Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Mehefin 2023.
Llywydd, diolch yn fawr. Yn y datganiad blynyddol heddiw, byddaf yn trafod trydedd flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol. Erbyn yr adeg hon o’r tymor, rwy'n gwybod bod y Senedd wedi arfer delio â baich gwaith deddfwriaethol trwm iawn, a bod hynny’n wir ers blwyddyn bellach.
Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai, ar ôl cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Roedd cymryd camau ar y newid yn yr hinsawdd yn ganolog i ail flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol. Cafodd y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ei basio'n gyflym, diolch i ymdrechion yr Aelodau ar bob ochr o'r Siambr. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ddechrau'r mis hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau), a bydd y Senedd yn ystyried ei egwyddorion cyffredinol yn yr hydref.
Bydd rhai materion deddfwriaethol cymhleth yn para am dymor cyfan y Senedd hon. Heddiw, byddwn ni'n pleidleisio ar gyfnod terfynol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Dyma'r cam cyntaf yn ein rhaglen diwygio amaethyddiaeth.
Cafodd y Bil Seilwaith (Cymru) ei gyflwyno yn gynharach y mis hwn. Hwn yw'r Bil olaf yn ail flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd yn gwneud y broses ar gyfer cydsynio i wahanol fathau o brosiectau seilwaith mawr yn symlach. Bydd hefyd yn rhoi rhagor o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr.
Rwy'n diolch i'r Aelodau am gytuno i gyflymu Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Heb y Bil hwnnw, byddai'r syniad o chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr o ran caffael ar gyfer gwasanaethau’r NHS yn dod i ben.
Yn ystod yr ail flwyddyn hon, roedd y Senedd hefyd wedi dod ynghyd i gefnogi'r Bil cydgrynhoi cyntaf i Gymru, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sy'n dod â deddfau sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol at ei gilydd.
Mae rhaglen bwysig o is-ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â'n rhaglen ddeddfwriaethol ac yn ei hategu. Mae’n cynnwys offerynnau statudol i weithredu Deddfau pwysig a gafodd eu pasio gan y Senedd, gan gynnwys y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth i roi Deddfau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar waith, gan gynnwys mwy nag 20 o gynigion ar gyfer Biliau'r Deyrnas Unedig yn Araith olaf y Frenhines. Roedd pob un ohonyn nhw yn cynnwys darpariaethau'n ymwneud â meysydd datganoledig, a rhaid craffu ar bob un ohonyn nhw’n iawn.