– Senedd Cymru am 2:44 pm ar 27 Mehefin 2023.
Yr eitem nesaf, felly, fydd y datganiad gan y Prif Weinidog ar y rhaglen ddeddfwriaethol, ac felly, y Prif Weinidog.
Llywydd, diolch yn fawr. Yn y datganiad blynyddol heddiw, byddaf yn trafod trydedd flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol. Erbyn yr adeg hon o’r tymor, rwy'n gwybod bod y Senedd wedi arfer delio â baich gwaith deddfwriaethol trwm iawn, a bod hynny’n wir ers blwyddyn bellach.
Cafodd y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) Gydsyniad Brenhinol ar 24 Mai, ar ôl cael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf ein rhaglen ddeddfwriaethol.
Roedd cymryd camau ar y newid yn yr hinsawdd yn ganolog i ail flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol. Cafodd y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ei basio'n gyflym, diolch i ymdrechion yr Aelodau ar bob ochr o'r Siambr. Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ddechrau'r mis hwn. Rydyn ni wedi cyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau), a bydd y Senedd yn ystyried ei egwyddorion cyffredinol yn yr hydref.
Bydd rhai materion deddfwriaethol cymhleth yn para am dymor cyfan y Senedd hon. Heddiw, byddwn ni'n pleidleisio ar gyfnod terfynol y Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Dyma'r cam cyntaf yn ein rhaglen diwygio amaethyddiaeth.
Cafodd y Bil Seilwaith (Cymru) ei gyflwyno yn gynharach y mis hwn. Hwn yw'r Bil olaf yn ail flwyddyn ein rhaglen ddeddfwriaethol. Bydd yn gwneud y broses ar gyfer cydsynio i wahanol fathau o brosiectau seilwaith mawr yn symlach. Bydd hefyd yn rhoi rhagor o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr.
Rwy'n diolch i'r Aelodau am gytuno i gyflymu Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru). Heb y Bil hwnnw, byddai'r syniad o chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr o ran caffael ar gyfer gwasanaethau’r NHS yn dod i ben.
Yn ystod yr ail flwyddyn hon, roedd y Senedd hefyd wedi dod ynghyd i gefnogi'r Bil cydgrynhoi cyntaf i Gymru, sef Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), sy'n dod â deddfau sy'n ymwneud â'r amgylchedd hanesyddol at ei gilydd.
Mae rhaglen bwysig o is-ddeddfwriaeth yn cyd-fynd â'n rhaglen ddeddfwriaethol ac yn ei hategu. Mae’n cynnwys offerynnau statudol i weithredu Deddfau pwysig a gafodd eu pasio gan y Senedd, gan gynnwys y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a'r Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth i roi Deddfau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar waith, gan gynnwys mwy nag 20 o gynigion ar gyfer Biliau'r Deyrnas Unedig yn Araith olaf y Frenhines. Roedd pob un ohonyn nhw yn cynnwys darpariaethau'n ymwneud â meysydd datganoledig, a rhaid craffu ar bob un ohonyn nhw’n iawn.
Llywydd, rwy'n troi nawr at y Biliau hynny y bydd y Llywodraeth hon yn eu cyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae thema gref o ddiwygiad yn rhuddin i'r Biliau yr ydym ni'n bwriadu eu cyflwyno wrth i ni ddefnyddio'r gyfraith i ysgogi newidiadau cadarnhaol er mwyn pobl yng Nghymru.
Mae'r cyngor gwyddonol ynglŷn â newid hinsawdd mor eglur ag y mae'n gignoeth. Nid yw newid hinsawdd bellach yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol; mae'n digwydd nawr ac mae'n digwydd yma. Os ydym ni'n dymuno trosglwyddo'r Gymru yr ydym ni'n ei charu i'n plant a'n hwyrion, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau i'r ffordd yr ydym ni'n byw nawr. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am bron i 15 y cant o'n hallyriadau carbon. Ar hyn o bryd mae gennym system fysiau sy'n rhoi elw o flaen pobl. Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau i ddiwygio'r system aflwyddiannus o ddadreoleiddio i alluogi cydweithio ar bob lefel o lywodraeth i ddylunio'r rhwydwaith o wasanaethau bysiau sydd eu hangen ar ein cymunedau.
Yn y drydedd flwyddyn hon, fe fyddwn ni hefyd yn diwygio cyfreithiau ynghylch diogelwch tomenni glo a thomenni sborion yn fwy cyffredinol, gan roi mwy o ddiogelwch i gymunedau sy'n byw yng nghysgodion y tomenni hyn. Fe fydd ein Bil diogelwch tomenni nas defnyddir yn defnyddio adroddiad o bwys Comisiwn y Gyfraith ac ymatebion i'n Papur Gwyn ni i sefydlu awdurdod goruchwylio newydd a threfn reoli ar gyfer diogelwch tomenni yng Nghymru. Fel rhagwelwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, fe fydd y drefn yn berthnasol i domenni glo a thomenni fel arall. Mae dylunio cyfundrefn gymesur sy'n bodloni'r olwg ehangach hon yn gymhleth, ac rydym ni'n benderfynol i wneud hyn yn iawn, oherwydd fe fydd ein cynigion ni'n sefydlu'r gyfundrefn gyntaf yn y byd ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn oes newid hinsawdd.
Llywydd, mae cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i gefnogi gweithrediad yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddileu elw preifat drwy ofal plant sy'n derbyn gofal yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n deddfu ar yr un pryd hefyd i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, i gefnogi'r ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu, ac fe fyddwn ni, yn yr un Bil, yn gwneud nifer o welliannau i helpu wrth reoleiddio a chynorthwyo gweithrediad effeithiol y gweithlu gofal cymdeithasol.
Fe fyddwn ni'n gweithredu gyda phenderfyniad i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg a diogelu ein cymunedau Cymraeg. Ein huchelgais ar gyfer 2050 yw y bydd pob un o'n disgyblion yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg gyda hyder erbyn iddyn nhw adael yr ysgol, ac mae cyfrifoldeb ar y system addysg gyfan i gydweithio tuag at y nod hwnnw. Bydd yr uchelgais hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein Bil addysg Gymraeg, y byddwn yn ei gyflwyno yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol hon.
Ar yr un pryd, Llywydd, rydym ni am gyflwyno Bil i wireddu ymrwymiad y Llywodraeth i leihau'r diffyg democrataidd yng Nghymru, a datblygu system etholiadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd y Bil hwn yn cryfhau gweinyddiaeth etholiadol hefyd drwy sefydlu bwrdd rheoli etholiadol, a chymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr sy'n gymwys yng Nghymru ar y gofrestr etholiadol, ac yn diwygio'r prosesau ar gyfer cynnal adolygiadau cymunedol ac etholiadol.
Caiff Bil i ddiwygio'r Senedd ei hun ei gyflwyno pan fyddwn ni'n dychwelyd ar ôl toriad yr haf. Bydd y Bil hwn yn creu Senedd fodern, sy'n adlewyrchu ehangder y cyfrifoldebau datganoledig a'r Gymru yr ydym ni'n byw ynddi heddiw. Bydd yn creu Senedd sy'n gallu cynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn well, gyda mwy o allu i graffu, llunio deddfau a galw'r weithrediaeth i gyfrif. Ystyriodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd sut y gallai ei gynigion gefnogi ac annog ethol deddfwrfa sy'n ceisio darparu deddfwrfa fwy cynrychioliadol a thrwy hynny ddeddfwrfa sy'n fwy effeithiol er mwyn ac ar ran pobl Cymru. Gan hynny, mewn mesur pellach i ddiwygio'r Senedd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr a etholwyd i'r Senedd hon yng Nghymru.
Ac yn olaf, yn y rhaglen eang ac uchelgeisiol hon o ddiwygiadau radical, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol a fydd yn cyfrannu at ddiwygio ein systemau ni o ran y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Bydd y diwygiadau yn braenaru'r tir i'r systemau hyn addasu yn fwy cymwys at newidiadau yn amodau'r farchnad, yn fwy ymatebol i'r pwysau esblygol sy'n wynebu pobl a sefydliadau, ac yn cael eu teilwra yn nes at anghenion Cymru oherwydd iddyn nhw gael eu cynnal o fewn strwythurau sy'n ddatganoledig. Mae profiad yr ymchwil helaeth sydd wedi bod a'n profiad ninnau o weithredu'r systemau hyn dros nifer o flynyddoedd yn ei gwneud hi'n amlwg fod angen diwygiadau a dargedwyd yn fawr iawn yn y maes hwn.
Ac, wrth gwrs, Llywydd, bydd rhagor yn dod eto yn y blynyddoedd deddfwriaethol sy'n weddill yn ystod y tymor hwn wrth i ni gyflwyno mesurau i gyflawni ymrwymiadau pwysig eraill yn ein rhaglen lywodraethu ni a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yn y blynyddoedd hynny sydd i ddod, fe fyddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer ardoll ymwelwyr a chynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosodiadau byrdymor, cyn diwedd 2024.
Yn unol â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru a chyflwyno dyletswydd a nodau statudol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Fe fyddwn ni'n deddfu i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd ac yn cyflwyno Bil i ail-lunio'r system ar gyfer diogelwch adeiladau. Fe fyddwn ni'n moderneiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat hefyd, ac yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ymwneud â system tribiwnlysoedd Cymru.
Mae ein rhaglen i wella hygyrchedd y gyfraith yn agwedd bwysig arall ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ni, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno Biliau pellach ar gyfer atgyfnerthu hynny yn ystod tymor y Senedd hon, gan gynnwys Biliau sy'n ymdrin â chynllunio a Bil i ddiddymu deddfwriaeth. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn nodi mwy o fanylion ynglŷn â'r cynlluniau hyn yn rhan o'i adroddiad blynyddol ar gynnydd yn y rhaglen hygyrchedd.
O ganlyniad i hyn i gyd, Llywydd, erbyn diwedd y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol hon, sy'n rhychwantu pwynt hanner ffordd tymor y Senedd hon, fe fyddwn ni wedi: rhoi pobl o flaen elw yng ngofal ein plant ac yn ein system drafnidiaeth gyhoeddus; unioni'r ffordd at 'Cymraeg 2050'; rhoi sylw i ofnau ein cymunedau o ran tomenni glo; gwrthdroi petruster 20 mlynedd o ran rhoi Senedd i bobl yng Nghymru sy'n addas i'r dyfodol, Senedd sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes a democratiaeth sy'n ymroddedig i ehangu cyfranogiad, nid ei rwystro; ac fe fyddwn ni wedi mynd i'r afael ag annhegwch dybryd yn system y dreth gyngor.
Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon i'r Senedd, ac yn edrych ymlaen at weithio ar y cynigion hyn gydag Aelodau a'r rhai sydd â buddiant y tu hwnt i'r Siambr hon, a fydd yn helpu i lunio'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno yr wyf i o'r farn fod pobl yng Nghymru yn troi atom ni i'w llunio hi. Diolch yn fawr.
Diolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad brynhawn heddiw. Mae hi'n hawdd anghofio pa mor arwyddocaol yw'r datganiad hwn oherwydd ei fod wedi dod yn rhan o galendr rheolaidd Senedd Cymru, ond, yn rhywun a ddaeth i mewn yn 2007, rwyf i'n gallu cofio eich rhagflaenydd chi'n dweud rhai o'r pethau mwyaf cyffrous a drafodwyd erioed ac fe drafodwyd rheoliadau tatws hadyd o Gyprus a'r Aifft yn y fan hon hefyd. Roedd hynny'n arfer bodloni brwdfrydedd y Senedd, neu'r Cynulliad fel ydoedd, am oriau lawer ar brynhawn Mawrth. Felly, mae'r gallu hwn i ddeddfu, a deddfu ar sail Cymru, yn hanfodol bwysig, ac ni ddylid anghofio hynny, er ein bod ni'n gallu anghytuno ar draws y Siambr hon yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, mai Llywodraeth y DU yn San Steffan yn 2011 a gyflwynodd y ddeddfwriaeth a ganiataodd y refferendwm hwnnw ar bŵer llawn i ddeddfu, y ddau adolygiad comisiwn Silk a edrychodd i mewn ac a greodd yr adroddiad a wnaeth ganiatáu i ddwy Ddeddf Cymru gael eu cyflwyno, ac yn amlwg y Deddfau hynny wedyn sy'n cael eu gweithredu i ganiatáu i lawer o'r ddeddfwriaeth hon y mae'r Prif Weinidog wedi sôn amdani heddiw gael ei chyflwyno gan y Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd, mewn gwirionedd.
Os caf i grybwyll ychydig o ddarnau o fewn y ddeddfwriaeth y tynnodd y Prif Weinidog sylw atyn nhw, ac os caf i fod ychydig yn hunanol drwy godi'r ddeddfwriaeth diogelwch adeiladau rydych chi'n sôn amdani, oherwydd mae hynny'n fater sydd wedi hawlio cryn dipyn o fy amser yn Aelod rhanbarthol ac, rwy'n gwybod, amser Aelodau eraill yn y Siambr hon hefyd, a wnaiff y Prif Weinidog dynnu sylw at beth yn union a fyddai yn y Bil hwnnw? A fydd hwnnw'n datgan hawliau'r preswylwyr a pherchnogion tai a gwmpesir yn y ddeddfwriaeth a basiwyd yn San Steffan yr ydym wedi cael llawer i ddadl yn eu cylch yn y Siambr hon o'r blaen, ond adrannau 116 i 124 yn benodol, fel gall perchnogion tai, pe bydden nhw'n dymuno, geisio eu hunain am iawndal drwy'r llysoedd? Ar hyn o bryd, yn amlwg, nid yw trigolion Cymru yn gallu cyflawni hynny mewn gwirionedd drwy erlyn y datblygwyr sydd wedi eu rhoi nhw mewn sefyllfa mor ansicr.
A gaf i ofyn hefyd am eglurhad gan y Prif Weinidog o ran y Bil trafnidiaeth gyhoeddus y bydd ef yn ei gyflwyno ynglŷn â bysiau, a gofal plant yn arbennig? Rwy'n credu y bydd llawer o'r meysydd hyn yn canfod tir cyffredin rhyngom ni, ond mae hi'n bwysig bod y mentrau polisi sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r mentrau hyn y bydd y Llywodraeth yn eu cyflwyno drwy ddeddfwriaeth yn gallu cyflawni er mwyn pobl mewn gwirionedd, boed hynny yn y system gofal plant neu, yn amlwg, y system gweithredwyr bysiau. Yn amlwg, mae hynny'n rhan o'r diwygiadau a gyflwynwyd yn sgil argymhellion Silk—ein bod ni'n gallu siarad am y ddeddfwriaeth hon yma'r prynhawn yma.
Felly, a wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd, gyda'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywodraeth am ei chyflwyno, y bydd y mentrau polisi a'r arian y bydd ei angen i gyflawni'r gwelliannau hyn yn cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth, yn hytrach nag ein bod ni'n gweld deddfwriaeth yn gorwedd ar y llyfr statud na fyddai, yn y pen draw, yn cyflawni'r gwelliannau y dymunwn eu gweld yn y gwasanaethau cyhoeddus allweddol hynny?
A gaf i geisio deall oddi wrth y Prif Weinidog hefyd ym mha ffordd y mae'n credu y bydd y ddeddfwriaeth yn hyrwyddo amcanion 'Cymraeg 2050'? Rwy'n credu bod pob plaid yn y Siambr hon yn cefnogi'r nod ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050; nid wyf yn credu y byddai unrhyw un yn disgwyl i'r Llywodraeth gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n ceisio atal y Gymraeg. Ond, yn anffodus, dro ar ôl tro, fe welsom ni, yn fwyaf diweddar yn adroddiad y cyfrifiad a ryddhawyd, yn anffodus, fod llai o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, er gwaethaf llawer o ddarnau o ddeddfwriaeth sydd wedi cael eu cyflwyno a llawer o fentrau sydd wedi dod ymlaen, nid yn unig yn y fan hon, ond cyn datganoli yn Neddfau Cymru a basiwyd yn Senedd San Steffan, a'r darpariaethau o ran y Gymraeg a basiwyd yn Senedd San Steffan. Felly, a gaf i geisio deall yn union beth fydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn ceisio ei gyflawni, ac yn y pen draw, pa adnodd a fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon er mwyn sicrhau ein bod ni'n cyflawni'r nod hwn o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
A gaf i geisio cael gwybod hefyd oddi wrth y Prif Weinidog, o ran deddfwriaeth tomenni glo y mae ef yn ei chyflwyno—unwaith eto, ystyriaeth bwysig ar gyfer fy ardal etholiadol i, ond fe wn i am lawer o Aelodau eraill—? Roedd y Prif Weinidog yn sôn am honno fel deddfwriaeth sy'n arloesol sy'n rhagori yn fyd-eang. Mae hi'n bwysig ceisio deall beth fydd y ddeddfwriaeth hon yn ei ddatgan o ran yr hawliau a fydd gan breswylwyr yn hen ardaloedd y maes glo, ac, yn benodol, pa waith adfer y bydden nhw'n gallu ei geisio, trwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth hon, o ystyried rhai o'r anawsterau sydd i'w gweld o ran tirwedd y cymunedau hynny. Felly, unwaith eto, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut yn union y bydd y darn hwn o ddeddfwriaeth yn effeithio ar y cymunedau hynny mewn ffordd sy'n ystyrlon a gwirioneddol?
Roedd y Prif Weinidog yn sôn am Fil diwygio'r Senedd y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno. Fe fyddwn i'n falch o gael deall gan y Prif Weinidog beth yw'r cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru o ran y cwotâu rhywedd y mae'r Prif Weinidog yn eu crybwyll. Mae pawb ohonom ni'n dymuno gweld lluosogrwydd yn y Siambr hon—rwy'n falch o arwain grŵp sy'n cynrychioli'r lluosogrwydd hwnnw, er y gallem ni bob amser wneud mwy a mynd ymhellach—ond a wnaiff y Prif Weinidog nodi pam mae angen cyflwyno darn o ddeddfwriaeth ar wahân yn y maes arbennig hwn, os nad yw'r cyngor cyfreithiol y mae ef yn ei ddilyn yn rhoi sicrwydd iddo o ran ei ymgorffori ym mhrif gorff y ddeddfwriaeth y bydd ef yn ei chyflwyno ynglŷn â diwygio'r Senedd? Mae hi'n ddigon posibl y byddwn ni'n anghytuno ynghylch y niferoedd a fydd yn eistedd yn y Siambr hon, ond rwy'n credu ein bod ni i gyd yn awyddus i weld setliad democrataidd bywiog a chofleidiol yma yng Nghymru y bydd pobl yn gallu bod â hyder ynddo, er mwyn i ni allu cynyddu'r nifer sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd a phob etholiad ledled Cymru, yn enwedig wrth edrych ar y gwahaniaeth rhwng y bleidlais mewn etholiad cyffredinol a'r bleidlais mewn etholiad i'r Senedd.
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog am wybodaeth hefyd ar gyfer deall, pan fydd ef yn sôn am ddeddfwriaeth y dreth gyngor y bydd yn ei chyflwyno—? A fydd hynny'n cael ei gyfyngu yn benodol i gynyddu cwmpas y bandiau ac ymarfer ailbrisiad yma yng Nghymru, neu a fydd hwnnw'n ddarn ehangach o ddeddfwriaeth a fydd yn ceisio cynnal diwygiad ar raddfa fwy eang i'r system dreth gyngor yma yng Nghymru?
Rwy'n gweld fy mod i'n rhoi prawf ar amynedd y Llywydd, oherwydd mae'r cloc wedi mynd yn goch. Fy nghwestiwn olaf i'r Prif Weinidog: mae hi'n hysbys iawn fod y Prif Weinidog wedi mynegi ei ddymuniad ef i ymddiswyddo o swydd y Prif Weinidog hanner ffordd drwy'r tymor Seneddol. A yw am roi ymrwymiad heddiw, ar ddiwedd y datganiad deddfwriaethol 12 mis hwn, y bydd ef yn ei swydd i gyflawni'r datganiad deddfwriaethol nesaf, er mwyn i ni, yn amlwg, gael deall cyfeiriad ac arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru?
Ymgais lew.
Rwy'n diolch i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna. Roedd yn gwbl gywir i'n hatgoffa ni i gyd o'r daith y bu'r sefydliad hwn arni yn ystod ei oes fer. Mewn llai na 25 mlynedd, mae wedi mynd o drafod Gorchymyn tatws llai'r Aifft—rwy'n cofio hwnnw'n dda iawn—i'r mathau o ddarnau o ddeddfwriaeth a ddaw gerbron y Senedd yn y flwyddyn ddeddfwriaethol nesaf.
Ni fydd y Bil diogelwch adeiladu yn dod yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol. Fel nodais i, fe ddaw yn hanner olaf tymor y Senedd hon. Fe fydd yn gwneud y pethau y mae'r Gweinidog, sydd wedi ymuno â ni, rwy'n gweld, ar y sgrin, wedi dweud lawer gwaith: fe fydd yn sefydlu system reoleiddio gadarn a chydlynol, fe fydd yn creu llwybrau eglur o ran atebolrwydd, fe fydd angen asesiad risg tân blynyddol o'r adeiladau hynny yng nghwmpawd y Bil, ac fe fydd yn rhoi lle canolog i lais y trigolion yn yr adeiladau hynny lle mae diogelwch tân wedi bod yn bryder yn y drefn newydd honno.
Rwy'n rhoi sicrwydd i arweinydd yr wrthblaid, er ein bod ni'n deddfu o ran gweithredu gwasanaethau bysiau yn y dyfodol, ac yn dileu'r gallu i wneud elw preifat ar gefn gofal plant, y bydd y mentrau polisi sy'n rhedeg ochr yn ochr â hynny'n parhau, yn sicr iawn. Mae gennych chi tua £44 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn ystod y flwyddyn ariannol hon i gefnogi'r broses o drosglwyddo'r diwydiant bysiau oddi wrth y drefn gyfredol i'r drefn a gaiff ei nodi yn y Bil. Ac rwy'n falch iawn o allu adrodd bod ein hawdurdodau lleol ni wedi cyflymu yn sylweddol tuag at y nod yn y rhaglen gwaith rhanbarthol o sefydlu safleoedd newydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal y tu allan i Gymru neu y tu allan i'w ffiniau lleol ar hyn o bryd, ac yn aml mewn cyfleusterau preifat, i ddod â'r plant hynny yn ôl yn nes adref ac mewn cyfleusterau a fydd yn cael eu rhedeg yn uniongyrchol gan awdurdodau cyhoeddus.
Bydd Bil y Gymraeg yn sicr yn cyfrannu at ein huchelgais ni o fod â miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu bod mwy o anghydfod ynglŷn â'r dystiolaeth na'r hyn a awgrymodd arweinydd yr wrthblaid o ran nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru heddiw. Yr hyn nad yw'n achosi anghydfod yn sicr yw'r cynnydd rhyfeddol yn nifer y bobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan ddechreuais i gadeirio—llawer iawn o ddegawdau yn ôl erbyn hyn—pwyllgor addysg Gymraeg Cyngor Sir De Morgannwg, roedd un ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac un ysgol uwchradd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os edrychwch chi o gwmpas y ddinas heddiw, ni allwch ddychmygu mwy—. Mae'n gas gennyf i ddefnyddio'r gair 'trawsnewidiad'—rydyn ni'n ei ddefnyddio'n rhy aml—ond yn yr achos hwn, rwy'n credu y byddai trawsnewidiad yn adlewyrchiad teg o'r hyn sydd wedi digwydd o ran addysg Gymraeg, ac fe fydd y Bil yn cefnogi hynny ar ran nesaf y daith honno.
O ran diogelwch tomenni glo, rwy'n dweud unwaith eto wrth yr Aelodau fod hyn yn golygu mwy na diogelwch tomenni glo; ceir tomenni sborion oherwydd diwydiannau eraill mewn rhannau eraill o Gymru—chwareli llechi yn y gogledd, mwyngloddio metel yng Nghwm Tawe, er enghraifft—mae angen dod â hynny o fewn i gyfundrefn sy'n adlewyrchu'r pryderon o ran diogelwch yn oes newid hinsawdd. Dim ond wythnos diwethaf, fe ymwelais i â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar domen Tylorstown yng Nghwm Rhondda, tomen, fel gŵyr arweinydd yr wrthblaid, a symudodd yn ystod y cyfnod hwnnw o law trwm iawn ym mis Chwefror 2020. Mae angen cyfundrefn arnom ni yng Nghymru sy'n cydnabod nad yw'r safonau a oedd yn ddigonol o ran diogelwch flynyddoedd yn ôl yn ddigonol yn yr amgylchiadau hyn o ddigwyddiadau tywydd enbyd, boed hwnnw'n law trwm iawn neu, fel gwelsom ni yn haf y llynedd, gwres tanbaid, a effeithiodd mewn ffordd arall ar sefydlogrwydd rhai tomenni yng Nghymru. Bydd y Bil yn cyflwyno'r drefn newydd honno. Fe fydd yn rhoi'r ymdeimlad hwnnw i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny fod corff â chyfrifoldeb uniongyrchol am sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn ddiogel i'r dyfodol.
O ran diwygio'r Senedd, roedd hynny'n destun trafodaethau manwl rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, a'r cyngor a gawsom ni oedd y dylem ni ddod o hyd i ffordd o ymdrin ag unrhyw wendidau i sicrhau y gall y prif Fil fod yno a'i weithredu yn llwyddiannus ar gyfer etholiad 2026, ac y dylem ni ganfod ffordd o ymdrin ag unrhyw wendidau a allai fod a fyddai'n herio'r agwedd o ran cwotâu rhywedd. Rydym ni'n hyderus fod ganddom y cwmpas cyfreithiol yma yng Nghymru i ddeddfu yn y maes hwn, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil gyda ffydd yn y sail yr ydym ni'n gwneud hynny arni. Ond mae hwn yn faes lle gallai safbwyntiau eraill fod yn bosibl, a lle gellid wynebu her. I sicrhau nad yw'r prif ddiwygiadau yn agored i her, rydym ni wedi rhannu'r ddwy agwedd. Nid wyf i'n gwbl sicr, Llywydd, y byddai arsylwr diduedd sy'n edrych ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Siambr yn eu hystyried nhw'n batrwm o luosogrwydd rhywedd, ac fe fydd y Bil cwotâu rhywedd yn ein helpu ni i gyd i fod—[Torri ar draws.] Rwyf i'n clywed yr Aelod; ni all rhai eraill y tu allan i'r Siambr ei glywed ef. Mae'n gofyn i mi am agweddau eraill ar amrywiaeth, ac rwyf i'n cytuno ag ef. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef fod gwaith gan bob plaid wleidyddol i'w wneud mewn Senedd estynedig i wneud yn siŵr bod agweddau eraill ar amrywiaeth—pobl ag anableddau, pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol—mewn Siambr newydd ac estynedig yn adlewyrchu natur y Gymru gyfoes.
Bydd Bil y dreth gyngor, Llywydd, yn cwmpasu mwy na dim ond bandiau ac ailbrisiadau yn unig. Fe fydd yn ein galluogi ni i ddefnyddio dull mwy effeithlon o ymdrin â'r nifer o ffyrdd y mae eithriadau, gostyngiadau a diystyru wedi cronni dros y blynyddoedd heb edrych yn iawn ar y rhyngweithio rhwng yr elfennau amrywiol hynny i gyd. Felly, fe fydd yn ehangach na dim ond y ddau fater y soniodd yr Aelod amdanyn nhw'n unig.
Ac fe allaf i roi sicrwydd iddo ef na fydd unrhyw Fil yn cael ei roi gerbron yr Aelodau yn ystod y drydedd flwyddyn a fydd yn Fil y Prif Weinidog (diwedd tymor yn y swydd) (Cymru).
Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad cynhwysfawr yma? Mae llawer iawn o elfennau i gyfeirio atyn nhw yn yr ychydig funudau nesaf.
Dwi am ddechrau drwy gyfeirio at un Bil sy’n cyrraedd pen ei daith heddiw. Rydyn ni ar y meinciau yma bob tro yn ceisio dod â llais cymunedau gwledig a’r sector amaethyddol i’r Siambr am resymau economaidd a diwylliannol. Dwi’n falch iawn ein bod ni wedi gallu defnyddio ein dylanwad o fewn y cytundeb cydweithio mewn ffordd adeiladol iawn i gryfhau’r Bil amaeth, a dwi’n gwybod bod amaethwyr yn gwerthfawrogi hynny.
Mae Plaid Cymru wedi ymgyrchu yn hir am Fil awyr lân, a dwi’n edrych ymlaen at weld y cam yn cael ei gymryd i arbed miloedd o fywydau yng Nghymru. Mae’n amser gwneud hynny er mwyn arbed bywydau a gwarchod adnoddau’r NHS.
Mae yna gymaint o elfennau o’r rhaglen fyddwn ni’n delio â hi dros y blynyddoedd nesaf dwi'n arbennig o falch ohonyn nhw, a’r cyfraniad rydyn ni wedi’i wneud tuag atyn nhw, fel yr ymdrech i greu model twristiaeth mwy cynaliadwy, yn cefnogi’r sector dwristiaeth ac yn gwarchod y cymunedau yna mae twristiaeth yn digwydd o’u mewn nhw.
Dwi’n cyffroi yn meddwl am yr hyn y gallwn ni geisio ei gyflawni drwy Fil addysg Gymraeg, a dwi’n edrych ymlaen inni weithio ar draws y pleidiau yma yn y Senedd i wireddu hwnnw.
Dwi am droi at y cam sylweddol, pwysig a phositif rydyn ni ar fin cychwyn arno fo fel cenedl o ran datblygiad ein democratiaeth ni.
Bydd cyflwyno'r Bil hwn i ddiwygio'r Senedd yn foment nodedig yn hanes gwleidyddol Cymru, nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i am hynny. Bron i chwarter canrif ar ôl i'n cenedl ni gymryd ei chamau petrus cyntaf i oes datganoli, mae democratiaeth Cymru ar fin cael ei huwchraddio, ac fe fyddwn ni'n adeiladu ar y gwaith a wnaethpwyd eisoes yn y cytundeb cydweithio i wireddu hynny. Mae cymwyseddau datganoledig Cymru wedi datblygu a newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth ers i mi ddechrau gweithio fel newyddiadurwr yma flynyddoedd lawer yn ôl, ac mae cynnydd wedi bod o ganlyniad i hynny, wrth gwrs, yng nghyfrifoldebau a dyletswyddau Aelodau etholedig, ond mae datganoli yng Nghymru a phroffil etholiadol datganoli wedi dal yn gadarn drwy'r cyfan.
Nid oes amheuaeth fod Senedd fwy yn hwyluso atebolrwydd a chraffu mwy effeithiol ar y Llywodraeth, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai pob un ohonom yng Nghymru fod eisiau anelu ato. Rydym ni'n falch y bydd y Bil yn mynd i'r afael â'r angen amlwg am ddiwygio'r system bleidleisio, gan anwybyddu unwaith ac am byth y system hynafol cyntaf i'r felin sydd wedi ein llyffetheirio cymaint, sydd wedi effeithio ar ymgysylltiad â phleidleiswyr dros gynifer o flynyddoedd, ac wedi sugno brwdfrydedd o ddull San Steffan. Fe fydd symud tuag at system fwy cyfrannol yn sicrhau y bydd pob pleidlais a gaiff ei bwrw yn etholiadau'r dyfodol i'r Senedd yn cael effaith bendant ar ddosbarthiad y seddi. Nid ydym ni'n haeru bod y Bil fel cyflwynir ef yn cyflawni popeth yr oeddem ni'n bwriadu ei gyflawni. Polisi ein plaid ni o hyd yw cefnogaeth i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn hytrach na'r system o restrau caeedig. Fe fyddwn ni'n dal ati i bwyso am ddiwygiadau pellach. Ond rydym ni'n cydnabod hefyd nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif o ddwy ran o dair fel sydd ei angen i gyflawni diwygiad mor bwysig, ac felly rydym ni wedi dewis gweithio mewn ffordd ymarferol gyda'r Llywodraeth i ddatblygu cyfres o gynigion a fydd yn mynd dros y trothwy angenrheidiol hwnnw er mwyn pawb yng Nghymru.
Yn olaf, fe hoffwn i wneud sylwadau ar y mesurau deddfwriaethol i gyflwyno cwotâu rhywedd yn ein system etholiadol ni—yn rhy hwyr, unwaith eto. Er bu cynnydd mawr yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli o ran cynrychiolaeth menywod yn y Senedd, a ddaeth yn ddeddfwrfa gyntaf y byd i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn 2003, rydym ni wedi gweld llithriad siomedig yn y cyfnod mwy diweddar. Mae sicrhau presenoldeb amlwg ac amrywiol menywod mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol yn ddemocrataidd ac yn gymdeithasol, ac felly rwy'n croesawu'r mesurau a gynhwysir yn y Biliau wrth eu cymryd nhw gyda'i gilydd.
I gloi, bydd, mi fydd y Senedd yma yn adlewyrchu, fel dywedodd y Prif Weinidog, y Gymru gyfoes. Ar daith i annibyniaeth ydyn ni'n gobeithio arwain Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ond, yn y cyfamser, mae angen sicrhau bod ein Senedd newydd ni yn mabwysiadau pwerau newydd er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru. I gloi, dwi'n apelio ar ac yn gofyn i'r Prif Weinidog weithio efo ni er mwyn cael y grymoedd hynny, nid er mwyn eu hunain, ond er mwyn creu'r Gymru decach, werddach a mwy llewyrchus yr ydw i'n dyheu amdani hi.
Diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth. Diolch am beth y dywedodd e i ddechrau am y ffordd adeiladol rŷn ni wedi cydweithio gyda'n gilydd, a dwi'n edrych ymlaen i gydweithio gyda'r Aelodau ym mhob cwr o'r Siambr, ble mae pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud gyda'n gilydd. Ond mae'r rhaglen uchelgeisiol sydd o flaen y Senedd yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol yn adlewyrchu'r gwaith caled sydd wedi mynd ymlaen rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn enwedig, yn enwedig y gwaith mae Siân Gwenllian, Cefin Campbell ac Adam Price wedi bod yn rhan ohono, i baratoi'r rhaglen dwi wedi amlinellu'r prynhawn yma. Dwi'n edrych ymlaen i gario ymlaen yn yr ysbryd yna.
Rwyf i am ganolbwyntio yn unig ar faterion ynglŷn â diwygio'r Senedd yr oedd Rhun ap Iorwerth yn canolbwyntio arnyn nhw yn ail hanner ei gyfraniad ef, Llywydd. A gaf i ddweud wrth Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr ei bod dros 20 mlynedd ers i Arglwydd Ivor Richard lunio ei adroddiad ar dymor cyntaf y Senedd, adroddiad a oedd yn mynegi nad oedd gan y Senedd nifer ddigonol o Aelodau i gyflawni'r cyfrifoldebau a oedd ganddi hi bryd hynny? Yn y drafodaeth yr oedd rhai ohonom ni'n ymgysylltu â rhai pobl ifanc ynddi hi, fe ddywedodd rhywun wrthyf i, 'Nid oeddwn i wedi cael fy ngeni pan luniodd Arglwydd Richard yr adroddiad hwnnw, ac ar hyd fy oes gyfan, mae Cynulliadau a Seneddau olynol wedi methu â deall yr hyn sydd, heb os, yn fater heriol ac un sy'n gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair ar lawr y Senedd, yn gwbl briodol, i newid y system sydd gennym ni'.
Dyma'r amser i wneud hynny. Rwy'n dweud hynny wrth gydweithwyr ym mhob rhan o'r Siambr hon. Mae cyfrifoldeb gennym ni, tra bo'r cyfle hwn yn ein gafael ni, i wneud rhywbeth nad yw wedi bod yn bosibl ers dros 20 mlynedd, a phan roddir y Bil hwnnw gerbron y Senedd ym mis Medi, fe fydd honno'n foment nodedig. Fe fydd hi'n foment nodedig pan fyddwn ni'n cymryd y cyfrifoldeb hwnnw dros sicrhau bod y strwythurau democrataidd sydd gennym ni yng Nghymru yn ddigonol i ysgwyddo pwysau'r cyfrifoldebau sy'n gorwedd yn y Senedd a'r cyfrifoldebau yn y dyfodol y bydd llawer ohonom yn gobeithio y dônt i ran y sefydliad datganoledig hwn a gwneud hynny mewn ffordd sy'n sicrhau y bydd digon o Aelodau a'r sefydliad y tu ôl iddyn nhw i allu gwneud y gwaith caled o graffu ar y ddeddfwriaeth. System un siambr sydd gennym ni yma, nid oes gennym ni siambr arall i unioni unrhyw beth y gallem ni fod wedi ei wneud yn anghywir. Dyna pam mae'n rhaid i ni fod â'r grym ar lawr y Senedd yn y dyfodol i allu craffu ar y ddeddfwriaeth honno, a sicrhau ei bod cystal ag y gall fod, a dwyn y Weithrediaeth, pwy bynnag fydd yn honno, i gyfrif am y camau a gymerir er mwyn pobl yma yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae Rhun ap Iorwerth yn iawn nad yw cyfansoddiad rhywedd y Senedd heddiw mor gytbwys ag a fu yn y Senedd ar adegau blaenorol. Rwy'n falch iawn wir o arwain grŵp Llafur lle mae menywod yn fwy niferus na'r dynion—a hynny o gryn dipyn. Rwy'n falch iawn wir fod mwy o fenywod yn fy Nghabinet i nag sydd yna o ddynion, fel, yn y Llywodraeth o leiaf, fod gennym ni ddull sy'n adlewyrchu natur Cymru heddiw, ac rydym ni'n awyddus i weld Senedd sy'n gwneud yr un peth, ac fe fydd y rhai ohonom ni sydd wedi ymrwymo gyda'n gilydd gyda'r fenter honno yn cael cyfle i wneud i hynny ddigwydd pan fydd y Bil cwotâu rhywedd hwnnw'n ymddangos gerbron y Senedd cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
A gaf i adleisio yn fy sylwadau agoriadol y sylwadau nawr ynglŷn â diwygio'r Senedd gan arweinydd Plaid Cymru a gan y Prif Weinidog? Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud y Senedd hon, Senedd Cymru yn addas nid yn unig am y tro, ond i'r dyfodol ac ar gyfer gwasanaethu pobl Cymru. Ein cyfrifoldeb ni yw hwn; mae angen i ni fwrw ymlaen â hyn a gwneud felly.
Ond a gaf i ofyn ambell gwestiwn ar y rhaglen ddeddfwriaethol nawr? Yn gyntaf i gyd, y Bil bysiau: croeso mawr i hwnnw. Rydym ni wedi bod yn aros yn eiddgar iawn am ddyfodiad hwnnw. Sut fydd hyn yn cyd-fynd â'r syniad hwn ynglŷn ag amserlenni symlach, tocynnau symlach—un tocyn, un amserlen—a yw hyn yn mynd â ni gam yn nes at allu gwneud hynny, oherwydd honno yw ein gweledigaeth ni ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru?
Yn ail, y ddeddfwriaeth llywodraethu amgylcheddol yr ydych chi'n ei chyflwyno: a fydd honno'n ein galluogi ni i symud tuag at waith adfer sy'n cefnogi byd natur yng Nghymru, gan ailgyflenwi bioamrywiaeth, ein gwasanaethau ecosystem ni a byd natur ei hun, yn ogystal â chryfhau llywodraethu yn y cyfnod ar ôl gadael yr UE?
A dim ond un sylw terfynol, Dirprwy Lywydd, un peth yr ydym ni'n ei groesawu yn arbennig yn y fan hon—nid dim ond yn Llafur Cymru, ond Aelodau sy'n cydweithio â ni hefyd—yw'r cynnig ynghylch atal gallu gwneud elw o ofal i blant sy'n derbyn gofal, a chyflawni yn unol â'r flaenoriaeth honno. Ac yn ogystal â hynny, gan symud ymlaen hefyd, yn gysylltiedig â hynny, y cynigion ynghylch gofal iechyd parhaus, lle gallwch chi gyflwyno taliadau uniongyrchol mewn gwirionedd, oherwydd fe fyddai hynny'n caniatáu darpariaeth o wahanol fodelau o ofal iechyd, gan gynnwys modelau cydweithredol. Diolch i chi.
Rwy'n diolch i Huw Irranca-Davies. Ac wrth gwrs, fel Cadeirydd y pwyllgor pwrpas arbennig a sefydlwyd gan y Senedd, mae'n siarad ag awdurdod penodol ynglŷn â mater diwygio'r Senedd, ac adroddiad y pwyllgor hwnnw a gymeradwywyd gan y Senedd hon yng Nghymru a oedd yn sylfaen i'r Bil a'r holl waith sy'n mynd i'w baratoi ac fe fyddwch chi'n gweld hwnnw, rwy'n gobeithio, ym mis Medi.
Fe fydd y Bil bysiau yn gwneud budd y cyhoedd yn brawf allweddol o'r ffordd y darperir gwasanaethau bysiau yng Nghymru yn y dyfodol. Fe fydd yn golygu y bydd yr awdurdodau lleol, Trafnidiaeth Cymru, â'r pwerau angenrheidiol i sicrhau y bydd y buddsoddiad cyhoeddus sylweddol iawn hwn a gaiff ei wneud ar ran y cyhoedd i gynnal y system drafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei roi ar waith mewn modd priodol i weithio ar ran y cyhoedd. Honno yw egwyddor arweiniol y Bil hwn, ac rwyf i o'r farn y bydd yr Aelod yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn yr agenda ehangach honno yr oedd ef yn tynnu sylw ati hi.
Rwy'n falch o gadarnhau y bydd y Bil llywodraethu amgylcheddol, pan fydd yn dod i'r golwg, nid yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol ond y tu hwnt i hynny, yn cynnwys nodau bioamrywiaeth ac adferiad byd natur ynddo, yn ogystal â threfniadau llywodraethu ar ôl gadael yr UE.
Mae taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus yn bwnc sydd wedi mynd yn fwy dylanwadol ym mywydau llawer o ddefnyddwyr y gwasanaeth iechyd, gan fod y system taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol ei hun wedi aeddfedu, ac aeddfedu mewn llawer o'r ffyrdd y tynnodd Huw Irranca-Davies sylw atyn nhw. Mae anghysondeb yn y ffaith y gall unigolyn reoli ei gyllideb ei hun ar ddydd Llun, pan gaiff y gwasanaeth ei ddarparu gan ofal cymdeithasol, ond ar ddydd Mawrth, pan fydd anghenion yn golygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu wedyn drwy'r system gofal iechyd parhaus, mae'r unigolyn yn colli'r rheolaeth honno. Fe fydd y Bil yn sicrhau y gall y rheolaeth honno fod yn barhaus.
Ac a gaf i'n olaf adleisio'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, Llywydd? Fe fydd y Bil yn ein helpu ni i ddiddymu'r gallu i wneud elw o wasanaethau plant sy'n derbyn gofal. Nid wyf i'n credu y gwnaf i fyth anghofio cwrdd â grŵp o bobl ifanc a ddygwyd at ei gilydd gan y comisiynydd plant ar y pryd, pan ddisgrifiodd menyw ifanc i mi ei theimladau hi pan welodd ei llun ar wefan lle'r oedd ei hawdurdod lleol hi, ei rhiant corfforaethol hi, yn gwahodd tendrau i mewn gan unrhyw un a oedd yn barod i ofalu amdani am y gost isaf posibl. Dychmygwch chi hynny—i feddwl mai fel yna y caiff eich dyfodol chi ei lunio. Fe fydd y Bil hwn yn sicrhau na fydd y ffordd honno o ddarparu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yn rhan o'u dyfodol nhw na'n dyfodol ninnau chwaith.
Yn yr un funud sydd gennyf i, rwy'n credu, ar gyfer sylwebu ar raglen ddeddfwriaethol enfawr, tri pheth yn gyflym iawn. Rwy'n croesawu diwygio'r Senedd, wrth gwrs, ond rwyf i'n awyddus iawn i ni symud yr agenda ymlaen oddi wrth y system gynrychioliadol leiaf cyfrannol sy'n cael ei chynnig, at bleidlais sengl drosglwyddadwy, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n rhywbeth y byddech chi'n ei ystyried. Fe fyddai hi'n dda gennyf glywed eich sylwadau chi ar hynny. Wrth Blaid Cymru, fe ddywedaf i'r hyn a ddywedais i'r tro diwethaf: peidiwch â chafflo hyn unwaith eto. Rydym ni'n dymuno gwneud yn siŵr mai pleidlais sengl drosglwyddadwy sydd gennym ni ac am wneud yn siŵr bod agenda agored a thrafodaeth agored gennym ni—[Torri ar draws.] Fe wnaethoch chi ein cafflo ni'r tro diwethaf, mae arnaf i ofn, felly os gwelwch chi'n dda—. Fe aethoch chi gyda'r cynnig am system rhestr gaeedig, ac mae'n ddrwg iawn gennyf i eich bod chi wedi gwneud hynny, felly rwy'n gobeithio y byddwch chi'n cefnogi hyn.
Yr ail beth yw fy mod i'n llwyr groesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud ynglŷn ag atal gallu gwneud elw o ofal plant. Yn weithiwr cymdeithasol amddiffyn plant gynt, rwy'n falch iawn o weld hynny.
A'r trydydd peth yw'r broblem ynghylch digartrefedd. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n diddymu digartrefedd. Rwy'n gobeithio nad ei ddiwygio y byddwn ni; rwy'n gobeithio yn fawr mai ei ddiddymu a wnawn ni. Felly, rwy'n gobeithio yn fawr y byddwn ni'n clywed mwy oddi wrthych chi ynglŷn â sut yr ydych chi am ddiddymu digartrefedd ledled Cymru. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ynglŷn â'r pwynt am ddigartrefedd, polisi'r Llywodraeth yw, lle profir digartrefedd, fe ddylai fod yn anghyffredin, am gyfnod byr a heb ailadrodd hynny, a dyna'r hyn y mae deddfwriaeth—nid yn y drydedd flwyddyn—pan gaiff ei chyflwyno, fe fydd hi'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny.
A gaf i ddweud wrth yr Aelod ynglŷn â diwygio'r Senedd eich bod chi wedi clywed Rhun ap Iorwerth yn dweud bod agweddau ar y Bil y byddai hi'n well gan ei blaid ef eu gweld nhw'n wahanol? Mae agweddau ar y Bil y byddai hi'n well gennyf innau eu gweld nhw'n wahanol hefyd, ond ni fyddwn yn gallu cario diwygio Seneddol drwy'r Senedd hon pe byddem ni i gyd yn benderfynol o gael popeth yr ydym ni'n ei ddymuno o'r Bil hwnnw. Ni fydd y Bil yn llwyddo heblaw ein bod ni i gyd yn barod i ddathlu bod â hanner torth, ac fel arall ni fyddai unrhyw dorth o gwbl, ac mae hynny'n golygu cyfaddawdu, ac mae'r Bil yn golygu cyfaddawdu, ac ni fyddai unrhyw un o Aelodau'r Senedd hon yn ei ystyried yn becyn perffaith o fesurau. Ond pe byddech chi'n dal eich gafael er mwyn ceisio perffeithrwydd, yn y pen draw ni fyddai'r un dim gennych chi o gwbl, a'r hyn a gredaf i yw nad hon yw'r foment i ganiatáu i'r ymgais am berffeithrwydd ymlid yr hyn sy'n bosibl. Mae diwygio'r Senedd wedi bod yn amhosibl am 20 mlynedd. Mae hi'n bosibl gwneud hynny nawr. Ond mae'r posibilrwydd hwnnw yn dibynnu ar gydnabyddiaeth gan bob un ohonom ni fod rhywfaint o gyfaddawd yn angenrheidiol i ennill mwyafrif o ddwy ran o dair a pheidio â cholli pleidlais gan unrhyw un ohonom ni sydd o blaid diwygio'r Senedd ar y daith honno.
Rwyf innau hefyd yn diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud bod rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yn siomedig—yn siomedig i'm plaid i, ond yn fwy felly, yn siomedig i bobl Cymru. Pam nad yw'r ddeddfwriaeth yn mynd i'r afael â'r problemau mawr sy'n wynebu pobl Cymru nid yma? Ar wahân i'r Bil bysiau, yr addewid i fynd i'r afael â rheoli tomenni glo nas defnyddir a diwygio'r dreth gyngor, rhaglen ddeddfwriaethol yw hon sy'n ceisio prynu pleidlais Plaid Cymru unwaith eto.
Prif Weinidog, lle mae'r ddeddfwriaeth ar gyfer Deddf hawliau dynol i Gymru? Pan alwodd fy mhlaid i am gynnwys egwyddorion hawliau pobl hŷn y Cenhedloedd Unedig a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru dro ar ôl tro, fe ddywedwyd wrthym ni y byddai eich Llywodraeth chi, yn hytrach nag ychwanegu hawliau bob yn damaid, yn cyflwyno deddfwriaeth hawliau dynol newydd. Rydym ni'n dal i ddisgwyl. Mae hawliau pobl hŷn yn dal i gael eu hanwybyddu, fel gwelwyd yn eglur yn ystod y pandemig. Felly, Prif Weinidog, am faint yn hwy y bydd angen i bobl hŷn aros, neu ai eich neges i boblogaeth oedrannus Cymru yw bod 36 yn fwy o wleidyddion yn bwysicach na'u hawliau dynol nhw? Diolch yn fawr.
Wel, Llywydd, mae'n ddrwg gennyf fod yr Aelod wedi darllen ei sgript yn dweud wrthym ei fod wedi ei siomi; rwy'n siŵr ei bod wedi'i hysgrifennu ymhell cyn iddo glywed y datganiad. Ac rwy'n anghytuno ag ef, wrth gwrs. Ac nid yw'r ffaith nad yw rhywbeth yn cael ei grybwyll yn y datganiad yn golygu na fydd yn digwydd, oherwydd mae yna lawer o bethau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnyn nhw nad yw'n bosibl eu cynnwys mewn datganiad a oedd, ynddo'i hun, yn hir a chymhleth iawn y prynhawn yma.
Felly, nid wyf yn cytuno ag ef, wrth gwrs, bod y datganiad yn siomedig; rwy'n credu mai dyma'r rhaglen flwyddyn o hyd fwyaf heriol y gofynnwyd i'r Senedd hon fynd i'r afael â hi erioed. Bydd yn rhoi rhwymedigaethau enfawr ar ysgwyddau pob Aelod o'r Senedd i ddod o hyd i'r amser i wneud y gwaith a fydd yn angenrheidiol i droi'r cynigion hyn i mewn i'r gyfraith orau y gallan nhw fod ac, ar yr un pryd, ac yn y ffordd a nodais, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i baratoi deddfwriaeth ar gyfer ail hanner tymor y Senedd hon. 'Pa mor hir allwn ni aros?' gofynnodd yr Aelod, ac nid ydym hyd yn oed hanner ffordd drwy dymor y Senedd. Mae dwy flynedd a hanner a mwy o'r tymor hwn i fynd, a bydd darnau eraill o ddeddfwriaeth, ar ben y rhai y byddwn ni'n canolbwyntio arnyn nhw dros y 12 mis nesaf, a fydd yn dod ger eich bron cyn i'r tymor hwn ddod i ben.
Diolch, Brif Weinidog, am y datganiad heddiw. Yn sicr, adlewyrchu'r Bil bysiau, y Bil diogelwch tomenni nas defnyddir, yn eithriadol o bwysig, yn arbennig i'r rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ond hefyd i ardaloedd eraill.
Hoffwn gyfeirio at y pwynt a gododd Huw Irranca-Davies gyda chi, o ran yr hyn sydd wedi cael ei alw gan sefydliadau fel Climate Cymru yn 'Fesur positif o ran natur', a'r oedi unwaith eto yma. Bydd pobl yn siomedig. Fel y gwyddoch chi, ysgrifennodd dros 300 o sefydliadau atoch ym mis Mawrth yn gofyn i hyn gael ei gyflwyno. Yn eich datganiad, fe bwysleisioch chi eich ymrwymiad i'r argyfwng natur a'r hinsawdd, a'r ffaith na allwn ni aros. Wel, mae hynny'n wir o ran bioamrywiaeth. Rydym yn colli bioamrywiaeth bob dydd, bob wythnos sy'n mynd heibio heb fod y ddeddfwriaeth hon ar waith. Rydym eisoes ar ei hôl hi, ar ôl Brexit, o ran y llywodraethiant hwnnw, y fframwaith llywodraethu amgylcheddol hwnnw yma yng Nghymru. Nid oes gennym drefniadau dros dro hyd yn oed. Felly, a gaf i ofyn: pam mae hyn, unwaith eto, yn destun oedi, a sut y bydd yn cael ei ddatblygu er mwyn iddo ddod yn ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl, fel ein bod ni'n mynd ati go iawn i ymateb i argyfwng hinsawdd a natur?
Wel, diolch i Heledd Fychan am y sylwadau, Llywydd, a gallaf ddweud wrthi hi, bob tro pan fyddwn ni'n paratoi y rhaglen am y flwyddyn ddeddfwriaethol o'n blaenau, fod lot o sgyrsiau a dadleuon mewnol, ac mae pob aelod o'r Cabinet yn trio cael mwy o bosibiliadau i mewn i'r rhaglen.
A dyna sut mae'r system yn gweithio. Mae yna wastad mwy o geisiadau nag y gellir eu cynnwys. Mae yna wastad mwy o uchelgeisiau ymhlith cydweithwyr yn y Cabinet nag y gellir eu cynnwys mewn un flwyddyn. A gallaf sicrhau'r Aelod bod yr achos dros gynnwys y Bil llywodraethu amgylcheddol yn y drydedd flwyddyn wedi cael ei gyflwyno'n rymus yn ystod y dadleuon hynny. Yn y pen draw, byddwn ni'n cyflwyno Papur Gwyn erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, byddwn ni'n cryfhau'r trefniadau dros dro, ac yn sicr hoffwn dalu teyrnged i waith Dr Nerys Llewelyn Jones, sydd, rwy'n credu, wedi cyflawni ei dyletswyddau fel Asesydd Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro i Gymru mewn ffordd sydd wedi rhoi hyder i bobl, er ein bod ni'n dal i ddatblygu'r trefniadau terfynol ar gyfer llywodraethu amgylcheddol, fod system yma yng Nghymru sy'n weithredol ac sy'n cael ei harwain yn rymus. Rydym yn mynd i recriwtio dirprwy i Dr Llewelyn Jones yn y cyfnod interim hwn, i gryfhau'r adnoddau sydd ganddi yn ystod y cyfnod hwn. A bydd Bil llawn, gan gynnwys adfer natur—Bil positif o ran natur—yn rhan o'r Bil hwnnw. Mae'n fwy na threfniadau llywodraethu yn unig, yn y ffordd yr esboniais i wrth Huw Irranca-Davies.
Diolch, Prif Weinidog. Mewn sawl ffordd, roedd yn ddatganiad ysbrydoledig, yn ddatganiad ysbrydoledig sy'n siarad nid yn unig am agenda ddeddfwriaethol, ond am ein gwerthoedd a'n huchelgeisiau a'n gweledigaethau ni ar gyfer Cymru. Rwy'n credu bod cymryd yr elw allan o ofal plant yn rhywbeth a all uno pobl ar hyd a lled y wlad—efallai nid ar feinciau'r Ceidwadwyr, ond ym mhob man arall yn y wlad hon. Mae sicrhau bod gennym wasanaethau bysiau sy'n addas i'r diben i bawb ledled y wlad hon yn rhywbeth, unwaith eto, y mae pobl ei eisiau ac mae pobl eisiau i ni eu darparu. Mae sicrhau bod plant ledled y wlad yma yn gallu cael mynediad i addysg Gymraeg yn gyson â'r uchelgais o sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae sicrhau bod pobl yn gallu cysgu'n ddiogel yn eu cartrefi oherwydd bod gwaith yn cael ei wneud i ddelio â'r tomenni sy'n anharddu ein Cymoedd yn rheswm pam mae pobl yn pleidleisio dros ein Llywodraeth.
Ac rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, wrth gyflwyno'r rhaglen ddeddfwriaethol hon, y gallwch chi hefyd sicrhau y gallwn ni ddiogelu ein hamgylchedd, diogelu ein hawliau cyflogaeth, a phan fydd y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain yn dileu amddiffyniadau cyfraith yr UE, y bydd y Senedd hon yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ac y bydd amddiffyniadau y mae ein pobl eu heisiau, eu hangen ac y maen nhw wedi pleidleisio drostynt yn parhau i fod ar waith, ac y bydd y Llywodraeth hon yn deddfu lle bynnag y bo angen i ddiogelu'r hawliau cyflogaeth, yr hawliau amgylcheddol a'r hawliau eraill yr ydym wedi dod i'w disgwyl yn y wlad hon.
Diolch yn fawr iawn i Alun Davies am hynny, Llywydd. Rwy'n gobeithio y gall weld, ac y gall eraill weld hefyd, bod cyfres o themâu yn rhedeg drwy'r rhaglen ddeddfwriaethol. Yn gyntaf oll, rydym yn benderfynol mai'r budd i'r cyhoedd fydd yn llywio'r ffordd y mae polisïau a deddfwriaeth yng Nghymru yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl, yn enwedig pan fydd y cyhoedd yn gwneud buddsoddiad enfawr yn y gwasanaethau hynny yn y lle cyntaf. Ac rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn gweld bod y rhaglen yn radical ac yn uchelgeisiol. A gallaf ddweud wrthych chi, Dirprwy Lywydd, y bydd rhai sydd â diddordebau personol allan yna a fydd yn dangos cryn wrthwynebiad i gyfres o'r mesurau y bydd gan y Senedd o'i blaen yn ystod y flwyddyn i ddod, ac mae'r mesur plant sy'n derbyn gofal yn un o'r rheini. Mae yna sector â digon o adnoddau allan yna sydd wedi gwneud llawer iawn o arian allan o fywydau plant sy'n agored i niwed. Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd wedi adrodd ddwywaith yn ystod y 12 mis diwethaf ar yr elw ychwanegol y mae'r sector wedi'i gymryd o'r gwaith hwnnw. Bydd pob Aelod o'r Senedd, rwy'n rhagweld, yn clywed gan y sector hwnnw, yn protestio yn erbyn y ddeddfwriaeth a fydd o'n blaenau. Ac ar y pwynt hwnnw, a phwyntiau eraill, ac mae diwygio'r Senedd yn sicr yn un ohonyn nhw, rhaid i ni beidio â chynhyrfu. Gallwch chi ddim sicrhau newid radical, gallwch chi ddim newid y sefyllfa sydd ohoni, gallwch chi ddim herio'r rhai sydd â diddordebau personol, heb fod gennych chi'r dewrder gwleidyddol sydd ei angen i sicrhau newid. Ac rwy'n gobeithio y gall yr Aelod weld, yn y pecyn deddfwriaeth sydd o flaen y Senedd yn ystod y 12 mis nesaf, yr ymdeimlad hwnnw o fudd i'r cyhoedd ar y naill law a'r dewrder gwleidyddol i wneud i'r pethau hynny ddigwydd drwy'r rhaglen y bydd gan y Senedd hon o'i blaen dros y 12 mis nesaf.
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad. Roeddwn i'n drist nad oedd y gair 'bwyd' yn ymddangos unwaith yn y datganiad, oherwydd rydym yn gwybod bod gordewdra a materion eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd yn rhemp, ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef. Rwy'n gwybod bod datganiad yn ddiweddarach heddiw ynghylch deddfwriaeth yr amgylchedd bwyd, ond byddwn i wedi gobeithio y byddai pwysigrwydd lles ein plant drwy ein system fwyd wedi ymddangos yn y datganiad mawr hwn rydych chi wedi'i wneud heddiw, er lles cenedlaethau'r dyfodol. Rydym yn gwneud datganiad mawr am y Gymraeg, a phobl ifanc yn dysgu Cymraeg, sy'n bwysig iawn, iawn, ond siawns bod eu deiet, y bwyd y maen nhw'n ei fwyta a'u lles o bwys sylfaenol, wrth symud ymlaen. Rwy'n credu i ni golli'r cyfle i gael darn da o ddeddfwriaeth yma—rwy'n gwybod fy mod i'n rhagfarnllyd. Ond rwy'n credu bod Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cytuno â mi, a gwnaeth sawl argymhelliad i'r Siambr hon. Prif Weinidog, ni fyddaf yn mynd drwy'r rheini—does gennyf i ddim amser—ond roeddwn i'n siomedig nad oedd unrhyw gyfeiriad at unrhyw un o'r rheini yn eich datganiad chi. Allwch chi roi rhywfaint rhagor o sicrwydd i mi—ac rwy'n gwybod bod rhywfaint wedi'i roi eisoes yn y Siambr hon—y bydd yr argymhellion y gallai'r Bil bwyd fod wedi eu cyflwyno, neu bwysigrwydd addysgu ein plant ynghylch bwyd, yn rhan o'r ffordd y byddwch chi'n meddwl wrth symud ymlaen, ac na fydd hyn yn enghraifft o ychydig o ddeddfwriaeth meinciau cefn sy'n cael ei rhoi o'r neilltu?
Wel, yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Peter Fox am yr hyn a ddywedodd. Rwy'n cydnabod ei ymrwymiad personol ei hun i'r agenda fwyd honno a'r gwaith a wnaeth i hyrwyddo ei Fil ei hun. Ond, yn y ffordd y cydnabu, bydd y Senedd y prynhawn yma yn clywed gan fy nghyd-Aelod Lynne Neagle am y pecyn sylweddol iawn o fesurau y mae hi wedi'i gyhoeddi heddiw, y mae pob un ohonyn nhw'n helpu i gyfrannu at y camau y mae angen i ni eu gweld i ddiogelu dyfodol ein plant. Cadeiriais gyfarfod fy hun, Dirprwy Lywydd, nid nepell o'r Siambr, gyda chyfres o gyd-Weinidogion, ar y strategaeth bwyd cymunedol. Pwrpas y cyfarfod oedd ysgogi'r system, gan na fyddai'r Bil bwyd ei hun yn cael ei gyflwyno, i sicrhau bod pob rhan o'r Llywodraeth a phob cyd-Weinidog yn cyfrannu popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y strategaeth bwyd cymunedol honno mor bwerus ag y gall fod, a byddwn ni'n ailymgynnull cyn diwedd y tymor hwn i sicrhau bod y camau hynny'n cael eu datblygu'n gyflym.
A gaf i ddweud, mewn ffordd addfwyn, os caf i, nid wyf yn credu ei fod yn helpu i geisio gwrthbwyso'r camau yr ydym yn eu cymryd o ran y Gymraeg yn erbyn y camau y byddwn yn eu cymryd ar fwyd? Wrth gwrs, rydym eisiau i'n plant dyfu i fyny mewn amgylchedd bwyd iach ac rydym eisiau i'n plant dyfu i fyny mewn gwlad lle mae'r Gymraeg yn rhan arferol, gyffredin o'u profiad bob dydd, ac nid oes unrhyw wrthddweud na chystadleuaeth rhwng y ddau amcan hynny.
Diolch, Brif Weinidog. Mae'r gair 'tlodi' ar goll o'ch datganiad. Dylai ddileu tlodi bod yn sail i holl raglen y Llywodraeth, neu dŷ ar dywod fydd pob Deddf a Mesur. Mae'r lefelau annerbyniol presennol o dlodi yng Nghymru yn creithio ein plant, ac, yng ngeiriau prif weithredwr Faith in Families, elusen sy'n cefnogi plant yn Abertawe yn fy rhanbarth i, yn golygu ein bod yn storio problem enfawr i'r dyfodol—problem iechyd enfawr, enfawr, problem lles enfawr, problem dicter. Tra'n bod ni wedi ein clymu i undeb anghyfartal a Llywodraeth San Steffan sy'n blaenoriaethu rhai grwpiau o bobl a rhai ardaloedd dros eraill ar sail ideoleg a gwleidyddiaeth etholiadol yn hytrach nag angen, ni fyddwn ni yng Nghymru yn medru gweithredu mewn modd cyflawn i ddileu tlodi o'n tir. Ac, o weld y Blaid Lafur yn gwrthod ymrwymo i ddarparu prydau bwyd am ddim i blant ysgol, mae'n amlwg na allwn gael ffydd mewn llywodraeth o unrhyw liw i gymryd y camau cadarn sydd eu hangen.
Felly, Brif Weinidog, ydych chi'n cytuno bod angen inni gyflymu'r gwaith o gymryd y grymoedd sydd eu hangen i greu'r genedl a'r gymdeithas rŷn ni am eu gweld, a datganoli grymoedd dros les i greu rhwyd ddiogelwch sydd yn wirioneddol achub y rhai sydd angen eu dal rhag syrthio i ffos galedi a chors anobaith? Ac yn y cyfamser, a ydych chi'n cytuno bod yna fesurau y gallwn ni eu rhoi ar y llyfr statud yma i geisio sicrhau bod bob £1 o gymorth a chefnogaeth a ddaw i deuluoedd yn cyrraedd eu pocedi yn gyflym ac yn rhwydd drwy greu system fudd-daliadau Gymreig ar sail statudol? Diolch.
Wel, diolch, Sioned Wiliams, am y cwestiynau. Ac wrth gwrs, dwi'n cytuno â beth ddywedodd hi am bwysigrwydd tlodi; mae tlodi yn rhan o bob profiad pwysig ym mywydau teuluoedd, sy'n bwysig i ni. Yn y rhaglen ddeddfwriaethol, rŷn ni'n canolbwyntio ar ddau beth: pethau ble mae'n rhaid inni ddeddfu i wneud gwahaniaeth a ble mae'r pwerau i ddeddfu yn nwylo'r Senedd nawr. Ac mae lot o bethau rŷn ni'n gallu ei wneud ym maes tlodi sydd ddim yn dibynnu ar ddeddfu, fel dywedodd Sioned Williams. Mae popeth rŷn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd am fwyd am ddim yn ein hysgolion—doedd dim rhaid inni ddeddfu i wneud hwnna. Ac yn y ddogfen y mae'r Gweinidog Jane Hutt wedi'i chyflwyno ar dlodi, beth sydd yn y ddogfen yw'r pethau rŷn ni'n gallu eu gwneud sydd ddim yn dibynnu ar ddeddfu ar lawr y Senedd, achos does dim lot o bwerau gyda ni ar hyn o bryd sy'n rhedeg at ddeddfu a'r ffordd orau i wneud hwnna. Yn y dyfodol, dwi eisiau gweld mwy o bwerau yn y Senedd hon i weinyddu'r system lles sydd gennym ni, achos dwi'n meddwl, os bydd y pwerau yna—ac mae adroddiad Gordon Brown yn dangos y ffordd i wneud hynny—gallwn ni wneud mwy i helpu bywydau plant a theuluoedd sy'n dioddef o dlodi ar hyn o bryd. Ond mae hynny'n rhywbeth at y dyfodol.
Diolch am y datganiad pwysig iawn hwn, Prif Weinidog, i'r lle hwn, ar y rhaglen ddeddfwriaethol i Gymru ac i bobl Cymru. Ac fel cynrychiolydd etholaeth Islwyn, rwy'n gwybod bod newid hinsawdd yn un o'r prif flaenoriaethau allweddol i bobl ifanc yng Nghymru, ac mae rôl trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan annatod o hynny. Rwy'n gwybod y bydd fy mhreswylwyr yn croesawu, a byddaf yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu gyda brwdfrydedd mawr ar y Bil bysiau arfaethedig sydd ar ddod. I lawer gormod o gymunedau yn Islwyn, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn dameidiog ac yn annibynadwy hefyd.
Rwyf hefyd yn croesawu'n llwyr gynnig ansoddol, nid er elw, y buddsoddir ynddo ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, a gyflwynir yn gyson ledled Cymru.
Yn ogystal â hyn, bydd y Bil diogelwch tomenni segur yn diwallu angen uniongyrchol i Gymru reoli ein treftadaeth ddiwydiannol yn ddiogel a bydd yn berthnasol i safleoedd glo a safleoedd eraill. Caeodd chwarel Tŷ Llwyd yn Islwyn yn 1972, ac mae wedi dangos, 50 mlynedd yn ddiweddarach, bod angen gwneud mwy yn uniongyrchol i fonitro a rheoli etifeddiaeth ein gorffennol diwydiannol a mwyngloddio er diogelwch ein holl ddinasyddion.
Prif Weinidog, ymhellach i gyfoethogi democratiaeth Gymreig mewn ffordd drawsnewidiol gyda Bil i ddiwygio'r Senedd a chreu cydbwysedd rhwng y rhywiau, sut felly y byddwch chi'n crynhoi pa mor bwysig yw rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol a radical Llywodraeth Lafur Cymru a pha mor gyflym y mae angen ei rhoi ar waith i'r dinasyddion sy'n gwrando yn Islwyn a thu hwnt?
Wel, diolch i Rhianon Passmore, Dirprwy Lywydd. Yr hyn yr hoffwn i drigolion Islwyn wybod yw bod y Senedd hon yn benderfynol o amddiffyn y ddemocratiaeth y mae eu dyfodol yn dibynnu arni, ac i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw Senedd sy'n gallu cyflawni'r cyfrifoldebau sydd gennym ar eu rhan, ac y bydd y Senedd honno, Senedd y dyfodol, gobeithio, yn parhau i fynd i'r afael â'r pethau hynny sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf ym mywydau dinasyddion Islwyn.
Ac i gymryd un enghraifft o blith y rhai y soniodd yr Aelod amdanyn nhw, yn ei rhan hi o Gymru, bydd llawer iawn o bentrefi a theuluoedd yn byw gyda'r creithiau a grëwyd gan ddiwydiant mwyngloddio'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Maen nhw'n byw gyda hynny bob dydd. Byddan nhw'n gwybod, yn sgil y Bil a ddaw gerbron y Senedd hon, y bydd system yn y dyfodol lle bydd y gwaith o reoli, monitro a goruchwylio'r tomenni segur hynny yng Nghymru yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n addas ar gyfer yr amgylchiadau yr ydym yn byw ynddyn nhw heddiw.
Mae llawer iawn o waith wedi mynd rhagddo, Dirprwy Lywydd, o ganlyniad i'r tasglu yr wyf i'n ei gadeirio ar y cyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, i sefydlu pethau sylfaenol iawn fel: faint o domenni glo segur sydd yna yng Nghymru? Yn syml, doedden ni ddim yn gwybod. Mae 2,566 ohonyn nhw yn ôl y wybodaeth fwyaf diweddar a chywir. Lle oedden nhw? Pwy oedd yn berchen arnyn nhw? Pa gyflwr oedd arnyn nhw? Daeth i'r amlwg nad oeddem yn gwybod cyfres gyfan o bethau cwbl sylfaenol yr oedd angen i ni ei wybod er mwyn cael trefn a fydd yn cadw pobl yn ddiogel yn y dyfodol. Bydd dros 1,000 o archwiliadau wedi cael eu cynnal gan yr Awdurdod Glo o ganlyniad i arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y tomenni risg uchaf wedi cael eu harchwilio'n rheolaidd, ac rydym yn awr ar fin cychwyn ar y gwaith o archwilio tomenni sydd ymhellach i lawr yr hierarchaeth risg honno. Bydd yr holl waith hwnnw'n arwain at y ddeddfwriaeth y byddwch chi'n ei gweld o'ch blaen y flwyddyn nesaf.
I Lywodraeth Lafur, Llywydd, o wybod hanes Cymru, o wybod y trychinebau y mae pobl yng Nghymru wedi gorfod eu profi mewn blynyddoedd blaenorol, ni allai'r ymdrech i sicrhau ein bod yn osgoi hynny yn y dyfodol fod yn fwy sylfaenol i'n cenhadaeth wleidyddol, ac ni allai fod yn fwy sylfaenol i'r bobl yn Islwyn y mae'r Aelod yn eu cynrychioli.
Prif Weinidog, cyflwynodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yr adroddiad ar newid radical i blant â phrofiad o ofal yng Nghymru, ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes gwaith allweddol yr ydych wedi cymryd diddordeb personol ynddo. Roedd llawer o'r argymhellion hynny yn nodi bod angen newid deddfwriaethol i sicrhau'r diwygio radical sydd ei angen arnom yma yng Nghymru. Felly, ar ben yr hyn y gwnaethoch chi ei gyhoeddi heddiw yn y datganiad, a wnewch chi amlinellu unrhyw fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i weithredu rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad, er mwyn i ni allu gwella bywydau plant â phrofiad o ofal yma yng Nghymru?
Dirprwy Lywydd, nid wyf yn credu y gallaf i wneud hynny y prynhawn yma. Gallaf roi sicrwydd, i'r Aelod ac i Gadeirydd y pwyllgor yn arbennig, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr adroddiad hwnnw o ddifrif. Fel y bydd yr Aelodau yn ei wybod, mae gennym chwe wythnos bob amser i sicrhau bod gennym gyfle o leiaf i ddeall yr argymhellion hynny'n llawn a'u hystyried yn briodol am y tro cyntaf, a bydd y Gweinidog sy'n gyfrifol yn rhoi ymateb i'r adroddiad hwnnw, gan gynnwys barn Llywodraeth Cymru ar unrhyw ddeddfwriaeth bellach a deddfwriaeth yn y dyfodol yn y maes pwysig hwn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am y gwaith y mae wedi'i wneud. Ni fydd yn cael ei adlewyrchu—ond rwy'n gwybod na fyddai'r Aelod yn disgwyl—yn y rhaglen 12 mis nesaf, ond bydd yn sicr yn cael dylanwad dros y ffordd y bydd y Llywodraeth yn meddwl wrth i ni gynllunio y tu hwnt i'r drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol.
Ac yn olaf, Carolyn Thomas.
Diolch. Rwy'n croesawu'r Bil bysiau, yn enwedig gyda'r argyfwng bysiau presennol, ac rwy'n gwybod bod gweithredwyr hefyd yn croesawu masnachfreinio nawr, sy'n dda. Rwy'n poeni ychydig am y cyllid fydd ar gael ar ei gyfer, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod hynny yn y grŵp trawsbleidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Roeddwn i hefyd yn mynd i ofyn am ddiweddariad ar y Bil positif o ran natur, ac rwy'n deall nawr ei fod yn dod o dan y Bil llywodraethu amgylcheddol. Fe glywais i eich ymatebion yn gynharach, ond rydym mewn argyfwng, ac mae natur yn dirywio mor gyflym fel fy mod i'n gobeithio y gellir mynd i'r afael ag ef yn gyflym iawn. A allwch chi gadarnhau y bydd y Bil yn cael ei gyflwyno yn ystod tymor hwn y Senedd? Rwy'n credu imi eich clywed yn gywir y bydd y Papur Gwyn yn cael ei gyflwyno y flwyddyn nesaf. Os gallwch chi ymateb i'r rheini, os gwelwch yn dda. Diolch.
Wel, diolch i Carolyn Thomas. Gwnaf, rwy'n cadarnhau, Llywydd, mai bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno Papur Gwyn ar lywodraethu amgylcheddol ar ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac mae Bil ar lywodraethu amgylcheddol yn sicr yn dal i fod yn rhan annatod o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer ail hanner tymor y Senedd.
Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod wedi bod yn eiriolwr pwerus dros wasanaethau bysiau, ac yn eiriolwr parhaus dros wasanaethau bysiau, ar lawr y Senedd. Rwy'n falch o glywed yr hyn y mae'n ei ddweud am y croeso y mae'r model masnachfreinio wedi'i gael. Rwy'n credu bod y Dirprwy Weinidog wedi gweithio'n galed iawn gyda'r diwydiant i greu dull cydweithredol o lunio'r dyfodol hwnnw. Bydd cyllid bob amser yn broblem; yn syml, nid oes gennym yr arian i wneud yr holl bethau yr hoffem eu gwneud. Ond, bydd y Bil bysiau yn darparu sail ddeddfwriaethol newydd i sicrhau bod pa bynnag gyllid sydd ar gael yn cael ei roi i mewn i'r system mewn ffordd sy'n hyrwyddo budd y cyhoedd, ac mae honno'n thema, fel y dywedais i, Dirprwy Lywydd, sy'n rhedeg drwy'r rhaglen yr wyf wedi gallu ei hamlinellu y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.