3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Llafur 3:33, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

A dyna sut mae'r system yn gweithio. Mae yna wastad mwy o geisiadau nag y gellir eu cynnwys. Mae yna wastad mwy o uchelgeisiau ymhlith cydweithwyr yn y Cabinet nag y gellir eu cynnwys mewn un flwyddyn. A gallaf sicrhau'r Aelod bod yr achos dros gynnwys y Bil llywodraethu amgylcheddol yn y drydedd flwyddyn wedi cael ei gyflwyno'n rymus yn ystod y dadleuon hynny. Yn y pen draw, byddwn ni'n cyflwyno Papur Gwyn erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, byddwn ni'n cryfhau'r trefniadau dros dro, ac yn sicr hoffwn dalu teyrnged i waith Dr Nerys Llewelyn Jones, sydd, rwy'n credu, wedi cyflawni ei dyletswyddau fel Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru mewn ffordd sydd wedi rhoi hyder i bobl, er ein bod ni'n dal i ddatblygu'r trefniadau terfynol ar gyfer llywodraethu amgylcheddol, fod system yma yng Nghymru sy'n weithredol ac sy'n cael ei harwain yn rymus. Rydym yn mynd i recriwtio dirprwy i Dr Llewelyn Jones yn y cyfnod interim hwn, i gryfhau'r adnoddau sydd ganddi yn ystod y cyfnod hwn. A bydd Bil llawn, gan gynnwys adfer natur—Bil positif o ran natur—yn rhan o'r Bil hwnnw. Mae'n fwy na threfniadau llywodraethu yn unig, yn y ffordd yr esboniais i wrth Huw Irranca-Davies