3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:31, 27 Mehefin 2023

(Cyfieithwyd)

Hoffwn gyfeirio at y pwynt a gododd Huw Irranca-Davies gyda chi, o ran yr hyn sydd wedi cael ei alw gan sefydliadau fel Climate Cymru yn 'Fesur positif o ran natur', a'r oedi unwaith eto yma. Bydd pobl yn siomedig. Fel y gwyddoch chi, ysgrifennodd dros 300 o sefydliadau atoch ym mis Mawrth yn gofyn i hyn gael ei gyflwyno. Yn eich datganiad, fe bwysleisioch chi eich ymrwymiad i'r argyfwng natur a'r hinsawdd, a'r ffaith na allwn ni aros. Wel, mae hynny'n wir o ran bioamrywiaeth. Rydym yn colli bioamrywiaeth bob dydd, bob wythnos sy'n mynd heibio heb fod y ddeddfwriaeth hon ar waith. Rydym eisoes ar ei hôl hi, ar ôl Brexit, o ran y llywodraethiant hwnnw, y fframwaith llywodraethu amgylcheddol hwnnw yma yng Nghymru. Nid oes gennym drefniadau dros dro hyd yn oed. Felly, a gaf i ofyn: pam mae hyn, unwaith eto, yn destun oedi, a sut y bydd yn cael ei ddatblygu er mwyn iddo ddod yn ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, fel ein bod ni'n mynd ati go iawn i ymateb i argyfwng hinsawdd a natur?