Part of the debate – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 27 Mehefin 2023.
Llywydd, rwy'n troi nawr at y Biliau hynny y bydd y Llywodraeth hon yn eu cyflwyno yn nhrydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae thema gref o ddiwygiad yn rhuddin i'r Biliau yr ydym ni'n bwriadu eu cyflwyno wrth i ni ddefnyddio'r gyfraith i ysgogi newidiadau cadarnhaol er mwyn pobl yng Nghymru.
Mae'r cyngor gwyddonol ynglŷn â newid hinsawdd mor eglur ag y mae'n gignoeth. Nid yw newid hinsawdd bellach yn rhywbeth ar gyfer y dyfodol; mae'n digwydd nawr ac mae'n digwydd yma. Os ydym ni'n dymuno trosglwyddo'r Gymru yr ydym ni'n ei charu i'n plant a'n hwyrion, mae'n rhaid i ni wneud newidiadau i'r ffordd yr ydym ni'n byw nawr. Mae trafnidiaeth yn cyfrif am bron i 15 y cant o'n hallyriadau carbon. Ar hyn o bryd mae gennym system fysiau sy'n rhoi elw o flaen pobl. Fe fyddwn ni'n cyflwyno Bil bysiau i ddiwygio'r system aflwyddiannus o ddadreoleiddio i alluogi cydweithio ar bob lefel o lywodraeth i ddylunio'r rhwydwaith o wasanaethau bysiau sydd eu hangen ar ein cymunedau.
Yn y drydedd flwyddyn hon, fe fyddwn ni hefyd yn diwygio cyfreithiau ynghylch diogelwch tomenni glo a thomenni sborion yn fwy cyffredinol, gan roi mwy o ddiogelwch i gymunedau sy'n byw yng nghysgodion y tomenni hyn. Fe fydd ein Bil diogelwch tomenni nas defnyddir yn defnyddio adroddiad o bwys Comisiwn y Gyfraith ac ymatebion i'n Papur Gwyn ni i sefydlu awdurdod goruchwylio newydd a threfn reoli ar gyfer diogelwch tomenni yng Nghymru. Fel rhagwelwyd gan Gomisiwn y Gyfraith, fe fydd y drefn yn berthnasol i domenni glo a thomenni fel arall. Mae dylunio cyfundrefn gymesur sy'n bodloni'r olwg ehangach hon yn gymhleth, ac rydym ni'n benderfynol i wneud hyn yn iawn, oherwydd fe fydd ein cynigion ni'n sefydlu'r gyfundrefn gyntaf yn y byd ar gyfer rheoli tomenni nas defnyddir yn oes newid hinsawdd.