i Gymru a thribiwnlys apeliadau i Gymru yn gweithredu yn y cyd-destun penodol hwn?

Mae eich Papur Gwyn hefyd yn cynnig creu tribiwnlys yr haen gyntaf i Gymru gyda strwythur siambr, a chreu tribiwnlys apêl i Gymru. I ba raddau y bydd hyn yn ailadrodd y strwythur a gyflwynwyd gan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 y DU, lle rhennir tribiwnlysoedd yn fras yn dribiwnlys yr haen gyntaf i wrando achosion yn y lle cyntaf, a'r uwch-dribiwnlys i wrando apeliadau gan y tribiwnlys cyntaf, gyda thribiwnlys yr haen gyntaf a'r uwch-dribiwnlys wedi'u rhannu'n nifer o siambrau arbenigol? Mae'n ymddangos yn annaearol o debyg.

O dan Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007 y DU, o'r uwch-dribiwnlys mae posibilrwydd o apelio i'r Llys Apêl ac oddi yno i'r Goruchaf Lys. A fydd y diogelwch hwn hefyd yn berthnasol i'r system dribiwnlysoedd newydd rydych chi'n ei chynnig ar gyfer Cymru? Rydych chi'n cynnig yr hyn rydych chi'n ei ddisgrifio fel dulliau symlach a chydlynol o benodi aelodau'r tribiwnlys a chwynion ar draws y system dribiwnlys newydd. Sut bydd y rhain yn sicrhau rhinwedd, trylwyredd ac annibyniaeth oddi wrth y weithrediaeth a'r ddeddfwrfa?

Yn olaf, rwyf wedi mynegi pryderon gyda chi yn flaenorol bod plant agored i niwed a'u teuluoedd yng Nghymru yn cael eu siomi oherwydd nad oedd gan Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru yn flaenorol, na'r corff sydd wedi ei olynu nawr, unrhyw bwerau gorfodi ac ni all gymryd camau gorfodi pellach pan fydd y cyrff cyhoeddus perthnasol yn methu â chyflawni eu cyfarwyddiadau. Gan ddyfynnu ym mis Medi 2021 o adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru bryd hynny, dywedais fod yr adroddiad yn cyfeirio at Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru, gan gyfeirio at

'yr angen clir i sicrhau na chaiff addysg plant sy’n agored i niwed ei rhoi yn y fantol' ac at y newid o Dribiwnlys AAA Cymru i'r tribiwnlys addysg. Yn eich ateb, dywedoch:

'Credaf y bydd y materion sy'n ymwneud â'r tribiwnlysoedd, trefniadaeth y tribiwnlysoedd, a phenderfyniadau'r tribiwnlysoedd yn fater i'r hyn y credaf y bydd yn Fil tribiwnlysoedd, lle bydd yn rhaid edrych ar yr holl faterion hyn'.

Sut felly ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hyn nawr, pan fo hyn yn parhau i fod yn thema reolaidd yn fy ngwaith achos? Mae'r tribiwnlys wedi cadarnhau nad yw'r ddeddfwriaeth newydd yn newid sut yr ymdrinnir â chydymffurfio â gorchmynion tribiwnlysoedd. Er bod y gorchmynion wedi'u rhwymo mewn cyfraith, nid oes gan y tribiwnlys unrhyw bwerau gorfodi o hyd, ac er y gellid cynnal adolygiad barnwrol yn erbyn yr awdurdod lleol yn yr Uchel Lys, mae'n amlwg bod hynny y tu hwnt i'r hyn y gall y mwyafrif helaeth o deuluoedd yr effeithir arnynt ei fforddio. Diolch.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 4:06, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr amrywiaeth o gwestiynau, a diolch am y manylion a'r ystyriaeth rydych chi wedi'u rhoi i'r adroddiad. Rwy'n credu ei fod yn cydnabod pwysigrwydd y cynigion hyn, felly rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith eich bod yn cefnogi'r rhesymeg o ran y diwygiadau, ac mae gennych, yn briodol, nifer o gwestiynau i'w gofyn.

Os caf droi at y cwestiwn a ofynnoch chi am Ddeddf 2007 a'r diwygiadau yn Lloegr, rydych chi'n hollol gywir, maen nhw'n seiliedig ar y cynigion tebyg hynny. Adroddiad Leggatt yn 2007 a alwodd am ddiwygiadau ar draws y DU yn y bôn. Ni chafodd y tribiwnlysoedd datganoledig eu hymgorffori o fewn hwnnw, ond roedd yr adroddiad yn glir iawn, iawn bryd hynny. Dywedodd:

'Os yw am allu delio â’i lwyth gwaith yn effeithiol, ac i sicrhau bod y gyfraith yn datblygu’n gyson, rhaid i’r system dribiwnlysoedd gael strwythur cydlynol i’w gwneud yn bosibl rheoli llwyth gwaith yn effeithiol, hybu cysondeb, a hybu dull cyffredin o wneud penderfyniadau, o ddelio ag achosion, ac o reoli.'

Ers hynny, cafwyd amrywiaeth o adroddiadau. Wrth gwrs, gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ymdrin â'r mater hwn. Hefyd, roedd adroddiad Comisiwn y Gyfraith, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ac roedd adroddiad hefyd yn ôl yn 2014 ar yr adolygiad o dribiwnlysoedd a oedd yn gweithredu yng Nghymru.

Y gwahaniaeth rwy'n credu yw, ar yr adeg benodol honno, oherwydd datganoli, ac oherwydd y gwahanol ffordd y mae tribiwnlysoedd, ar sail ad hoc, wedi datblygu a dod i fodolaeth yng Nghymru, gyda phob math o strwythurau gwahanol ar waith, roedd angen ystyried yn eithaf difrifol sut beth fyddai diwygio a sut y byddai'n digwydd mewn gwirionedd. Felly, mae'n seiliedig ar yr egwyddorion sylfaenol hynny, sef eich bod â siambr yr haen gyntaf, a'ch bod yn creu siambrau arbenigol o fewn hynny, a chyfeirir eto at y siambrau arbenigol yn y Papur Gwyn. Byddent yn caniatáu nid yn unig system gydlynol, ond datblygu arbenigeddau, a hefyd y gallu a'r hyblygrwydd i ymgymryd â meysydd eraill. Un o'r argymhellion yn y Papur Gwyn wrth gwrs yw siambr gyffredinol i ystyried meysydd ychwanegol y gellid eu datganoli iddi.

O ran gwasanaethau ieuenctid a chyfiawnder ieuenctid, wel, wrth gwrs mae hwn wedi bod yn fater lle mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac mae wedi bod yn effeithiol. Nid yw'n ymdrin â'r cysondeb hirdymor sydd ei angen, a pham mae achos mor gryf dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, sef yr hyn yr ydym yn gweithio arno.

Mae'r datganiad heddiw yn ymwneud yn sylfaenol â diwygio'r system dribiwnlysoedd a'r Papur Gwyn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. O ran y system apelio, wel, hon fydd y system apelio gyntaf mewn bodolaeth. System apelio i Gymru fydd hi sy'n efelychu'r system apelio, ac wrth gwrs y tu hwnt i hynny fe fydd y gallu arferol ar gyfer apeliadau o ran adolygiad barnwrol ac ati.

O ran llywydd y tribiwnlysoedd, anghenion addysgol arbennig a'r siambr addysg ac ati, rwy'n credu y dylai'r newid i hynny fod yn gymharol ddi-dor. Nid wyf yn gweld y bydd yn creu anawsterau. Rwy'n credu y bydd hefyd, serch hynny, yn creu siambr addysg lawer mwy arbenigol a fydd yn gallu ymgymryd â meysydd eraill fel y rhai a grybwyllwyd, er enghraifft y gwaharddiadau.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth gloi'r holl bwyntiau a wnaethoch chi yw mai Papur Gwyn yw hwn wrth gwrs. Mae wedi mynd allan, mae yno ar gyfer ymgynghori, ac yn ddiau, bydd nifer o safbwyntiau penodol, yn enwedig ar, er enghraifft, y system ariannol y sonioch amdani, beth yw'r system orau. Yr hyn y gallaf ei ddweud yn bendant iawn yw fy mod eisiau gweld annibyniaeth gref iawn o fewn hynny. Fel y dywedais y tro diwethaf pan gododd hyn, mae yna farn wahanol, wrth gwrs, ynghylch hynny, ac rwy'n siŵr y bydd nifer o gyfraniadau ynghylch beth y dylai ffurf yr annibyniaeth fod mewn gwirionedd, p'un a yw'n gorff hyd braich, ac ati, neu beth allai'r union fformat fod. Felly, rwy'n credu bod hynny'n fater ar gyfer trafodaeth bellach, ond rwy'n mawr obeithio y byddwch nid yn unig yn rhoi eich cyflwyniad eich hun, eich sylwadau eich hun i mewn i ymgynghoriad y Papur Gwyn, ond hefyd yr holl gyrff eraill sydd â diddordeb.

Yn gyffredinol, mae'r ymatebion rydw i wedi'u cael i'r Papur Gwyn wedi bod yn gadarnhaol iawn, iawn. Mae pobl yn falch iawn o weld ei fod yno. Mae'n ddiwygiad sylweddol, a byddem yn ystyried yr holl ymatebion sy'n dod drwy'r Papur Gwyn hwnnw yn ofalus iawn, iawn, oherwydd rydym eisiau system sy'n annibynnol, sy'n effeithiol ac sy'n cynrychioli'n iawn y materion barnwrol o ran darparu gwasanaethau yng Nghymru.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 4:11, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Rydym yn croesawu lansiad yr ymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar y ddeddfwriaeth newydd i ddiwygio system tribiwnlysoedd Cymru. Fel yr amlygwyd yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021, mae'r system bresennol yng Nghymru yn gymhleth ac yn anghyson, ac, mewn rhai achosion, yn anaddas ar gyfer ymarfer. Rydym yn gobeithio y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn arwain at system dribiwnlysoedd decach a mwy hygyrch i Gymru sy'n adlewyrchu'n llawn y dirwedd ddatganoli sydd ohoni.

Wrth gwrs, gallai'r ffordd y mae Comisiwn y Gyfraith yn nodweddu cyflwr presennol system tribiwnlysoedd Cymru fod yr un mor berthnasol i'r system gyfiawnder yng Nghymru gyfan. Fel y trafodwyd gennym yn y ddadl yr wythnos diwethaf, mae sefyllfa eithriadol Cymru fel yr unig genedl ddatganoledig heb bwerau dros gyfiawnder a phlismona wedi bod yn niweidiol iawn. Mae hyn wedi arwain at ganlyniadau gwaeth o ran y system cyfiawnder troseddol a mynediad at gymorth cyfreithiol. Cyfeiriodd datganiad y Gweinidog at yr angen i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol pan fo cyfiawnder wedi'i ddatganoli, ac rwy'n galonogol bod Llywodraeth Cymru yn rhagweld y ddeddfwriaeth hon fel rhan o raglen ehangach o ddiwygio y mae mawr ei hangen. Mae'n hanfodol bod y dull rhagweithiol o gryfhau a gwella pensaernïaeth ddatganoledig Cymru yn cael ei gynnal ar draws pob maes polisi.

Fel rhan o'r broses hon o osod y sylfeini ar gyfer datganoli cyfiawnder yn y dyfodol, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth effeithiol arweinyddiaeth Lafur y DU. O ystyried y tebygolrwydd y bydd Llywodraeth nesaf San Steffan yn un Llafur, mae'n arbennig o bwysig. Yn anffodus, nid yw'r arwyddion yn addawol o ran sicrhau'r gefnogaeth honno. Rydym wedi sôn o'r blaen bod adroddiad Gordon Brown ar ddyfodol cyfansoddiadol y DU wedi cefnu ar uchelgeisiau Llywodraeth Cymru o ddiwygio cyfiawnder ers amser maith. Rydych wedi tueddu i ymateb i hyn drwy dynnu sylw at y ffaith bod adroddiad Brown yn cyfeirio at y ffaith nad oes rheswm mewn egwyddor pam na ellir datganoli materion sydd wedi'u datganoli yn yr Alban yng Nghymru. Er bod y farn a fynegir i'w chroesawu wrth gwrs, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar yr hyn sy'n ddatganiad o egwyddor anymrwymol yn unig.

O ran cynigion pendant, y cyfan sydd ar y bwrdd i Gymru gan Blaid Lafur y DU ar hyn o bryd yw datganoli gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf. Mae hyn yn brin iawn o'r hyn a argymhellodd adroddiad cynhwysfawr a chymhellol Comisiwn Thomas yn ôl yn 2019. Os ydym eisiau sicrhau bod sylfeini system gyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol yn gadarn, siawns na ddylem fod yn pwyso i gael yr ymrwymiad ar gyfer datganoli llawn nawr fel y gallwn mewn gwirionedd ddechrau'r broses o baratoi a chynllunio o ddifrif. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog, a gan gofio sylwadau'r Gweinidog sef bod datganoli cyfiawnder yn anochel, a yw'n cytuno mai'r ffordd orau o osod y sylfaen ar gyfer datganoli cyfiawnder yn llawn yw i arweinyddiaeth Lafur y DU ymrwymo'n weithredol i roi'r pwerau hyn i Gymru cyn gynted â phosibl, yn hytrach na'i sgubo o'r neilltu. Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 4:15, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y gwahanol sylwadau rydych chi wedi'u gwneud, ac rwy'n cytuno â'r sylwadau cyffredinol rydych chi'n eu gwneud am y cysylltiad rhwng y system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd, a bod ein tribiwnlysoedd mewn gwirionedd yn rhan annatod o hynny. Felly, gan gymryd un cam ar y tro, rwy'n credu bod diwygio ein tribiwnlysoedd ein hunain, creu ein fframwaith a'n strwythur a'n strwythur apeliadol ein hunain, ac wrth gwrs, fel y soniodd Mark Isherwood, creu swyddogaeth llywyddion tribiwnlysoedd wedi bod yn ddatblygiadau arwyddocaol iawn, iawn.

Mae'n debyg mai'r man cychwyn mewn gwirionedd yw hyn: gan adael y mater datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd am y tro, rydym eisiau sicrhau bod gennym system dribiwnlysoedd briodol ac effeithiol ac annibynnol. Mae rhai o'r newidiadau a wnaed, gwella swyddogaeth llywyddion tribiwnlysoedd, sy'n cael ei argymell, rwy'n credu yn rhywbeth sy'n bwysig iawn. Mae'r rhain yn swyddi barnwrol arwyddocaol—y bobl fydd mewn gwirionedd yn eistedd fel llywyddion ac aelodau o'r siambrau amrywiol. Maen nhw'n swyddi barnwrol arwyddocaol, ac mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol o'r rhan yma o'r system gyfiawnder sydd o fewn ein rheolaeth ni ac mae hynny'n rhan o'r broses ddatganoli ar hyn o bryd.

O ran adroddiad Brown, credaf mai'r hyn oedd yn bwysig yn adroddiad Brown hefyd oedd ei fod wedi cyfeirio'n benodol at y ffaith bod gennym ni ein comisiwn ein hunain ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru, ac roedd yna barch at hynny, ac roedd hynny, fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, yn gwbl gywir. Byddai wedi bod yn hollol anghywir i'r adroddiad hwnnw fod wedi dweud yn y bôn, 'Dyma sydd ei angen ar Gymru a dyma ddylai Cymru ei gael mewn gwirionedd,' yn hytrach na dweud, 'Wel, mae gennych chi eich comisiwn ar y gweill. Dyma'r egwyddorion, mewn gwirionedd, ar gyfer diwygio cyfansoddiadol pellach y DU, ac mae bellach yn fater i chi ei ystyried, ac ymgysylltu'n adeiladol ag ef.'

Gadewch i mi ddweud hefyd, wrth gwrs, ni fydd dim yn digwydd—ni fydd unrhyw newid o ran datganoli cyfiawnder—os bydd Llywodraeth Geidwadol arall. Felly, mae hyn i gyd yn gwbl ddibynnol o ran datganoli cyfiawnder, ar ethol Llywodraeth Lafur ymhen rhyw flwyddyn. Rwy'n ffyddiog y bydd hynny'n digwydd. Ond yr hyn y gallaf ei ddweud hefyd yw nad yw gwneud newidiadau i'r system gyfiawnder, a'i hymgorffori, yn dasg hawdd. Mae'n system gymhleth iawn gyda llawer o agweddau arni a pha bynnag ffordd y byddem yn bwrw ymlaen â hyn, mae'n mynd i gymryd amser i sicrhau parhad a sefydlogrwydd y system gyfiawnder, ond hefyd i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn gwella'r system gyfiawnder bresennol, a dyna pam rwy'n credu bod y dull gweithredu rydym wedi'i fabwysiadu hyd yn hyn yn gwbl gywir. Nid ydym bellach yn siarad am yr achos dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, na'r achos dros ddatganoli'r gwasanaeth prawf; rydym yn paratoi mewn gwirionedd ar ei gyfer, sut y gall ddigwydd, ym mha fformat y dylai fod, beth yw'r gofynion deddfwriaethol i wneud iddo ddigwydd mewn gwirionedd, ac mae hynny'n arwyddocaol, ac rwy'n credu y gallwch chi gymryd hynny fel arwydd o hyder bod y rhain yn bethau y credwn a fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Rwy'n gobeithio fy mod wedi ateb eich holl bwyntiau.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Llafur 4:18, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am yr holl waith sylweddol rydych chi'n ei wneud i ddangos sut y gallem ddarparu system gyfiawnder yn agosach at bobl Cymru unwaith y bydd gennym y pwerau hynny. Rwy'n croesawu'n arbennig eich penderfyniad i sicrhau y dylai tribiwnlys weld unrhyw un sy'n cael ei eithrio o'r ysgol er mwyn archwilio a oedd hyn yn weithred briodol ai peidio, oherwydd mae'n ymddangos i mi fod gwahardd o'r ysgol yn fater mor ddifrifol, dylai fod yn ddigwyddiad prin sydd bron byth yn digwydd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n arddangosiad rhagorol o sut y gall tribiwnlys graffu'n annibynnol iawn ar benderfyniad o'r fath.

Tybed a gaf i ofyn i chi am yr adolygiad o'r system cyfiawnder ieuenctid y mae Dr Jonathan Evans yn ei gynnal. A thybed a allech chi ddweud ychydig mwy wrthym am bwy sydd ar y grŵp cynghori sy'n gweithio gydag ef? Ydy e'n cynnwys pobl o fyd addysg a hefyd therapydd lleferydd ac iaith?

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 4:19, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, ac rwy'n croesawu'r sylwadau rydych chi'n eu gwneud o ran gwaharddiadau, oherwydd cydnabyddir hynny'n fawr; mae gwaharddiad yn rhywbeth sy'n cael effaith sylweddol iawn ar berson ifanc, a chredaf ei bod yn gwbl briodol y dylai fod system gydlynol a chyson o ran gwaharddiadau.

Ymdrinnir â materion fel derbyniadau, wrth gwrs, yn lleol fel arfer, felly ni fyddant yn rhan o'r system dribiwnlys hon. O ran y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y system cyfiawnder ieuenctid, yn y bôn, grŵp o academyddion ac arbenigwyr yn y maes addysg sy'n cael eu harwain yw e', a maes o law, pan fydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau mewn gwirionedd, mae'n debyg y bydd yn ein symud ni ymlaen yn sylweddol. Ond rwy'n fodlon bod y bobl yr ymgynghorir â nhw, sy'n ymgysylltu, a'r unigolion sy'n gweithio arno'n arbennig, yn rhai sydd ag arbenigedd yn y maes hwn. Nid hwn fydd yr unig waith, wrth gwrs. Mae angen i'r cwestiwn ynghylch y strwythur deddfwriaethol ddigwydd hefyd, ac, wrth gwrs, bydd gwaith y Fonesig Vera Baird rwy'n credu yn bwysig iawn yn hyn o beth. Y sgìl gwirioneddol a'r arbenigedd gweithredu ymarferol sydd ganddi—a chredaf fod eraill o gwmpas sydd hefyd â'r sgìl a'r arbenigedd yna y credaf y byddent eisiau cyfrannu tuag at lunio pecyn datganoli yn y pen draw, nad yw'n siarad am sut rydych chi'n gwneud pethau ond yn dweud, 'Dyma'r hyn yr ydym yn dymuno iddo digwydd a dyma sut y dylai ddigwydd,' ac er mwyn i ni allu gweithio'n gyflym o'r foment y mae'r cyfle'n codi.

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:21, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Cwnsler Cyffredinol, mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 2 Hydref. A allwch ddweud wrthym beth yw'r amserlen ar ôl hynny? Rwy'n falch, fel y soniodd Jenny Rathbone, fod paneli gwahardd o ysgolion wedi'u cynnwys yn y tribiwnlys, ond roeddwn yn siomedig i'ch clywed eto yn dweud nad yw paneli derbyn i ysgolion wedi'u cynnwys. Maent yn dioddef o'r un problemau â phaneli gwahardd. Maent hefyd yn ad hoc, gydag aelodau'r panel yn cael eu penodi gan y penderfynwr, sef yr awdurdod lleol, ac mae cynghorydd cyfreithiol y panel apêl yn un o gyflogai'r awdurdod lleol. Byddai eu cynnwys o fewn y system tribiwnlysoedd yn cynyddu llwyth gwaith y siambr addysg, sy'n bwysig iawn, oherwydd fel y dywedoch sawl gwaith, mae'r diffyg achosion o fewn tribiwnlysoedd Cymru yn bryder gwirioneddol. A oes gan y Cwnsler Cyffredinol farn gychwynnol ynghylch pam nad yw'r paneli derbyn wedi'u cynnwys? Ni allaf weld y bydd y ddadl leol yn un gref, oherwydd gellid ymgorffori hynny o hyd o fewn y system dribiwnlysoedd trwy aelodau di-dâl fel ynadon.

Rwyf hefyd yn falch o weld y gwaith ychwanegol sy'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru wrth ddatganoli gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid. Fodd bynnag, tybed, trwy ei gyfyngu i'r meysydd hynny, gan nad yw'r gwaith plismona wedi dechrau eto, a yw hyn yn gonsesiwn ar ran Llywodraeth Cymru, oherwydd adroddiad Brown, mai dyma'r unig ran debygol o'r system gyfiawnder a fydd yn cael ei datganoli i Gymru? Ac a ydych chi'n cytuno na fyddai datganoli tameidiog yn mynd i'r afael â'r mater bylchog hwn? Diolch yn fawr.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur 4:23, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Rhys, am y sylwadau yna. O ran yr amserlen, credaf eich bod wedi clywed y Prif Weinidog yn gynharach heddiw yn dweud, nid o fewn y drydedd flwyddyn, ond cyn y diwedd, y bydd Bil yn cael ei gyflwyno. Nid fy lle i yw dweud yn union ym mha flwyddyn y gallai hynny fod yn digwydd, ond fel y gwyddoch gyda deddfwriaeth, mae datblygiad parhaus gwaith polisi a'r cynllunio ar gyfer deddfwriaeth yn bethau sy'n digwydd dros gyfnod o amser cyn y cyhoeddiad a'r penderfyniad gwirioneddol i gyflwyno deddfwriaeth benodol mewn gwirionedd. Yr hyn yr wyf yn ffyddiog yn ei gylch yw, erbyn diwedd tymor y Senedd hon, y bydd gennym system dribiwnlysoedd ddiwygiedig a bydd deddfwriaeth wedi cael ei phasio. Ac, wrth gwrs, fel y gwyddoch, mae gennym bellach lywydd tribiwnlysoedd newydd, cyn-farnwr y llys apêl, Syr Gary Hickinbottom, yr wyf wedi cwrdd ag ef ac y mae'r Prif Weinidog wedi cwrdd ag ef, ac mae'n siŵr y byddwn eisiau ymgysylltu ag ef o ran cynigion ar gyfer y diwygio strwythurol.

O ran y mater paneli derbyn, wel, rydych chi'n iawn ei fod yn faes lle bu safbwyntiau gwahanol. Yn ystod yr ymgyngoriadau, yn sicr roedd anghytuno bod derbyniadau yn rhywbeth mor lleol, bod cymaint o nodweddion lleol, fel ei fod yn rhywbeth a ddylai aros lle mae ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae hwn, unwaith eto, yn Bapur Gwyn, felly mae cyfleoedd i safbwyntiau gael eu cyflwyno sy'n dweud mewn gwirionedd, 'Na, dylai'r dewis arall fod yn wir ac y dylai'r rhain fod—.' Rwy'n credu y teimlwyd o ran y Papur Gwyn fod y gwaharddiadau yn bethau a oedd yn bendant yn gorfod dod i mewn. Roedd arwyddocâd gwahardd o'r ysgol yn cael effaith mor sylweddol. Mae derbyniadau o ran dewis ysgolion penodol yn cynnwys cymaint o nodweddion lleol o ran yr ysgol, y capasiti, y ddaearyddiaeth, ac ati fel bod teimlad, yn sicr am y tro o leiaf, bod y rheini'n bethau a ddylai aros lle maen nhw. Ond, fel y dywedaf, o fewn y system, rydym eisiau system dribiwnlysoedd sydd â hyblygrwydd. Efallai y bydd meysydd eraill o ddeddfwriaeth yn ymwneud â chyfraith newydd Cymru a strwythurau apêl newydd y byddwn unwaith eto, efallai yn awyddus i'w hymgorffori o fewn ein system dribiwnlysoedd yn y dyfodol—system a fydd mewn gwirionedd yn tyfu ac yn adlewyrchu, yn gynyddol, cyfraith Cymru, a hefyd y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg a datblygu arbenigedd ymhlith cyfreithwyr a'r rhai sy'n cymryd rhan o fewn strwythur y tribiwnlys hwnnw ei hun. Felly, mae pethau pwysig iawn yno.

O ran plismona, mae yna waith sy'n mynd ymlaen o ran plismona ac o ran datblygu polisi ynghylch hynny. Mae hynny'n parhau. Ond o ran adroddiad Brown, ac unrhyw gyfyngiad, wel, gwnaeth Gordon Brown hi'n gwbl glir—does dim terfynau. Sybsidiaredd yw'r peth allweddol, y dylid datganoli cymaint â phosibl ar wahân i'r pethau hynny sy'n angenrheidiol o ran y gyd-ddibyniaeth rhwng gwledydd. Felly, mae'r egwyddor yno, ond roedd yn llygad ei le wrth ddweud hefyd, yn dibynnu ar gasgliadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, ei fod yn rhywbeth lle dylai fod wedyn ymgysylltiad adeiladol â'r Llywodraeth nesaf. Rwy'n amau mai'r unig ymgysylltiad adeiladol fydd gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf, a dyna pam mae mor bwysig y bydd, fel y gwn ein bod i gyd yn dymuno, Lywodraeth Lafur y DU ar waith cyn gynted â phosibl.

Photo of Alun Davies Alun Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r datganiad a wnaed y prynhawn yma ac yn croesawu'r dull gweithredu y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn ei fabwysiadu yn y materion hyn? Rwy'n credu y bydd cytundeb eang ar draws y Siambr ar y gwaith sydd wedi'i wneud i ddiwygio'r system dribiwnlysoedd, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a all uno pob rhan o'r Siambr.

Fy mhryder y prynhawn yma—. A'r hyn rwy'n ei groesawu am y datganiad oedd dechrau'r gwaith o fapio llwybr ar gyfer datganoli plismona a chyfiawnder. Mae Bil dioddefwyr, wrth gwrs, ger bron Senedd San Steffan ar hyn o bryd, a byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog amlinellu unrhyw sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch sut y gellir defnyddio'r Bil hwnnw er mwyn dechrau'r gwaith o ddatganoli neu baratoi ar gyfer datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf yn arbennig—y meysydd y mae wedi canolbwyntio arnynt y prynhawn yma.

Ond hefyd, yn ei ateb i Rhys ab Owen, dechreuodd hefyd, fe deimlais i, fapio llwybr ar gyfer y dyfodol o ran datganoli ehangach, sef plismona a chyfiawnder. Ac rwy'n rhannu'r cytundeb ag ef ar yr egwyddor y gall unrhyw bwnc sydd wedi'i ddatganoli i'r Alban er enghraifft, gael ei ddatganoli i Gymru hefyd. Ond beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Ble mae'n gweld yr amserlenni yn hyn, o ran y confensiwn cyfansoddiadol yn adrodd, rwy'n tybio, i Lywodraeth Cymru, sgyrsiau wedyn yn digwydd gyda Gordon Brown, ac yna sut mae hynny'n cyrraedd y llyfr statud o ran deddfwriaeth yn San Steffan? Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n gallu deall a dechrau mapio'r broses honno fel bod y gwaith y mae ef wedi'i ddechrau, a'r gwaith rwy'n ei groesawu'n fawr ar gyfiawnder ieuenctid a phrawf—a chredaf iddo ddweud plismona hefyd—yn dechrau o ddifrif i baratoi ar gyfer datganoli gwir gyfiawnder troseddol i'r lle hwn i sicrhau y caiff y bobl sy'n dioddef yn sgil diffygion y system honno ar hyn o bryd—

Photo of David Rees David Rees Llafur 4:28, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi ddod i ben nawr.

Photo of Alun Davies Alun Davies Llafur

(Cyfieithwyd)

—sylw haeddiannol.

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Llafur

(Cyfieithwyd)

Diolch am hynna. Mae'r Aelod yn iawn, wrth gwrs, i godi unwaith eto, fel y gwnaeth eraill, y mater o blismona. Mae plismona yn rhan annatod o'r system gyfiawnder. Mewn sawl ffordd, mae llawer o weithrediad plismona wedi'i ddatganoli mewn ffordd hybrid o ran y ffaith fod strwythurau wedi'u creu ar gyfer yr ymgysylltiad hwnnw, a thrwy'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac ati. Ac mae camweithrediad anghymesur, onid oes, o fewn y DU, sef bod plismona wedi'i ddatganoli eisoes mewn rhai rhannau o'r DU. Nid yw hynny'n wir am Gymru, a does dim rheswm rhesymegol dros hynny. Felly, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n anochel ac yn rhywbeth a fydd yn digwydd. Ac mae'n ddiddorol, pan fydd Gordon Brown yn siarad am ei adroddiad, ei fod yn cyfeirio at ddatganoli cyfiawnder ieuenctid, prawf a phlismona. Ond rydym yn gweithio ar y sail bod rhai cyfeiriadau penodol iawn at gyfiawnder ieuenctid ac at y gwasanaeth prawf. Dyma'r rhai yr ydym yn canolbwyntio ein gwaith arnynt. Nid ydym yn anwybyddu'r mater o blismona. Mae yna waith ac ymchwil ychwanegol yn digwydd ar hynny o ran sut y gallai weithio, sut y gallai'r pwerau gael eu harfer, y cydberthnasau ac ati. Felly, mae hynny ar y gweill.

O ran y comisiwn cyfansoddiadol gyda Rowan Williams a Laura McAllister, rwy'n deall y bydd yn adrodd erbyn diwedd eleni. Rwy'n gobeithio mai adroddiad yw hwnnw wedyn a fydd yn cael ei drafod yn synhwyrol, nid yn unig yn y Siambr hon, ond ym mhob plaid wleidyddol ac yn y gymdeithas ddinesig ychydig yn fwy cyffredinol hefyd. Y pwynt allweddol, rwy'n credu, yn adroddiad Gordon Brown sy'n ymwneud â hynny yw y dylid cael ymgysylltiad adeiladol wedyn â'r Llywodraeth Lafur nesaf.

Byddwn ni, wrth gwrs, os na fydd yr etholiad cyffredinol wedi digwydd erbyn hynny, yn ceisio ymgysylltu â Llywodraeth y DU, ond mae yna realiti o ran y sefyllfa sydd wedi'i mabwysiadu gan Lywodraeth y DU, ni waeth beth fo'r rhinweddau neu fel arall; yn y bôn, mae hon yn safbwynt ideolegol sydd wedi'i fabwysiadu o ran canoli pŵer, er y byddai rhinweddau mewn datganoli meysydd o'r system gyfiawnder beth bynnag. Felly, mae'r rheini'n drafodaethau a fydd yn digwydd bryd hynny, ac rwy'n credu y cawn gyfle go iawn i'w trafod ym mis Rhagfyr, pan gyhoeddir yr adroddiad hwnnw, yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr i'w weld.