3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Llafur 3:51, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n croesawu'r Bil bysiau, yn enwedig gyda'r argyfwng bysiau presennol, ac rwy'n gwybod bod gweithredwyr hefyd yn croesawu masnachfreinio nawr, sy'n dda. Rwy'n poeni ychydig am y cyllid fydd ar gael ar ei gyfer, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod hynny yn y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Roeddwn i hefyd yn mynd i ofyn am ddiweddariad ar y Bil positif o ran natur, ac rwy'n deall nawr ei fod yn dod o dan y Bil llywodraethu amgylcheddol. Fe glywais i eich ymatebion yn gynharach, ond rydym mewn argyfwng, ac mae natur yn dirywio mor gyflym fel fy mod i'n gobeithio y gellir mynd i'r afael ag ef yn gyflym iawn. A allwch chi gadarnhau y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor hwn y Senedd? Rwy'n credu imi eich clywed yn gywir y bydd y Papur Gwyn yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Os gallwch chi ymateb i'r rheini, os gwelwch yn dda. Diolch.