Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 27 Mehefin 2023.
Llywydd, mae cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i gefnogi gweithrediad yr ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddileu elw preifat drwy ofal plant sy'n derbyn gofal yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon. Fe fyddwn ni'n deddfu ar yr un pryd hefyd i gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal iechyd parhaus, i gefnogi'r ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu, ac fe fyddwn ni, yn yr un Bil, yn gwneud nifer o welliannau i helpu wrth reoleiddio a chynorthwyo gweithrediad effeithiol y gweithlu gofal cymdeithasol.
Fe fyddwn ni'n gweithredu gyda phenderfyniad i gynyddu nifer y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg a diogelu ein cymunedau Cymraeg. Ein huchelgais ar gyfer 2050 yw y bydd pob un o'n disgyblion yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg gyda hyder erbyn iddyn nhw adael yr ysgol, ac mae cyfrifoldeb ar y system addysg gyfan i gydweithio tuag at y nod hwnnw. Bydd yr uchelgais hwn yn cael ei adlewyrchu yn ein Bil addysg Gymraeg, y byddwn yn ei gyflwyno yn y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol hon.
Ar yr un pryd, Llywydd, rydym ni am gyflwyno Bil i wireddu ymrwymiad y Llywodraeth i leihau'r diffyg democrataidd yng Nghymru, a datblygu system etholiadol sy'n addas i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd y Bil hwn yn cryfhau gweinyddiaeth etholiadol hefyd drwy sefydlu bwrdd rheoli etholiadol, a chymryd camau i sicrhau bod pob pleidleisiwr sy'n gymwys yng Nghymru ar y gofrestr etholiadol, ac yn diwygio'r prosesau ar gyfer cynnal adolygiadau cymunedol ac etholiadol.
Caiff Bil i ddiwygio'r Senedd ei hun ei gyflwyno pan fyddwn ni'n dychwelyd ar ôl toriad yr haf. Bydd y Bil hwn yn creu Senedd fodern, sy'n adlewyrchu ehangder y cyfrifoldebau datganoledig a'r Gymru yr ydym ni'n byw ynddi heddiw. Bydd yn creu Senedd sy'n gallu cynrychioli a gwasanaethu pobl Cymru yn well, gyda mwy o allu i graffu, llunio deddfau a galw'r weithrediaeth i gyfrif. Ystyriodd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd sut y gallai ei gynigion gefnogi ac annog ethol deddfwrfa sy'n ceisio darparu deddfwrfa fwy cynrychioliadol a thrwy hynny ddeddfwrfa sy'n fwy effeithiol er mwyn ac ar ran pobl Cymru. Gan hynny, mewn mesur pellach i ddiwygio'r Senedd, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr a etholwyd i'r Senedd hon yng Nghymru.
Ac yn olaf, yn y rhaglen eang ac uchelgeisiol hon o ddiwygiadau radical, fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil cyllid llywodraeth leol a fydd yn cyfrannu at ddiwygio ein systemau ni o ran y dreth gyngor ac ardrethi annomestig. Bydd y diwygiadau yn braenaru'r tir i'r systemau hyn addasu yn fwy cymwys at newidiadau yn amodau'r farchnad, yn fwy ymatebol i'r pwysau esblygol sy'n wynebu pobl a sefydliadau, ac yn cael eu teilwra yn nes at anghenion Cymru oherwydd iddyn nhw gael eu cynnal o fewn strwythurau sy'n ddatganoledig. Mae profiad yr ymchwil helaeth sydd wedi bod a'n profiad ninnau o weithredu'r systemau hyn dros nifer o flynyddoedd yn ei gwneud hi'n amlwg fod angen diwygiadau a dargedwyd yn fawr iawn yn y maes hwn.
Ac, wrth gwrs, Llywydd, bydd rhagor yn dod eto yn y blynyddoedd deddfwriaethol sy'n weddill yn ystod y tymor hwn wrth i ni gyflwyno mesurau i gyflawni ymrwymiadau pwysig eraill yn ein rhaglen lywodraethu ni a'n cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru. Yn y blynyddoedd hynny sydd i ddod, fe fyddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer ardoll ymwelwyr a chynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr, gan gynnwys gosodiadau byrdymor, cyn diwedd 2024.
Yn unol â'n rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth, fe fyddwn ni'n cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon i sefydlu corff llywodraethu amgylcheddol i Gymru a chyflwyno dyletswydd a nodau statudol i amddiffyn ac adfer bioamrywiaeth. Fe fyddwn ni'n deddfu i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd ac yn cyflwyno Bil i ail-lunio'r system ar gyfer diogelwch adeiladau. Fe fyddwn ni'n moderneiddio'r sector tacsis a cherbydau hurio preifat hefyd, ac yn cyflwyno deddfwriaeth sy'n ymwneud â system tribiwnlysoedd Cymru.
Mae ein rhaglen i wella hygyrchedd y gyfraith yn agwedd bwysig arall ar ein rhaglen ddeddfwriaethol ni, ac rydym ni'n bwriadu cyflwyno Biliau pellach ar gyfer atgyfnerthu hynny yn ystod tymor y Senedd hon, gan gynnwys Biliau sy'n ymdrin â chynllunio a Bil i ddiddymu deddfwriaeth. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn nodi mwy o fanylion ynglŷn â'r cynlluniau hyn yn rhan o'i adroddiad blynyddol ar gynnydd yn y rhaglen hygyrchedd.
O ganlyniad i hyn i gyd, Llywydd, erbyn diwedd y drydedd flwyddyn ddeddfwriaethol hon, sy'n rhychwantu pwynt hanner ffordd tymor y Senedd hon, fe fyddwn ni wedi: rhoi pobl o flaen elw yng ngofal ein plant ac yn ein system drafnidiaeth gyhoeddus; unioni'r ffordd at 'Cymraeg 2050'; rhoi sylw i ofnau ein cymunedau o ran tomenni glo; gwrthdroi petruster 20 mlynedd o ran rhoi Senedd i bobl yng Nghymru sy'n addas i'r dyfodol, Senedd sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes a democratiaeth sy'n ymroddedig i ehangu cyfranogiad, nid ei rwystro; ac fe fyddwn ni wedi mynd i'r afael ag annhegwch dybryd yn system y dreth gyngor.
Rwy'n cymeradwyo'r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon i'r Senedd, ac yn edrych ymlaen at weithio ar y cynigion hyn gydag Aelodau a'r rhai sydd â buddiant y tu hwnt i'r Siambr hon, a fydd yn helpu i lunio'r Gymru gryfach, decach a gwyrddach honno yr wyf i o'r farn fod pobl yng Nghymru yn troi atom ni i'w llunio hi. Diolch yn fawr.