Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 27 Mehefin 2023.
Bydd Bil y Gymraeg yn sicr yn cyfrannu at ein huchelgais ni o fod â miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu bod mwy o anghydfod ynglŷn â'r dystiolaeth na'r hyn a awgrymodd arweinydd yr wrthblaid o ran nifer y siaradwyr Cymraeg sydd yng Nghymru heddiw. Yr hyn nad yw'n achosi anghydfod yn sicr yw'r cynnydd rhyfeddol yn nifer y bobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan ddechreuais i gadeirio—llawer iawn o ddegawdau yn ôl erbyn hyn—pwyllgor addysg Gymraeg Cyngor Sir De Morgannwg, roedd un ysgol gynradd yng Nghaerdydd ac un ysgol uwchradd yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os edrychwch chi o gwmpas y ddinas heddiw, ni allwch ddychmygu mwy—. Mae'n gas gennyf i ddefnyddio'r gair 'trawsnewidiad'—rydyn ni'n ei ddefnyddio'n rhy aml—ond yn yr achos hwn, rwy'n credu y byddai trawsnewidiad yn adlewyrchiad teg o'r hyn sydd wedi digwydd o ran addysg Gymraeg, ac fe fydd y Bil yn cefnogi hynny ar ran nesaf y daith honno.
O ran diogelwch tomenni glo, rwy'n dweud unwaith eto wrth yr Aelodau fod hyn yn golygu mwy na diogelwch tomenni glo; ceir tomenni sborion oherwydd diwydiannau eraill mewn rhannau eraill o Gymru—chwareli llechi yn y gogledd, mwyngloddio metel yng Nghwm Tawe, er enghraifft—mae angen dod â hynny o fewn i gyfundrefn sy'n adlewyrchu'r pryderon o ran diogelwch yn oes newid hinsawdd. Dim ond wythnos diwethaf, fe ymwelais i â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar domen Tylorstown yng Nghwm Rhondda, tomen, fel gŵyr arweinydd yr wrthblaid, a symudodd yn ystod y cyfnod hwnnw o law trwm iawn ym mis Chwefror 2020. Mae angen cyfundrefn arnom ni yng Nghymru sy'n cydnabod nad yw'r safonau a oedd yn ddigonol o ran diogelwch flynyddoedd yn ôl yn ddigonol yn yr amgylchiadau hyn o ddigwyddiadau tywydd enbyd, boed hwnnw'n law trwm iawn neu, fel gwelsom ni yn haf y llynedd, gwres tanbaid, a effeithiodd mewn ffordd arall ar sefydlogrwydd rhai tomenni yng Nghymru. Bydd y Bil yn cyflwyno'r drefn newydd honno. Fe fydd yn rhoi'r ymdeimlad hwnnw i bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny fod corff â chyfrifoldeb uniongyrchol am sicrhau eu bod nhw'n parhau i fod yn ddiogel i'r dyfodol.
O ran diwygio'r Senedd, roedd hynny'n destun trafodaethau manwl rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru, a'r cyngor a gawsom ni oedd y dylem ni ddod o hyd i ffordd o ymdrin ag unrhyw wendidau i sicrhau y gall y prif Fil fod yno a'i weithredu yn llwyddiannus ar gyfer etholiad 2026, ac y dylem ni ganfod ffordd o ymdrin ag unrhyw wendidau a allai fod a fyddai'n herio'r agwedd o ran cwotâu rhywedd. Rydym ni'n hyderus fod ganddom y cwmpas cyfreithiol yma yng Nghymru i ddeddfu yn y maes hwn, ac fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil gyda ffydd yn y sail yr ydym ni'n gwneud hynny arni. Ond mae hwn yn faes lle gallai safbwyntiau eraill fod yn bosibl, a lle gellid wynebu her. I sicrhau nad yw'r prif ddiwygiadau yn agored i her, rydym ni wedi rhannu'r ddwy agwedd. Nid wyf i'n gwbl sicr, Llywydd, y byddai arsylwr diduedd sy'n edrych ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Siambr yn eu hystyried nhw'n batrwm o luosogrwydd rhywedd, ac fe fydd y Bil cwotâu rhywedd yn ein helpu ni i gyd i fod—[Torri ar draws.] Rwyf i'n clywed yr Aelod; ni all rhai eraill y tu allan i'r Siambr ei glywed ef. Mae'n gofyn i mi am agweddau eraill ar amrywiaeth, ac rwyf i'n cytuno ag ef. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef fod gwaith gan bob plaid wleidyddol i'w wneud mewn Senedd estynedig i wneud yn siŵr bod agweddau eraill ar amrywiaeth—pobl ag anableddau, pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol—mewn Siambr newydd ac estynedig yn adlewyrchu natur y Gymru gyfoes.
Bydd Bil y dreth gyngor, Llywydd, yn cwmpasu mwy na dim ond bandiau ac ailbrisiadau yn unig. Fe fydd yn ein galluogi ni i ddefnyddio dull mwy effeithlon o ymdrin â'r nifer o ffyrdd y mae eithriadau, gostyngiadau a diystyru wedi cronni dros y blynyddoedd heb edrych yn iawn ar y rhyngweithio rhwng yr elfennau amrywiol hynny i gyd. Felly, fe fydd yn ehangach na dim ond y ddau fater y soniodd yr Aelod amdanyn nhw'n unig.
Ac fe allaf i roi sicrwydd iddo ef na fydd unrhyw Fil yn cael ei roi gerbron yr Aelodau yn ystod y drydedd flwyddyn a fydd yn Fil y Prif Weinidog (diwedd tymor yn y swydd) (Cymru).