3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 27 Mehefin 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:15, 27 Mehefin 2023

I gloi, bydd, mi fydd y Senedd yma yn adlewyrchu, fel dywedodd y Prif Weinidog, y Gymru gyfoes. Ar daith i annibyniaeth ydyn ni'n gobeithio arwain Cymru yn y blynyddoedd i ddod, ond, yn y cyfamser, mae angen sicrhau bod ein Senedd newydd ni yn mabwysiadau pwerau newydd er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru. I gloi, dwi'n apelio ar ac yn gofyn i'r Prif Weinidog weithio efo ni er mwyn cael y grymoedd hynny, nid er mwyn eu hunain, ond er mwyn creu'r Gymru decach, werddach a mwy llewyrchus yr ydw i'n dyheu amdani hi.